1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Chwefror 2024.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiannau ar y gofrestr. Prif Weinidog, ddoe, yn eich cynhadledd i'r wasg, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod ffermwyr, ar y cynllun ffermio cynaliadwy, eisiau gallu gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau gyda'r arian a pheidio â chael eu dwyn i gyfrif. Ai dyna'ch dealltwriaeth chi o'r dicter, y rhwystredigaeth a'r pryder dwfn iawn sydd gan ffermwyr ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, oherwydd nid wyf i'n gwybod am unrhyw ffermwr nad yw'n disgwyl cael ei ddwyn i gyfrif am yr arian y mae'n ei dderbyn gan y trethdalwr wrth dderbyn y nwyddau y mae'n eu darparu yn gyfnewid am y camau y mae'n ei gymryd ar ei fferm? Ac, yn wir, mae pob arolwg yn dangos, am bob £1 sy'n cael ei gwario gan y trethdalwr i gefnogi'r diwydiant amaeth, bod rhwng £7 a £9 yn cael ei ddychwelyd er budd y cyhoedd.
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ffermwyr a'r economi wledig. Dyna pam rydym ni wedi cynnal y cyfanswm yr ydym ni'n ei gyfrannu at y cynllun taliadau sylfaenol yn llawn yma yng Nghymru—cyferbyniad enfawr â'r ffordd y mae ffermwyr wedi cael eu trin yn Lloegr, wrth gwrs. Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud ddoe, ac yn ei wneud eto heddiw, yw y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffermio, ac mae gan y cyhoedd hawl i weld enillion o'r buddsoddiad hwnnw. Dyna hanfod y cynllun ffermio cynaliadwy. Ar frig uchaf y rhestr mae'r buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ond, ochr yn ochr â hynny, mae pethau eraill, pethau pwysig iawn, y mae ffermwyr yn eu gwneud heddiw yr ydym ni eisiau parhau i'w gwobrwyo am eu gwneud yn y dyfodol—yr holl bethau stiwardiaeth amgylcheddol hynny, sydd, mewn oes o newid hinsawdd, yn fwy arwyddocaol fyth. Felly, mae bargen yma. Dyna'r fargen y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chynrychioli. Dyna pam rydym ni wedi cael sgwrs saith mlynedd gyda ffermwyr yng Nghymru ynglŷn â chael y fargen honno'n iawn. Rydym ni yn nyddiau olaf yr ymgynghoriad diweddaraf, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan ynddo, fel y gallwn ni gyrraedd cynllun terfynol sy'n parhau i fuddsoddi yn nyfodol cefn gwlad a'n cymunedau ffermio, ac sy'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau'r enillion o'r buddsoddiad hwnnw y mae gan y cyhoedd hawl i'w ddisgwyl.
Rwy'n cytuno â chi bod gan y cyhoedd hawl, a dyna pam y defnyddiais y ffigurau pwysig hynny o'r enillion o'r buddsoddiad y mae'r trethdalwr yn ei wneud. Ond fe aethoch chi ymlaen yn y gynhadledd i'r wasg honno i ddweud mai eich dealltwriaeth chi oedd, 'Gwnewch beth bynnag y mae ffermwyr yn meddwl y bydden nhw'n hoffi ei wneud ag ef'—ac 'ef' yw'r arian y mae'r trethdalwr yn ei gyfrannu i gefnogi amaethyddiaeth. Ac mae'n beth anodd iawn ei werthu, gan fod eich dadansoddiad eich hun yn sôn am golli 5,500 o swyddi, gostyngiad o 125,000 o wartheg, 800,000 o ddefaid, a cholled o £200 miliwn mewn gweithgarwch economaidd yn yr economi wledig. Nid fy ffigurau i yw'r rhain; dyna'r ffigurau y mae'r Llywodraeth, yn amlwg, wedi eu cyhoeddi.
Pan fyddwn ni'n sôn am geisio cael cynllun ffermio cynaliadwy sy'n darparu diogeledd bwyd, ar y mathau hynny o rifau, mae'n amlwg mai ychydig neu ddim pwysoliad sydd ar gyfer diogeledd bwyd. Sut ar y ddaear all ffermwyr fod yn hyderus yn sefyllfa'r Llywodraeth pan fo'r rhifau hynny ynghlwm wrth y briff? A allwch gadarnhau heddiw, Prif Weinidog, bod diogeledd bwyd yn gynhwysyn hanfodol o'r ymgynghoriadau hyn yr ydych chi'n eu cael ar hyn o bryd ac, yn y pen draw, y bydd gan ddiogeledd bwyd yr un pwysoliad â'r enillion amgylcheddol hanfodol yr ydym ni eisiau gweld ffermwyr yn chwarae rhan yn eu sicrhau i gyrraedd sero net erbyn 2050?
Yn gyntaf oll, i ymdrin â'r pwynt a wnaeth yr Aelod am y dadansoddiad ariannol a gyhoeddwyd, o leiaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad ariannol. Fe wnaethom ni ddarganfod heddiw bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyhoeddi dadansoddiad ariannol o'i chynigion ar gyfer cymunedau ffermio yn Lloegr, tra ein bod ni wedi cyhoeddi'r ffigurau hynny. Fe wnaethom ni eu cyhoeddi nhw am yr union reswm o gael ymgynghoriad cytbwys, lle gallwn gytuno ar gynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy terfynol a fydd yn lliniaru rhai o'r risgiau hynny a fyddai wedi bod yno fel arall. Nid yn unig y gallaf i gadarnhau wrth arweinydd yr wrthblaid bod ffermio cynaliadwy yn gynhwysyn hanfodol yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma'r cynhwysyn pwysicaf. Dyna'r peth cyntaf yr ydym ni'n ei ddweud: bod y cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ddylunio i sicrhau cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yma yng Nghymru.
Pan edrychwch chi ar y ffigurau yr wyf i wedi eu rhannu â chi, Prif Weinidog, ac yn enwedig y colledion swyddi hollbwysig a'r colledion allbwn economaidd hynny, mae'n anodd i unrhyw berson rhesymol ddod i'r casgliad y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd, yn darparu'r cynnig ffermio cynaliadwy hwnnw gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraethau Cymru yn y dyfodol. Felly, gofynnaf eto i chi gadarnhau bod diogeledd bwyd yn rhan hanfodol o'r cynigion ac y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod diogeledd bwyd yn cael y pwysoliad cyfartal hwnnw â'r enillion amgylcheddol yr ydym ni i gyd, yn y pen draw, eisiau eu gweld, ac y bydd ailfeddwl am y gorchudd coed gorfodol o 10 y cant sy'n un o ofynion y cynigion presennol sydd ar y bwrdd. Oherwydd bydd y ddogfen cynllun ffermio cynaliadwy honno sy'n cael ei chyflwyno yn dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn chwalu'r gallu i ddarparu bwyd sydd ei angen ar y genedl ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi: mae oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi cymryd ei gyngor ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae hynny—[Torri ar draws.] Wel, dyna ni. Credwch chi fi, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw oherwydd ein bod ni wedi cymryd rheolaeth yn ôl dros gymorth ffermio yng Nghymru, fel yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Pe bai ffermwyr yng Nghymru yn dal i allu cael mynediad at y cyllid a oedd ar gael drwy'r Undeb Ewropeaidd, bydden nhw mewn sefyllfa wahanol iawn nag y maen nhw ar ôl clywed a dilyn ei gyngor ef. Rwyf i wedi ateb llawer o'i gwestiynau eisoes y prynhawn yma; ni wnaf fynd dros hynny eto.
O ran plannu coed, mae gan gannoedd ar gannoedd ar gannoedd o ffermydd yng Nghymru 10 y cant o'u tir o dan orchudd coed eisoes. Nid oes neb yn cael eu gorfodi i blannu coed yng Nghymru; roeddem ni'n benderfynol o gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr yng Nghymru dyfu'r coed y bydd eu hangen arnom ni, gan y bydd angen miloedd ar filoedd yn fwy o goed arnom ni yng Nghymru mewn cyfnod o newid hinsawdd. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyntaf i ffermwyr wneud hynny. Pan nad yw'n bosibl, pan, oherwydd topograffi'r tir neu ystyriaethau eraill, nad yw'n bosibl cyrraedd 10 y cant, mae'r Gweinidog eisoes wedi cyflwyno cynigion fel na fyddai disgwyl i ffermwyr gyrraedd hynny. Pan fo ffermwyr yn gallu, pan fo'n rhesymol disgwyl i ffermwyr wneud cyfraniad at liniaru newid hinsawdd, byddan nhw'n cael eu gwobrwyo am wneud hynny yn y cynllun ffermio cynaliadwy.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Cafwyd cadarnhad yr wythnos diwethaf bod economi'r DU wedi mynd i ddirwasgiad. Ond nid yr economi yn unig sy'n mynd tua'n ôl; mae dirywiad diwydiannau hanfodol yng Nghymru a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynnal, boed hynny'n amaeth, yn ddur neu'n lletygarwch, yn cynnwys holl nodweddion dirwasgiad cymdeithasol hefyd. Mae dur yn brwydro am ei fywyd; mae'r tractorau, rydym ni'n gwybod, eisoes ar y ffyrdd; ac mae'r arwydd 'ar gau ar gyfer busnes' diweddaraf yn cael ei godi mewn bwyty arall eto yn etholaeth y Prif Weinidog ei hun. Rwyf wedi sefyll yma yn ddigon hir nawr i wybod y bydd y Prif Weinidog yn neilltuo'r bai i San Steffan: 'Mae'n fater o ddiffyg cyllid'. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg; gallwn gytuno ar hynny yn sicr. Ond a yw'r Blaid Lafur yn cytuno—Plaid Lafur Keir Starmer? A yw ef yn cytuno nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Ac os ydyw, pam nad yw'n dal i addo i unioni hynny, hyd yn oed ar rywbeth mor sylfaenol anghyfiawn â cholli biliynau o bunnoedd o symiau canlyniadol HS2? A pham mae'r Prif Weinidog yn methu â'i berswadio?
Rydym ni'n cael y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r Aelod eisiau gofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd ynglŷn â chyfrifoldebau nad ydyn nhw'n cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf i wedi dweud wrtho o'r blaen bod lle gallai e ofyn y cwestiynau hynny, ac efallai y byddai'n well ganddo fod yn y fan yna. Gadewch iddo, am eiliad, ofyn cwestiwn i mi am yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano ac fe wnaf fy ngorau i roi ateb iddo.
Fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i berswadio arweinydd y Blaid Lafur i fynd i'r afael â chyllid teg i Gymru? Bydd ASau Plaid Cymru yn falch o ddwyn Keir Starmer i gyfrif os yw Gweinidogion Llafur Cymru yma yn anfodlon gwneud hynny.
Y peth y mae pobl eisiau ei wybod yw bod y Llywodraeth ar eu hochr nhw. Rwy'n meddwl ei bod hi'n eithaf amlwg bod y Ceidwadwyr ar ochr neb ond eu hochr eu hunain, a dyna pam rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw gael eu taflu allan o rym eleni. Mae'n llawer iawn rhy hwyr. Ond mae Plaid Cymru yn barod i ddwyn pwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan i gyfrif. Ar ôl cael gwared ar y Torïaid, byddai pobl wedyn yn edrych i weld a yw Llafur ar eu hochr nhw. Wrth gwrs, maen nhw eisoes yn gwneud hynny yng Nghymru, ac mae llawer wedi dod i'r casgliad bod Llafur yn methu yma. Ac mae'n methu mewn meysydd y byddech chi'n disgwyl i Lafur, o'u rhethreg eu hunain, eu blaenoriaethu.
Un o gonglfeini maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinyddiaeth Llafur oedd hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r cyflog byw go iawn, ond gallaf ddweud wrtho fod dwy ran o dair o weithwyr sy'n cael eu talu drwy'r grant cymorth tai, er enghraifft, yn dal i gael eu talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. A yw'r Prif Weinidog yn gresynu hynny, a phryd allwn ni ddisgwyl i hynny gael ei gywiro?
Nid yw dyfynnu'n ddetholus o faniffestos yn ein cael ni'n bell iawn. Rwyf i wedi edrych ar faniffesto Llafur; nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn y cyd-destun y mae newydd ei ddisgrifio. Yr hyn y mae'n ymrwymo iddo yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna oedd yr un ymrwymiad drytaf yn ein maniffesto ac mae arian wedi cael ei ddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w gyflawni. Rwy'n falch, bob blwyddyn, bod nifer gynyddol o gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol yma yng Nghymru a mwy o bobl yn elwa ohono. Rwy'n gobeithio y bydd y nifer honno yn parhau i dyfu yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd i bobl yn y maes y mae wedi cyfeirio ato. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i chi fod â'r cyllid ar gael. Wythnos ar ôl wythnos, mae'n gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer hyn a mwy o arian ar gyfer y llall, ac rwy'n siŵr ei fod ar fin gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian at ddiben arall eto; yr hyn nad yw byth yn ei wneud yw dweud wrthyf i o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod.
Rwy'n synnu'n fawr, mae'n rhaid dweud, nad yw'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn gresynu nad yw'r rhai sy'n gweithio ar brosiectau grant cymorth tai yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol. Efallai fy mod i wedi camddeall yr hyn yr oedd Llafur wedi ei addo. Yn sicr, mae posibilrwydd o or-addo yn digwydd, ond gallwn yn sicr weld digon o arwyddion o dangyflawni.
Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn methu â bodloni ei dangosyddion perfformiad allweddol ei hun ar lawer o bynciau. Nid yw hynny'n helpu pan fo'r Llywodraeth wedyn yn gosod dangosyddion perfformiad allweddol i eraill eu bodloni sydd nid yn unig yn anodd eu bodloni ond a allai fod yn niweidiol i'w llesiant, a dyna sut mae'r sector amaeth yn teimlo ar hyn o bryd: Llywodraeth Cymru o'r brig i lawr yn dweud wrthyn nhw sut i ffermio tra'u bod yn meddu ar gamddealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i sicrhau amaethyddiaeth gynhyrchiol ac ystyriol o'r amgylchedd, sef yr hyn y mae'r sector yn ymdrechu i'w gyflawni.
Ddoe, clywsom y Prif Weinidog yn dweud wrth ffermwyr ar y naill law y bydd eu llais yn llunio'r cynllun ffermio cynaliadwy ac ar y llaw arall nad nhw sydd i benderfynu sut mae'r cynllun yn gweithio. Pa un a yw'n ddur, pa un a yw'n lletygarwch neu'n fanwerthu neu'n amaethyddiaeth, siawns mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw arwain partneriaeth, gan hyrwyddo gweithwyr Cymru, gweithio gyda nhw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os ydyn nhw'n mynd i ddangos eu bod nhw ar ochr pobl, bod yn rhaid i'r pwyslais fod ar y gwrando ac nid ar y darlithio?
Rwyf i wedi clywed tair darlith y prynhawn yma gan yr Aelod yn honni eu bod nhw'n gwestiynau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r dros 3,000 o ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn y 10 digwyddiad ymgynghori yr ydym ni wedi eu cynnal ar y cynigion diweddaraf yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig. Rwy'n gwybod y bydd cannoedd o bobl eraill wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau drwy'r undebau ffermio. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ffordd honno o gyd-gynhyrchu gyda'r sector ffermio mewn ffordd lle mae'r swm mawr iawn o arian yr ydym ni wedi ymrwymo i'w gynnal ar gyfer cynorthwyo'r gymuned amaethyddol yn parhau i fod ar gael iddyn nhw. Mae'r Gweinidog mewn trafodaeth barhaus gyda buddiannau ffermio. Byddaf yn cyfarfod â phobl eraill yr wythnos nesaf at y diben hwn. Y rheswm pam rydym ni'n ei wneud yw oherwydd ein hymrwymiad i'r sector hwnnw ac i ddyfeisio yma yng Nghymru ffordd o wobrwyo ffermwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud sy'n cael ei gydnabod gan weddill y cyhoedd yng Nghymru fel gwaith sy'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol cyfunol.