Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 30 Ionawr 2024.
Rydyn ni’n nodi heddiw cam arall yn nhaith y Bil yma, sydd hefyd yn gam mawr i Gymru. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar bwysigrwydd y Bil yma.
Mae’r darpariaethau ynddo fo, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn gam pendant, a hir ddisgwyliedig, tuag at greu Senedd sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well ac yn creu Senedd go iawn i Gymru fydd yn gryfach, yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychioliadol o’n cenedl ni ymhob ystyr, a hyn mewn lle erbyn 2026.
Mi fydd hyn yn sicrhau chwarae teg i Gymru o ran nifer yr Aelodau yn ein Senedd ni. Pam ddylem ni fodloni ar gael Senedd fach annigonol o’i gymharu efo gwledydd o faint cyfatebol? Pam na fedrwn ni fynnu'r gorau i Gymru o ran democratiaeth?
Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol—a pheidiwch â gadael i neb ddweud fel arall—oherwydd Cymru fydd y ddeddfwrfa genedlaethol gyntaf ym Mhrydain i gael gwared yn llwyr ar system etholiadol cyntaf i’r felin. Ystyriwch pa mor annemocrataidd ydy'r sefyllfa bresennol lle gall rywun gael eu hethol i fwyafrif y seddau yn y Senedd yma efo’r mwyafrif wedi pleidleisio yn eu herbyn nhw.
Mi fydd y Bil hefyd yn hwyluso cyflwyno cwotâu rhywedd statudol i osod yr addewid o Senedd fwy cynrychioliadol wrth wraidd y sefydliad ar ei newydd wedd. Datblygiad hynod o arwyddocaol a radical arall, ac mi fyddaf yn edrych ymlaen at weld y Bil rhestrau ymgeiswyr etholiadol yn cael ei gyflwyno yn fuan iawn, gan ei bod yn bwysig wrth gwrs i’r Senedd allu ystyried y ddau Fil ochr yn ochr. Wrth ehangu’r Senedd, y peth olaf rydyn ni am ei weld ydy ailbobi neu ail-greu sefyllfa lle mae merched ydy’r mwyafrif tan gynrychioledig yn y lle yma. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb efo'r cyfle i fod yn cynrychioli eu cymunedau yma a chael Senedd sydd yn wirioneddol gynrychioli Cymru.
Mae’r Bil yn darparu mecanwaith, fel y soniwyd yn gynharach, o ran y mecanwaith adolygu, ac mae'n bendant ein bod ni'n mynd i fod angen hynny. Bydd yna waith pellach i’r Senedd nesaf ei wneud tuag at gyflwyno rhannu swyddi. Mae'n rhaid inni gofio mai democratiaeth ifanc ydyn ni—25 mlynedd sydd ers yr etholiad cyntaf i'r Siambr hon. Rydyn ni'n parhau yn ddemocratiaeth newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn barod i esblygu fel ein bod ni'n medru gwireddu'r hyn mae pobl Cymru eisiau inni ei wireddu yn y Siambr hon.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o baneli a phwyllgorau a chomisiynau wedi cytuno nad yw ein Senedd wedi’i chyfansoddi yn iawn i wneud y gwaith mae pobl Cymru wedi gofyn iddi hi ei wneud. Bu llawer o drafod hefyd am beth ddylai’r system ddelfrydol fod, ac rydyn ni eisoes wedi clywed barn amrywiol. Rydych chi'n gwybod yn iawn, o ran Plaid Cymru, mai system STV neu restrau cyfrannol agored neu hyblyg y bydden ni yn ei ffafrio, ond y flaenoriaeth ydy sicrhau bod pecyn beiddgar o ddiwygiadau yn eu lle erbyn 2026 a sicrhau bod yr adolygiad wedi hynny yn un gwirioneddol fydd yn galluogi rhagor o newid erbyn 2030.
Gwaith sylwebwyr ac academyddion ydy herio a chynnig dadansoddiad a thynnu sylw at yr arfer orau, a dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Biliau Diwygio. Mi oedd o'n anrhydedd bod yn rhan o'r gwaith hwnnw, ac mi fyddwn i'n hoffi diolch i fy nghyd-aelodau, y Cadeirydd a'r holl staff fu ynghlwm yn cefnogi'r gwaith hwnnw. A diolch yn arbennig i Llyr Gruffydd am gymryd fy lle i dros yr wythnosau diwethaf yma.
Mi ddaeth nifer o themâu pwysig allan ac wedi’u hargymell gan y pwyllgor, gan gynnwys pwysigrwydd sicrhau bod annibyniaeth a llywodraethiant y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru newydd tu hwnt i gwestiwn ac yn ddilychwyn, o ystyried y bydd â’r gair olaf am bennu’r ffiniau heb bleidlais yma. Mae yna nifer o argymhellion penodol gan y pwyllgor yma i gryfhau hyn, ac mi fydd o'n allweddol gweithredu arnyn nhw yng Nghyfnod 2. A dwi'n nodi bod y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol hefyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), ac mi oedd hi'n dda clywed y sylwadau yna.
Mae yna gwestiynau pellach am y cyfarwyddiadau i’r comisiwn, a dwi'n falch bod y Gweinidog yn gwrthod yr argymhelliad i glymu dwylo'r comisiwn o ran cyfyngu ymhellach ar y cwota 10 y cant. Roeddwn i'n falch bod y pwyllgor wedi cytuno hefyd yn unfrydol i osod y fantol o blaid defnyddio enwau Cymraeg ar etholaethau, a bydd angen gwelliannau pellach ar hyn.
Mae’r angen am welliannau mwy technegol i sicrhau does yna ddim canlyniadau anfwriadol o ran y gofyniad preswylio wedi’i grybwyll eisoes, ac mae yna angen am eglurder pellach i’r Senedd ar bwy fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o gydlynu’r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r system etholiadol newydd. Mae yna waith pellach hefyd o ran datblygu polisi a datblygu system yng Nghymru i ddatblygu rhaglenni maniffestos y pleidiau ar gyfer llywodraethu Cymru—hyn oll a mwy i’w barhau yng Nghyfnod 2, heb os.
Ond pan fo’r holl dystiolaeth wedi’i chasglu a phawb wedi cael dweud eu dweud, ein gwaith ni fel Aelodau’r Senedd wrth gwrs, fel deddfwyr, ydy gwneud penderfyniadau. Y penderfyniad sy’n ein hwynebu heddiw ydy pwyso a mesur y pecyn yma a’r egwyddorion sydd wedi eu gosod allan fel y maen nhw. Dwi’n falch iawn, ac yn ei hystyried hi'n anrhydedd, o gael pleidleisio dros barhau taith ein democratiaeth, dros gymryd cam ymlaen, tra'n cadw golwg ar ein huchelgais lawn at y dyfodol. Dwi'n annog pob Aelod i gefnogi'r hyn sydd gerbron, er mwyn Cymru a dros ddemocratiaeth.