Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 30 Ionawr 2024.
Dim ond eisiau cyfeirio ydw i at y ddadl am gysondeb. Wrth gwrs, rydym yn gyson wrth alw am refferendwm lle mae newidiadau sylweddol i'r system bleidleisio'n cael eu cynnig. Fe wnaethom ni gynnal refferendwm ynghylch a ddylid mabwysiadu system bleidleisio amgen o dan Lywodraeth David Cameron. Rhoddodd gyfle i bobl bleidleisio o blaid hynny neu yn ei erbyn. Mae hwn yn newid yr un mor arwyddocaol, a fydd yn dileu etholiadau cyntaf i'r felin i'r Senedd hon, sef sut yr etholir 40 o'r 60 Aelod presennol. Felly, dylid ei ddileu trwy refferendwm yn unig.