– Senedd Cymru am 6:03 pm ar 30 Ionawr 2024.
Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, felly, awn ni ymlaen at gyflwyniad y cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac i wneud cynigion ar yr egwyddorion hynny ac ar y penderfyniad ariannol.
Nod cyffredinol y Bil yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Mae maint y Senedd yn dylanwadu'n fawr ar allu'r Aelodau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'n effeithio ar ei gallu i graffu, i wrando ar etholwyr a'u gwasanaethu. Erbyn hyn, mae gyda ni 20 mlynedd o adroddiadau sy'n dangos bod angen cynyddu'r Senedd i sicrhau democratiaeth o safon sydd i'w disgwyl gan senedd a deddfwrfa fodern yn yr oes sydd ohoni.
Craffu ar y llywodraeth a'i dwyn i gyfrif yw sylfaen democratiaeth seneddol. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r craffu hwnnw. Mae'n rhan ganolog o ddemocratiaeth iach. Mae'n ffordd sylfaenol o wirio cydbwysedd, a gallu dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Mae democratiaethau yn meithrin dadl a her. Maen nhw'n credu bod polisïau a chyfreithiau yn cael eu llunio orau drwy graffu seneddol, a dyna pam mae'r Bil hwn yn fuddsoddiad yn y gwaith o foderneiddio ein democratiaeth a'i gallu i graffu ar lywodraeth.
Rwy'n ddiolchgar i holl aelodau'r Pwyllgor Bil Diwygio, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu gofalus a manwl ar y Bil, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at gasglu tystiolaeth. Er nad wyf yn gallu cytuno â phob argymhelliad a wnaed gan y pwyllgorau, rwy'n cefnogi llawer o'r argymhellion ac yn credu y byddant yn gwneud gwelliant gwerthfawr i'r ddeddfwriaeth a'i dogfennau ategol. Ni fydd gennyf amser y prynhawn yma i ymateb i bob un o'r 80 o argymhellion a wnaed gan y tri phwyllgor, ond, gan gydnabod y bydd y Bil cyfansoddiadol hwn yn destun craffu gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan, y bydd pob Aelod yn rhan ohono, yng Nghyfnod 2, rwyf wedi ceisio ymateb yn gyflym i'r argymhellion yn ysgrifenedig, a byddaf yn ceisio manylu ar fy safbwynt ar nifer ohonynt heddiw.
Felly, yn gyntaf oll, rwy'n croesawu argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Bil Diwygio y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae hon yn garreg filltir allweddol yng nghynnydd y ddeddfwriaeth nodedig hon, sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i gryfhau ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru ac i fynd i'r afael â diffyg capasiti hirsefydlog ein Senedd genedlaethol. Rwyf hefyd yn cytuno â'u hargymhelliad y dylai Aelodau'r Senedd, drwy gydol eu gwaith craffu parhaus ar y Bil, roi sylw i'r materion a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor, ac, yn wir, y rhai a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Wrth gytuno â hynny, nodaf hefyd argymhelliad 14 y pwyllgor, a oedd yn galw arnaf i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd i ddod i gytundeb ar sut y gellid diwygio'r Bil i sicrhau bod y system etholiadol yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru ac atebolrwydd cliriach i Aelodau unigol, a byddaf yn gwneud fy ngorau. Rwy'n credu y gall y system cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig arfaethedig y mae'r Bil hwn yn darparu ar ei chyfer gyflawni'r uwchfwyafrif sy'n angenrheidiol er mwyn iddo gael ei phasio ac y bydd yn llawer gwell na'n system etholiadol bresennol. Bydd yn gwella democratiaeth ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif, a bydd yn arwain at Senedd sy'n llawer mwy cynrychioliadol o bobl Cymru, yn ein holl amrywiaethau. Mae'n symleiddio'r system bresennol—bydd pleidleiswyr yn cael un papur pleidleisio yn lle dau—ac mae'n system sydd eisoes yn gyfarwydd i bleidleiswyr, gan ei bod yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pleidleisiau rhestrau rhanbarthol ac arferai gael ei defnyddio ar gyfer ethol ASEau, Aelodau Senedd Ewrop. Mae rhestrau caeedig hefyd yn cynnig system ymarferol go iawn lle gall pleidiau gymryd camau i fynd i'r afael ag amrywiaeth wrth gynrychioli'r cyhoedd yng Nghymru.
Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod yna wahaniaeth barn a bod y cynnig yn y Bil, yn wir, yn gyfaddawd—cyfaddawd i gyflawni'r ddwy ran o dair sy'n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei basio ac yn dod yn gyfraith, oherwydd os na chaiff ei basio, yna ni fydd dim yn newid. Felly, yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth y Senedd hon yw, ar gyfer yr etholiad cyntaf hwn o dan y Bil, efallai na fydd yr hyn sydd gennym yn mynd mor bell ag y byddai rhai yn ei hoffi, ond mae'r Bil yn darparu gofyniad statudol i gynnal adolygiad ar ôl etholiadau 2026. Bydd hynny'n rhoi cyfle i'r Aelodau adolygu sut mae wedi gweithio, pa wersi y gellir eu dysgu a pha newidiadau, os o gwbl, y dylid eu gwneud. Mae'r pŵer ar gyfer newid pellach yn aros gyda'r Senedd.
Gan droi at agweddau eraill ar y Bil, byddwn i'n dweud wrth yr Aelodau fy mod i'n agored i ddeialog adeiladol ar sut y gellid gwella'r Bil ymhellach. Er enghraifft, rwy'n croesawu argymhellion 15 a 50 y pwyllgor mewn perthynas ag enwau ymgeiswyr ar y papur pleidleisio ac adalw, y gellid ystyried bod y ddau ohonynt yn mynd rhywfaint o'r ffordd i roi llais cryfach i bleidleiswyr ac i wella atebolrwydd yr Aelodau i'w hetholwyr.
Nid wyf wedi derbyn argymhelliad 6 y Pwyllgor Bil Diwygio nac argymhelliad 7 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a oedd ill dau yn galw am ddileu pŵer yn y Bil sy'n darparu ar gyfer cynyddu'r terfyn deddfwriaethol ar Weinidogion Cymru i 18 neu 19. Mae cynnwys y pŵer hwn yn cynnig diogelwch ar gyfer y dyfodol, gan alluogi Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i amgylchiadau heb ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn unswydd i gynyddu'r terfyn deddfwriaethol gan un neu ddau Weinidog.
Rwyf wedi archwilio a ellid bwrw ymlaen ag argymhelliad 8 Pwyllgor y Bil Diwygio i ddod ag unrhyw ddefnydd o'r pŵer hwn i ben, ond rwyf wedi nodi y byddai gwelliannau o'r fath yn debygol o effeithio ar adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sydd wedi'i diogelu rhag cael ei haddasu, ac felly rwy'n gwrthod yr argymhelliad ar y sail honno. Fodd bynnag, rwy'n cytuno ag argymhelliad 7 y Pwyllgor Bil Diwygio y dylai'r pŵer hwn fod yn ddarostyngedig i fwyafrif o ddwy ran o dair, o gofio y bydd defnyddio'r pŵer hwn yn effeithio ar allu'r Senedd i graffu.
Rwyf hefyd wedi derbyn argymhellion 9, 11, 13, 19, 21, 24 a 26 y pwyllgor, gan ddarparu rhesymeg ac ystyriaethau yn ôl y gofyn, ac ymrwymo i ymgymryd â gwaith ac ystyriaeth pellach. Fodd bynnag, nid wyf wedi derbyn argymhelliad 28, a oedd yn galw am welliannau i leihau'r amrywiad a ganiateir o ran y cwota etholiadol o 10 y cant ar adolygiadau o ffiniau etholaethol. Wrth ystyried yr elfen hon o adroddiad y pwyllgor, rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan yr Athro Renwick bod lefel cwota etholiadol yn gyfaddawd yn y bôn rhwng cydraddoldeb cynrychiolaeth a'r hyblygrwydd i ymateb i faterion fel daearyddiaeth, cysylltiadau lleol a chysylltiadau cymunedol. Nodaf hefyd fod cyrff fel Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Boundaries Scotland wedi mynegi pryderon i'r pwyllgor, po fwyaf anhyblyg yw'r amrywiad, y mwyaf tebygol ydyw y gallai arwain at sefyllfaoedd y gellir eu hosgoi fel arall, fel etholaethau daearyddol mawr iawn neu dorri cysylltiadau cymunedol. Felly, oherwydd hyn, er fy mod yn cydnabod y pryderon a nodwyd gan yr Aelodau ynghylch amrywiadau o ran maint etholaethau, rwy'n credu bod amrywiad o tua 10 y cant yn cydbwyso pryderon o'r fath yn erbyn y rhai a allai godi yn sgil cwota etholiadol mwy anhyblyg.
Rwyf wedi derbyn argymhelliad 31 yn adroddiad y pwyllgor, a oedd yn galw arnaf i gyflwyno gwelliannau i leihau'r cyfnod a roddir i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i roi effaith i argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o chwe mis i bedwar mis. Bydd hyn yn golygu y bydd rheoliadau dwyieithog yn cael eu gwneud yn yr un amser â'r rhai sy'n deillio o adolygiadau seneddol y DU.
Rwyf hefyd wedi derbyn argymhelliad 33, gan ymrwymo i gyflwyno gwelliannau fel bod yn rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi un enw uniaith i etholaethau'r Senedd os yw hynny'n dderbyniol ar gyfer cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ac rwy'n credu bod y dull hwn yn cyd-fynd â'n delfryd ehangach o gysoni enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg, yn enwedig mewn achosion lle nad oes llawer o wahaniaeth rhyngddynt. Yn yr un modd, rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 39, a oedd yn galw arnaf i ddarparu mecanwaith ar gyfer sicrhau bod ymgeisydd wrth gefn a fyddai fel arall yn gymwys i ymgymryd â swydd wag sy'n codi yn ystod tymor y Senedd yn cael ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd os ydyw, ers yr etholiad, wedi dod oddi ar y fath gofrestr. Felly, rwy'n archwilio opsiynau ar gyfer cyflwyno'r argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen, nid wyf wedi derbyn argymhelliad 41 y Pwyllgor Bil Diwygio, a oedd yn galw am ddileu adrannau 7 a 19 o'r Bil, nac argymhellion cyfatebol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cydnabod bod yr Aelodau wedi mynegi pryderon ynghylch priodoldeb cyfansoddiadol y darpariaethau hyn, ond nid wyf yn cytuno eu bod yn broblem gyfansoddiadol. Mae yna enghreifftiau eraill o ddyletswyddau statudol yn cael eu gosod ar y Llywydd, ac ni fydd gosod dyletswydd ar y Llywydd yn cyfyngu Senedd y dyfodol i gamau gweithredu penodol. Bydd o fewn pŵer y seithfed Senedd yn llwyr i benderfynu sut mae'n ymateb i'r cynigion y mae adrannau 7 a 19 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd eu cyflwyno. P'un a fydd yn diwygio cynigion o'r fath, p'un a fydd yn cytuno ar y cynigion ac, os cytunir arnynt, sut y caiff unrhyw waith sy'n deillio o gynigion o'r fath eu datblygu, rwy'n credu'n gryf bod y gwaith a ragwelir gan y cynigion yn briodol i'r Senedd ei ystyried.
Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn argymhelliad 47, a byddaf yn anelu at ddiwygio'r Bil er mwyn sicrhau, os bydd y Senedd nesaf yn penderfynu sefydlu pwyllgor o dan y cynnig y darperir ar ei gyfer gan adran 19, ac os bydd y pwyllgor hwnnw'n cynhyrchu adroddiad, y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i ymateb i'r adroddiad hwnnw.
Rwyf hefyd yn croesawu ac yn derbyn ystod o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan nodi barn ac esboniadau mewn ymateb i argymhellion 4, 6, 9, 12, 13 a 14, er enghraifft. Yn yr un modd, rwyf wedi derbyn ystod o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid. Mae llawer o'u hargymhellion yn fy ngwahodd i ymgynghori â Chomisiwn y Senedd, ac, mewn rhai achosion, i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol wedi hynny. Mae trafodaethau rhwng y Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd eisoes wedi dechrau mewn perthynas â nifer o'r argymhellion hyn, ac rwy'n rhagweld y byddaf yn darparu ymatebion manylach i'r pwyllgor maes o law.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich barn ar y Bil hwn. Rydyn ni wedi aros 20 mlynedd am y diwygiadau hyn a dwi'n credu eu bod yn helpu i greu Senedd i Gymru a fydd yn addas i'r diben am yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt. Diolch yn fawr.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y prynhawn yma glywed y bydd Ceidwadwyr Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) heno.
Mae angen mwy o feddygon, nyrsys, deintyddion ac athrawon ar Gymru, does dim angen mwy o wleidyddion arni. Ac mae'n drueni mawr, Llywydd, gweld amser, egni ac adnoddau Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn canolbwyntio ar ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn arwain at gynnydd rhyfeddol o 60 y cant yn nifer Aelodau Senedd Cymru pan allem fod yn trafod materion sy'n bwysicach i bobl Cymru, fel helpu cleifion i gael mynediad at feddygon, deintyddion, profion a thriniaeth, codi safonau gwael yn ein hysgolion a darparu swyddi â chyflogau gwell i weithwyr yng Nghymru. Dyma flaenoriaethau pobl Cymru a dylen nhw fod yn flaenoriaethau i ni fel eu cynrychiolwyr etholedig hefyd.
Dydw i erioed wedi cnocio ar ddrws yng Ngorllewin Clwyd, neu Ogledd Clwyd—. Pan wyf wedi siarad â'r cyhoedd, dydyn nhw erioed wedi dweud mai eu blaenoriaethau nhw yw gweld mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd. Yn hytrach, maen nhw'n dweud wrthyf eu bod am weld camau i ddarparu gwell ysgolion, ysbytai, ffyrdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rwyf wedi clywed y rhai sy'n cynnig diwygio'r Senedd yn dweud y gallwn ni fynd i'r afael â'r holl faterion eraill hyn, yr holl flaenoriaethau eraill hyn, ac ehangu maint y Senedd ar yr un pryd, ond nid yw hynny'n wir, oherwydd bydd costau Senedd fwy o faint a mwy o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn rhedeg i ddegau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn, ac mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd na fyddwn yn gallu eu buddsoddi yn ein hysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Llywydd, Bil Llywodraeth Cymru yw'r Bil sydd ger ein bron heddiw, nid Bil y Senedd, fel y mae'r Gweinidog wedi ceisio ei gyflwyno. Mae'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhaglen ddiwygio sy'n deillio o gytundeb rhwng cyn-arweinydd Plaid Cymru a chyn-arweinydd Llafur Cymru yn fuan heb aros am ganlyniad gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, gan ddwyn anfri ar y Senedd y maen nhw'n honni eu bod am gryfhau. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori ymlaen llaw ag Aelodau o'r naill grŵp gwleidyddol perthnasol, ac, yn bwysicach fyth, wrth gwrs, ni chafwyd ymgynghori ag aelodau'r cyhoedd chwaith.
Llywydd, dylid ond gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff Aelodau'r Senedd hon eu hethol gyda chaniatâd y cyhoedd yr ydym yma i'w wasanaethu, ac eto nid oes unrhyw fandad cyhoeddus o gwbl ar gyfer y newidiadau a gynigir yn y Bil hwn. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod nad yw'r mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn cefnogi cynyddu maint y Senedd; cafodd hynny ei gadarnhau gan dystiolaeth a gasglwyd gan bwyllgor diwygio'r Senedd. Cawsom lwyth o ohebiaeth gan y cyhoedd yn gwrthwynebu'r Bil sydd ger ein bron heddiw, o'i gymharu â dim ond rhywfaint bach o gefnogaeth gan y cyhoedd a ddaeth i law drwy ohebiaeth. Ac roedd hyd yn oed y rhai a oedd o blaid diwygio'r Senedd yn cydnabod, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r dadleuon o blaid Senedd fwy o faint i'r cyhoedd, eu bod yn parhau i fod yn anargyhoeddedig o'r angen i newid.
Mae ASau Llafur a Phlaid wedi bod yn hawlio bod mandad ar gyfer y newidiadau arfaethedig. Maen nhw'n dweud bod y cyfeiriadau niwlog yn eu maniffestos at ddiwygio'r Senedd yn rhoi'r cwmpas angenrheidiol iddyn nhw gyflwyno'r pecyn hwn o fesurau. Ond nid yw hynny'n wir o gwbl, onid yw? Nid oedd maniffesto'r Blaid Lafur, cyn etholiadau diwethaf y Senedd, yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at gynyddu nifer Aelodau'r Senedd. Nid oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at newid y system bleidleisio, ac nid oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at ddileu cyfleoedd i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Fe wnaeth maniffesto Plaid gyfeirio o leiaf at Senedd fwy o faint a newid i'r system bleidleisio, ond nid y newid a gynigiwyd drwy'r Bil penodol hwn, ac ni wnaethant sôn am gynnydd o 60 y cant ym maint y Senedd chwaith. Ni soniodd neb am y system bleidleisio rhestrau caeedig hon sydd wedi'i chynnig yn y Bil. A gadewch i mi fod yn glir: mae hon yn system sy'n gyfystyr ag ymgais gan bleidiau gwleidyddol i gipio pŵer, gan gymryd pŵer oddi wrth y pleidleiswyr a'u hatal rhag gallu pleidleisio dros ymgeisydd o'u dewis. [Torri ar draws.] Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.
Pwy a'ch dewisodd chi i fod yn ymgeisydd? Ai'r cyhoedd neu'ch plaid wleidyddol? Sut mae hyn yn wahanol i'r ffordd y caiff ymgeiswyr eu dewis ar hyn o bryd?
Y peth gwych am y system bleidleisio bresennol yw, os nad yw aelodau'r cyhoedd yn hoffi'r dewis a wneir o ran yr ymgeisydd a ddewisir gan fy mhlaid wleidyddol, nid oes rhaid iddynt bleidleisio drosof. Dyna'r gwahaniaeth. Efallai eich bod am gymryd pŵer oddi wrth bobl Cymru. Dydyn ni ddim, a byddwn ni'n eu hamddiffyn i'r eithaf. Mae'r gallu i bleidleisio dros berson ac nid plaid yn unig yn gwbl hanfodol. Mae'n sicrhau bod atebolrwydd uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr etholedig a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu. Mae diddymu system bleidleisio sy'n caniatáu'r dewis hwnnw o blaid un sy'n rhoi pwerau enfawr i bleidiau gwleidyddol benderfynu pwy sy'n cael eu hethol a phwy sydd ddim yn arwain at Senedd lle mae teyrngarwch i'ch plaid wleidyddol yn bwysicach na'ch teyrngarwch i'ch etholwyr, ac a dweud y gwir, bydd yn ddinistriol i ddemocratiaeth Cymru. Bydd hefyd—[Torri ar draws.] Os byddwch chi'n caniatáu i mi gymryd ymyrraeth, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi gyfaddef bod arweinydd eich plaid eich hun yma wedi cael ei ddewis trwy system restr gan aelodau ei blaid ei hun.
Mae'r bobl yn fy etholaeth i yn cael cyfle i bleidleisio dros berson unigol, ac wrth gwrs mae ganddyn nhw bleidlais dros blaid wleidyddol ar restr. Ond mae ganddyn nhw bleidlais. Pawb yn y wlad hon—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych chi eisiau gwrando, ond os byddwch chi'n caniatáu i mi ymateb—
Gadewch i Darren Millar barhau.
Y gwir amdani yw y gall pawb yng Nghymru ar hyn o bryd mewn etholiad Senedd bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Rydych chi am fynd â'r gallu hwnnw oddi wrthyn nhw.
Bydd y system sydd ger ein bron hefyd yn darparu Senedd Cymru lai cynrychioliadol oherwydd bod angen i ymgeiswyr sicrhau 12 y cant o'r bleidlais mewn etholaeth unigol er mwyn sicrhau un sedd. Rydych chi'n ceisio dadlau y bydd yn fwy cynrychioliadol, ac eto mae'r pleidiau llai hynny, y mae un ohonyn nhw'n cael ei chynrychioli yn y Senedd ar hyn o bryd ond efallai na fydd yn y dyfodol, yn mynd i ddioddef o ganlyniad i hynny, ac rydych chi'n mynd i dawelu eu pleidleiswyr. Felly, nid oes unrhyw fandad cyhoeddus ar gyfer y newidiadau hyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod rhai aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill yn credu bod cefnogaeth gan y cyhoedd, felly dywedaf hyn wrthych: os felly, gadewch i ni gael refferendwm. Gadewch i bobl Cymru ddewis a ddylid cymeradwyo'r system erchyll hon i ethol pobl i'r Senedd hon ai peidio, a gallaf ddweud wrthych pa fysedd y byddan nhw'n eu defnyddio i'ch cyfarch mewn ymateb.
Roeddwn i mor awyddus i alw Darren Millar nes i mi anghofio galw Cadeiryddion y tri phwyllgor, oedd i fod i gael eu galw'n gyntaf. Ymddiheuraf i'r tri. David Rees, Cadeirydd pwyllgor y Bil.
Diolch, Llywydd. Cyn i mi ganolbwyntio ar adroddiad y pwyllgor, hoffwn ddiolch i'r tystion a roddodd dystiolaeth, ac i'r unigolion hynny a gymerodd amser i gyflwyno barn ysgrifenedig i'r pwyllgor. Cafodd popeth a glywsom ac a ddaeth i law ei ystyried wrth ddod i'n casgliadau. Hoffwn hefyd fynegi diolch y pwyllgor i'r tîm clercio a'n cefnogodd, oherwydd heb eu hymroddiad a'u hymrwymiad nhw, ni allem fod wedi ymgymryd â'r gwaith hwn a chynhyrchu'r adroddiad i chi ei ystyried heddiw.
Llywydd, cafodd y pwyllgor y dasg o graffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), neu, fel y mae llawer ohonom yn cyfeirio ato, Bil diwygio'r Senedd, yng Nghyfnod 1. Ni ofynnwyd i ni ystyried a oedd angen diwygio'r Senedd, na ffurf y diwygio hwnnw. Roedd pwyllgorau blaenorol y Senedd hon a Seneddau cynharach wedi ystyried y materion hynny. Gofynnwyd i ni ystyried y Bil y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno, ac a oedd y Bil hwnnw'n cyflawni'r cynigion diwygio a fyddai'n sicrhau gwell craffu democrataidd i bobl Cymru, a fydd yn arwain at ddemocratiaeth iachach yng Nghymru.
Gyda'r cylch gwaith hwn yn glir, gwnaethom ymgymryd â'r gwaith craffu gyda'r bwriad o wneud sylwadau ynghylch a ydym yn credu y dylai'r Bil symud ymlaen ac, os felly, sut y gellid ei wella i gryfhau iechyd democrataidd ein cenedl, gan gydnabod bob amser y ffaith y byddai newidiadau cyfansoddiadol o'r fath yn gofyn am gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Senedd hon. Wrth wneud hyn, fe wnaethom atgoffa'n hunain, fel Aelodau o'r Senedd, ein bod yn cael ein hethol i weithio dros y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli a gyda nhw. Ein gwaith ni yw sicrhau bod buddiannau ein cymunedau ym mlaenau ein meddyliau pan fyddwn ni'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a phan fyddwn ni'n ceisio gwella penderfyniadau polisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant drwy waith craffu cadarn ac effeithiol.
Mae angen i ni fod yn hyderus y bydd y strwythurau a fydd ar waith yn caniatáu i'r craffu manwl hwnnw ddigwydd. Ac yn erbyn cefndir o newid parhaus, mae'r Senedd a'i Haelodau wedi dod o hyd i ffyrdd o weithio'n wahanol ac yn fwy effeithlon, ond wrth wneud hynny rydym yn aml wedi gweld gallu sefydlog y Senedd yn cael ei ymestyn i'r eithaf. Mae'r Bil hwn gan Lywodraeth Cymru yn garreg filltir allweddol yn natblygiad y Senedd, ac yn natblygiad democratiaeth yng Nghymru, yr ydym i gyd yn ei gwerthfawrogi cymaint. Mae'r Bil yn cwmpasu ystod eang o ddiwygiadau, ac mae'r pwyllgor wedi archwilio'r rhain yn fanwl, sydd wedi ein galluogi i ddod i'n casgliadau.
Yn dilyn ein gwaith craffu, gwnaethom gyhoeddi adroddiad, a oedd yn cynnwys 50 o argymhellion, a'r cyntaf oedd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor wedi'u darbwyllo gan y dystiolaeth y byddai Senedd ddiwygiedig a mwy o faint yn gallu cyflawni ei chyfrifoldeb yn well i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol. O'r herwydd, gwnaethom argymell bod y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol fel bod y Bil yn gallu symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol. Nodaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio at hynny. Byddwn i wedi synnu pe na bai wedi dweud ei fod yn cytuno â'n penderfyniad. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cytuno â'n penderfyniad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod cefnogaeth ddiamod i holl ddarpariaethau'r Bil. Mae yna elfennau yr ydym yn credu bod angen myfyrio arnynt ymhellach, a dyna pam y gwnaethom argymhellion gwahanol.
Deallais yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n croesawu'n fawr yr argymhellion y mae wedi'u derbyn, ond roedd rhai yr wyf yn dal i feddwl bod angen iddo eu hystyried ymhellach. Yr hyn oedd yn peri'r pryder mwyaf i ni oedd y system etholiadol rhestr gaeedig arfaethedig sydd yn y Bil. Arweiniodd y dystiolaeth a gawsom at bryder ynghylch yr effaith y byddai'n ei chael ar ddewis pleidleiswyr, a'r graddau y bydd yn cyfrannu at ddemocratiaeth iach yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod bod y system hon yn cael ei defnyddio eisoes i ethol Aelodau rhanbarthol i'r Senedd, mae yn newid y berthynas sydd gan bleidleiswyr ag unigolyn a enwir y maent wedi pleidleisio drosto yn y system cyntaf i'r felin bresennol.
Nid yw'r pwyllgor wedi dod i gasgliad ynghylch pa system etholiadol y dylid ei defnyddio, er ein bod wedi clywed tystiolaeth am restrau hyblyg a'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac yn credu y gallai'r naill system neu'r llall fynd rhywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r pryderon yr ydym wedi'u clywed am ddewis pleidleiswyr, atebolrwydd a dylanwad pleidiau ar y rhestrau. Rydym yn annog pob plaid wleidyddol yn y Senedd i gydweithio er mwyn sicrhau bod y system sy'n cael ei chyflwyno yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwella atebolrwydd i etholwyr yn y dyfodol.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi ffyrdd eraill o wella'r Bil er mwyn sicrhau bod democratiaeth Cymru yn parhau i fod yn flaengar ac yn iach, gan gynnwys, er enghraifft, addasiadau o ran nifer comisiynwyr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth; newidiadau technegol, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u derbyn; a ffyrdd ymarferol o roi'r anghymhwysiad preswylio newydd ar waith ar gyfer ymgeiswyr ac Aelodau. Rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn un o'r rheini hefyd. Rydym hefyd am weld newidiadau i adran 5 y Bil, ynghylch maint Llywodraeth Cymru. Gwrandawais ar yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol, a deallais ei ddadl ar GOWA, ond rwy'n dal i feddwl, ac rydym yn credu, ei bod yn bwysig nad ydym yn defnyddio pwerau rheoleiddio yn unig—y dylid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol os ydych yn dymuno cynyddu nifer Gweinidogion Cymru.
Roedd mwyafrif o aelodau'r pwyllgor yn credu y dylai newidiadau o'r fath gael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ac felly rydym yn galw ar i'r pwerau rheoleiddio hynny gael eu dileu ac ar i'r Cwnsler Cyffredinol ailystyried y sefyllfa honno. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen iddo gryfhau'r broses, ac mae wedi derbyn y mwyafrif o ddwy ran o dair, ond rydym yn dal i ofyn iddo fynd yn ôl i feddwl am yr ateb deddfwriaethol sylfaenol fel yr argymhellir.
Mae gennym bryderon hefyd am adrannau 7 a 19 yn y Bil, y mae'r Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, wedi'u gwrthod, fel y nodwyd ganddo, oherwydd credwn fod y gofyniad i osod rheolau ar Lywydd yn y dyfodol i gyflwyno cynigion i gynnig sefydlu pwyllgorau i wneud gwaith penodol—rydym yn poeni am y gofynion hynny. Rydym yn credu, er enghraifft, bod adran 7 yn gohirio gwaith pellach ar rannu swyddi yn ddiangen—pam na allwn ni ddechrau hynny nawr? Does dim rhaid i ni roi cynnig i'r Senedd nesaf ar gyfer hynny? Ac nid yw adran 19 yn gyson â darpariaethau adolygu cyfraith etholiadol eraill sy'n gosod dyletswyddau ar lywodraethau. Byddai hefyd yn gosod cyfyngiadau sylweddol ar yr amserlen ar gyfer gwaith unrhyw bwyllgor. Rydym hefyd wedi clywed pryderon am egwyddor y darpariaethau hyn, yn enwedig y graddau y mae'n briodol i'r Senedd hon rwymo ei holynwyr. Fel Senedd aeddfed, rhaid i'r Senedd fod â'r hyblygrwydd i bennu ei strwythurau ei hun a sut mae'n defnyddio'r gallu hwnnw i graffu, a dyna pam roeddem yn teimlo bod adrannau 7 a 19 yn broblematig o safbwynt cyfansoddiadol.
Llywydd, rydym hefyd wedi ystyried rhai materion nad ydynt o fewn y Bil, gan gynnwys sut y gall etholwyr ddwyn Aelodau i gyfrif, ac rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sôn am adalw. Rydym yn credu bod y rheini'n gwestiynau pwysig y mae angen eu codi, ond rydym hefyd yn deall pa mor gymhleth yw cymhwyso'r model presennol mewn system rhestr gaeedig. Awgrymodd y comisiynydd safonau fod lle i gryfhau'r trefniadau anghymhwyso a'r sancsiynau i Aelodau sy'n torri'r cod ymddygiad. Felly, credwn y dylai'r Aelodau fod yn atebol, ac mae'r rhain yn gymhleth, ond rydym yn gofyn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad edrych ar y materion hyn ymhellach i ddatblygu hynny ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Yn olaf, cofiwn, os caiff y Bil hwn ei basio, fod cyfrifoldeb ar bob Aelod o'r Senedd a'n holynwyr sydd i ddod i sicrhau bod gan bobl yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli hyder yng nghadernid ac uniondeb etholiadau'r Senedd, a bod y manteision posibl a'r canlyniadau gwell y mae'r Bil hwn yn eu haddo yn cael eu cyflawni'n ymarferol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n hyrwyddo'r ddealltwriaeth hon o gymhlethdod y Bil a'r angen i sicrhau bod pobl yn dod gyda ni, oherwydd mae'n bwysig bod gan bobl yr hyder hwnnw yn yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Llywydd, i gloi, hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor, yn enwedig Jane Dodds a Llyr Gruffydd, a gymerodd le Heledd Fychan yn ystod yr ystyriaeth derfynol, am y ffordd gadarnhaol, hawddgar ac adeiladol y cynhaliwyd ein gwaith. Rwy'n gobeithio y bydd ein gwaith a'r adroddiad a gynhyrchwyd yn helpu'r Aelodau wrth iddynt ystyried y Bil yn y cyfnod hwn ac mewn cyfnodau yn y dyfodol, os caiff ei basio heddiw. Diolch yn fawr.
Alun Davies nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd. Fel Aelodau eraill, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i staff ac ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith y gwnaethon nhw wrth gyflwyno'r adroddiad hwn. Ar gyfer y cofnod, ac ar gyfer yr Aelodau hynny yma nad ydynt yn ymwybodol o'r materion hyn, ymgymerais â chadeiryddio'r pwyllgor dros dro er mwyn craffu ar y Bil hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Carolyn Thomas a Luke Fletcher am gamu i'r adwy fel eilyddion i Huw Irranca-Davies ac Adam Price i wneud y gwaith hwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn fel pwyllgor i'r ddau ohonoch am hynny.
Llywydd, fe wnaeth ein hadroddiad ar y Bil lunio pedwar casgliad a gwnaeth 14 o argymhellion. O ystyried arwyddocâd y Bil, daethom i'r casgliad y dylid bod wedi dod o hyd i le o fewn yr amserlen i baratoi a cheisio barn ar Fil drafft. Mae craffu cyn deddfu o'r fath yn arbennig o bwysig ar gyfer Biliau o'r math hwn. Byddai wedi rhoi cyfleoedd i Aelodau a phwyllgorau'r Senedd ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ystyried yn gynnar sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn cynnig troi amcanion polisi yn gyfraith. Yn ein barn ni, mae'n hanfodol cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol. Byddai Bil drafft wedi bod o gymorth mawr yn y broses hon.
Ar adran 5 o'r Bil, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi gwrthod barn mwyafrif y pwyllgor y dylid dileu adran 5(b). Pe byddai wyneb y Bil yn nodi uchafswm nifer Gweinidogion Cymru fel 19, byddai hyn yn dileu'r angen am bŵer i wneud rheoliadau i newid y ffigur o 17 i 18 neu 19 ar ryw adeg yn y dyfodol. Byddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd, ond mewn ffordd fwy priodol.
Ar adrannau 7 a 19, mynegodd ein hadroddiad bryder bod Bil y mae ei nodau'n cynnwys cynyddu dyfnder gwaith craffu'r Senedd a'i allu i ddwyn Llywodraeth Cymru y dydd i gyfrif yn ceisio dylanwadu ac o bosibl cyfyngu ar system pwyllgorau'r seithfed Senedd. Dylai hynny fod yn fater i'r Senedd honno ei benderfynu. Mae Llywodraeth Cymru, yn adrannau 7 a 19, yn gofyn i'r chweched Senedd basio deddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswyddau ar y seithfed Senedd a rhwymo Llywydd y Senedd honno. Wrth wneud hynny, mae'n torri'r egwyddor na ddylai Deddf Seneddol atal rhyddid gweithredu Senedd yn y dyfodol. Nid ydym yn ystyried bod darpariaethau o'r fath yn briodol yn gyfansoddiadol.
Tynnodd ein hadroddiad sylw hefyd at faterion eraill gyda'r adrannau hyn. Er enghraifft, ar adran 7, nodwyd nad oes sicrwydd y bydd y gwaith datblygu polisi a wneir gan bwyllgor—gwaith sydd, ar y cyfan, yn fater i'r Llywodraeth—yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, gan gwestiynu'r defnydd o adnoddau'r Senedd y byddai'n well eu defnyddio ar graffu a dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rydym felly yn argymell, Llywydd, y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ystyried priodoldeb cyfansoddiadol adrannau 7 a 19 ac a ddylid eu cynnwys yn y Bil.
Nid yw esboniad y Cwnsler Cyffredinol dros gadw'r adrannau hyn, sef eu bod yn debyg i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n gosod dyletswydd ar y Llywydd i benderfynu a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio, mae arna'i ofn, yn ddarbwyllol. Mae'r Senedd yn greadur statud. I basio deddfwriaeth, mae Deddf 2006 yn gosod dyletswyddau parhaol ar Lywydd y Senedd fel bod y Senedd yn gallu cyflawni ei rôl ddemocrataidd i ddeddfu. Nid yw hynny'n cyfateb mewn unrhyw ffordd i'r hyn a gynigir yn adrannau 7 a 19 y Bil. Rwyf hefyd yn nodi cyfiawnhad y Cwnsler Cyffredinol dros gadw adran 19 ar y sail bod y Bil yn deillio o bwyllgor pwrpas arbennig. Fodd bynnag, nid yw adran 19 ei hun yn seiliedig ar argymhelliad y pwyllgor hwnnw.
Yn ein barn ni, gellid gwneud gwaith craffu ôl-deddfwriaethol heb fod angen adran 19. Er enghraifft, gallai unrhyw bwyllgor perthnasol o'r seithfed Senedd gytuno i wneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf, gan osod ei gylch gwaith a'i amserlen ei hun ar gyfer ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Rydym hefyd wedi dod i'r casgliad yn ein hadroddiad mai Bil Llywodraeth yw hwn, yn ei hanfod, ac nad oes unrhyw reswm pam na ellid gosod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i adrodd ar weithrediad ac effaith eu deddfwriaeth eu hunain o fewn cyfnod penodol o amser, fel sy'n ymddangos yn aml mewn Deddfau eraill y Senedd.
Llywydd, rydych wedi caniatáu imi wneud rhai sylwadau personol ar ddiwedd y cyfraniad hwn, ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Gan siarad felly, yn bersonol, gadewch imi ddweud hyn: rwyf wedi gwrando ar y ddadl hon ac rwyf wedi mwynhau gwrando a chyfrannu at y sgyrsiau yr ydym wedi'u cael ar draws y lle hwn. Rwyf hyd yn oed wedi mwynhau cyfraniadau Darren Millar. [Chwerthin.] Rwy'n credu, weithiau, ein bod yn colli rhywbeth yn y ddadl hon. Wyddoch chi, rwyf wedi gwrando a chymryd rhan yn y dadleuon hyn bron ers i Kilbrandon gyhoeddi ei adroddiad yn 1973? Ro'n i yn ysgol iau Dukestown ar y pryd; roedd gen i lawer iawn o ddiddordeb. Ond gadewch imi ddweud hyn: rydym wedi trafod y materion hyn am gyfnod rhy hir efallai. Rydym wedi trafod yn rhy hir o bosibl am natur ein democratiaeth. Mae angen i ni bleidleisio ar y materion hyn ac mae angen i ni symud ymlaen.
Gadewch imi ddweud hefyd: eisteddais ar archwiliad y Pwyllgor Cyllid o gostau'r diwygiad hwn. Clywsom farn Darren ar rai o'r materion hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud na wnaeth llawer o'r dadleuon a'r dystiolaeth o'r costau a roddwyd o'n blaenau greu argraff arnaf na fy mherswadio. Nid oedd gwaith craffu y Pwyllgor Cyllid yn dangos bod llawer o'r costau a gyflwynwyd, mewn unrhyw ffordd, yn rhai go iawn, ac rwy'n credu bod angen i ni edrych eto ar rai o'r materion hynny. Ond rwy'n credu, mewn ymdrechion i fesur y gost bosibl, ein bod ni fel pe baem wedi colli golwg ar pam rydyn ni yma.
Rwy'n gwrando ar yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud ar y materion hyn. Gwrandawais ar Darren yn siarad am oesoedd am faint nad oedd yn dymuno cefnogi gwleidyddion ychwanegol—mae gennym ni ormod o wleidyddion, does dim angen mwy. Yr hyn oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd, 'Ydy e wedi cael y sgwrs hon gyda'r Arglwydd Cameron? A yw e wedi cael y sgwrs hon gydag aelodau teulu Boris Johnson? A yw wedi cael y sgwrs hon gyda'r holl roddwyr a'r cronies a'r ffafrgarwyr sydd bellach yn poblogi'r meinciau coch yn Llundain?' Ac wrth gwrs, yr ateb yw, 'Na, dydy e ddim.' Ac mae'n eistedd yn y fan yna gyda'i holl ffrindiau sydd wedi cefnogi—[Torri ar draws.]—o, dyma ni; rhowch eiliad i mi—pwy sydd wedi cefnogi creu'r ddeddfwrfa fwyaf yn y byd yn Llundain, yn fwy na Phlaid Gomiwnyddol Tsieina, heb ddweud gair.
Fy marn i yw bod angen diwygio Tŷ'r Arglwyddi, Alun. Does gen i ddim problem o ran dweud hynny, ac rwy'n credu ei fod yn rhy fawr, ac mae gennym ni ormod o arglwyddi nad ydyn nhw'n gweithio ac sy'n dal â hawl i eistedd yn y lle hwnnw. Mae hynny'n anghywir ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Ond nid yw dau gamgymeriad yn gwneud un iawn, ac rydyn ni mewn perygl o wneud camgymeriad ofnadwy yma cyn belled ag y mae democratiaeth yng Nghymru yn y cwestiwn, yn enwedig gyda'r system bleidleisio rhestr gaeedig hon.
Ocê. Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw ymwreiddio a dyfnhau democratiaeth, ac mae hynny'n bwysig. Yr hyn sy'n digwydd yn Llundain yw democratiaeth sy'n cael ei thanseilio drwy greu arglwyddi anetholedig ar sail rhoddion i'r Blaid Geidwadol. Mae hynny yn sarhad sylfaenol ar ddemocratiaeth. Ni ddylai ddigwydd a dylech fod yn cefnogi'r ddemocratiaeth yn y lle hwn.
Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Mae gormod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol, iawn, digon teg. [Chwerthin.] Ond does dim un o'r bobl hyn byth yn beirniadu'r costau sy'n cael eu hachosi yn San Steffan yn Llundain. Dydyn nhw byth yn beirniadu creu gwleidyddion newydd yn Llundain. Dydyn nhw byth yn beirniadu—[Torri ar draws.] Dydyn nhw byth yn beirniadu—[Torri ar draws.] Dydyn nhw byth yn beirniadu afradlonrwydd Llywodraeth y DU. Dim ond dyfnhau democratiaeth yng Nghymru y maen nhw'n ei feirniadu, oherwydd, yn y bôn, dydyn nhw ddim yn hoffi democratiaeth Cymru, a dydyn nhw ddim yn poeni am ddemocratiaeth Cymru. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae'n bwysig iawn i mi felly ni fyddaf yn eich galluogi chi i danseilio ein democratiaeth ni.
Rwyf hefyd yn credu—ac mae hyn yn bwysig hefyd—rwy'n credu mewn gwirionedd yn y system STV, y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Rwy'n credu bod STV yn grymuso pobl ac yn darparu democratiaeth deg ac atebol. Mae'n llawer gwell na'r cyntaf i'r felin ac mae'n llawer gwell na'r rhan fwyaf o systemau eraill. Rwy'n edrych ymlaen at fod â Llafur mewn Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn cyflwyno STV i weddill y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen, ar ryw adeg yng Nghymru, i ni gyflawni STV yma yng Nghymru hefyd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod—a dyma'r rhan anodd—bod cyflawni newid yn golygu cyfaddawdu, ac, i mi, y cyfaddawd mawr a wnaf yn bersonol wrth gefnogi hyn yw peidio â gwthio ymhellach ar STV. Rwy'n credu mai STV—rwy'n credu'n angerddol mai STV yw'r ffurf fwyaf atebol o Lywodraeth a democratiaeth ac mae angen i ni geisio gwneud hynny. Ond rwy'n gobeithio mai'r hyn y gallwn ni ei wneud heddiw yw symud ymlaen i system gyfrannol a fydd yn ein galluogi ni i gynrychioli pobl mewn etholaethau ar hyd a lled y wlad ond hefyd i ddarparu Llywodraeth atebol yma yng Nghymru. Llywydd, byddaf yn gorffen trwy ddyfynnu—[Torri ar draws.]—drwy ddyfynnu Margaret Thatcher. [Torri ar draws.] Margaret Thatcher—[Torri ar draws.] Dywedwyd bod Margaret Thatcher yn gwybod pris popeth a gwerth dim. Nid yw'r Torïaid heddiw wedi dysgu dim ers hynny.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. A dwi’n croesawu’r cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw ar ddyfodol y Senedd. Yn ogystal â diolch i swyddogion y Senedd sydd wedi cefnogi’r pwyllgor wrth drafod y Bil yma, hoffwn i hefyd ddiolch i ymgynghorydd arbenigol y pwyllgor, Ailsa Henderson, gan fod ei harbenigedd a'i gwybodaeth am systemau a ffiniau etholiadol wedi rhoi cyd-destun hanfodol er mwyn llywio ein gwaith.
Mae ein hadroddiad yn gwneud 16 o argymhellion. Rwyf hefyd yn falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn mwyafrif ein hargymhellion a bod y gwaith wedi dechrau ar edrych ar rai o’r rhain efo’r Comisiwn ac eraill. Fodd bynnag, dywed ei ymateb bod rhai o'r argymhellion yn faterion i Gomisiwn y Senedd, er bod y pwyllgor wedi nodi'n benodol ei ddisgwyliad mai mater i'r Aelod sy’n gyfrifol yw darparu'r ffigurau hyn, mewn ymgynghoriad â'r Comisiwn.
Er ein bod yn derbyn bod y Bil hwn yn anarferol, gan fod mwyafrif y costau yn disgyn ar gorff heblaw Llywodraeth Cymru, teimlwn fod anfodlonrwydd y Gweinidog, fel yr Aelod sy’n gyfrifol, i gymryd y cyfrifoldeb arweiniol am y costau hyn rhywfaint yn siomedig.
Gan droi at brif ganfyddiadau'r pwyllgor, rydym yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil, fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, mae gan y pwyllgor bryderon ynghylch rhai o'r rhagdybiaethau a ddefnyddir i fodelu'r amcangyfrifon a gyflwynir yn yr asesiad hwnnw a nod ein hargymhellion yw gwella a chynyddu tryloywder costau ac arbedion posibl.
Rydym yn croesawu honiad y Cwnsler Cyffredinol y byddai cynnydd yn y Senedd yn arwain at graffu gwell ar gyllidebau a deddfwriaeth, materion sy'n agos at galon y Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag, rydym yn siomedig na chafodd amcangyfrifon manwl o arbedion eu cynnwys.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn honni bod y Bil yn fuddsoddiad mewn democratiaeth ac y bydd yn talu amdano'i hun. Er ein bod yn derbyn bod craffu gwell yn arwain at ganlyniadau gwell, dylid bod wedi gwneud ymdrechion gwell i feintioli'r manteision craffu. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Cwnsler Cyffredinol yn modelu'r arbedion disgwyliedig o ganlyniad i'r Bil i fesur effaith manteision craffu. Er ein bod yn croesawu ei barodrwydd i asesu'r arbedion posibl, mae'n drueni na wnaed gwaith o'r fath cyn cyflwyno'r Bil, o gofio bod y cynigion hyn wedi bod ar y gweill am flynyddoedd lawer.
Nodaf sicrwydd y Cwnsler Cyffredinol, mewn ymateb i argymhelliad 12, na fydd angen staff Llywodraeth Cymru ychwanegol, oni bai bod newid mewn cyfrifoldebau datganoledig. Fodd bynnag, nid ydym yn argyhoeddedig o hyd ac rydym yn credu y bydd yn anodd cynnal lefelau cymorth gweinidogol o fewn yr adnoddau presennol os bydd nifer Gweinidogion Cymru yn cynyddu ac rydym yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych yn fanylach ar hyn eto.
Gan droi yn awr at argymhellion eraill sydd â'r nod o wella eglurder amcangyfrifon cost, mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai creu etholaethau mwy, ar gyfartaledd, fod â goblygiadau ariannol i gostau teithio a llety yr Aelodau. Rydym wedi argymell ailasesu'r costau gan ddefnyddio ystod yn hytrach na chostau cyfartalog yr Aelodau presennol, sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol lai, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i derbyn mewn egwyddor.
Yn ogystal, gallai cynnydd mwy yn nifer y pwyllgorau, uwchlaw tri fel y cyfrifir amdanynt yn y Bil, efelychu'r angen i Aelodau eistedd ar sawl pwyllgor ac felly gallai amharu ar yr enillion craffu a wneir yn bosibl gan Aelodau ychwanegol. Mae argymhelliad 5 yn galw am wneud mwy o waith modelu i ddeall y manteision craffu a'r effaith y byddai cynnydd yn nifer y pwyllgorau yn ei gael. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i drafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn ac rydym yn annog y gwaith hwn i gael ei wneud i sicrhau bod manteision craffu yn cael eu gwireddu, ac mae wedi cadarnhau bod rhywfaint o'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn dynnu sylw at ein hargymhellion yn ymwneud â chostau adolygiadau ffiniau yn y dyfodol. Bydd adolygiadau a gynhelir ar ôl yr ymarfer paru cychwynnol ar gyfer etholiad 2026 yn cael eu llunio fel nad oes unrhyw etholaeth newydd 10 y cant dros neu o dan gydraddoldeb etholiadol. Gall hyn fod yn fenter gymhleth a all arwain at newid sylweddol ac arwain at gostau uwch. Rwyf yn ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am gytuno i ddarparu diweddariad ar gostau unwaith y bydd yr holl newidiadau perthnasol i ffiniau wedi’u cwblhau, er mwyn galluogi’r pwyllgor neu bwyllgor cyllid yn y dyfodol i ddeall effaith ariannol lawn y Bil.
Llywydd, ein gwaith ni fel pwyllgor yw sicrhau bod yr amcangyfrifon costau a gyflwynir ynghyd â'r holl ddeddfwriaeth a gyflwynir yn y Senedd mor gadarn a chywir â phosib. Rydym yn fodlon â'r costau a gyflwynir ochr yn ochr â'r Bil nodedig hwn, ond credwn fod angen 'fine-tune-io' i sicrhau tryloywder llawn. Diolch yn fawr.
Rydyn ni’n nodi heddiw cam arall yn nhaith y Bil yma, sydd hefyd yn gam mawr i Gymru. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar bwysigrwydd y Bil yma.
Mae’r darpariaethau ynddo fo, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn gam pendant, a hir ddisgwyliedig, tuag at greu Senedd sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well ac yn creu Senedd go iawn i Gymru fydd yn gryfach, yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychioliadol o’n cenedl ni ymhob ystyr, a hyn mewn lle erbyn 2026.
Mi fydd hyn yn sicrhau chwarae teg i Gymru o ran nifer yr Aelodau yn ein Senedd ni. Pam ddylem ni fodloni ar gael Senedd fach annigonol o’i gymharu efo gwledydd o faint cyfatebol? Pam na fedrwn ni fynnu'r gorau i Gymru o ran democratiaeth?
Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol—a pheidiwch â gadael i neb ddweud fel arall—oherwydd Cymru fydd y ddeddfwrfa genedlaethol gyntaf ym Mhrydain i gael gwared yn llwyr ar system etholiadol cyntaf i’r felin. Ystyriwch pa mor annemocrataidd ydy'r sefyllfa bresennol lle gall rywun gael eu hethol i fwyafrif y seddau yn y Senedd yma efo’r mwyafrif wedi pleidleisio yn eu herbyn nhw.
Mi fydd y Bil hefyd yn hwyluso cyflwyno cwotâu rhywedd statudol i osod yr addewid o Senedd fwy cynrychioliadol wrth wraidd y sefydliad ar ei newydd wedd. Datblygiad hynod o arwyddocaol a radical arall, ac mi fyddaf yn edrych ymlaen at weld y Bil rhestrau ymgeiswyr etholiadol yn cael ei gyflwyno yn fuan iawn, gan ei bod yn bwysig wrth gwrs i’r Senedd allu ystyried y ddau Fil ochr yn ochr. Wrth ehangu’r Senedd, y peth olaf rydyn ni am ei weld ydy ailbobi neu ail-greu sefyllfa lle mae merched ydy’r mwyafrif tan gynrychioledig yn y lle yma. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb efo'r cyfle i fod yn cynrychioli eu cymunedau yma a chael Senedd sydd yn wirioneddol gynrychioli Cymru.
Mae’r Bil yn darparu mecanwaith, fel y soniwyd yn gynharach, o ran y mecanwaith adolygu, ac mae'n bendant ein bod ni'n mynd i fod angen hynny. Bydd yna waith pellach i’r Senedd nesaf ei wneud tuag at gyflwyno rhannu swyddi. Mae'n rhaid inni gofio mai democratiaeth ifanc ydyn ni—25 mlynedd sydd ers yr etholiad cyntaf i'r Siambr hon. Rydyn ni'n parhau yn ddemocratiaeth newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn barod i esblygu fel ein bod ni'n medru gwireddu'r hyn mae pobl Cymru eisiau inni ei wireddu yn y Siambr hon.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o baneli a phwyllgorau a chomisiynau wedi cytuno nad yw ein Senedd wedi’i chyfansoddi yn iawn i wneud y gwaith mae pobl Cymru wedi gofyn iddi hi ei wneud. Bu llawer o drafod hefyd am beth ddylai’r system ddelfrydol fod, ac rydyn ni eisoes wedi clywed barn amrywiol. Rydych chi'n gwybod yn iawn, o ran Plaid Cymru, mai system STV neu restrau cyfrannol agored neu hyblyg y bydden ni yn ei ffafrio, ond y flaenoriaeth ydy sicrhau bod pecyn beiddgar o ddiwygiadau yn eu lle erbyn 2026 a sicrhau bod yr adolygiad wedi hynny yn un gwirioneddol fydd yn galluogi rhagor o newid erbyn 2030.
Gwaith sylwebwyr ac academyddion ydy herio a chynnig dadansoddiad a thynnu sylw at yr arfer orau, a dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Biliau Diwygio. Mi oedd o'n anrhydedd bod yn rhan o'r gwaith hwnnw, ac mi fyddwn i'n hoffi diolch i fy nghyd-aelodau, y Cadeirydd a'r holl staff fu ynghlwm yn cefnogi'r gwaith hwnnw. A diolch yn arbennig i Llyr Gruffydd am gymryd fy lle i dros yr wythnosau diwethaf yma.
Mi ddaeth nifer o themâu pwysig allan ac wedi’u hargymell gan y pwyllgor, gan gynnwys pwysigrwydd sicrhau bod annibyniaeth a llywodraethiant y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru newydd tu hwnt i gwestiwn ac yn ddilychwyn, o ystyried y bydd â’r gair olaf am bennu’r ffiniau heb bleidlais yma. Mae yna nifer o argymhellion penodol gan y pwyllgor yma i gryfhau hyn, ac mi fydd o'n allweddol gweithredu arnyn nhw yng Nghyfnod 2. A dwi'n nodi bod y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol hefyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), ac mi oedd hi'n dda clywed y sylwadau yna.
Mae yna gwestiynau pellach am y cyfarwyddiadau i’r comisiwn, a dwi'n falch bod y Gweinidog yn gwrthod yr argymhelliad i glymu dwylo'r comisiwn o ran cyfyngu ymhellach ar y cwota 10 y cant. Roeddwn i'n falch bod y pwyllgor wedi cytuno hefyd yn unfrydol i osod y fantol o blaid defnyddio enwau Cymraeg ar etholaethau, a bydd angen gwelliannau pellach ar hyn.
Mae’r angen am welliannau mwy technegol i sicrhau does yna ddim canlyniadau anfwriadol o ran y gofyniad preswylio wedi’i grybwyll eisoes, ac mae yna angen am eglurder pellach i’r Senedd ar bwy fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o gydlynu’r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r system etholiadol newydd. Mae yna waith pellach hefyd o ran datblygu polisi a datblygu system yng Nghymru i ddatblygu rhaglenni maniffestos y pleidiau ar gyfer llywodraethu Cymru—hyn oll a mwy i’w barhau yng Nghyfnod 2, heb os.
Ond pan fo’r holl dystiolaeth wedi’i chasglu a phawb wedi cael dweud eu dweud, ein gwaith ni fel Aelodau’r Senedd wrth gwrs, fel deddfwyr, ydy gwneud penderfyniadau. Y penderfyniad sy’n ein hwynebu heddiw ydy pwyso a mesur y pecyn yma a’r egwyddorion sydd wedi eu gosod allan fel y maen nhw. Dwi’n falch iawn, ac yn ei hystyried hi'n anrhydedd, o gael pleidleisio dros barhau taith ein democratiaeth, dros gymryd cam ymlaen, tra'n cadw golwg ar ein huchelgais lawn at y dyfodol. Dwi'n annog pob Aelod i gefnogi'r hyn sydd gerbron, er mwyn Cymru a dros ddemocratiaeth.
A gaf i ddechrau drwy ddweud ei bod hi'n well cael y Bil hwn yn iawn na'i gwblhau yn barod ar gyfer etholiad nesaf y Senedd?
O ran nifer yr Aelodau, yn y 1990au, 80 Aelod oedd y cynnig cychwynnol, ond cafodd hynny ei wyrdroi ar gyfer y 60 Aelod sydd gennym ni heddiw. Mae gan yr Alban 129 o seddi ar gyfer etholaeth o 4,245,000—un Aelod dros bob 32,900 o etholwyr. Mae gan Ogledd Iwerddon 90 Aelod dros etholaeth o 1.3 miliwn—un Aelod ar gyfer pob 15,260 o etholwyr. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 60 Aelod ar gyfer etholaeth o 2,348,000, gan roi 39,140 o etholwyr i bob Aelod. Felly, mae Cymru'n wahanol i'r arfer. Mae gennym ni fwy na'r Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai newid i 96 Aelod yn rhoi 24,464 o etholwyr i bob Aelod, sydd, os edrychwch chi arno, tua hanner ffordd rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, does dim byd anghyffredin amdanom ni'n mynd i fyny i 96.
Ar hyn o bryd mae gennym ni bwyllgorau bach. Rwy'n gwasanaethu gyda Peredur ar y Pwyllgor Cyllid. Mae gennym ni bedwar Aelod: un yn sâl, un wedi'i ddal mewn traffig, does dim cworwm i'r cyfarfod. Bydd unrhyw un sy'n teithio ar hyd yr M4 o'r gorllewin yn ymwybodol iawn o ba mor hawdd yw hi i gael eich dal mewn traffig.
Sut ydych chi'n talu am yr aelodau ychwanegol hyn? Os oes gennych chi fwy o Aelodau, yna bydd angen llai o staff ar y comisiynwyr, fel y comisiynydd plant a'r comisiynydd pobl hŷn, i graffu. Felly, byddai angen cyllidebau llai arnyn nhw.
Byddai'r system rhestr gaeedig bresennol yn golygu mai dim ond rhwng pleidiau a grwpiau y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis rhyngddyn nhw, yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Clywodd y pwyllgor a gadeiriodd David Rees dystiolaeth gan arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau'r dewis sydd ar gael i bleidleiswyr ac yn peryglu creu anfodlonrwydd ac effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio. Roedd y pwyllgor hefyd yn unedig yn eu pryderon am effaith y system bleidleisio sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar lefel gallu pleidleiswyr i ddewis pwy sy'n eu cynrychioli. Mae cael y system etholiadol yn iawn yn hanfodol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac rwy'n cytuno â'r pwyllgor ar eu hamheuon sylweddol am y system rhestr gaeedig.
Os pleidleisir dros y Bil yn ystod ei gyfnod cyntaf—ac rwy'n annog bod hynny'n digwydd—yna mae angen ymgynghori pellach ar y system etholiadol. A allwn ni gymeradwyo popeth ond y system etholiadol? Rwy'n meddwl bod mwyafrif yn y fan yma, mae'n debyg—nad ydw i'n un ohonyn nhw—yn ffafrio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ond rwy'n credu y dylem ni wir edrych ar system wahanol. Mewn democratiaeth, chwarae'r ffiniau yw trin ffiniau etholiadol yn wleidyddol gyda'r bwriad o greu mantais amhriodol i blaid. Rydym ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Pan fo pleidiau eraill yn cyflwyno systemau etholiadol i fel y gallan nhw ennill mwyafrif, mae Llafur yng Nghymru yn cyflwyno un i'w gwneud hi'n anodd ennill mwyafrif.
Rydym ni bellach wedi awgrymu system etholiadol o chwe Aelod ar gyfer pob un o'r 16 etholaeth a grëwyd trwy uno dwy etholaeth seneddol, gydag 16 etholaeth. O dan y cynllun, bydd etholaethau newydd y Senedd yn gyfuniad pâr o'r 32 a nodir ar gyfer San Steffan. Roedd nifer o bobl, gan gynnwys fi, yn poeni am faint etholaeth Brycheiniog, Maesyfed a Chwmtawe, yn ymestyn o Drefyclo a Llanandras ar ffin Lloegr i Frynaman Isaf a Gwaen-Cae-Gurwen ar y ffin â sir Gaerfyrddin.
Byddai creu etholaeth chwe Aelod yn golygu bod Aberhonddu, Maesyfed a Chwmtawe naill ai'n mynd tua'r gogledd gyda Maldwyn a Glyndŵr, tua'r gorllewin gyda Cheredigion a Preseli, neu gyda Sir Gaerfyrddin; tua'r de sy'n rhoi dewis o Sir Fynwy, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, Blaenau Gwent a Rhymni neu Ferthyr Tudful ac Aberdâr. Pa bynnag ffordd o greu etholaeth chwe aelod, byddai'r etholaeth yn fawr iawn ac yn cynnwys cymunedau gydag ychydig iawn o bethau yn gyffredin.
Er mai dyma'r enghraifft fwyaf eithafol, bydd llawer o rai eraill y tu allan i'r dinasoedd a fydd hefyd yn cwmpasu ardaloedd mawr iawn. Gallem ethol 96 Aelod yn defnyddio'r etholaethau seneddol, gyda thri o bob un, yn cael eu hethol drwy D'Hondt. Mantais hynny yw y bydd yr etholaethau hyn eisoes wedi cael etholiad cyffredinol i bleidleiswyr ddod i arfer â'r seddi newydd, ac, er y bydd rhai yn fawr, byddant yn llawer llai nag unrhyw un o'r seddi ar y cyd. Dyna pam rwy'n gofyn am 32 etholaeth tri Aelod, lle byddai gan y Senedd a Senedd San Steffan yr un ffiniau.
Rwy'n annog cefnogaeth i'r egwyddor ac rwy'n credu bod cael Senedd 96 Aelod yn syniad da iawn ac rwy'n credu bod ei angen arnom ni—os mai dim ond er mwyn i ni gael Aelod ychwanegol ar y Pwyllgor Cyllid fel nad oes gennym ni yn y pen draw sefyllfa lle rydym ni'n ddibynnol ar yr M4. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cyd-fynd â hynny.
Ac a gaf i ddim ond dweud un peth am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Alun Davies a'i cododd hi. Mae'n llawer o bethau; nid yw cymesuredd yn un o'r pethau hyn. Ac os oes arnoch chi eisiau darganfod pam rwy'n dweud hynny, edrychwch ar ganlyniadau etholiad Iwerddon, edrychwch ar ganlyniadau etholiad cynghorau'r Alban, ac fe welwch chi pa mor anghymesur yw hi.
Wrth sefyll yma heddiw yn gwrando ar y ddadl hon, ni fyddech yn meddwl mai deilliannau addysgol yng Nghymru oedd y gwaethaf yn y DU; ni fyddech yn meddwl bod pobl yng Nghymru yn ennill £3,000 yn llai na phobl yn yr Alban; ni fyddech yn meddwl mai economi Cymru oedd y gwannaf o holl genhedloedd y DU; ni fyddech yn meddwl mai cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU; ac ni fyddech yn meddwl mai rhestrau aros y GIG yw'r hiraf yn y Deyrnas Unedig. A'r rheswm na fyddech chi'n meddwl dim o'r pethau hynny yw ein bod ni'n sefyll yma unwaith eto yn trafod ychwanegu mwy o wleidyddion i'r Senedd hon ar gost o gannoedd o filiynau o bunnoedd. Pan edrychwch chi ar yr argyfwng sy'n wynebu Cymru o dan y Llywodraeth Lafur hon, ar waelod pob tabl cynghrair y gallwch chi ei ddychmygu, oni fyddech chi'n meddwl, yn lle cynyddu maint y Senedd, y dylem ni fod yn gwario'r cannoedd o filiynau hynny ar fwy o feddygon a nyrsys i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hynny sydd gan y gwasanaeth iechyd, mwy o athrawon i fynd i'r afael â'r canlyniadau PISA ofnadwy hynny, a mwy o weithredu i gael y rhai tlotaf yn ein gwlad i mewn i waith ac allan o dlodi? Nid blaenoriaethau'r bobl yw'r hyn rydym ni'n eu trafod heddiw; blaenoriaethau'r gwleidyddion ydyn nhw—blaenoriaethu ein hunain dros ganlyniadau gwell i'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli.
Ac na foed i ni dwyllo ein hunain bod cael mwy o wleidyddion yma yn y Senedd rywsut yn ddewr ac y bydd yn arwain at gynrychiolaeth well i bobl Cymru. Mae'r syniad hwnnw'n chwerthinllyd. Yn wir, canfu pwyllgor trawsbleidiol y Senedd y rhoddwyd iddo'r dasg o edrych ar y Bil hwn yn eithaf clir y gallai'r cynlluniau erydu'r cysylltiad rhwng y cyhoedd a'r gwleidyddion y maen nhw'n yn eu hanfon i'r fan yma. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth y byddai'r cynlluniau'n blaenoriaethu dylanwad pleidiau gwleidyddol dros eu hetholwyr, gan roi'r holl rym yn nwylo chwipiaid y Llywodraeth a chymryd grym oddi wrth y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Llywydd, democratiaeth yw hon. Ddylen ni ddim fod yn sefyll dros hyn. Fel gwleidyddion, ni ddylem ni fod yn falch o sefyll dros system sy'n tynnu grym o ddwylo'r bobl. Ni ddylai gwneud ein gwlad yn llai democrataidd fod yn rhywbeth yr ydym ni'n ei gefnogi.
Rwy'n wirioneddol gredu nad yw'r bobl yn y Siambr hon sy'n cefnogi'r Bil, llawer ohonyn nhw rydym ni wedi clywed ganddyn nhw heddiw, yn bobl ddrwg gyda bwriadau drwg—ddim o gwbl—ac mae dadleuon o blaid diwygio'r fan yma. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno nad yw pethau mor berffaith ag y gallen nhw fod. Ac mae'r dadleuon hynny'n wir yn haeddu cael eu clywed. Ond os ydyn nhw mor boblogaidd, mor ysbrydoledig ac mor drawsnewidiol ag yr ydym ni wedi'i glywed hyd yn hyn heddiw, pam nad ydym ni'n rhoi hynny ar brawf mewn refferendwm? Pa safon o wleidyddiaeth sy'n rhaid bodoli yn y fan yma sydd ond yn gallu gwneud eu dadleuon yng nghysur Siambr y Senedd, ond sy'n methu edrych i fyw llygaid eu pleidleiswyr i wneud yr un achos hwnnw? Pan bleidleisiodd pobl Cymru i sefydlu Cynulliad Cymru, fel yr oedd bryd hynny, roeddwn i'n blentyn ifanc, ond gwnaed yr addewid y byddai hwn yn sefydliad gwleidyddol fyddai'n gwneud pethau'n wahanol, nid yn unig gan ddod â gwneud penderfyniadau yn agosach at y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan y penderfyniadau hynny, ond roedd y gwydr ar yr adeilad, er enghraifft, i fod i ddynodi nad oedd datgysylltiad rhwng y cyhoedd a'r gwleidyddion y tu mewn i'r adeilad. Llywydd, nid yw llawer ledled Cymru yn teimlo bod y Senedd hon wedi gwireddu'r delfrydau hynny fel y mae hi. Ond os ydym ni'n cefnogi'r mesur hwn dros gael mwy o wleidyddion heddiw, heb gymeradwyaeth pobl Cymru, yn eu Senedd, rydym ni'n tanseilio'r union reswm bod y Senedd Gymreig hon yn bodoli.
I'r rhai ohonom ni yn y Siambr hon sy'n credu mewn datganoli, Senedd Cymru a'r cyfan y gall ei gyflawni, mae angen i ni gofio mai Senedd y bobl yw hon ac mai felly y dylai hi fod. Os ydym ni'n pleidleisio dros fwy o wleidyddion heb ofyn caniatâd y bobl, y cyfan fyddwn ni'n ei wneud yw creu'r argraff nad yw hon yn Senedd iddyn nhw. Y cyfan y byddwn ni'n ei wneud yw rhoi mwy o fwledi i'r bobl hynny nad ydyn nhw am i'r lle yma fodoli o gwbl. Pa bynnag ochr i'r Siambr rydych chi'n eistedd arni, waeth pa mor dda ydych chi, faint bynnag rydych chi'n ei gredu'n wirioneddol yn y cynigion hyn, os ydych chi'n ddatganolwr, gochelwch y canfyddiad bod y Senedd hon ond yn gwasanaethu ei hun. Peidiwch â chrwydro o ddelfrydau agoriadol Senedd i'r bobl, gan y bobl, a pheidiwch â phleidleisio dros y cynigion hyn heddiw, o leiaf heb gefnogi refferendwm i'w ddilysu.
Gan na wnaethoch chi dderbyn ymyrraeth, fe ddywedaf i'r hyn yr oedd ar bawb arall eisiau ei ddweud. Yn y bôn, fe wnaethoch chi benderfynu rhoi'r pwerau hyn i ni. Cawsoch chi y cyfle—eich plaid chi yn y Llywodraeth—i benderfynu ei gwneud hi'n amodol ar refferendwm; fe ddewisoch chi beidio â gwneud hynny. Ac yn wir, pan gawsom ni bwerau codi trethi, ar ôl cynnig y refferendwm yn wreiddiol, fe benderfynoch chi wedyn nad oedd angen refferendwm ar hynny. Felly, nid ydych chi'n gyson â'r hyn rydych chi wedi'i wneud mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n meddwl bod—[Torri ar draws.]
Rwy'n hapus i ildio i Tom Giffard, os hoffai ymateb. Wel, iawn, byddaf yn hael, Darren, gan mai chi ydyw.
Dim ond eisiau cyfeirio ydw i at y ddadl am gysondeb. Wrth gwrs, rydym yn gyson wrth alw am refferendwm lle mae newidiadau sylweddol i'r system bleidleisio'n cael eu cynnig. Fe wnaethom ni gynnal refferendwm ynghylch a ddylid mabwysiadu system bleidleisio amgen o dan Lywodraeth David Cameron. Rhoddodd gyfle i bobl bleidleisio o blaid hynny neu yn ei erbyn. Mae hwn yn newid yr un mor arwyddocaol, a fydd yn dileu etholiadau cyntaf i'r felin i'r Senedd hon, sef sut yr etholir 40 o'r 60 Aelod presennol. Felly, dylid ei ddileu trwy refferendwm yn unig.
Felly, a yw hynny'n golygu—newyddion yn torri—y bydd refferendwm mewn gwirionedd ar y newidiadau i'r system etholiadol ar gyfer maer Llundain, neu i'r comisiynwyr heddlu a throseddu sy'n digwydd ym mis Mai? Lle oedd y—? Does dim cysondeb, Darren, yn safbwynt eich plaid. Mae hyn yn seiliedig ar hwylustod gwleidyddol bob tro.
Mae cynnydd gwleidyddol yng Nghymru yn boenus o araf ar y gorau, ac anaml y mae'n digwydd mewn llinell syth. Fel y gwnaeth Alun Davies ein hatgoffa, dywedodd Comisiwn Brenhinol y Cyfansoddiad, comisiwn Kilbrandon, a adroddodd 51 mlynedd yn ôl, ar ôl edrych ar brofiad Stormont gyda'u Tŷ Cyffredin gyda dim ond 52 o Aelodau—yn agos iawn atom ni—ei bod hi ar y lefel honno'n Senedd rhy fach i wneud ei swyddogaeth ddemocrataidd. Yna argymhellodd senedd â 100 o Aelodau dros Gymru. Dyma ni, pedwar comisiwn/panel arbenigol yn ddiweddarach, sydd i gyd wedi dod i'r casgliad bod angen i ni fod yn senedd fwy. Ac rydym ni bron yno—rydym ni bron yno—os llwyddwn ni i wireddu'r Bil yma.
Ac mae'n rhaid i mi anghytuno. Mae'n anghytundeb athronyddol ac ymarferol gyda'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr, oherwydd nid wyf yn credu bod cryfhau gallu ein democratiaeth i gyflawni, cryfhau ei gallu i gyflawni ei swyddogaeth allweddol, sef gwella bywydau pobl Cymru, yn tynnu sylw oddi wrth waith gwleidyddiaeth. Dyna sydd wrth wraidd gwleidyddiaeth. Os ydych chi'n dilyn rhesymeg eich dadl, yna, mewn gwirionedd, rydych chi'n dadlau o blaid diddymu, sef, rwy'n gobeithio, nid yr hyn mae arnoch chi yn wir eisiau ei wneud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rydw i wedi derbyn un, Darren. Iawn, o'r gorau, felly.
Diolch am eich haelioni yn derbyn ymyrraeth arall. Gallaf eich sicrhau nad oes arnom ni eisiau diddymu'r fan yma. Rydym ni'n cefnogi datganoli ac rydym ni'n ddatganolwyr balch. Ond rydych chi yn siarad am gryfhau democratiaeth a chryfhau'r sefydliad hwn. Chi yw'r un person a danseiliodd y sefydliad hwn drwy wneud cytundeb gyda'r Prif Weinidog presennol er mwyn cyflwyno'r cynigion hyn, tra bod y pwyllgor yn bwrw ymlaen â pheth gwaith pwysig wrth ddatblygu rhai cynigion. Felly, mae ychydig yn rhagrithiol ichi ein beirniadu ni pan mai chi yw'r person a danseiliodd democratiaeth.
Iawn, roedd honno'n araith arall gan Darren Millar.
Mi fyddaf yn meddwl dwywaith y tro nesaf, Darren, cyn derbyn ail ymyrraeth. Edrychwch, pan fydd yn rhaid i chi gael mwyafrif o ddwy ran o dair yn y fan yma, i gael y lefel honno o newid, dim ond ar lefel wleidyddol y gall hynny ddigwydd, lle mae gennych chi bleidiau yn gweithio gyda'i gilydd. A dweud y gwir, er gwaethaf yr hyn a ddywedoch chi, rydych chi'n anghywir: fe wnaethom ni ymgynghori yn ddemocrataidd o fewn ein plaid, a'r unig ffordd y gallech chi gael newid oedd cael cytundeb ar draws rhaniad gwleidyddol y blaid, a dyna ddigwyddodd.
O ran y manteision y mae hyn yn eu cynrychioli o ran ein democratiaeth, ar hyn o bryd, nid yw'r Senedd lai o faint hon yn gallu gwneud ei gwaith. Rydym yn cael ein tanseilio mewn sawl ffordd wahanol. Meddyliwch nid yn unig am graffu, ond ffurfio'r Llywodraeth. Pan fydd gennych chi, fel cyfrannedd, gymaint o bobl yn y blaid lywodraethol, fel y mae ar hyn o bryd, yn dal swyddi gweinidogol, nid oes gennych chi'r gronfa o dalent arall ar y meinciau anweinidogol y gallwch eu cylchdroi. Felly, drwy gynyddu maint y Senedd, rydych chi'n creu cronfa fwy o sgiliau a phrofiad y gellir eu defnyddio. Ac mae hynny'n wir amdanom ni fel Senedd gyfan. Ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gynrychioliadol yn gymdeithasol nac o ran profiad bywyd, fel y mae angen i ni fod i wneud ein gwaith. Trwy adeiladu Senedd fwy, gallwn ddod yn fwy cynhwysol ac amrywiol, ac rydym ni i gyd yn ennill o ganlyniad i hynny.
Gan feddwl yn ymarferol, dim ond am ddau ddiwrnod yr wythnos y gallwn ni gwrdd yn y Cyfarfod Llawn. Rydym ni'n fyrrach na'r holl Seneddau eraill, hyd yn oed Cynulliad Gogledd Iwerddon, nawr y bydd ar waith eto. Ni allwn gwrdd mwy na hynny ar gyfer y Cyfarfod Llawn oherwydd ni fyddai cworwm ar bwyllgorau. Ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Rydw i ar bedwar pwyllgor, os ydych chi'n cynnwys Comisiwn y Senedd hefyd. Nid yw'n bosibl i ni gael y trydydd diwrnod llawn hwnnw. Meddyliwch am bosibiliadau hyn o ran rhyddhau'r creadigrwydd deddfwriaethol yn y fan yma. Dim ond un Bil Aelod preifat yr ydym ni wedi'i basio yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Dim ond un Bil pwyllgor yr ydym wedi'i basio. Dim ond un Bil pwyllgor rydym ni wedi'i basio erioed, yn bennaf oherwydd nad oes gennym ni'r cymhwysedd, ar hyn o bryd, i allu gwneud hynny. Felly, am yr holl resymau hyn, dyma pam mae hwn yn gyfle hanesyddol, ac rwy'n gobeithio, y tu hwnt i'r anghytundebau rydym ni'n eu cael yma, Darren, fel yr oeddem ni'n eu trafod eiliad yn ôl, y gallwn ni wedyn gael trafodaeth ehangach, sy'n cynnwys eich plaid chi hefyd, o ran sut rydym ni'n gwneud y gorau o'r cyfle democrataidd hwn i gynyddu ein gallu i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru.
Byddaf yn dweud rhywbeth yn fyr am y system etholiadol. Ydy, mae fy mhlaid wedi cefnogi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ers bron i 100 mlynedd, o'r cychwyn cyntaf, a dyna lle rydym ni eisiau cyrraedd. Rwy'n credu ei fod yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ein bod yn cael gwared ar y system cyntaf i'r felin. Ni oedd y genedl gyntaf ar ynys Prydain i wneud hynny, ac mae hynny'n mynd â ni i'r cyfeiriad lle'r hoffem ni fynd, o ran y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae'r mecanwaith adolygu yn rhoi cyfle i ni, a'r hyn y dylem ni ei wneud yw, yn ein pleidiau unigol, pob un ohonom ni—. Bydd ym maniffesto Plaid Cymru, hoffwn ei weld ym maniffestos eraill y pleidiau hefyd. Gadewch i ni weld mwy o awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn y mae Gwynedd yn ei wneud, gan gyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn lleol, fel y gallwn ni greu momentwm o ran cyflawni'r hyn yr hoffem ni ei wneud erbyn 2030.
Ac efallai, yn seiliedig ar argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ddoe, efallai yn y mecanwaith adolygu, mae swyddogaeth i ddinasyddion yno hefyd. Mae awgrym ynglŷn â pham nad oes gennym ni gynulliad dinasyddion, ochr yn ochr â'r trafodaethau sy'n digwydd yma, ochr yn ochr â'r dystiolaeth arbenigol, fel y mae'r pwyllgor wedi'i awgrymu. Beth am ddefnyddio hyn mewn gwirionedd fel cyfle i ddefnyddio'r mecanwaith trafod hwnnw o gynulliad dinasyddion i ofyn i bobl Cymru, 'Ydym, rydym ni'n cymryd cam ymlaen gyda'r Bil hwn, ond ble rydych chi am fynd nesaf, oherwydd nid yw cynnydd byth yn dod i ben i'n cenedl?'
Rydw i'n mynd i ddechrau trwy ofyn i chi ddal ymlaen i'ch seddi oherwydd rydw i'n mynd i ddechrau gyda rhywfaint o ganmoliaeth. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, dim ond un peth da sydd wedi dod o gyflwyno polisi terfyn cyflymder 20 mya Llywodraeth Cymru, a hynny yw ei bod wedi dal sylw'r genedl. Mae wedi arwain at fwy o bobl yn cymryd rhan ac yn dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth, Llywodraeth Cymru ac, yn y pen draw, Senedd Cymru. Mae mwy o bobl wedi oedi a meddwl, 'Wel, os yw Llywodraeth Cymru yn gosod y polisi chwerthinllyd hwn ac yn gwastraffu ein harian, pa syniadau eraill gwallgof maen nhw'n eu dyfeisio?' A gadewch i ni fod yn onest, mae digon i ddewis o'u plith. Ond yr un sydd wedi cael pobl i siarad mewn gwirionedd, yr un sydd wedi boddi fy mewnflwch mewn gwirionedd, ac rwy'n siŵr llawer o'ch rhai chi hefyd, am yr holl resymau anghywir, wrth gwrs yw prosiect mympwyol Llafur a Phlaid o ehangu'r Senedd i greu 36 yn fwy o wleidyddion. [Torri ar draws.] Yn sicr mae wedi.
Nawr, mae ein GIG mewn trafferthion enbyd, diolch i flynyddoedd o gamreoli gan y blaid Lafur, gyda bron i 25,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, ac mae gennym ni'r niferoedd uchaf o bobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am 12 awr o'i gymharu â Lloegr a'r Alban. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard mae ein system addysg hefyd yn methu, gyda nifer yr athrawon yn gostwng yng Nghymru. Mae canlyniadau PISA ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gostwng i'w cyfraddau isaf erioed. Mae ein heconomi yma yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd, gyda chyfraddau goroesi busnes eithriadol o wael, sydd fwy na thebyg â rhywbeth i'w wneud â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn eu cosbi â'r cyfraddau busnes uchaf a welsom ym Mhrydain Fawr. Mae 12 o drefi Cymru mewn rhestr o'r 20 mwyaf bregus yn economaidd yn y DU, ac mae 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol. Mae'r rhestr, yn anffodus, yn un hirfaith mewn gwirionedd. Mae fel rhestr droseddau, ac yn un fe ymddengys bod ar Keir Starmer eisiau ei gorfodi ar y Deyrnas Unedig, gyda Chymru fel ei lasbrint ar gyfer Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sylweddol iawn hyn? Wel, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, nid llawer iawn, gan fod y Gweinidogion yn llawer rhy brysur yn bogailsyllu. Mae ehangu Senedd Cymru wedi cael ei ddisgrifio gan lawer o wleidyddion di-glem Llafur fel ffordd o gynyddu craffu, ond y gwir amdani yw nad yw'n ddim mwy na phrosiect porthi balchder. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl fy mod i a'm holl gyd-Aelodau yma ar y meinciau Ceidwadol hyn yn gwneud gwaith gwych o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, o ddydd i ddydd. Dyna swyddogaeth y gwrthbleidiau, er efallai na fyddwch yn meddwl hynny, wrth edrych ar y Blaid, sy'n honni eu bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ond ar yr un pryd byth yn colli cyfle i neidio i'r gwely gyda Llafur.
Dyw pobl Cymru ddim am weld eu harian prin yn cael ei wario ar roi mwy o wleidyddion yn fan yma. Maen nhw eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni yn y meysydd sy'n bwysig iddyn nhw, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a'r economi. Gadewch imi roi blas i chi o rai o'r negeseuon yr wyf wedi bod yn eu derbyn gan etholwyr blin, sy'n dangos sut groeso sydd yna i gynlluniau ehangu drud. Dywed un preswylydd, ac rwy'n dyfynnu gair am air,
'Beth mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyflawni ar gyfer y bobl rydych chi'n eu cynrychioli wnaeth i chi benderfynu mai dyma'r ffordd orau o wario £120 miliwn nac, er enghraifft, ar 150 o feddygon ymgynghorol newydd i leihau'r rhestrau aros yn ein gwasanaeth iechyd gwladol?'
A wnewch chi dderbyn ymyriad? O ble gewch chi'r 150 o feddygon ymgynghorol ychwanegol? Fy nealltwriaeth i yw mai ychydig iawn o feddygon di-waith sydd yng Nghymru—mewn gwirionedd, dim—felly, o ble gewch chi nhw?
Mike, ceffyl da yw ewyllys. Os oes gennych chi'r arian, mae unrhyw beth yn bosibl. [Chwerthin.]
Dywedodd preswylydd arall—[Torri ar draws.] Gadewch i mi barhau. Dywedodd preswylydd arall, 'Mae hi y tu hwnt i jôc bod Llywodraeth Cymru yn honni nad oes ganddi arian', rhywbeth yr wyf wedi clywed y Gweinidog yn sôn amdano, 'ond gall rywsut ddod o hyd i £120 miliwn y tu ôl i gefn soffa i dalu am yr ehangiad hwn. Os ydyn nhw'n credu'n onest mai dyma'r hyn mae ar Gymru ei eisiau, yna mae hyn hyd yn oed yn fwy di-glem nag y meddyliais yn wreiddiol'. Rwy'n dal i ddyfynnu'r e-bost a anfonwyd: 'Hoffwn weld yr arian yn cael ei wario ar drwsio ein gwasanaeth iechyd. Mae gen i ffrindiau a theulu yn aros am gyfnodau annerbyniol o amser i gael triniaeth. Rydych chi'n cael trafferth ofnadwy cael apwyntiad deintydd hyd yn oed y dyddiau hyn. Pam maen nhw'n gwastraffu ein harian ni ar fwy o wleidyddion, pan fo llawer mwy o faterion dybryd i ymdrin â nhw?' A dweud y gwir, ni allwn gytuno â nhw fwy. Maen nhw'n iawn. Mae blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, yn gwbl anghywir.
Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod mewn gwirionedd yw sut y gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau gwario mwy na £120 miliwn ar roi mwy o wleidyddion yn y fan yma pan fo'r gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd iawn a bod y Llywodraeth yn torri cyllidebau hanfodol. Yn syml, mae'r Bil yn wastraff amser, arian ac ymdrech, yn fy marn i. A dywedais i hyn ym mis Mehefin 2022: os yw pawb yma mor hyderus, yna, yn onest, rwy'n dal i gredu nad yw hi'n rhy hwyr mewn gwirionedd, ac y gall ddigwydd o hyd, felly mae'n rhaid i chi fynd at y cyhoedd a chael refferendwm sy'n deg mewn gwirionedd.
Hoffwn ddweud ei bod hi'n fraint ac anrhydedd mawr cael bod yn aelod o'r pwyllgor hwn, a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r holl aelodau, a hefyd i dîm y Bil a'r clercio—diolch yn fawr iawn. Hoffwn gadarnhau ymrwymiad fy mhlaid i egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae diwygio'r Senedd ac ehangu ei haelodaeth yn hanfodol bwysig os ydym ni am fod yn gorff deddfwriaethol effeithiol, ac mae'n rhaid i ni ddarparu, fel y clywsom ni, y craffu cadarn hwnnw y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Mae'r Bil hwn yn gyfle unwaith mewn oes. Rwy'n gwybod ein bod ni'n clywed hynny eithaf tipyn, ond mewn gwirionedd mae'n gyfle mewn cenhedlaeth i newid ein democratiaeth a'i hadfywio. Ond, ar ei ffurf bresennol, mae'r Bil hwn yn syrthio'n brin iawn, iawn o'r gofynion i adeiladu'r ddemocratiaeth iachach, fwy teg a chynhwysol yr ydym yn chwilio amdani. Rydw i'n mynd i ganolbwyntio'n benodol ar y system rhestrau pleidiau caeedig arfaethedig, a fyddai, yn fy marn i, yn gamgymeriad dybryd a pharhaol. Mae cynnig rhestr pleidiau caeedig Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi ennyn beirniadaeth helaeth gan yr Aelodau, y cyfryngau, gan arbenigwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Mae Llafur a Phlaid Cymru yn dadlau bod eu diwygiadau yn gam blaengar ymlaen—ac, yn wir, mae hynny'n wir—o'r system cyntaf i'r felin. Ond mae gennym ni gyfle i wneud mwy, ac nid ydym ni wedi deall hynny os yw'r Bil hwn yn mynd yn ei flaen fel y mae. Rydym ni wedi clywed yn y pwyllgor gan arbenigwr ar ôl arbenigwr. Dywedodd yr Athro Alan Renwick y byddai'r newidiadau i Gymru yn ei gwneud hi'n aderyn brith ac yn ein gosod ni ar wahân i normau democrataidd Prydain ac Ewrop. Dywedodd yr Athro Laura McAllister:
'ar adeg pan fo cymaint o ddatgysylltiad rhwng y gwleidyddion a'r cyhoedd, rydym ni'n ei ddatgysylltu ymhellach.'
Clywsom gan lawer o arbenigwyr fod anfanteision sylweddol i'r system hon. Mae systemau rhestr gaeedig yn lleihau'r dewis o bleidleiswyr ac ymreolaeth. Mae angen i ni sicrhau bod ein hetholwyr yn dewis ymgeiswyr sy'n cynrychioli eu hunain neu sydd â safbwyntiau tebyg. Mae cyfle, a byddwn yn pledio gyda chi i fanteisio arno nawr. Nid wyf i chwaith, yn anffodus, wedi clywed yr un rheswm pam mae hyn yn gyfaddawd angenrheidiol i gyflawni'r uwchfwyafrif. Gwyddom fod llawer o gefnogwyr y cynigion hyn wedi hyrwyddo systemau gwell o'r blaen.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf i.
Pan soniais i am gyfaddawd, nid oedd fy nghyfaddawd yn ymwneud â chael uwchfwyafrif; roedd yn ymwneud â chydnabod bod cymrodyr da a chyfeillion a chyd-Aelodau, yn y blaid hon a phleidiau eraill, yn teimlo'n gryf ond yn wahanol. Ac nid oedd yn ymwneud â'r uwchfwyafrif; roedd yn ymwneud â chydnabod, gyda newid, fod angen yn symud ymlaen, ysgwyd llaw, a chydnabod bod angen i bob un ohonom ni gyfaddawdu weithiau.
Diolch am yr ymyrraeth honno. Byddwn i'n dweud hyn wrthych chi: pe bai ar Lafur Cymru eisiau system wahanol i'r un a gynigir, byddai Plaid Cymru wedi ei chefnogi. A dyna ichi eich uwchfwyafrif, o ran y ffordd yr ydw i'n deall hynny. Ac mae'n ddrwg iawn gen i, ond dydw i'n dal ddim yn deall pam na fydd Llafur Cymru yn cefnogi system wahanol i'r un sydd wedi cael ei chyflwyno, fydd wedyn yn sbarduno Plaid Cymru—ac rwy'n gweld pennau'n amneidio yma—i'w gefnogi. Dydw i'n dal heb glywed hynny. Byddwn i wir yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ganolbwyntio ei sylwadau ar hynny.
Fe orffennaf i gyda hyn. Dyma gyfle i Lafur Cymru a Phlaid Cymru ailfeddwl ynghylch eu cefnogaeth i'r system hon. Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n gwrando ar arbenigwyr. Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n cymryd argymhellion yr holl bwyllgorau o ddifrif. Mae amser o hyd i gywiro cwrs, nid yn unig ar y system bleidleisio, ond pethau eraill, fel rhannu swyddi, sedd sy'n digwydd dod yn wag, mecanweithiau adolygu, a chael enwau ymgeiswyr ar y pleidleisiau. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae gennym ni gyfle nawr i ail-lunio ein democratiaeth yn rhywbeth cyffrous ac ysbrydoledig a fydd wir yn fodd i bobl Cymru gefnogi democratiaeth a fuddsoddwyd ynddi. Ni ddylem ni fod mewn sefyllfa yn 2026 yn meddwl am yr hyn y gallem ni fod wedi'i wneud yn wahanol. Diolch yn fawr iawn.
Mae amser wedi mynd yn drech na ni—ymhell iawn felly—ar y ddadl hon, ond rydw i'n mynd i alw dau gyfraniad pellach, os ydyn nhw'n addo y byddan nhw'n fyrrach na'r cyfraniadau a gawsom ni hyd yma. Felly, Gareth Davies yn gyntaf.
Diolch, Llywydd. Fel Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, etholaeth yr ydw i, dim ond drwy gyd-ddigwyddiad, wedi byw ynddi ar hyd fy oes, wedi gweithio ynddi, y mae gennyf gysylltiadau â phob rhan ohoni, rwy'n ymgynghori ag etholwyr, pobl leol, ffrindiau, teulu a chymdogion yn rheolaidd ar eu blaenoriaethau ar gyfer yr ardal a'r hyn y maen nhw'n ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod datganoli presennol. Ers datganoli, o dan y Blaid Lafur, mae fy etholwyr, mewn gwirionedd, wedi gweld Ysbyty Glan Clwyd yn disgyn o fod yn un o'r ysbytai sy'n perfformio orau yn y DU i fod o dan un o'r byrddau iechyd sy'n perfformio waethaf yn y cyfnod modern; methiant i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl gan y Blaid Lafur dros 10 mlynedd o dorri addewidion; ac, yn fwy diweddar, gosodwyd polisi diofyn o 20 mya arnyn nhw, er i dros 13,000 o bobl yn Nyffryn Clwyd arwyddo'r ddeiseb yn erbyn y mesur hwn—mwy na faint o bobl a bleidleisiodd dros Lafur yn Nyffryn Clwyd yn etholiadau'r Senedd yn 2021. Ar ben hyn, mae gennym ni amddifadedd enfawr, yn enwedig mewn ardaloedd yng ngorllewin Y Rhyl a Dinbych uchaf, sydd wedi cael eu hanghofio gan Lafur yng Nghaerdydd ers datganoli ac mae'n un o'r rhesymau pam mae llawer o bobl yn sir Ddinbych, ac yn fwy cyffredinol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, yn teimlo eu bod wedi'u difreinio gyda'r Senedd, ac, mewn rhai achosion, yr union gysyniad o ddatganoli ei hun. [Torri ar draws.]
Na, nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad.
Yn anffodus, edrychwch ar y nifer sy'n pleidleisio ar hyn o bryd yn etholiadau'r Senedd, sydd prin wedi codi dros 40 y cant ers 1999.
Nawr, rhag ofn bod amheuaeth, nid dyna fy marn i, neu ni fyddwn i hyd yn oed wedi trafferthu sefyll dros y Senedd yn y lle cyntaf, ac rwy'n credu y gall datganoli weithio'n well, gyda'r bobl gywir wrth y llyw. Ond yn fy nhair blynedd yn y fan yma, rwy'n gweld Senedd sy'n eistedd dau ddiwrnod yr wythnos, ac, ar sawl achlysur, mae busnes y Llywodraeth ar ddydd Mawrth yn aml yn cwmpasu dim ond tair i bedair awr—[Torri ar draws.]—rhwng 1.30 y pnawn a thua 5 o'r gloch i 5.30 yr hwyr. Ac mae hynny wedi digwydd droeon ers diwedd toriad yr haf yn 2023. Does gen i ddim yr union ffigurau ynghylch sawl gwaith mae hynny wedi digwydd, ond rwy'n gwybod, trwy fy mhrofiad fy hun, mai dyma'r achos. Rwy'n aml yn cyfeirio at yr ymadrodd, 'Os ydych chi am gyflawni rhywbeth mewn bywyd, fel mwy o Aelodau'r Senedd, o leiaf gwnewch achos cadarn i'w wireddu.' Ac yn y cyfnod hwn o amser y bûm i'n Aelod o'r Senedd hyd yn hyn, ychydig iawn a welais i o dystiolaeth, os o gwbl, o gyfiawnhad credadwy dros fwy o Aelodau o'r Senedd ar ôl 2026, ac eithrio ei fod yn ddim ond prosiect porthi balchder arall gan y Blaid Lafur i ymestyn coesau sosialaeth hyd yn oed ymhellach, a chan Blaid Cymru, gan nad ydyn nhw ond yn gweld hyn fel cam arall ar y llwybr at annibyniaeth Cymru, y credaf ein bod yn cerdded yn araf ato mewn trwmgwsg os byddwn yn parhau ar y llwybr hwn.
Ond daw'r cyfan ar draul y trethdalwr—trethdalwyr sydd eisiau gwell GIG, gwell gwasanaethau cyhoeddus, 60 Aelod o'r Senedd sy'n atebol i'r cyhoedd, fel y dylen nhw fod, yn hytrach nag i reolwyr gwleidyddol pleidiau. Pobl dda Cymru unwaith eto sy'n gorfod ysgwyddo baich y trawsnewidiad enfawr i'r Senedd, a'r rheswm pam—. Os yw Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru mor hyderus bod pobl Cymru eisiau mwy o Aelodau o'r Senedd, yna galwch refferendwm a gofyn i'r bobl beth hoffen nhw ddigwydd. Os ydyn nhw'n pleidleisio drosto, digon teg—mae'r bobl wedi siarad, gwych, gadewch i ni fwrw ati ac ehangu'r Senedd ar fyrder. Ond os ydyn nhw'n ei wrthod, gadewch i ni gadw at y system bresennol, mabwysiadu newidiadau ffiniau newydd San Steffan, ymestyn y rhestr ranbarthol i ffurfio'r niferoedd a gollwyd yn yr adran etholaethau a chynnal y drefn sydd gennym ni. Dyna, gyd-Aelodau, yw democratiaeth, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio.
Diolch am roi'r cyfle i mi siarad heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae fy marn i ar ehangu'r Senedd yn hysbys iawn ac mae wedi cael ei lleisio—y rhesymau dros hynny—gan gyd-Aelodau eraill. Ond yr hyn yr hoffwn i siarad amdano, os rhoddir caniatâd i hyn fynd rhagddo heddiw, yw rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor, yn enwedig ynghylch argymhelliad 16, sy'n ymwneud â seddi gwag yn y Senedd. Os ydym ni am fwrw ymlaen fel Senedd fwy, yr wyf yn ei erbyn, ond os yw'n digwydd ac os yw'r Senedd eisiau i hynny ddigwydd, rwy'n credu y byddai cael sedd wag yn y Senedd hon yn niweidiol i ddemocratiaeth. Rwy'n credu y gallai hynny arwain at rifyddeg seneddol a allai adael y Senedd mewn parlys, gyda phethau'n methu â digwydd. Felly, hoffwn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych eto ar argymhelliad 16 a gweld a oes rhywbeth y gallant ei roi mewn deddfwriaeth i sicrhau bod trefniant wrth gefn yn bod—os daw sedd ar gael, gellir ei llenwi.
Un arall o'r argymhellion a gyflwynwyd oedd ynghylch y system rhestr gaeedig, ac rwy'n cytuno â llawer o Aelodau a siaradodd ar y pwynt hwn fod y system rhestr gaeedig yn lleihau dewis pleidleiswyr. Byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol, os rhoddir caniatâd i hyn fynd yn ei flaen, i edrych ar hynny eto a gweld sut y gallwn ni wneud pobl yn fwy atebol i'r cyhoedd.
Hoffwn hefyd adleisio rhai o'r sylwadau a wnaed gan Adam Price. Pa un a ydych chi'n cytuno â hyn ai peidio, mae wedi agor trafodaeth yma am sut y gallwn ni gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sut y gallwn ni wella ein prosesau seneddol. Felly, hoffwn glywed gan y Cwnsler Cyffredinol rai syniadau a allai fod ganddo o ran sut y gallwn ni weithio gyda'r Pwyllgor Busnes ac yn drawsbleidiol i weld sut y gallwn ni wella democratiaeth yn y fan yma heb orfod cynyddu nifer Aelodau'r Senedd sydd yma. Diolch, Llywydd.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cefais fy nhemtio wrth i mi wneud nodiadau a gwrando ar y cyfraniadau i geisio ymateb i bob un ohonyn nhw. Ni fyddaf oherwydd rwy'n credu bod yr Aelodau wedi gwneud eu pwyntiau. Maen nhw wedi eu gwneud nhw o ran yr hyn y mae'r Aelodau'n credu ynddo. Mae gan rai, rwy'n credu, sylfaen gryfach mewn ffeithiau nag eraill, ond, serch hynny, mae hynny'n rhan o'r broses ddemocrataidd yma. Felly, ni fyddaf yn ymateb i'r rheini yn y ffordd honno. Rwy'n mynd i geisio cynnal, rwy'n credu, mae'n debyg, y sail gyfansoddiadol foesol yn y ddadl hon, ond mae'n rhaid i mi wneud ychydig o sylwadau, a dyna'r adlewyrchiad hwn yn unig, Darren, ei bod yn eithaf tebygol na fydd unrhyw Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Rwy'n credu efallai y byddwn ni—[Torri ar draws.] Rwy'n credu y gallech chi fod yn ddiolchgar iawn, iawn am y ffaith bod gennym ni system a fydd yn sicrhau bod llais Ceidwadol yn y Senedd hon, a dyna mae'r system yn ei wneud mewn gwirionedd.
Mae'r cynigion hyn yn ymwneud â democratiaeth yn y bôn ac maen nhw'n ymwneud â'r gwerth rydych chi'n ei roi ar ddemocratiaeth, a dehongli'r hyn yw'r ddemocratiaeth honno. Y cyfan y gallaf ei wneud, rwy'n credu, yw ailadrodd hyn: rwy'n credu bod y newidiadau hyn yn fuddsoddiad mewn democratiaeth. Wrth fuddsoddi mewn democratiaeth, mae'n rhaid i chi ddweud bryd hynny, 'Pa bris sydd i ddemocratiaeth?' Rwy'n credu bod 0.7 y cant o'r gyllideb, sef yr hyn y bydd hyn yn ei olygu, yn bris sy'n werth ei dalu, ond rwyf hefyd yn credu ei fod yn bris, os yw'n arwain, fel y rhagwelir, at lywodraethu gwell, craffu gwell, cyflawni gwell, democratiaeth well, a fydd wedi talu amdano'i hun.
Rwy'n credu bod rhai o'r dadleuon dros gost democratiaeth—. Pe bai'r Aelodau wedi sefyll ar eu traed pan oedd cynigion cardiau adnabod yn cael eu cyflwyno, a gostiodd £140 miliwn, efallai y byddai ychydig o hygrededd i'r dadleuon penodol hynny. Roedd gan y cynigion hynny un diben mewn gwirionedd, a hynny yw cyfyngu ar nifer y bobl oedd yn pleidleisio. Pan edrychwn ni ar y beirniadaethau a wnaed yn ddiweddar gan y Comisiwn Etholiadol o gynigion gan Lywodraeth y DU heb refferendwm, y mae'n eu disgrifio fel tanseilio democratiaeth yn y bôn—yr heriau i reolaeth y gyfraith, y ffaith y gallwch chi gael llywodraeth wedi'i hethol gyda mwyafrif mawr ar 35 y cant o'r bleidlais—rwy'n credu bod y cyfeiriad rydym ni'n mynd iddo, y buddsoddiad mewn democratiaeth, gwella ein hatebolrwydd i bobl Cymru, gwella'r craffu ar Lywodraethau, yn bris rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl amdano ein hunain, a phenderfynu a yw'n werth ei dalu.
Sut ydych chi'n credu y bydd gwaith craffu'r Llywodraeth yn cael ei wella a'i gynyddu os bydd maint y Llywodraeth yn cynyddu gyda maint y Senedd? Pe bai maint y Llywodraeth yn aros yr un fath ag y mae nawr, gyda mwy o Aelodau, yna byddai honno'n ddadl gredadwy. Ond os yw'n debyg am debyg, sut ydych chi'n meddwl bod hynny'n gwella craffu ar y Llywodraeth o dan y system newydd?
Nid yw'n debyg am debyg, oherwydd y Llywodraeth yw'r Weithrediaeth ac mae'n cyflawni swyddogaethau. Mae angen iddyn nhw allu gwneud hynny hyd eithaf eu gallu, sy'n golygu cael digon o Weinidogion yn y Llywodraeth i wneud hynny. Ond mae hefyd yn golygu wedyn fod â'r capasiti digonol o ran y Senedd, Aelodau'r Senedd, i'w galluogi i ddeall, datblygu'r arbenigedd a chyflawni hynny mewn gwirionedd. Rwy'n cofio'r tro diwethaf i ni drafod hyn ichi ddweud nad oedd diben bod â mwy o Aelodau Senedd oherwydd bod pawb wedi mynd adref am 6 o'r gloch. Wel, mae'n 7.30 p.m. nawr, felly rwy'n tybio eich bod chi yma ar oramser. Ond mae hynny'n fater arall.
Mae hon yn ddadl gyfansoddiadol ddifrifol iawn. Rwy'n parchu'n fawr yr holl gyfraniadau a wnaed, yr holl awgrymiadau a wnaed, a gallaf ddweud wrthych chi y bydd y gwaith yn mynd rhagddo o ran eu hystyried, wrth geisio dod i gytundeb lle bo hynny'n bosibl, ond o leiaf o ran trafod yr agweddau hynny. Mae'n gam eithaf anarferol i Lywodraeth ddweud mewn gwirionedd y byddwn yn gosod rhwymedigaeth statudol ar adolygiad i sicrhau y bydd yr hyn a benderfynwyd yma yn rhan o'r broses gyfansoddiadol hon yn cael ei ailystyried gan y Senedd nesaf, lle bydd y pwerau.
Rwy'n credu bod un cwestiwn y mae'n rhaid i ni ei ofyn, ac rwy'n credu mai hwn yw'r un cwestiwn rydym ni bob amser yn ei ofyn wrth i ni fynd drwy'r broses, a phan gyrhaeddwn ni Gyfnod 2 ar hynny, a dyma ni: a ydych chi'n cytuno mai buddsoddiad mewn democratiaeth yw hyn? Pa bris sydd gan y ddemocratiaeth honno, a pha mor bwysig yw hi i chi ac i bobl Cymru? Rwy'n credu ein bod yn gwneud yr hyn sy'n hollol hanfodol. Mae hwn yn gam hanesyddol i Gymru, ac rwy'n credu mai dyma'r cam cywir. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni bleidleisio ar gynnig eitem 8 a chynnig eitem 9.