Safleoedd Gwenwynig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Chwefror 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:58, 20 Chwefror 2024

(Cyfieithwyd)

Yn yr un modd â'r map o domenni glo categori C a D yng Nghymru, mae gan bobl yr hawl hefyd i gael gwybod lleoliad safleoedd gwenwynig hanesyddol. Yn anffodus, mae llawer o safleoedd gwenwynig ledled ein gwlad o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol a chorfforaethau rhyngwladol yn ein defnyddio ni fel man dadlwytho ar gyfer pob math o gemegau annymunol. Efallai fod y corfforaethau hyn wedi hen ddiflannu o'n cymunedau, ond mae etifeddiaeth eu gwaith yn parhau gyda chyrsiau dŵr llygredig. A yw'r Llywodraeth hon wedi ystyried cyhoeddi map o safleoedd gwenwynig ledled Cymru i hysbysu'r cyhoedd yn well am y peryglon a allai fodoli yn eu cymuned, a phryd y byddwn ni hefyd yn cael tasglu sy'n ymroddedig i dynnu'r holl asiantaethau perthnasol sy'n mynd ar drywydd llygryddion at ei gilydd ac ymdrin â'r etifeddiaeth y maen nhw wedi ei gadael ar eu holau?