Pobl sy'n Dioddef o Feigryn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Chwefror 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 2:32, 20 Chwefror 2024

(Cyfieithwyd)

Y mis diwethaf, cyd-noddais ddigwyddiad ymwybyddiaeth meigryn yma yn y Senedd gyda Jayne Bryant AS a Luke Fletcher AS. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar un o bob saith oedolyn, ac un o bob 10 o blant ledled y DU—tua 10 miliwn o bobl, gan gynnwys 450,000 yng Nghymru. Mae meigryn yn parhau i fod yn gyflwr gwanychol, ond mae camddealltwriaeth sylfaenol o'r gwirionedd yn golygu bod meigryn yn aml yn cael ei ddiystyru fel, rwy'n dyfynnu, 'dim ond cur pen'.

Mae'r Ymddiriedolaeth Meigryn wedi argymell camau y mae modd eu cymryd i wella gofal meigryn yng Nghymru, gan ymgorffori nifer yn benodol yn ymwneud â chyfrifoldebau cynllunio ac asesu anghenion byrddau iechyd lleol, gan gynnwys, adolygiadau o anghenion meigryn poblogaethau lleol; sicrhau bod y llwybrau gorau posibl yn cael eu gweithredu; cynyddu'r nifer o arbenigwyr cur pen sydd ar gael; datblygu a chyflwyno hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer meddygon teulu; sicrhau bod yr holl ganllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu diweddaru; cryfhau rôl fferylliaeth o fewn gofal sylfaenol ar gyfer meigryn; ac ymgyrchoedd ac adnoddau ymwybyddiaeth y cyhoedd. 

Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, os o gwbl, i fynd i'r afael â'r materion hyn a gafodd ei godi yma fis diwethaf ac i ddiwallu anghenion pobl â meigryn yng Nghymru?