Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 30 Ionawr 2024.
Mewn sesiwn dystiolaeth i bwyllgor y Senedd, fe wnaeth y comisiynydd newydd ddatgan bod,
'pobl Cymru eisiau gwneud mwy na delio â sefydliadau cyhoeddus yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg.'
Hoffwn wybod pa lwyddiant a gafwyd wrth wireddu'r uchelgais hon ers iddi ddweud hyn ym mis Hydref 2022.
Rwy'n credu'n gryf y dylem fod yn cofleidio technolegau newydd i hyrwyddo a dysgu'r iaith. Mae'r ap iaith Duolingo—rŷn ni wedi siarad am hwn yn y Siambr o'r blaen—yn astudiaeth achos wych. Er ei bod hi'n siomedig i glywed na fydd yr ap yn diweddaru'r cwrs Cymraeg, roedd hi'n braf gweld cymaint yn ymateb i benderfyniad Duolingo. Yn 2020, Cymraeg oedd y nawfed iaith fwyaf poblogaidd ymysg defnyddwyr yr ap yn y Deyrnas Unedig. Ac mae ffigyrau cyfredol yn dangos bod 658,000 o bobl yn dysgu Cymraeg drwy'r ap, a bod 2 filiwn a mwy wedi defnyddio'r cwrs ers ei lansio. Yn fwy calonogol fyth, mae'r cwrs Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan bobl ym mhedwar ban byd sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg. Enghraifft wych o gyrhaeddiad ein hiaith.
O ran technoleg, roeddwn am nodi mater a godwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â defnyddio'r Gymraeg mewn achosion llys. Gydag achosion llys a thribiwnlysoedd ar-lein yn dod yn fwy cyffredin, roeddwn yn siomedig i glywed mai dim ond wyneb yn wyneb y gallai'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg mewn achos llys wneud hynny, ac nad oes modd gwneud hynny o bell. Pa drafodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd i'r afael â hyn?
O ran ymchwil i'r farchnad a gynhaliwyd gan y comisiynydd, roedd hi'n braf iawn gweld bod 80 y cant o siaradwyr Cymraeg a holwyd yn credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus naill ai'n cynyddu neu wedi aros yr un fath. Roedd 82 y cant o'r farn y gallent ddelio â sefydliadau drwy gyfrwng y Gymraeg os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Mae'r ffigyrau hyn yn galonogol iawn, a hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r cyrff cyhoeddus sy'n weddill, nad ydynt yn cynnig cyfle cyfartal.
Dim ond hyn a hyn y gall Comisiynydd y Gymraeg ei wneud wrth anelu at dargedau 'Cymraeg 2050'. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn gynharach y mis hwn, fe wnes i helpu i lansio 'Adroddiad Effaith CFfI Cymru' yn y Senedd, gan hyrwyddo'r rôl werthfawr y mae'r sefydliad yn ei chwarae yn ein gwlad. Roedd yr adroddiad yn pwysleisio'r ffaith bod 60 y cant o'r aelodaeth yn siarad Cymraeg, a llawer wedi dysgu'r iaith drwy'r sefydliad. Y dyfyniad yn yr adroddiad effaith sy'n crynhoi'n dda glybiau'r ffermwyr ifanc i mi yw,
'Mae'n cynnig cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg mewn sawl gwahanol ffordd, er enghraifft, drama. Efallai na fyddent wedi ystyried cyfranogi mewn gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg oddi allan i’r CFfI. Mae’n hollol wahanol i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol.'
Mae angen i ni ddatblygu llwybrau gwahanol i'r iaith wrth i ni symud ymlaen os ydym am wneud cynnydd tuag at darged 'Cymraeg 2050'. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau fel y ffermwyr ifanc i gefnogi twf y Gymraeg?
Yn olaf, byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Roedd agwedd HSBC wrth gyhoeddi eu bod am roi'r gorau i gynnig gwasanaeth llinell ffôn Gymraeg yn warthus. I mi, roedd yn dangos diffyg parch at eu cwsmeriaid Cymraeg a'r iaith, ac yn niweidio enw da'r cwmni yma yng Nghymru. Mae'r comisiynydd a'i rhagflaenwyr wedi gweithio'n galed i annog y defnydd o'r Gymraeg drwy ddulliau anstatudol. Efallai mai nawr yw'r amser i fanciau gadw at safonau swyddogol y Gymraeg. Byddwn yn croesawu eich barn ar hyn, Weinidog.
Mae diwylliant a'r iaith Gymraeg yn cyd-blethu, felly bydd unrhyw newidiadau i galendr yr ysgol sy’n effeithio’n negyddol ar ddigwyddiadau pwysig, megis y Sioe Fawr neu’r Eisteddfod, hefyd yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Felly, rwy’n annog y Gweinidog i beidio â bwrw ymlaen â’r newidiadau hyn.
Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, ac yn nodi’r gwaith caled y mae pawb wedi’i wneud ynddo. Rydym ar lwybr—y llwybr cywir, gobeithio—ond mae llawer o rwystrau yn parhau os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, lle mae pobl yn rhydd i sgwrsio yn eu dewis iaith mewn cenedl gwbl ddwyieithog. Diolch, Llywydd.