10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 7:33 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:33, 30 Ionawr 2024

Fe fyddwn ni'n pleidleisio nawr oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Does neb eisiau gwneud hynny.

Mae'r gyfres o bleidleisiau gyntaf ar eitem 7, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 4793 Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan

Ie: 26 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:34, 30 Ionawr 2024

Y cynnig, felly, yw'r bleidlais nesaf. Agor y bleidlais ar y cynnig yn enw Lesley Griffiths. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Cynnig: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4794 Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 53 ASau

Absennol: 7 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:34, 30 Ionawr 2024

Eitem 8 yw'r bleidlais nesaf, ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4795 Eitem 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Ie: 39 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:35, 30 Ionawr 2024

Y bleidlais olaf fydd ar y penderfyniad—. Mae yna bleidlais arall. Mae'r bleidlais yma ar benderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig eto yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4796 Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Ie: 39 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 7 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Daeth y cyfarfod i ben am 19:35.