Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Chwefror 2024.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Cafodd pecyn cymorth Cymru gyfan ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, i gefnogi clinigwyr i wneud diagnosis a gofalu am bobl â gwahanol fathau o gur pen, gan gynnwys meigryn. Cafodd y pecyn cymorth ei gynhyrchu ar y cyd gan aelodau'r grŵp gweithredu cyflyrau niwrolegol, gan gynnwys Cynghrair Niwrolegol Cymru.