– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Chwefror 2024.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y genedl noddfa. Y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y pedwerydd ar hugain o fis Chwefror yn dynodi dwy flynedd ers ymosodiad llawn ar Wcráin gan Putin. Ers hynny, mae mwy na 7,500 o Wcreiniaid wedi cael eu gorfodi i adleoli i Gymru, gyda miliynau yn rhagor wedi cael eu dadleoli ar draws Ewrop. Mae'r wythnos hon yn garreg filltir arw i Wcreiniaid ym mhobman, ond rydym ni'n benderfynol o arddangos ein hundod parhaus. Er bod y rhyfel yn faith, chwedl Arlywydd Zelenskyy yn nyddiau cynnar yr ymosodiad,
'bydd goleuni yn drech na'r tywyllwch'.
Yn arwydd o hyn, fe fyddwn ni'n taflu goleuadau ar rai o adeiladau'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a nos yfory fe fyddaf i'n siarad mewn digwyddiad a noddir gan Mick Antoniw AS, yma yn y Senedd. Ymweliad nodedig â'r DU gan feddygon rheng flaen o Wcráin yw'r achlysur hwn, sy'n cynnwys rhai a gafodd eu dal yn gaeth yn Rwsia, sy'n teithio o amgylch y DU gydag ambiwlans a gafodd ei fomio. Bydd y digwyddiad ei hun yn taflu goleuni ar anwareidd-dra ymosod ar gyfleusterau meddygol—trosedd rhyfel.
Yn ogystal â hyn, mae Mick Antoniw AS newydd ddychwelyd ar ôl ei ymweliad ef ag Wcráin gyda thîm o wirfoddolwyr, a oedd yno'n trosglwyddo nwyddau angenrheidiol a ddarparwyd gan gymunedau Cymru. Mae ein cefnogaeth i'r Wcreiniaid yn ddiwyro yma yng Nghymru. Ar ymweliad diweddar â phrosiect Safe Haven ym Maesteg, fe welais i bwysigrwydd y croeso sy'n cael ei estyn i Wcreiniaid. Fe gefais fy nghyfareddu gan araith bwerus gan ddisgybl ysgol a oedd yn sôn am hanes y gwrthdaro a'r cyfleoedd a gafodd hi o ran cymorth. Fe hoffwn i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi croesawu gwesteion Wcreinaidd ar eu haelwydydd ledled Cymru.
Ers misoedd rwyf i wedi bod yn ceisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer estyniadau i gyfnodau dilysrwydd fisâu neu hawl i ymgartrefu. Ac roeddwn i'n falch o weld cyhoeddiad ddoe y bydd y rhai sydd â fisâu dan gynlluniau ar gyfer Wcráin yn gallu ymestyn eu hawl i aros yn y DU am 18 mis arall. Nid y cyfnod estyn yr oeddem ni wedi gobeithio amdano yw hwnnw'n union, ac nid oes fyth hawl i ymgartrefu, ond fe wn i y bydd llawer o Wcreiniaid yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r sicrwydd o wybod bod modd aros am 18 mis arall eto yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod na fydd gan lawer ohonyn nhw gartrefi i fynd adref iddyn nhw ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac fe fyddwn ni'n dal ati i weithio ar ymagwedd drugarog a fydd yn canoli ar yr unigolyn mewn misoedd a blynyddoedd i ddod.
Mae hi'n amlwg fod llawer o fanylion mân eto ynglŷn â'r trefniadau i ymestyn cyfnodau dilysrwydd y mae angen gweithio drwyddyn nhw a chyfleu'r atebion i Wcreiniaid yn ein cymunedau nhw. Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno llawer o newidiadau i'r rheolau mewnfudo sy'n ymwneud â chynlluniau cyfredol ynghylch Wcráin brynhawn ddoe hefyd, ond mae angen peth amser arnom ni i amgyffred eu heffaith debygol nhw yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer Wcráin yn addas i'r diben a bod y camau y mae angen i Wcreiniaid eu cymryd yn cael eu hamgyffred a'u cefnogi yn llawn.
O ran y rai sydd wedi elwa ar haelioni uwch-noddwr sydd wedi teithio ac wedi manteisio ar ein cynnig o lety cychwynnol, rydym ni'n parhau i wneud cynnydd ardderchog o ran cefnogi pobl i symud i lety tymor hwy ledled Cymru a thu hwnt lle gall Wcreiniaid ddal i ymgartrefu yn ein cymunedau ni. Erbyn hyn mae llai na 90 o unigolion ar ôl yn y tri safle llety cychwynnol i gyd, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol i gefnogi'r aelwydydd sydd ar ôl i symud ymlaen, gan gynnwys drwy gyfrwng ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Rydym ni'n parhau i fod ar y llwybr iawn i fod yn cau ein safleoedd llety cychwynnol yn gyfan gwbl yn ystod 2024. Mae ein dull tîm Cymru ni, gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid y trydydd sector i gyd yn dod at ei gilydd i gefnogi Wcreiniaid i symud ymlaen ledled Cymru, sy'n cael ei hwyluso gan y tasglu symud ymlaen cenedlaethol a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi bod yn hanfodol i'r llwyddiant hwn. Erbyn hyn, mae dros 2,000 o westeion wedi cael cymorth i lety tymor hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ein galluogi ni i gau 28 o leoliadau llety cychwynnol. Nid yn unig yr ydym ni wedi gallu cefnogi cannoedd o gartrefi i fod yn aelwydydd llwyddiannus yn ein cymunedau lleol, ond rydym ni wedi lleihau ein cyllideb y gellir ei rhagweld o ran llety cychwynnol yn sylweddol hefyd a hynny mewn cyfnod o bwysau ariannol difrifol.
Er y llwyddiannau hyn, rydym ni wedi gorfod mynd i'r afael â heriau mawr o ran y gefnogaeth i geiswyr lloches yn ystod y misoedd diwethaf. Yn benodol, arweiniodd ymdrech y Swyddfa Gartref i ddileu eu hôl-groniad o hawliadau lloches at gynnydd mawr yn niferoedd y ffoaduriaid digartref yn y cyfnod cyn y Nadolig. O ganlyniad i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023, mae dau ôl-groniad arall o geisiadau lloches gennym ni ar gyfer rhai sy'n glanio a'r ôl i'r ddwy Ddeddf gael eu pasio, er yr honiadau eu bod nhw wedi datrys y materion hyn.
Ar hyn o bryd rydym ni'n gweld argyfwng o ran y cyngor cyfreithiol mewnfudo sydd ar gael a fydd ag effaith ganlyniadol ar ddigartrefedd, amddifadedd a chamfanteisio yn ein cymunedau ni os na ellir mynd i'r afael â hynny. Rydym ni wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau i sicrhau bod digon o gymorth cyfreithiol ar gael yng Nghymru, ond hyd yn hyn, wedi gwrthod gweithredu y mae hi. Mae'r system cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl ac rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i atal y sector hwn rhag chwalu. Ond rydym ni'n ystyried camau cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru y gallem ni eu cymryd ac rydym ni'n dal ati i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith peidio â gweithredu.
Gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, rydym ni wedi cyflwyno trefniadau llywodraethu newydd yn ddiweddar i fod yn sail i'n dull tîm Cymru ni. Mae hyn yn cynnwys sefydlu bwrdd goruchwylio strategol cenedl noddfa, yr wyf i'n ei gadeirio gyda llefarydd tai CLlLC. Mae'r aelodau yn cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o'n gwasanaethau sector cyhoeddus yn fyw eang, partneriaid yn y trydydd sector a chynrychiolwyr o'r Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Rydym ni wedi sefydlu bwrdd partneriaeth cenedl noddfa hefyd i sicrhau ymgysylltiad ar lefel swyddogol uwch ar draws ein holl bartneriaid. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r gyfundrefn loches, mae'r bwrdd hwn yn cynnig llwyfan pwysig i geisio gweithio gyda nhw i ddarparu system effeithiol sy'n cefnogi cymunedau lleol a cheiswyr lloches. Fe fyddwn ni'n parhau i'w helpu nhw i gyflawni eu cynllun gwasgaru ceiswyr lloches a thynnu sylw at faterion lle maen nhw'n codi, gan gydnabod ei bod hi'n amlwg mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod y cynllun i wasgaru yn cael ei weithredu.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl noddfa. Rydym ni'n falch o gynnig lloches i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro a cham-drin yng Nghymru. Fe gawsom ein syfrdanu gan haelioni pobl ledled Cymru a agorodd eu drysau i bobl yn ffoi rhag ymladd ofnadwy yn Wcráin. Ond mae Cymru hefyd wedi croesawu pobl a oedd yn ffoi o Affganistan, Syria a Hong Kong. Mae bod yn genedl noddfa yng Nghymru yn golygu cefnogaeth i bawb sy'n dod i Gymru i fod â rhan lawn yn ein cymunedau a'n heconomi. Mae angen ymfudo ar Gymru i gynnal a chynyddu ein poblogaeth a chefnogi busnesau a'r sector cyhoeddus. Mae ymfudo yn cadw ein cymunedau ni'n fywiog ac yn helpu ein heconomi i ffynnu. Diolch.
Mae Rwsia yn wlad odidog, ac mae ei phobl yn haeddu cymaint gwell na Vladimir Putin a'i giwed o ffasgiaid. Am y byddwn ni'n nodi dwy flynedd ddydd Sadwrn nesaf ers ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin, a gyda'i ymdrechion anwaraidd ef i roi taw ar bob gwrthwynebiad democrataidd yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'n rhaid i ni gofio bod Putin nid yn unig yn droseddwr rhyfel rhyngwladol ac wedi llofruddio lluoedd, ond ei fod ef hefyd yn hen ddyn bach ffiaidd ac yn ormeswr milain.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod diolchgarwch enfawr yn ddyledus i bobl Wcráin am amddiffyn y rheng flaen o ran rhyddid y gorllewin ar ddwy lan yr Iwerydd a thu hwnt. Wrth eich holi chi yma ym mis Mehefin y llynedd, roeddwn i'n nodi, wrth ymateb i'ch datganiadau blaenorol chi ynglŷn ag Wcráin a'r genedl noddfa, fy mod i wedi codi mater tai a thai modiwlaidd arfaethedig dro ar ôl tro yn rhan o'r datrysiad, fel sydd yn digwydd dros y dŵr yn Iwerddon. Roeddech chi wedi cyfeirio o'r blaen at yr angen i symud ein gwesteion Wcreinaidd i lety tymor hwy, ac mae rhywfaint o hynny'n cynnwys tai modiwlaidd a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid, os oes un o gwbl?
Roeddwn ni'n nodi hefyd, felly, fod y gronfa £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i ganfod cartrefi iddyn nhw eu hunain wedi cael ei chyhoeddi yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, gyda £8 miliwn i Gymru, ac roeddwn i'n gofyn i chi gadarnhau sut y byddai hwnnw'n cael ei ddyrannu ac a fyddai'n cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru a/neu'r cynghorau i helpu teuluoedd o Wcráin i gael llety rhent preifat a chael gwaith, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Yn eich ymateb chi, roeddech chi'n dweud bod 936 o dai ychwanegol yn cael eu hariannu o'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol 'am ac i'r flwyddyn nesaf'—h.y. eleni—ac mae honno'n ystod o ddatrysiadau o ran llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond sy'n dwyn tai gwag neu segur i ddefnydd unwaith eto, gan drawsnewid rhai adeiladau, dymchwel eraill a chodi adeiladau newydd hefyd. O ystyried bod bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd, faint o dai sydd wedi cael eu hariannu erbyn hyn drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, faint o'r rhain a ddyrannwyd ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd neu ffoaduriaid eraill, a faint o gartrefi ychwanegol, gan gynnwys adeiladau newydd a thai modiwlaidd newydd, a ddarparwyd i ddiwallu anghenion ffoaduriaid Wcreinaidd a ffoaduriaid eraill yng Nghymru? O ystyried bod y DU wedi cynnig neu ymestyn noddfa i fwy na 238,000 o Wcreiniaid, faint o'r rhain sydd yng Nghymru erbyn hyn, ac a yw Cymru yn ysgwyddo'r baich mewn ffordd deg, pan fo Lloegr yn rhoi cartref i 16 o geiswyr lloches fesul 10,000 o bobl, ond dim ond naw a gartrefir yng Nghymru? Pa gamau a ydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, os ydych chi am wneud hynny o gwbl?
Y tro diwethaf i mi ymweld â Chanolfan Byd Gwaith yr Wyddgrug, fel soniais i o'r blaen, fe ddysgais i am y gwaith rhagorol yr oedden nhw'n ei wneud wrth gefnogi Wcreiniaid sy'n awyddus i weithio a gwneud cyfraniad. Yn y cyd-destun hwn, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, ESOL, a pha mor hawdd yw trosglwyddo eu cymwysterau i Gymru?
Mae cynllun teithio rhad ac am ddim i ffoaduriaid ar fysiau Cymru, y tocyn croeso, a oedd yn dechrau ar 26 Mawrth 2022 ac a fydd yn parhau tan 31 Mawrth 2024 gyda threfniadau eraill yn cael eu hystyried ar ôl hynny, yn caniatáu i'r rhai sy'n gymwys deithio yn rhad am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol ledled Cymru heb unrhyw gyfyngiadau, gan gynnwys y rhai sy'n rhedeg dros y ffin â Lloegr os yw'r daith yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghymru, gyda gwaharddiadau yn berthnasol i wasanaethau National Express a Stagecoach Megabus yn unig. Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl 31 Mawrth? Fe anfonais i e-bost atoch chi dros y penwythnos ar ran etholwyr sy'n rhoi llety i'w hail deulu Wcreinaidd, ac rwy'n diolch i chi am eich ymateb dros dro. Dywedodd gyrrwr bws y gwasanaeth sy'n mynd trwy eu pentref nhw, sy'n cael ei redeg gan Townlynx yn Nhreffynnon, wrthyn nhw ei fod yn fodlon gadael eu gwesteion Wcreinaidd fynd ar y bws y tro hwn, ond na fydden nhw'n cael mynd ar y bws eto. Sut wnaeth Llywodraeth Cymru, felly, gomisiynu'r cynllun teithio rhad ac am ddim ar fysiau i ffoaduriaid a pha gamau a allwch chi neu a wnewch chi eu cymryd mewn amgylchiadau o'r fath?
Fel roeddech chi'n ei nodi, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun estyniad o 18 mis ar gyfer dilysrwydd fisa ar gyfer Wcreiniaid a ddaeth i geisio noddfa yn y DU yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia, sy'n golygu y byddan nhw'n gallu aros yn y DU nawr tan fis Medi 2026. Fe fydd y rhai sydd yn y DU yn ôl cynllun Cartrefi i Wcráin, y cynllun teuluoedd o Wcráin, neu gynllun estynedig Wcráin yn gymwys i wneud cais am yr estyniad o fewn tri mis olaf y fisa cyfredol. Er bod y cynllun teuluoedd o Wcráin yn cael ei ddiddymu, fe fydd gwladolion Wcráin a fyddai wedi bod yn gymwys yn unol â hyn yn parhau i allu gwneud cais i gynllun Cartrefi i Wcráin, ac fe all teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yma barhau i noddi aelod o'r teulu i ddod i'r DU yn ôl Cartrefi i Wcráin. Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, a pha gamau a gymerwch chi i ddiwallu'r angen mwy eang hwn, ar lefel Llywodraeth Cymru a thrwy ymgysylltu â Llywodraeth y DU fel ei gilydd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi wrth i chi siarad am anwareidd-dra Putin ac mae hynny, rwy'n credu, yn cael ei adleisio ar draws y Siambr hon, sef y diolchgarwch mawr i gydnabod dewrder, cydnerthedd a chadernid pobl Wcráin am eu parodrwydd diwyro i ymladd a gwrthsefyll ymosodiad Putin ar eu cenedl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud y datganiad hwnnw gyda'n gilydd heddiw. Rydych chi'n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â sut yr ydym ni wedi rhoi cefnogaeth. Ddwy flynedd yn ôl, roeddem ni yma gyda'n gilydd yn gwneud dim ond mynegi ein trueni a'n harswyd oherwydd ymosodiad Putin a chydnabod dewrder y bobl hynny yn Rwsia hefyd sy'n gwrthsefyll Putin erbyn hyn, gan fentro eu bywydau i wneud felly, hyd yn oed. Fe wyddom ni fod yna laweroedd o sifiliaid yn y sefyllfa honno.
Ond beth a wnaethom ni? Mae hi'n hen bryd i ni gydnabod ac ystyried yr hyn sydd wedi digwydd a sut mae Cymru, ac fel rydych chi'n dweud, pobl Cymru a'i sefydliadau, llywodraeth leol, y trydydd sector, eglwysi, mosgiau, a sut mae pawb wedi ymateb. Unwaith eto, rydym ni wedi croesawu dros 7,400 o Wcreiniaid yn unol â chynllun Cartrefi i Wcráin y DU, gan gynnwys bron i 3,300 yn ôl ein llwybr uwch-noddwr ni, ac mae hi'n bwysig bod hynny'n cael ei roi ar gofnod heddiw. Rydym ni wedi helpu dros 2,600 o bobl i symud drwy ein llety cychwynnol, y canolfannau hynny i groesawu, ledled Cymru, ac rwyf i wedi sôn am y ffaith ein bod ni am weithredu tuag at gau'r canolfannau croeso diwethaf yn ystod y flwyddyn eleni. Felly, mae hi'n rhaid i ni ddiolch, unwaith eto, i'n partneriaid allweddol sydd yn ein cefnogi i helpu'r 2,600 o bobl hynny o'r canolfannau croeso, y llety cychwynnol hwnnw, i lety tymor hwy—dull tîm Cymru. Ac rwyf i eisoes wedi cydnabod swyddogaeth, wrth gwrs, pobl Cymru a roddodd o'u calonnau ac agor drysau eu cartrefi, am eu caredigrwydd a'u hymrwymiad lletygar. Rwy'n credu mai mater yw hwn, unwaith eto, o fod yn craffu ar rywfaint o'r manylion yn y cyhoeddiadau.
Fe wnes i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU ochr yn ochr â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Dirprwy Weinidog Gogledd Iwerddon a Gweinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hi'n hyfryd ein bod ni i gyd yn cael cyfarfod gyda'n gilydd wythnos diwethaf i drafod y cyhoeddiadau hyn a oedd yn cael eu cyflwyno. Ond roeddem ni'n codi cwestiynau ynghylch a fydd y taliadau diolch, er enghraifft, yn parhau—mae'r rhain yn fanylion y mae angen i ni edrych arnyn nhw, oherwydd rydym ni'n awyddus hefyd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dal i ddod ymlaen i gynnig llety. A dim ond gair, o ran ein canolfannau croeso ni, roeddwn i'n sôn mai 90 o westeion yn unig sydd gennym ni ar ôl yn y canolfannau croeso oherwydd llwyddiant y gweithgarwch o ran symud pobl ymlaen. Pan oedd y prosiect yn ei anterth, roedd dros 1,900 o westeion mewn mwy na 40 o safleoedd ledled Cymru, ac mae llawer ohonoch wedi bod yn ymweld â'r lleoliadau hynny.
I sôn ychydig am eich cwestiwn ynglŷn â'r llety a ddefnyddir, roedd y rhaglen gyfalaf i ddarparu llety trosiannol, yn y flwyddyn gyntaf, yn rhoi £76.4 miliwn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig 936 o gartrefi i bobl. Mae hon yn agored erbyn hyn i geisiadau newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i ddarparu mwy o gartrefi. Mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o brosiectau: fel defnyddio tai gwag unwaith eto, ailfodelu ac altro adeiladau presennol, yr adeiladau modiwlaidd a welwyd gan lawer yn eu hetholaethau nhw eu hunain, a chydnabod hefyd fod y rhain, mewn gwirionedd, yn gartrefi i bobl sydd mewn llety dros dro, gan gynnwys pobl sy'n cael eu hadsefydlu o Syria, Affganistan a Wcráin.
Roeddech chi'n crybwyll cyflogaeth ac ESOL. Mae hi'n allweddol i ni gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud i'w llety eu hunain a bod yn annibynnol. Ac, wrth gwrs, mae gwir angen am y sgiliau y mae gwesteion o Wcráin yn eu cynnig i Gymru, a'u hawydd i wella eu Saesneg hefyd, gan lunio'r gwersi o amgylch gwaith ac ymrwymiadau astudio. Roeddwn i'n awyddus i fynegi bod dros 600 o Wcreiniaid yng Nghymru wedi cofrestru gyda STEP Wcráin, sy'n rhaglen ddwys 12 wythnos o ran iaith Saesneg a chyflogaeth ar gyfer Wcreiniaid yn y DU.
O ran y tocyn croeso, rydym ni'n falch ein bod ni wedi gallu darparu'r cynllun tocyn croeso ar gyfer cludiant cyhoeddus am ddim am ddwy flynedd. Mae newidiadau i'r ffordd y mae'r diwydiant bysiau yn cael ei ariannu yn golygu ein bod ni'n ystyried dulliau amgen o ddarparu cymorth yn y dyfodol. Rydym ni'n gwneud y penderfyniadau hyn nawr ac fe fyddwn ni'n egluro'r rhain yn llawn pan fydd y trafodaethau hynny wedi dod i ben. Diolch am gysylltu â mi dros y penwythnos, Mark, i roi gwybod i mi am ddigwyddiad siomedig a gresynus. Mae digwyddiadau fel hyn wedi digwydd wrth i geiswyr lloches naill ai gael eu gwrthod ar gam rhag teithio neu deimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn annheg. Mewn unrhyw achosion fel hyn, fe fyddwn ni'n ymchwilio i'r amgylchiadau ac yn gweithio gyda gweithredwr y gwasanaeth. Cyfrifoldeb y sawl sy'n rhedeg y gwasanaeth yw hwn, ond fe fyddwn ni gwneud ymholiadau i'r gweithredwr sy'n gyfrifol i geisio unioni pethau.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae hi'n bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd i'r dyfodol gyda chynlluniau Wcráin. Maen nhw'n gynlluniau pwysig, ac rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Ddoe yn unig y cawsom ni'r manylion. Mae materion i'w hegluro fel bydd y trefniadau sydd ar ddod yn cefnogi llwybrau diogel a chyfreithiol, ac, yn amlwg, rydym ni'n gweithio yn glòs iawn gyda'r Swyddfa Gartref ynglŷn â'r mater hwn. Mae cynllun newydd i ymestyn caniatâd ar gyfer caniatáu i Wcreiniaid yng Nghymru gynllunio ychydig ymhellach i'r dyfodol a thawelu'r pryderon ynghylch eu sefyllfa o fis Mawrth 2025 ymlaen. Ond yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yw bod rhaid i geisiadau am estyn cyfnod unrhyw fisa fod yn rhwydd, mae'n rhaid iddyn nhw fod â chost resymol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn syml a heb fod ag angen cyngor cyfreithiol i'w cwblhau. Ni ddylid rhoi pobl ar ymyl y dibyn o ran eu sefyllfa. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei egluro. Ond, wrth gwrs, mae terfynu'r cynllun teuluoedd o Wcráin, gan fyrhau'r cyfnod o ganiatâd i aros ar gyfer fisâu Cartrefi i Wcráin i 18 mis yn hytrach na 36 mis, yn newidiadau sylweddol, ac yn golygu nad oes cyfleoedd am nawdd cadwyn mwyach. Rydym ni wedi bod yn gofyn am eglurhad ynglŷn â'r materion hyn. A hefyd, o ran ein cynlluniau ein hunain, ein dealltwriaeth ni yw nad yw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn atal unrhyw un sydd wedi cael fisa uwch-noddwr rhag teithio i'r DU os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes.
Diolch am y datganiad, Weinidog.
Rhywbeth ofnadwy yw'r hyn yr ydym ni'n ei nodi heddiw: dwy flynedd ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar diroedd Wcráin, bomio eu dinasoedd a phobl yn cael eu gyrru o'u cartrefi mewn arswyd. Rydym ni wedi condemnio gweithredoedd anghyfreithlon ac anwaraidd Putin ac yn gywir felly ac wedi chwarae ein rhan wrth helpu i gefnogi ffoaduriaid rhag yr ymladd hwn i ddod o hyd i noddfa a lloches yng Nghymru. Mae Cymru wedi cael ei chanmol am ei hymateb dyngarol, y cynllun uwch-noddwr, cyfranogiad ein hawdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol fel Urdd Gobaith Cymru, sy'n esiamplau disglair yn nhywyllwch y ddwy flynedd ddiwethaf o ryfel a dadleoli pobl. Fe hoffwn i fynegi diolchgarwch Plaid Cymru ar goedd i bawb yng Nghymru sydd wedi helpu ac sy'n dal ati i helpu ein brodyr a'n chwiorydd Wcreinaidd yn eu hangen mawr.
Mae'n rhaid tynnu sylw at y cyferbyniad mawr rhwng yr ymateb rhyngwladol i'r rhyfel yn Wcráin a'r ymateb i ymosodiad parhaus Llywodraeth Israel ar Gaza yn y cyd-destun hwn, am eich bod chi, Gweinidog, wedi dweud y bydd yn rhaid i Gymru sy'n genedl noddfa gefnogi pawb sydd ag angen am noddfa, sy'n ffoi rhag rhyfel. Felly, a ydych chi'n cytuno na ddylai gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n rhan ohoni, fod yn gallu dewis a dethol pwy y bydd hi'n eu cefnogi neu'n cydsefyll â nhw sy'n ddioddefwyr rhyfel ac yn bobl a ddadleolwyd? Oherwydd ym Mhalestina y mae'r argyfwng ffoaduriaid mwyaf hirsefydlog na chafodd ei ddatrys mewn hanes diweddar, ac erbyn hyn y mae hwnnw'n argyfwng nad oes ansoddeiriau digonol i ddisgrifio ei erchyllterau. Fel pobl Wcráin, nid ydyn nhw'n dyheu am ddim ond cael mynd adref i'w tai, i'w hystafelloedd dosbarth, i'w busnesau, y cafodd llawer ohonyn nhw eu dinistrio gan fomiau'r ymosodwyr. Ar y cyfan, nid yw pobl Gaza wedi gallu ffoi o gwbl rhag y bomiau na'r bwledi na'r diraddio, a hyd yn oed pe bydden nhw'n gallu cael eu ffordd allan o'r hyn a alwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn hunllef ddyngarol, ni fydden nhw wedi cael llwybr penodol ar gyfer mewnfudo cyfreithiol i gyrraedd yma.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r arweinydd yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adfer cyllid ar gyfer Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sydd wedi darparu cefnogaeth hanfodol i filiynau o ffoaduriaid Palesteinaidd, gan alw atal cefnogaeth Lywodraeth y DU yn gamgymeriad moesol a strategol. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r alwad honno? Pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cefnogaeth i'r rhai a ddadleolwyd gan y rhyfel yn Gaza ac sy'n wynebu'r trychineb dyngarol hwn? Ac mae hi'n ymddangos nawr fod eich cydweithwyr chi yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn dechrau deall o'r diwedd nad yw atal y brwydro dros dro yn ddigonol, a wnewch chi yn y Llywodraeth alw eich hunain am gadoediad ar unwaith, o ystyried eich condemniad cyfiawn o weithredoedd Putin a sefyllfa pobl yn Wcráin?
Mae'r pwerau dros faterion mewnfudo, fel roeddech chi'n dweud, yn fater a gedwir yn ôl, wrth gwrs, ac mae'r gefnogaeth barhaus a ddarperir i bawb sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a cheisio lloches yng Nghymru yn cael ei chyfyngu gan San Steffan. Felly, er eich bod chi'n amlwg yn ceisio eglurhad, a ydych chi'n cytuno mai gwarth o beth yw bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan wedi cyhoeddi heb rybudd o gwbl y byddan nhw'n rhwystro Wcreiniaid rhag ymuno ag aelodau o'u teuluoedd yng Nghymru? Beth mae hynny'n ei gyfleu, yn eich barn chi, i'r rhai sydd wedi colli popeth yr ydym ni'n awyddus ac yn teimlo cyfrifoldeb i gynnig noddfa iddyn nhw rhag y rhyfel? A ydych chi'n cytuno y dylid gweld diwedd ar newidiadau polisi fel hyn a sicrhau bod y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun byd-eang sy'n rhoi'r un hawliau, gan gynnwys o ran uno teuluoedd, i bawb sydd eu hangen, heb ystyried eu cenedligrwydd?
Mae Plaid Cymru wedi clywed am bryderon sydd gan awdurdodau lleol Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd ynglŷn â'r cynllunio hirdymor i'r cynllun a fwriadwyd i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Gyda Llywodraeth y DU yn dod â'r taliad cymorth diolch i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ni fydd y rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw wedyn i barhau â'u gwaith ardderchog yn lletya ffoaduriaid o Wcráin. Roedd y taliadau, wrth gwrs, yn rhoi cymhelliant ariannol hefyd ar gyfer annog pobl i letya. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r perygl hwn y bydd teuluoedd o Wcráin yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i'w llety eu hunain gan wynebu digartrefedd efallai, a fyddai'n ychwanegu at y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaethau tai a digartrefedd eisoes, y mae'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn brin ddifrifol o gyllid yn ceisio ymdrin ag ef? A fyddech chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ymgymryd â'r un dyletswyddau gyda llai o adnoddau, yn enwedig o ystyried y toriad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer cymorth i ffoaduriaid o Wcráin?
Ac yn olaf, yn adroddiad cynnydd 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fe nodwyd bod y gwaith i sicrhau strategaethau atal digartrefedd yn y pedair ardal wasgaru yn ystyried bregusrwydd ffoaduriaid newydd i ddigartrefedd gyda rhybudd ambr. A wnewch chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hynny? Diolch.
Diolch, Sioned Williams. Ie, fel rydych chi'n dweud, mae'r ddwy flynedd a nodwn ni heddiw yn rhai dychrynllyd iawn. Unwaith eto, rwy'n diolch i chi am gydnabod yr ymateb dyngarol eang a welsom ni yng Nghymru. Mae hi'n dda iawn i ni allu dwyn swyddogaeth yr Urdd i gof unwaith eto wrth sefydlu un o'r canolfannau croeso cyntaf. Ac wrth gwrs, fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Urdd am y gwaith a wnaethon nhw wrth ymateb i'r ffoi o Affganistan, oddi wrth y Taliban, ac inni weld y fath ymateb ar garreg ein drws, gyda'r Urdd yn agor eu drysau i blant a theuluoedd Affganistan. Ac fe hoffwn i ddweud, ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fod Cymru wedi croesawu dros 800 o bobl o Affganistan erbyn hyn ac mae'r gwaith yn parhau i gynyddu'r niferoedd eto. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod awdurdodau lleol Cymru unwaith eto ac mae'n rhaid eu canmol nhw am y canlyniad anhygoel wrth symud y rhan fwyaf o deuluoedd o Affganistan allan o'r gwestai a gaffaelwyd gan Lywodraeth y DU mewn dull mor llwyddiannus. Ym mis Awst y llynedd, fe wnaethon ni ymweld â—wel, dros gyfnod o bron i ddwy flynedd i gyd—gwestai a gweithio gydag awdurdodau lleol i weithredu'r symudiad anhygoel hwnnw. A chan gydnabod cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn arbennig, yn ogystal â phawb arall a gefnogodd y gwaith o'u symud nhw, gan weithio yn ddiflino i leihau nifer y teuluoedd a oedd wedi cael eu gwneud yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, roeddem ni'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny a ddaeth o Syria a'u cefnogi nhw hefyd.
Wel, ie, mae hi'n amlwg eich bod chi wedi myfyrio ar faterion ehangach ynglŷn â'r ymladd yn y byd, sy'n bwysig i ni o ran ein cysylltiadau a'n dealltwriaeth ryngwladol a'n cyfrifoldebau a'n dinasyddiaeth fyd-eang. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei weld yw hynny o ran—. Y gwir yw, argyfwng dyngarol yw'r un a welwn ni yn Gaza. Mae llawer gormod o sifiliaid, gan gynnwys menywod a phlant, yn colli eu bywydau. Ac mae'n rhaid i ni gael mwy o gymorth i Gaza—ac, yn bwysicaf i gyd, mae'n rhaid i'r gwystlon gael eu dychwelyd yn ddiogel ac mae'n rhaid cefnogi gwladolion Prydeinig. Felly, yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth, y mae—. Unwaith eto, mae hyn yn ein cysylltu nid yn unig â'r genedl noddfa, ond â chydlyniant cymunedol, ac rydym ni wedi sefyll gyda chymunedau Iddewig a Mwslimaidd a chwrdd â nhw ers dechrau'r gwrthdaro, ac rydym ni'n parhau i siarad â chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi.
Mae hi'n bwysig ein bod ni ag eglurder o ran y materion yr ydych chi'n eu codi ynglŷn â dyfodol cynllun Wcráin. Fe ddywedais i eisoes ein bod ni wedi gwneud nifer o alwadau, fel gwnes i yn y grŵp rhyng-weinidogol wythnos diwethaf. Mae angen i ni sicrhau'r trefniadau arfaethedig fel bydd gan bobl Wcráin, ein cymdogion ni, ein gwesteion ni, yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw, oherwydd fe fydd hwn yn newid mawr, sef gorffen y cynllun teuluoedd o Wcráin—. Roedd hwnnw'n bwysig iawn, y cynllun teuluoedd, ar ddechrau'r ymosodiad, ond, mewn gwirionedd, mae'r ceisiadau wedi rhedeg eu cwrs ac rydym ni wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun hwnnw i'w cynlluniau eraill i uno teuluoedd unwaith eto. A lleihau'r cyfnod o ganiatâd i aros o dan gynllun Cartrefi i Wcráin—mae hyn yn ymddangos yn rhywbeth sy'n peri pryder, ond fe ddywedwyd wrthym ni y bydd pob deiliad fisa Cartrefi i Wcráin yn gymwys ar gyfer y cynllun i gael estyniad i'w caniatâd. Felly, fe fyddai hyn yn caniatáu 18 mis, a 18 mis arall wedyn. Ac mae hi'n bwysig fod deiliaid fisa yn gallu gwneud cais ar gyfer estyniad yn gynharach i atal anawsterau wrth sicrhau tenantiaethau neu swyddi, sef, wrth gwrs, y ffyrdd y bu cymaint o ymgartrefu ac integreiddio llwyddiannus o ganlyniad i'r gwesteion hyn yn dod atom ni i Gymru.
Fe soniais i am y cynllun uwch-noddwr; rydym ni'n gweithio ar frys i gadarnhau na fydd unrhyw un yn cael ei atal rhag teithio i'r DU os oes fisa uwch-noddwr ganddyn nhw. Ac fe soniais i'n gynharach hefyd am bwysigrwydd y taliadau 'diolch' sydd ar gael i'r rhai sy'n rhoi llety i rai sy'n cael ymestyn cyfnodau eu fisâu ac iddyn nhw fod yn deall sut mae'r prosesau ymgeisio yn gweithio.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach, ac ar y ffyrdd yr ydym ni'n ceisio ymgysylltu, fel rydym ni'n ceisio ei wneud, â Llywodraeth y DU, gan weithio yn agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol o ran ymgodymu—ac ymgodymu yw e'—gyda'r polisi lloches. Mae gan Lywodraeth y DU strategaeth o ran amgylchedd gelyniaethus. Rydym ni wedi pwyso am ddigon o lwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, ac, wrth gwrs, fe fyddai hyn yn diddymu'r angen am deithiau peryglus ac yn amharu ar weithgarwch y rhai sy'n smyglo pobl, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod penderfyniadau lloches yn cael eu gwneud yn gynt, ond mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at ddigartrefedd ac amddifadedd, a hynny a ddigwyddodd mewn gwirionedd wrth i'r ôl-groniad gael ei leihau. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein dull tîm Cymru ni'n gweithio hefyd i ganiatáu ymateb i'r angen pwysicaf sef i groesawu ceiswyr lloches o bob cwr o'r byd. Ond fe wyddom ni fod hyn yn gofyn i ni weithio yn agos gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn ni, gyda'n hawdurdodau lleol, a dyna pam y bydd y bwrdd partneriaeth strategol y soniais i amdano mor bwysig. Mae gennym ni—. Rydym ni wedi bod ar daith bwysig gyda'n gilydd o ran croesawu ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin nawr. Heddiw, ar y gwesteion hynny o Wcráin yr ydym ni'n canolbwyntio, gan ystyried eu hamgylchiadau nhw, eu bywydau nhw, eu teuluoedd nhw, y teuluoedd sydd ar ôl yno, eu hanwyliaid nhw yn y rhyfel a'r anwyliaid a gollwyd, y cartrefi a gollwyd, gan sicrhau y byddwn ni'n parhau i ddiogelu'r croeso hwnnw yma yng Nghymru.
Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad heddiw. Efallai fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers ymosodiad rheibus Rwsia ar Wcráin, ond mae'r bygythiad i ddemocratiaeth a'r gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn y Siambr hon yn eu trysori yng Nghymru a'r gorllewin hefyd wedi cynyddu yn fawr ac nid wedi lleihau. Wrth i'r Ffindir ymuno â Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd a'r dwyrain canol bron iawn wedi cyrraedd pwynt berwi, rydym ni'n tystio i farwolaeth frawychus y bygythiad mwyaf i Wanwyn Rwsiaidd Putin. Heddiw, fe welsom ni gyfrif X—Twitter gynt—Yulia Navalnaya yn cael ei atal, ddiwrnod yn unig ar ôl iddi hi ddefnyddio'r cyfrwng i barhau ag ymgyrch gydol oes ei gŵr dros etholiadau rhydd a theg a democratiaeth yn Rwsia, ac ni chaiff hynny mo'i ddistewi fyth.
Yn eich datganiad chi, Gweinidog, rydych chi'n iawn i ganmol gwaith ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Mick Antoniw, sydd wedi mynegi llawer am yr ymosodiad a'r gwrthdaro yn Wcráin mewn ffordd fyw iawn ar gyfer pobl Cymru, gan ymweld yn rheolaidd ag Wcráin a sôn am y gwirfoddolwyr sy'n cludo nwyddau a gyfrannwyd gan gymunedau yng Nghymru. Serch hynny, mae'r perygl y mae'r gwrthdaro hwn yn ei olygu i ddemocratiaeth a democratiaethau yn ymestyn i'r holl fyd, ac mae'r bylchau gwleidyddol byd-eang yn ehangu wrth i gynghreiriaid y gorllewin a Rwsia ymgyfuno o amgylch y dwyrain canol. Felly, o gofio'r galw cynyddol am sancsiynau pellach yn erbyn Rwsia ac awdurdodaeth gyfyngedig a mandad y Senedd hon ac fel cenedl noddfa, sut, felly, ydych chi'n rhagweld, Gweinidog, y bydd y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru i bobl Wcráin yn datblygu drwy 2024? Ac wrth i gynlluniau teuluol y DU ac Wcráin gael eu tynnu yn ôl, pa gamau pellach yr ydych chi'n gobeithio eu gweld oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer dangos undod o blaid achos rhyddid a democratiaeth?
Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwy'n falch eich bod chi hefyd wedi ehangu hyn ar gyfer myfyrio ar y sefyllfa o ran marwolaeth erchyll Alexei Navalny a chydnabod bod Putin yno, Putin sy'n gyfrifol, a chydnabod dewrder aruthrol Yulia Navalnaya hefyd. Fe hoffwn i wneud sylw ar ddarn a gafodd ei ysgrifennu am Alexei dros y penwythnos gan Odessa Rae, pan ddywedodd hi,
'Treuliodd 15 mlynedd olaf ei fywyd yn gweithio drwy gyfrwng ei sefydliad yn y gobaith o ddisodli Putin a'i gyfundrefn awdurdodaidd. Rwy'n gwybod y byddai ef yn gwthio'r genhadaeth honno, a'i neges i Rwsia fyddai peidio â mynd yn rhywbeth o'r gorffennol ond yn rhywbeth sy'n parhau mewn rhyw ffordd—nad ydyn nhw, yng ngeiriau Dylan Thomas, yn mynd yn ddistaw i'r nos.'
Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n myfyrio ar hynny heddiw, wrth i ni ystyried effaith hyn o safbwynt byd-eang a chydnabod mai dyna pam mae'n rhaid i ni gefnogi pobl Wcráin.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymuno â'n gilydd i gydnabod dewrder pobl Wcráin, sydd wedi bod yn gwrthsefyll ymosodiad Putin ers dwy flynedd erbyn hyn. Fe hoffwn i roi teyrnged i'r arweinyddiaeth a amlygodd y Gweinidog yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac i arweinyddiaeth Mick Antoniw hefyd, a fu yn Wcráin yn trosglwyddo rhagor o ddeunyddiau, cefnogaeth a chymorth i'r bobl ar y rheng flaen, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ar draws y Siambr gydnabod y gwaith yr ymgymerodd Mick ag ef yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r ddwy flynedd o drais erchyll yn erbyn Wcráin gan Putin, wrth gwrs—mae hi'n amhosibl peidio â myfyrio hefyd, fel cafodd ei wneud eisoes, ar lofruddiaeth Alexei Navalny yr wythnos diwethaf, a laddwyd gan Putin. Ni allai ef dorri ei ysbryd, ac felly fe'i lladdodd, ac rwy'n credu bod hynny'n arddangos natur y drefn y mae pobl Wcráin yn ymladd yn ei herbyn. Roeddwn i'n siomedig o glywed ddoe bod Llywodraeth y DU wedi cau cynllun fisa teuluoedd o Wcráin heb unrhyw rybudd o gwbl. Fe fyddai hi'n ddefnyddiol, Gweinidog, pe gallai Llywodraeth Cymru siarad â Gweinidogion y DU ar unwaith i sicrhau bod pawb sydd ag angen noddfa yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw yn ddiymdroi neu heb unrhyw oedi. Mae lleihau cyfnod dilysrwydd fisâu o 36 mis i 18 mis yn anodd iawn i rai teuluoedd hefyd, ac rwy'n credu bod angen i ni herio hynny.
Ac, yn olaf, Gweinidog, yn eich trafodaethau chi gyda Llywodraeth y DU, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n cydnabod yr hyn sydd ei angen ar Wcráin ar gyfer parhau â'r frwydr dros ddemocratiaeth. Yr hyn a welsom ni dros yr wythnosau diwethaf yw lluoedd Wcráin yn cael eu gwthio yn eu holau gan rym a nerth lluoedd Rwsia sydd â llawer mwy o arfau a milwyr. Mae angen cefnogaeth cynghreiriaid y gorllewin ar Wcráin, ond mae angen taflegrau hefyd. Mae angen rocedi, mae angen sieliau a ffrwydron eraill ar y wlad ar gyfer trechu ymosodiad Rwsia. Nid yw addewidion gwag gan wleidyddion yn werth dim ar y rheng flaen yn Donetsk a dwyrain Wcráin ar hyn o bryd. Mae angen i ni sicrhau bod yr arfau a'r ffrwydron ganddyn nhw i drechu ymosodiad Rwsia.
Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwrthsefyll Putin. Fe allwn ni i gyd wrthsefyll Putin—fel gwnawn ni heddiw—ac ymddygiad ymosodol Putin a'i luoedd arfog. A dyna pam mae nodi dewrder a chadernid achos Wcráin mor bwysig heddiw wrth nodi dwy flynedd o ryfel. A dyna pam hefyd y mae'n rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau hyn yn gadarn a'u bod yn galluogi Wcreiniaid nid yn unig i breswylio yma, y rhai a oedd yn ffoi rhag yr ymladd, ond er mwyn i eraill allu dod yma hefyd. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn i'n ymestyn hynny hyd at ffoaduriaid eraill o rannau eraill o'r byd y gwnaethom ni eu cefnogi nhw, fel y ffoaduriaid o Affganistan a Syria sydd yma.
Fe ddywedais i fy mod i'n gofyn i'r Swyddfa Gartref ddysgu oddi wrth y cynllun teuluoedd o Wcráin a chydnabod yr effaith a gafodd, oherwydd un pwynt rwy'n credu, ac rwy'n credu bod Mark Isherwood wedi codi hwnnw, yw ein bod ni wedi cael y gadwyn o nawdd a oedd yn ceisio uno teuluoedd yma yng Nghymru. Rwyf i wedi codi hynny. Rydym ni'n gofidio am golli'r elfen hon gyda chynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd ei bod yn caniatáu i deuluoedd uno. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU weithio gyda nhw ynglŷn â'r llwybrau amgen ar gyfer cefnogi aduniad teuluoedd. Fe wyddom ni fod teuluoedd yn cael eu gwahanu ac yn parhau i fod ar wahân. Felly, rydym ni'n ceisio edrych ar hynny hefyd.
A hefyd, rwy'n credu bod pwynt, ac fe godais i hwn yn gyson, sef bod rhai Wcreiniaid yn dymuno cael llwybr i ymgartrefu yng Nghymru. Nid oes gan lawer ohonyn nhw gartrefi i ddychwelyd iddyn nhw yn Wcráin. Rydym ni'n parhau i wthio am hynny, ond, yn amlwg, cynnig llwybr i ymgartrefu—mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn partneriaeth a gyda dealltwriaeth ein cyfeillion Wcrainaidd a'r Llywodraeth honno. Fe wyddom ni y bydd angen ar Lywodraeth Wcráin i'r rhan fwyaf o'u dinasyddion ddychwelyd i helpu gyda'r ailadeiladu ymhen amser. Mae cynllun estyniad yn gam ymarferol iawn ymlaen. Fe wnaethon ni ofyn am ddwy flynedd—18 mis. Ond sut y caiff hynny ei gyflawni a'i reoli—nawr, yn sicr fe allech chi fy nal i gyfrif, a'r Llywodraeth hon, o ran sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio.
Ac yn awr galwaf ar Mick Antoniw i wneud cyfraniad byr i'r datganiad hwn.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y datganiad hwn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr ail flwyddyn ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Felly, dri diwrnod yn ôl, fe ddychwelais o Kyiv ar ôl bod yn trosglwyddo tri cherbyd a nwyddau ar ran grŵp trawsbleidiol y Senedd i gefnogi Wcráin. Felly, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Alun Davies am ei waith gyda'r grŵp hwn, a'i gefnogaeth ef gyda darpariaeth y deunyddiau cynorthwyol, yn cynnwys gyrru miloedd o filltiroedd ar draws Ewrop i Pavlohrad yn nwyrain Wcráin. Hyd yn hyn, cyfanswm y gefnogaeth a ddarparwyd yw 15 cerbyd, a nwyddau o werth a amcangyfrifir tua £1 miliwn. Rwy'n cydnabod y gefnogaeth sylweddol hefyd oddi wrth Undeb Cenedlaethol y Glowyr, undebau llafur a changhennau Cymru, cwmnïau fel Alcumus yn Nantgarw a Highadmit yn Nhonysguboriau, a llawer o unigolion a grwpiau sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn. Ac rwy'n cydnabod y gefnogaeth hefyd gan gyn-filwyr Cymru a grwpiau o Gymru fel UK for UA, grŵp rhagorol o Gymru sydd wedi bod yn trosglwyddo nwyddau i Wcráin bedwar deg ac wyth—ie, pedwar deg ac wyth—o droeon ar gyfer cynorthwyo eu hymdrechion yno. Yn Kyiv, fe wnaethom ni gyfarfod ag aelodau o undebau'r glowyr, gwirfoddolwyr a milwyr rheng flaen. Roedd penderfyniad hollol yn Wcráin i ennill y rhyfel yn erbyn Rwsia gan nad oes unrhyw ddewis arall. Rhyfel yn erbyn y ffasgiaeth sydd yn Rwsia yw hwn. Mae hwn yn rhyfel y mae'n rhaid i Wcráin a'r byd democrataidd ei ennill. Y dewis arall i bobl Wcráin yw alltudio rhagor o blant gan ychwanegu at y rhif a amcangyfrifir o 80,000 o blant a gipiwyd eisoes, y trais, artaith, a'r dienyddio cyson, alltudio torfol poblogaethau, gan ddisodli iaith, diwylliant a hunaniaeth Wcráin gan y Rwsiaid. Mae hyn yn digwydd eisoes mewn rhannau o Wcráin sydd yn eu meddiant.
Roedd disgwyl y byddai Wcráin yn chwalu o fewn wythnos, ond ni wnaeth hynny. Mae Wcráin wedi ymlid fflyd o longau o'r Môr Du er nad oes ganddi hi ei hunan lynges hyd yn oed. Mae allforion grawn wedi ailddechrau. Mae Rwsia wedi colli tua 380,000 o filwyr, ond nid yw bywydau ei dinasyddion yn golygu llawer iddi, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dod o leiafrifoedd ethnig o fewn y Ffederasiwn Rwsiaidd. Ond fe gafodd gyflenwadau newydd sylweddol o arfau ac offer oddi wrth Ogledd Korea ac Iran. Felly, mae'r rhyfel mewn cyfnod peryglus ar hyn o bryd. Mae prinder taflegrau a ffrwydron pell-ehedol, y parlys o ran y gefnogaeth oddi wrth America, methiant Nato hyd yn hyn i gyflenwi'r gyfradd o ffrwydron a addawyd yn rhoi hyder i Putin ac yn peryglu buddugoliaeth. Mae yna lawer mwy y gall Llywodraeth y DU ei wneud eto ac fe ddylai wneud felly.
Fe fyddai methu â threchu Putin yn ansefydlogi Ewrop gyfan. Mae Moldofa, Georgia, gwledydd y Baltig ac eraill dan fygythiad i gyd. Mae llofruddiaeth Navalny yn Rwsia, llofruddiaethau ar diriogaeth y DU ac mewn rhannau eraill o'r byd, yn mynd yn ôl at dactegau Stalinaidd y gorffennol. Mae'n rhaid i'r byd uno nawr i drechu Putin, ac, i'r rhai sy'n dweud na allwn ni fforddio'r gost, yn fy marn i, ni allwn fforddio peidio. Fe fyddai cost hirdymor peidio yn uchel iawn ar bob dinesydd yn y DU ac Ewrop os na ellir ei rwystro, a hynny am genedlaethau i ddod. Fel pob amser, mae cymunedau Wcráin yng Nghymru sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru fel minnau, yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a gan Lywodraethau'r DU, ac, yn benodol, gan bobl Cymru. Mae'n rhaid i Wcráin gael yr arfau a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol nawr ar gyfer ennill a dod â'r rhyfel i ben. Ac fel gwnaethom ni ei ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau 1938, ni ellir dyhuddo ffasgiaeth. Слава Україні! Героям слава! Перемогам!
Diolch i Mick, a diolch i'r Gweinidog.