Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 20 Chwefror 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:47, 20 Chwefror 2024

(Cyfieithwyd)

Pan edrychwch chi ar y ffigurau yr wyf i wedi eu rhannu â chi, Prif Weinidog, ac yn enwedig y colledion swyddi hollbwysig a'r colledion allbwn economaidd hynny, mae'n anodd i unrhyw berson rhesymol ddod i'r casgliad y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd, yn darparu'r cynnig ffermio cynaliadwy hwnnw gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraethau Cymru yn y dyfodol. Felly, gofynnaf eto i chi gadarnhau bod diogeledd bwyd yn rhan hanfodol o'r cynigion ac y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod diogeledd bwyd yn cael y pwysoliad cyfartal hwnnw â'r enillion amgylcheddol yr ydym ni i gyd, yn y pen draw, eisiau eu gweld, ac y bydd ailfeddwl am y gorchudd coed gorfodol o 10 y cant sy'n un o ofynion y cynigion presennol sydd ar y bwrdd. Oherwydd bydd y ddogfen cynllun ffermio cynaliadwy honno sy'n cael ei chyflwyno yn dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn chwalu'r gallu i ddarparu bwyd sydd ei angen ar y genedl ar gyfer y dyfodol.