Trais Domestig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Chwefror 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 1:33, 20 Chwefror 2024

Llywydd, mae'r camau ymarferol mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddyn nhw i ddelio gyda thrais domestig ar gael yn ein strategaeth genedlaethol. Partneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac arbenigol sy’n cyflawni’r camau yma. Mae gwasanaethau datganoledig, a rhai sydd heb eu datganoli hefyd, wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r agenda yma yng Nghymru.