2. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Mawrth 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch am fagu dewrder o'r diwedd i siarad â rhai o'r protestwyr gwrth-20 mya cyffredinol yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf? Clywais gan y mynychwyr fod y cyfarfod yn sicr yn ddiddorol a'i fod yn llawn tensiwn ar brydiau hefyd, gyda chi mae'n tebyg yn galw rhai o'r grŵp, ac rwy'n dyfynnu, yn 'blentynaidd'. A ydych chi'n credu'n onest, Ddirprwy Weinidog, mai dyma'r ffordd y dylai gwleidyddion siarad â'r bobl y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu?
Fel gwleidydd nawddoglyd, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp hefyd, mae'n debyg, fod angen y cynllun 20 mya i, ac rwy'n dyfynnu er budd pawb, 'ailaddysgu gyrwyr Cymru'. Mae hwnnw'n sylw eithaf syfrdanol, Ddirprwy Weinidog. Ond efallai mai rhan fwyaf diddorol y cyfarfod oedd pan ddywedoch chi y byddai'r polisi 20 mya yn cael ei newid os na fydd nifer y marwolaethau'n lleihau. Felly, Ddirprwy Weinidog, er yr hoffwn yn fawr weld y polisi hwn yn cael ei ddileu unwaith ac am byth, o ystyried eich bod ar fin gadael y rôl, sut y gallwch chi fwrw ymlaen a gwneud ymrwymiadau fel hyn, neu a oedd yn fater o ddweud wrth bobl beth roeddent eisiau ei glywed er mwyn gadael y cyfarfod yn gyflymach?
Wel, Ddirprwy Lywydd, yn sicr ni fyddaf yn gweld colli hyn. Rwyf wedi bod yn ystyried lefel y craffu yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog wrth imi baratoi i ddychwelyd i'r meinciau cefn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y craffu gan y Ceidwadwyr wedi bod yn wael iawn. Rwy'n credu bod nifer o feysydd lle gallem gael ein profi a'n herio'n briodol, ac rwy'n croesawu her. Yn hytrach, clywn refru rheolaidd, wedi'i gynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, nad yw'n cyflawni unrhyw graffu, ac yn llawn o sarhad a sylwadau personol difrïol, sydd islaw'r Siambr hon yn fy marn i. Ond rwyf wedi rhoi'r gorau i ddisgwyl gwell.
Ar ei chyfrif rhannol iawn o sgwrs breifat a gefais gyda'r deisebwyr a threfnydd y brotest ddiweddaraf, roedd yn sgwrs hanner awr neu fwy adeiladol a chalonogol iawn mewn gwirionedd. O ran dweud eu bod yn blentynnaidd, ar un pwynt, pan oedd un ohonynt yn torri ar fy nhraws yn barhaus, rwy'n credu imi ddweud, 'Roedd hynny'n blentynnaidd, a dylem gael sgwrs aeddfed', ac fe gawsom un. Felly, mae hi'n dyfynnu'n ddetholus ac yn anghywir o sgwrs breifat.
Fel y dywedais yn gyhoeddus, rydym yn monitro'r broses o gyflwyno'r polisi hwn. Rydym yn dilyn y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth wedi bod yn glir y bydd hyn yn gostwng cyflymder, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, yn achub bywydau, ac yn gwella cymdogaethau lleol. Ac mae canlyniadau'r chwe mis cyntaf yn cadarnhau hynny: mae cyflymder wedi gostwng, mae nifer y bobl sy'n teithio o fewn y trothwy cyflymder gorfodol dros 90 y cant. Felly, rwy'n falch iawn o sut mae'n mynd. Mae'r arolygon barn hefyd yn dangos bod agweddau'n dechrau newid, fel y rhagwelwyd y byddent pan ddechreuasom ar y llwybr hwn. Mae hwn yn faes datblygu polisi anodd, ac unwaith eto, yn ôl at y cwestiwn cynharach, o ran penderfyniadau i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae angen i chi ddangos arweinyddiaeth eofn. Ac unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn sarhau pob ymgais i wneud hynny.
Rwy'n falch o'r hyn a wnawn. Rwy'n falch iawn o fy nghyflawniad fel Gweinidog. Rwy'n falch iawn fod aelodau o fy swyddfa breifat a fy nhîm cynghorwyr arbennig yn y Siambr y prynhawn yma, tîm sydd wedi fy nghefnogi dros y tair blynedd diwethaf. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn barod i fynd i'r afael â rhai o'r materion anodd, fel y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei wneud—ac fe gefnogodd y Ceidwadwyr honno hefyd. Amser a ddengys. Bydd angen mân newidiadau, bydd angen ei addasu, bydd angen ei fireinio, a dyna'n bendant a wnawn drwy'r adolygiad. Rwy'n hyderus, ymhen amser, y byddwn yn gweld mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ac unwaith eto, fe welir ei bod hi ar yr ochr anghywir i hanes.
Ddirprwy Weinidog, mae'n debyg mai dyma'r tro olaf y byddwch chi a minnau'n mynd benben yn y Siambr hon ar bynciau trafnidiaeth. Gyda phob parch, rwy'n gwerthfawrogi popeth a ddywedoch chi. Ond ni allwch wadu ac ni allwch anwybyddu bod ychydig o dan 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ddiddymu eich polisi hurt.
Rydych chi wedi bod yn y rôl hon ers mis Mai 2021, ac wedi gwneud eich marc yn yr amser hwnnw—am y rhesymau anghywir, byddwn i'n dadlau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi'n hoffi imi ddweud hyn. Felly, cyn i chi neidio i mewn i'ch car sy'n cael ei yrru gan chauffeur am un tro olaf, ar yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, a ydych chi o ddifrif yn wirioneddol falch o'ch cyflawniad ym maes trafnidiaeth yng Nghymru? Oherwydd, yn onest, byddwn i'n dweud bod y cyhoedd yn meddwl i'r gwrthwyneb.
Nid wyf yn siŵr iawn beth yw'r cwestiwn yn y fan honno. Ar y rhan fwyaf o ddyddiau rwy'n teithio ar fy meic i'r gwaith. Ond fel mae'n digwydd, rwy'n mynd adref mewn car heno, am fod gennyf lun mawr i'w gario gyda fi—gobeithio bod hynny wedi'i ganiatáu. Mae'r pwynt yn aros: ydy, wrth gwrs bod y polisi hwn yn ddadleuol. Yn bendant, mae yna lawer o bobl sy'n ei wrthwynebu, ac fe wnaethant lofnodi deiseb, a oedd yn frith o gamgymeriadau, yn seiliedig i raddau helaeth ar y gamwybodaeth y mae hi a'i phlaid wedi'i lledaenu, ac yn dal i'w lledaenu, a'r celwyddau am ein polisïau. Rwy'n gweld eto yr wythnos diwethaf ei bod yn dweud ein bod wedi gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, pan fo'n amlwg nad yw hynny'n ffeithiol wir. Ac eto, ddoe, fe wnaethom ddangos sut byddwn yn mabwysiadu cynlluniau ffyrdd i'w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid ydym yn atal cynlluniau ffyrdd. Hoffwn pe bai hi'n atal y celwydd. Hoffwn pe bai'n ystyried y cyfraniad y mae'n ei wneud tuag at anelu casineb tuag at wleidyddion pan fo'n cyfrannu at ddiwylliant gwenwynig o iaith a chamwybodaeth. Rwy'n credu bod hynny'n warthus. [Torri ar draws.] Mae'r—
Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu bod angen i'r iaith fod yn ofalus iawn yn y cyfraniadau—[Torri ar draws.]—ar bob ochr, rwy'n cytuno. Ond nid wyf yn credu bod yr Aelod yn annog casineb o gwbl, ac rwy'n credu y dylid tynnu hynny'n ôl.
Wel, rwy'n ofni bod hwnnw'n bwynt hynod ddadleuol. Yn fy marn i, mae cywair a natur—[Torri ar draws.] Mae cywair a natur y cyfraniadau yn cyfrannu at wneud y ddadl hon yn bersonol, sydd wedyn yn tanio ymgyrchoedd ar-lein, sy'n cael eu tanio gan y gamwybodaeth y mae Natasha Asghar yn parhau i'w rhoi allan, ac sydd â chanlyniadau i bob un ohonom, Ddirprwy Lywydd. Mae arnaf ofn na wnaf ei dynnu'n ôl oherwydd rwyf wedi wynebu canlyniad uniongyrchol hynny. Mae hwn yn bolisi dadleuol, a dros amser, rwy'n credu y profir ei fod yn gywir.
Fe wnawn drafod y pwynt ymhellach. Mae gennych un cwestiwn olaf, Natasha.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, rwyf am fod yn onest gyda chi, rwy'n ffieiddio at eich sylw yn y fan honno. Mae'r ffaith eich bod wedi fy meio i am gasineb—a ydych chi o ddifrif? Ond gadewch inni fynd yn ôl at y cwestiynau, oherwydd, yn y pen draw, dyna beth rydym yma i'w wneud. Rwyf am fynd ar daith i lawr lôn atgofion ac edrych ar eich cyflawniad yma yng Nghymru yn eich amser fel Dirprwy Weinidog.
Gadewch inni ddechrau gyda Rhif 1. Rydych chi wedi gosod terfynau cyflymder 20 mya cyffredinol ledled y wlad er gwaethaf—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, Weinidog, ac rwy'n mynd i'ch atgoffa chi eto, adroddwyd am hyn wrth y comisiynydd safonau, a ddywedodd yn ei adroddiad mewn gwirionedd fod angen i unrhyw un sydd â phroblem gyda'r gair 'cyffredinol' ei oddef. Unwaith ac am byth—nid oes unrhyw gasineb ynghlwm wrth hynny—goddefwch ef. [Torri ar draws.]
A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, ar bob ochr, y dylent sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cadw ar lefel resymol, a bod cyfraniadau'n parchu pawb arall?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae eich polisi yn sicrhau ergyd o £9 biliwn i'n heconomi, yn arafu pobl ac yn costio £33 miliwn i'w weithredu.
Yn ail, rydych chi'n cyflwyno taliadau tagfeydd, sy'n mynd i fod yn hofran uwchben pobl, gan wasgu hyd yn oed mwy o arian allan o bobl ar adeg pan fyddant eisoes yn gorfod tynhau eu gwregysau.
Yn drydydd, mae gwahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, ni waeth beth mae eich cyd-Aelodau yn ei ddweud, yn amddifadu cymunedau o seilwaith mawr ei angen ac yn gwneud Cymru'n lle llai deniadol i wneud busnes. Mae hynny'n ffaith. Rydych hefyd wedi bwrw ymlaen i wneud lle i £3 miliwn o gyllid i'ch cyn-gyflogwr, Sustrans, dros y tair blynedd diwethaf ar adeg pan honnir bod cyllidebau'n dynnach nag erioed. [Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae cyllid hanfodol wedi ei dorri i'n sector bysiau, gan arwain at doriadau sylweddol i wasanaethau a newidiadau, gan adael pobl o bob cwr o Gymru wedi'u hynysu. Rydym hefyd wedi gweld symiau anweddus o arian trethdalwyr yn cael ei bwmpio i mewn i Trafnidiaeth Cymru, sy'n dal i fethu darparu gwasanaeth dibynadwy ac effeithiol. A hefyd, Ddirprwy Lywydd, cafodd swm parhaus—miliynau o bunnoedd eto—ei wario'n syth o'r pwrs cyhoeddus i gynnal Maes Awyr Caerdydd.
Ddirprwy Weinidog, dim ond rhai o'r eitemau ar frig y mynydd iâ yw'r rhain; mae'r rhestr o gamau gweigion yn parhau. Felly, yng ngoleuni'r hyn a ddywedais nawr, a ydych chi am adolygu eich atebion blaenorol? Oherwydd dyma gyflawniad i fod â chywilydd ohono ac yn ddim byd o gwbl i fod yn falch ohono.
Rwy'n credu bod ailadrodd camwybodaeth, gwybodaeth ffug a chelwyddau'n barhaus yn ein Siambr ddemocrataidd yn druenus, ac mae hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Nid yw hwn yn bolisi cyffredinol. Nid ydym wedi gwahardd adeiladu ffyrdd. Nid ydym yn taflu arian tuag at Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn ariannu uwchraddio am y tro cyntaf ers oes Fictoria yn y rhan fwyaf poblog o Gymru i greu gwasanaeth 'cyrraedd a theithio' a gefnogwyd gan ei phlaid hi. Nid wyf wedi rhoi arian i fy nghyflogwr blaenorol. Bydd y cofnod yn dangos bod yr elusen yn derbyn arian gan bob Llywodraeth o bob lliw ar draws y DU. Câi gyllid cyn i mi ymuno â nhw, ac nid wyf wedi gweithio iddynt ers 10 mlynedd. Ac mae'r cyllid y mae'n cyfeirio ato yn ariannu gwaith mewn ysgolion. Yr awgrym, sydd unwaith eto wedi cael ei adleisio gan y trolwyr ar-lein, yw fy mod yn cael budd personol o hyn. Mae'r mathau hyn o sylwadau, a'r gamwybodaeth y mae'n parhau i'w lledaenu, yn cyfrannu at ddiwylliant o gasineb ac yn cael eu cyfeirio at boblogaethau unigol. Mae angen iddi ysgwyddo cyfrifoldeb am ganlyniadau'r geiriau a'r iaith y mae'n ei defnyddio a'r ffordd y mae'n siarad yn y Siambr hon yn gyson mewn ffordd annymunol a phersonol iawn.
Fel y dywedais, ni fyddaf yn gweld colli'r dadleuon hyn, ond nid ydynt yn ychwanegu at hybu ein democratiaeth ac nid ydynt yn fy nwyn i gyfrif. Mae llawer y gallech fod wedi'i ddweud heddiw am y ffordd y gwnaethom gyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya a fyddai'n feirniadaeth deg. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y ffordd y mae costau'r prosiect metro yn cynyddu. Mae llawer y gallwch ei ddweud am y cymhorthdal i Faes Awyr Caerdydd. Mae digon o bethau lle mae dadl onest i'w chael a chyflawniad i'w graffu'n briodol, a dyna yw gwaith y Senedd hon. Nid yw'r Aelod erioed wedi cyflawni unrhyw graffu difrifol. Y cyfan y mae'n ei wneud yw codi ar ei thraed a difrïo.
Cyn imi symud ymlaen, a gaf i dynnu sylw at y pwynt—? Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn bwysig. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw sicrhau bod ein cywair a'n hiaith yn parchu pawb, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan i'r Siambr hon hefyd, fel nad yw ein hymddygiad yn cael ei ddefnyddio fel modd i eraill ymosod ar gynrychiolwyr, boed hynny yn y Siambr hon, neu hyd yn oed yn siambrau cynghorau a mannau eraill. Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb pwysig yn ein cyfraniadau. Ar gyfer y cofnod, rwyf am nodi ac adolygu'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma ac fe ddeuaf yn ôl at bawb sy'n gysylltiedig â'r mater.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ddweud eto cymaint o bleser yw hi wedi bod i'ch cysgodi yn y rôl hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau. Yn ystod eich cyfnod yn y swydd hyd yma, mae'r Senedd hon wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur. Nawr, rwy'n falch mai cynigion Plaid Cymru oedd y rhain, ond maent yn perthyn i'n Senedd. Rwy'n gwybod pa mor ddwfn yw eich dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn gyda'n gilydd. Felly, a ydych chi'n meddwl ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn? Gyda'r Bil Seilwaith (Cymru) yn pasio'n fuan yn erbyn cefndir o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy'n cael eu cynnig neu sy'n mynd rhagddynt ar safleoedd ledled Cymru, fel ffermydd solar ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rydym yn dechrau ar gyfnod mwyfwy peryglus. A ydych chi'n teimlo'n hyderus fod Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwn yn iawn, a sut y gall y Cabinet newydd sicrhau bod y cydbwysedd yn cael ei daro a'i ddiogelu?
Mae'n gwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda chi dros y blynyddoedd hyn hefyd, oherwydd rydym wedi anghytuno'n rymus ond hefyd rydym wedi dod o hyd i lawer i fod yn unedig yn ei gylch, a dyna fel y dylai fod.
Rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro. Rydym wedi ymdrechu'n galed i gael y cydbwysedd yn iawn. Rydym eisiau'r buddsoddiad, y swyddi a'r ynni adnewyddadwy sy'n dod gyda'r diwydiannau y siaradwn amdanynt, ac a dweud y gwir, mae gennym gyfle unigryw i fod ar y blaen mewn diwydiant byd-eang o ran gwynt arnofiol yma, sydd, o ystyried y sgwrs am Tata yn gynharach, yn gwneud i chi sylweddoli'r angen am y buddsoddiad hwnnw. Ond wrth gwrs, tra byddwn yn gwneud hynny, mae gennym rwymedigaeth absoliwt i sicrhau bod y diwydiant newydd hwnnw'n cael ei weithredu mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, nad yw'n gwneud niwed ac sy'n dod â daioni i'n byd. Nid oes diben defnyddio gwynt arnofiol os mai'r hyn a wna yw niweidio gwely'r môr Celtaidd, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â hynny.
Rydym wedi datblygu cyfres o bethau sy'n ymwneud â chasglu data, gan weithio gydag Ystad y Goron, ar y ffordd y mae'r contractau wedi'u gweithredu, ar y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio fel rhan o'i adolygiad o drwyddedu morol, er enghraifft, ar sut y cawn y data, fel y gallwn dreialu gweithredu, a phe bai'r data hwnnw'n dangos bod rhywbeth wedi'i osod yn anghywir, fod modd ei symud mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus iawn i wneud hynny oherwydd, fel arall, byddai'n rhaid i ni aros nes bod gennym 10 mlynedd o ddata a byddem yn colli'r ras fyd-eang. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod y trysorau sydd gennym yn yr amgylchedd morol o'n cwmpas yn cael eu diogelu yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweithio'n galed i wneud hynny. Bydd llawer mwy i'w wneud, wrth i'r data hwnnw ddod ar gael, i sicrhau bod gennym amddiffyniadau ar waith. Ond rwy'n credu ein bod wedi gosod ein hunain ar y trywydd iawn ar gyfer hynny, ac rwy'n credu bod y Bil seilwaith yn dystiolaeth wirioneddol ein bod yn rhoi ein harian ar ein gair.
Diolch am hwnna, Weinidog.
Rwy'n hyrwyddwr rhywogaethau balch ar ran y gardwenynen feinlas, sydd â'i chynefin ar wastadeddau Gwent, a dim ond un o'r rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yw honno. Mae un o bob chwech o'n rhywogaethau yn wynebu'r bygythiad hwn. Bellach, fel y gwyddoch, mae Cymru yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf ar y blaned, ac mae ein hamgylchedd dan fygythiad cynyddol yn sgil gweithgarwch dynol, a phethau fel llygredd, newid hinsawdd, ecsbloetio adnoddau. Maent yn rhoi pwysau enfawr ar ein byd naturiol gwerthfawr sy'n wynebu perygl. Nawr, nid yw pwerau gorfodi yn ddigon cadarn i ymdrin â graddfa a maint y troseddau amgylcheddol ledled Cymru. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn dympio slwtsh gwenwynig anghyfreithlon ar safleoedd gwarchodedig, mae cwmnïau dŵr wedi rhyddhau carthion yn anghyfreithlon i gyrsiau dŵr Cymru, heb gymaint â slap ar yr arddwrn, os ydych chi am siarad amdano yn y termau hynny. Mae'r sefyllfa'n enbyd. Rwy'n gwybod eich bod yn poeni'n arw am hyn, Weinidog. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Bil sydd ar ffordd ar lywodraethiant amgylcheddol yn mynd i'r afael â'r sefyllfa. Ond a allwch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canlyniadau effeithiol ar waith i'r rhai sy'n diystyru deddfwriaeth amgylcheddol yng Nghymru a bod yr unigolion hyn yn cael eu dwyn gerbron llys? Ac a yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei weld fel rhan o'ch gwaddol hyd yma yn y rôl hon?
Unwaith eto, cwestiwn ardderchog, Delyth, ac mae cryn dipyn o wahanol bethau anodd yn codi. Felly, y cynigion llywodraethiant amgylcheddol a gaiff eu cyflwyno gan y Llywodraeth—. Rwyf wedi mynd â'r Bil drafft yn bell, felly rwy'n eithaf sicr y bydd yn cyrraedd ar ei ffurf bresennol. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yr arwyddion cychwynnol o'r ymgynghoriad hwnnw—nid yw'n gyflawn o bell ffordd—yw ei fod wedi ei gyflwyno'n dda, fod y bobl sydd wedi gweithio gyda ni yn meddwl ein bod wedi gwneud gwaith da ar adlewyrchu eu pryderon, ac yn y blaen. Felly, rwy'n eithaf sicr y bydd gennym rywbeth sy'n edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd gennym. Wrth gwrs, bydd rhai elfennau gwahanol o'r ymgynghoriad yno. Mae hwnnw wedi'i anelu at awdurdodau cyhoeddus, nid awdurdodau preifat. Rwy'n gobeithio y bydd yn cynnwys y cwmnïau dŵr hefyd. Byddem yn gofyn iddynt gael eu cynnwys yn wirfoddol beth bynnag. Mae ychydig o broblem gyda'u dynodiad, ond rwy'n siŵr y gallwn oresgyn hynny.
Rwy'n siŵr mai un o'r pethau y dadleuir yn eu cylch yn y Senedd pan fydd y Bil hwnnw'n mynd drwodd yw beth y dylai'r cosbau fod i awdurdodau cyhoeddus nad ydynt yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud. Mae'n hysbys nad wyf yn cefnogi dirwyo pobl. Mae yna ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth ailgylchu, er enghraifft, i ddirwyo cynghorau nad ydynt yn cyrraedd eu targedau ailgylchu. Fy marn i erioed, a barn bersonol yw hi, yw bod mynd ag arian oddi wrth awdurdodau cyhoeddus i geisio gwneud iddynt wneud mwy yn sicr o fethu, gan mai'r cyfan a wnewch yw eu hamddifadu o'r adnoddau angenrheidiol i fuddsoddi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus. Ond mae'n rhaid inni hefyd ddwyn adnoddau dynol yr awdurdod hwnnw i gyfrif, os mynnwch, a sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn. Felly, rwy'n gobeithio, y bydd y Bil yn cydbwyso hynny. Byddai'n rhaid i'r awdurdod ymateb i'r awdurdod goruchwylio mewn ffordd briodol a byddai'n rhaid iddo wella'i ffyrdd a rhoi trefn ar bethau. Felly, byddwn i'n dilyn y llwybr hwnnw.
Gyda chwmnïau preifat, mae hynny'n fwy cymhleth. Weithiau, dirwy yw'r hyn y dylid ei orfodi oherwydd eich bod yn mynd ag elw. Fodd bynnag, mae problem o hyd ynglŷn â buddsoddi i beidio â pharhau'r llygredd. Felly, bydd yna enghreifftiau—gallaf feddwl am enghreifftiau go iawn—lle rydym wedi cael camgysylltiadau carthffosydd yn mynd i mewn i afonydd, er enghraifft. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw buddsoddiad i'w hailgysylltu yn y ffordd briodol. Felly, er fy mod yn credu na ddylai unrhyw un elwa o fod wedi ei wneud yn anghywir, rwyf hefyd yn credu y dylent allu cael yr adnodd angenrheidiol i'w gywiro. Nid wyf ychwaith yn credu mewn gwthio pobl allan o fusnes fel bod pobl yn colli eu swyddi.
Felly, fel bob amser, mae'n ymwneud â chydbwysedd, onid yw? Mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd rhwng gorfodi, enwi a chodi cywilydd, ac unioni, a sicrhau nad yw pobl yn elwa ohono, sy'n bwysig iawn hefyd yn fy marn i.