Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 20 Chwefror 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 1:52, 20 Chwefror 2024

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n cael y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r Aelod eisiau gofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd ynglŷn â chyfrifoldebau nad ydyn nhw'n cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf i wedi dweud wrtho o'r blaen bod lle gallai e ofyn y cwestiynau hynny, ac efallai y byddai'n well ganddo fod yn y fan yna. Gadewch iddo, am eiliad, ofyn cwestiwn i mi am yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano ac fe wnaf fy ngorau i roi ateb iddo.