Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch, Llywydd. Pleser yw agor y ddadl hon heddiw a gofyn i chi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae'r adroddiad yn mynd â ni ar daith trwy amrywiol waith y comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'n nodi uchafbwyntiau o'r hyn a gyflawnwyd mewn meysydd fel sicrhau tegwch a hawliau i siaradwyr Cymraeg, dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat ac elusennau, a'r gwaith mae hi'n ei wneud ar enwau lleoedd.
Mae'n dda gweld enghreifftiau real yn yr adroddiad o wasanaethau Cymraeg sydd wedi gwella diolch i ymyrraeth a chefnogaeth gan y comisiynydd, er enghraifft, gwella gwasanaethau ffôn cynghorau sir, gwella gwefannau cyrff a gwella'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn y sector iechyd. Dwi'n falch bod gwaith y comisiynydd o reoleiddio safonau yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn rhestru gwaith sydd wedi'i wneud i ddylanwadu ar bolisi, ac mae rôl y comisiynydd yn hynny o beth yn bwysig. Dwi'n ddiolchgar iddi am ymateb i ymgynghoriadau ar bolisïau a Biliau newydd i'n hatgoffa ni yn y Llywodraeth o beth allwn ni ei wneud i helpu'r Gymraeg i ffynnu ar draws ein holl waith. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael ein hatgoffa o'r angen i brif-ffrydio ystyriaethau 'Cymraeg 2050' o'r cychwyn wrth ddatblygu polisi. Mae mewnbwn y comisiynydd wrth i ni ddatblygu deddfwriaeth fel Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) wedi arwain at welliannau cadarnhaol er budd y Gymraeg.
Dwi'n falch o'r cynnydd rŷn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn diwethaf o ran y Gymraeg. Fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Bil addysg Gymraeg, sy'n rhan greiddiol o weithredu ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Daeth cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd pob awdurdod lleol yn weithredol. Fe wnaethon ni fuddsoddi ymhellach mewn darpariaeth trochi hwyr er mwyn rhoi cyfle i fwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg. Cyhoeddwyd cynllun y gweithlu Gymraeg mewn addysg. Fe wnaethon ni ariannu prosiect peilot i gefnogi awdurdodau lleol yn y de ddwyrain i hyrwyddo addysg Gymraeg. Rŷn ni hefyd wedi ariannu'r Urdd i ailsefydlu'r theatr ieuenctid. Cyhoeddwyd 'Mwy na geiriau' newydd. Cyhoeddwyd y cynllun tai cymunedau Cymraeg, sy'n ymwneud â maes polisi tai, datblygu cymunedol, yr economi a chynllunio ieithyddol. Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei lansio, ac fe wnaethon ni fuddsoddi hefyd mewn amrywiol brosiectau cymunedol drwy'r rhaglen Perthyn.
Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn ni'n gwireddu'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ac yn dod â mwy o gyrff o dan safonau'r Gymraeg, gan droi nesaf at gyrff cyhoeddus sydd ddim o dan safonau ar hyn o bryd, a chymdeithasau tai.
Mae'r comisiynydd hefyd wedi cyflawni gwaith gwerthfawr gyda busnesau ac elusennau. Mae 86 o sefydliadau wedi ymuno â'r cynllun Cynnig Cymraeg, a dros 190 o bobl wedi mynychu hyfforddiant neu weithdai a gafodd eu cynnal gan swyddfa'r comisiynydd.
Wrth edrych ymlaen, rŷn ni, wrth gwrs, yn ffeindio'n hunain mewn sefyllfa gyllidol heriol. Mae'r comisiynydd, fel ei chyd-gomisiynwyr a nifer fawr o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod rhannu'r baich hwn. Mae cyllideb pob comisiynydd wedi cael toriad o 5 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2024-25. Dwi wedi trafod goblygiadau hynny gyda'r comisiynydd a dwi'n hyderus na fydd y toriad hwn yn ymyrryd â'i gallu i ymgymryd â'i swyddogaethau craidd, sef rheoleiddio safonau ac amddiffyn hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddaf yn parhau i drafod gyda'r comisiynydd a dwi'n ddiolchgar iawn i Efa Gruffudd Jones am fod mor fodlon i ystyried yn gadarnhaol sut gall hi ymateb i'r her gyllidol hon.
Yn ddiweddar, mae'r comisiynydd wedi dechrau adolygu ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau bod ei gwaith rheoleiddio yn cael yr effaith fwyaf. Dwi'n falch bod Efa'n edrych ar ddatblygu dull mwy rhagweithiol o gyd-reoleiddio yn ystod 2024. Mae hynny'n golygu gweithio'n agosach gyda'r cyrff sy'n dod o dan safonau i adnabod risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg a datblygu dulliau rhagweithiol i liniaru'r risgiau hynny.
Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu at bob corff sy'n dod o dan safonau i nodi'r camau y bydd hi'n eu cymryd yn ystod 2024 i ddatblygu'r dull hwn o reoleiddio a gweithio'n agosach gyda nhw. Dwi'n siŵr y bydd y newid hwn yn sicrhau bod y comisiynydd yn parhau i reoleiddio'n effeithiol, a hefyd yn adeiladu perthynas adeiladol gyda'r cyrff i gynyddu defnydd o'u gwasanaethau Cymraeg.