– Senedd Cymru am ar 30 Ionawr 2024.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Pleser yw agor y ddadl hon heddiw a gofyn i chi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae'r adroddiad yn mynd â ni ar daith trwy amrywiol waith y comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'n nodi uchafbwyntiau o'r hyn a gyflawnwyd mewn meysydd fel sicrhau tegwch a hawliau i siaradwyr Cymraeg, dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat ac elusennau, a'r gwaith mae hi'n ei wneud ar enwau lleoedd.
Mae'n dda gweld enghreifftiau real yn yr adroddiad o wasanaethau Cymraeg sydd wedi gwella diolch i ymyrraeth a chefnogaeth gan y comisiynydd, er enghraifft, gwella gwasanaethau ffôn cynghorau sir, gwella gwefannau cyrff a gwella'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn y sector iechyd. Dwi'n falch bod gwaith y comisiynydd o reoleiddio safonau yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn rhestru gwaith sydd wedi'i wneud i ddylanwadu ar bolisi, ac mae rôl y comisiynydd yn hynny o beth yn bwysig. Dwi'n ddiolchgar iddi am ymateb i ymgynghoriadau ar bolisïau a Biliau newydd i'n hatgoffa ni yn y Llywodraeth o beth allwn ni ei wneud i helpu'r Gymraeg i ffynnu ar draws ein holl waith. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael ein hatgoffa o'r angen i brif-ffrydio ystyriaethau 'Cymraeg 2050' o'r cychwyn wrth ddatblygu polisi. Mae mewnbwn y comisiynydd wrth i ni ddatblygu deddfwriaeth fel Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) wedi arwain at welliannau cadarnhaol er budd y Gymraeg.
Dwi'n falch o'r cynnydd rŷn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn diwethaf o ran y Gymraeg. Fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Bil addysg Gymraeg, sy'n rhan greiddiol o weithredu ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Daeth cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd pob awdurdod lleol yn weithredol. Fe wnaethon ni fuddsoddi ymhellach mewn darpariaeth trochi hwyr er mwyn rhoi cyfle i fwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg. Cyhoeddwyd cynllun y gweithlu Gymraeg mewn addysg. Fe wnaethon ni ariannu prosiect peilot i gefnogi awdurdodau lleol yn y de ddwyrain i hyrwyddo addysg Gymraeg. Rŷn ni hefyd wedi ariannu'r Urdd i ailsefydlu'r theatr ieuenctid. Cyhoeddwyd 'Mwy na geiriau' newydd. Cyhoeddwyd y cynllun tai cymunedau Cymraeg, sy'n ymwneud â maes polisi tai, datblygu cymunedol, yr economi a chynllunio ieithyddol. Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei lansio, ac fe wnaethon ni fuddsoddi hefyd mewn amrywiol brosiectau cymunedol drwy'r rhaglen Perthyn.
Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn ni'n gwireddu'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ac yn dod â mwy o gyrff o dan safonau'r Gymraeg, gan droi nesaf at gyrff cyhoeddus sydd ddim o dan safonau ar hyn o bryd, a chymdeithasau tai.
Mae'r comisiynydd hefyd wedi cyflawni gwaith gwerthfawr gyda busnesau ac elusennau. Mae 86 o sefydliadau wedi ymuno â'r cynllun Cynnig Cymraeg, a dros 190 o bobl wedi mynychu hyfforddiant neu weithdai a gafodd eu cynnal gan swyddfa'r comisiynydd.
Wrth edrych ymlaen, rŷn ni, wrth gwrs, yn ffeindio'n hunain mewn sefyllfa gyllidol heriol. Mae'r comisiynydd, fel ei chyd-gomisiynwyr a nifer fawr o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod rhannu'r baich hwn. Mae cyllideb pob comisiynydd wedi cael toriad o 5 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2024-25. Dwi wedi trafod goblygiadau hynny gyda'r comisiynydd a dwi'n hyderus na fydd y toriad hwn yn ymyrryd â'i gallu i ymgymryd â'i swyddogaethau craidd, sef rheoleiddio safonau ac amddiffyn hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddaf yn parhau i drafod gyda'r comisiynydd a dwi'n ddiolchgar iawn i Efa Gruffudd Jones am fod mor fodlon i ystyried yn gadarnhaol sut gall hi ymateb i'r her gyllidol hon.
Yn ddiweddar, mae'r comisiynydd wedi dechrau adolygu ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau bod ei gwaith rheoleiddio yn cael yr effaith fwyaf. Dwi'n falch bod Efa'n edrych ar ddatblygu dull mwy rhagweithiol o gyd-reoleiddio yn ystod 2024. Mae hynny'n golygu gweithio'n agosach gyda'r cyrff sy'n dod o dan safonau i adnabod risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg a datblygu dulliau rhagweithiol i liniaru'r risgiau hynny.
Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu at bob corff sy'n dod o dan safonau i nodi'r camau y bydd hi'n eu cymryd yn ystod 2024 i ddatblygu'r dull hwn o reoleiddio a gweithio'n agosach gyda nhw. Dwi'n siŵr y bydd y newid hwn yn sicrhau bod y comisiynydd yn parhau i reoleiddio'n effeithiol, a hefyd yn adeiladu perthynas adeiladol gyda'r cyrff i gynyddu defnydd o'u gwasanaethau Cymraeg.
Dwi wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn dy enw di.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg yma i ganolbwyntio ar adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ydyn ni, ond mae'n dda cael ein hatgoffa o'r pethau sydd yn y cytundeb cydweithio, wrth gwrs, ac mae yna gyfeiriadau yn yr adroddiad hwn.
Mi fyddwn ni'n hoffi dechrau drwy dalu teyrnged i'r comisiynydd a'r tîm o staff gweithgar sydd yna. Dwi'n meddwl bod y ffaith bod 837 o ymyraethau—mae hwnna'n sylweddol. Ac o ran yr uchelgais sydd gennym ni o ran 'Cymraeg 2050', cynyddu defnydd, cynyddu hawliau, mae hwn yn eithriadol o bwysig ac yn dangos gwerth y gwaith hwn.
Wrth gwrs, wrth gyflwyno ei hadroddiad, mae hi hefyd yn adlewyrchu ar yr adeg anodd fuodd o golli Aled Roberts a'r cyfnod dros dro fu yn y swyddfa honno, a gwaith cydwybodol iawn Gwenith Price tan i Efa Gruffudd Jones gael ei hapwyntio. Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i swyddfa'r comisiynydd yn y cyd-destun yna, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi gweld ffrwyth gwaith eithriadol o bwysig wrth i'r swyddfa fynd yn ei blaen.
Mae'n rhaid inni, wrth gwrs, adlewyrchu bod yna nifer o bethau amlwg wedi digwydd ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, a dyna pam, wrth edrych ar y gwelliant—. Yn amlwg mi ddaeth y newydd o ran HSBC yn dilyn cyhoeddi'r cyfnod sydd dan sylw, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi bod argymhelliad 4 yn sôn yn benodol o ran yr amcan gwaith fod targedu banciau yn benodol wrth gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhan bwysig o'r hyn mae'r comisiynydd yn sôn amdano fo fel rhywbeth y byddai hi'n hoffi canolbwyntio arno fo wrth edrych ymlaen, felly.
Felly, gobeithio ein bod ni wedi cael pob un blaid yn y Siambr hon i gytuno o ran penderfyniad HSBC ei fod yn warthus ac yn deall pwysigrwydd bod y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. Ac mae'n dangos hefyd pam fod y gwaith o gael safonau mor eithriadol o bwysig, ein bod ni'n gallu gweld cwmnïau sydd wedi ymrwymo mor gynnes a chadarn yn y gorffennol, pa mor gyflym mae gwasanaeth yn gallu diflannu. A'r holl rwtsh glywon ni o ran bod yna ddim defnydd, ac ati, wel, mae'n rhaid i ni fod yn hyrwyddo hefyd a'i gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. A dwi'n ofni, os nad ydyn ni'n edrych o ran ehangu'r rheoliadau ac ati a safonau, byddwn ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn dewis torri gwasanaethau, sydd yn mynd yn gyfan gwbl groes i'r amcan sydd gennym ni o ran nid yn unig cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, ond y defnydd o'r Gymraeg fel iaith o ddydd i ddydd. Oherwydd mae yna fygythiad gwirioneddol fan hyn.
Mae'r comisiynydd, wrth gwrs, yn tynnu sylw at yr hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog hefyd, o ran y Bil addysg Gymraeg, ac mae hi'n sôn yn ei rhagair fod ymateb y comisiynydd, fel rydyn ni wedi clywed mewn sesiynau tystiolaeth, yn mynd i fod yn tanlinellu'r angen i ymestyn addysg Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Felly, dwi'n gwybod bod ganddi hi a'i thim lygaid barcud iawn ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn fan hyn, ac mae'n iawn, felly, ei bod hi'n ein herio ni. Mae yna waith pwysig iawn o fewn yr adroddiad sydd wedi ei wneud hefyd o ran addysg Gymraeg a sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati fel y dylen nhw o ran sicrhau'r tegwch yna o ran darpariaeth addysg Gymraeg. A dwi'n meddwl bod y gwaith pwysig a welon ni yn fwy diweddar na chyfnod yr adroddiad blynyddol hwn efo'r comisiynydd plant wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran dangos yr anghysondeb sydd yna efo dysgwyr efo anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn tanlinellu'r angen i sicrhau y cydraddoldeb yna, lle bynnag eich bod yn byw yng Nghymru, o ran y Gymraeg.
Rydych chi wedi cyfeirio yn eich ymateb, Weinidog, at sefyllfa cyllideb Comisiynydd y Gymraeg a'ch bod chi'n parhau i fod mewn trafodaethau. Oes yna unrhyw risg benodol rydych chi'n ei gweld ar y funud o ran gallu ymateb, oherwydd yn amlwg o ran nifer yr ymyraethau, ac ati, mae hwnna'n rhywbeth lle does dim rheolaeth gan y comisiynydd o ran gallu mynd ag achosion llys ac ati ymlaen? Mae hefyd yn fy nharo i, o edrych ar yr adroddiad, faint o gyrff cyhoeddus mae swyddfa'r comisiynydd yn gorfod edrych i mewn iddyn nhw. Oes yna waith yn cael ei wneud i atgoffa cyrff cyhoeddus o'u dyletswyddau o ran y Gymraeg, fel ein bod ni'n gallu lleihau nifer y cwynion sydd wedyn yn gorfod cael eu hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg? Mae o i weld yn wastraff llwyr o adnoddau lle, go iawn, mae'r rhain yn gyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedyn mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorfod eu hatgoffa nhw o'u dyletswyddau. Felly, pa waith sy'n mynd rhagddo o ran hynny?
Ac o ran canlyniadau'r cyfrifiad yn 2021, pa drafodaethau pellach ydych chi'n eu cael gyda swyddfa'r comisiynydd i fynd i'r afael â rhai o'r pethau sy'n eithriadol o bryderus o ran hynny? Mae'r rôl o ran hyrwyddo, nid dim ond rheoleiddio, yn eithriadol o bwysig, a dwi'n meddwl os medrwn ni rhyddhau peth o adnodd y comisiynydd i fod yn canolbwyntio ar hyrwyddo hefyd, byddai hynny'n dda. Ond mae angen i'n holl gyrff cyhoeddus ni ymrwymo, ac nid jest mewn geiriau, ond gyda gweithredu o ran y Gymraeg.
Dechreuaf fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Efa Gruffudd Jones am gyhoeddi'r adroddiad blynyddol hwn, ei hadroddiad cyntaf ers iddi ymgymryd â'r rôl yn barhaol, a'r cyntaf o lawer, gobeithio.
Rwy'n ffodus, fel chi, Weinidog, i allu defnyddio'r Gymraeg pryd bynnag rwy'n dymuno, naill ai yn rhinwedd fy swydd neu'n gymdeithasol, ond dyw pawb ddim mor ffodus, ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom yn y Siambr hon i barhau i ymdrechu i wneud Cymru'n genedl gwbl ddwyieithog.
Gan droi at gynnwys yr adroddiad, mae'n amlwg bod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cael blwyddyn brysur ac wedi gweithio'n galed i hybu a diogelu ein hiaith i'r carn. Yn fy ymateb i'r ddadl ddiwethaf ym mis Tachwedd 2022, croesawais gyfraniad y comisiynydd i Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith a byddwn yn awyddus i wybod a adeiladwyd ar y berthynas hon ymhellach, a pha arferion da a ddysgwyd o'r cysylltiadau hyn.
Mewn sesiwn dystiolaeth i bwyllgor y Senedd, fe wnaeth y comisiynydd newydd ddatgan bod,
'pobl Cymru eisiau gwneud mwy na delio â sefydliadau cyhoeddus yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg.'
Hoffwn wybod pa lwyddiant a gafwyd wrth wireddu'r uchelgais hon ers iddi ddweud hyn ym mis Hydref 2022.
Rwy'n credu'n gryf y dylem fod yn cofleidio technolegau newydd i hyrwyddo a dysgu'r iaith. Mae'r ap iaith Duolingo—rŷn ni wedi siarad am hwn yn y Siambr o'r blaen—yn astudiaeth achos wych. Er ei bod hi'n siomedig i glywed na fydd yr ap yn diweddaru'r cwrs Cymraeg, roedd hi'n braf gweld cymaint yn ymateb i benderfyniad Duolingo. Yn 2020, Cymraeg oedd y nawfed iaith fwyaf poblogaidd ymysg defnyddwyr yr ap yn y Deyrnas Unedig. Ac mae ffigyrau cyfredol yn dangos bod 658,000 o bobl yn dysgu Cymraeg drwy'r ap, a bod 2 filiwn a mwy wedi defnyddio'r cwrs ers ei lansio. Yn fwy calonogol fyth, mae'r cwrs Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan bobl ym mhedwar ban byd sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg. Enghraifft wych o gyrhaeddiad ein hiaith.
O ran technoleg, roeddwn am nodi mater a godwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â defnyddio'r Gymraeg mewn achosion llys. Gydag achosion llys a thribiwnlysoedd ar-lein yn dod yn fwy cyffredin, roeddwn yn siomedig i glywed mai dim ond wyneb yn wyneb y gallai'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg mewn achos llys wneud hynny, ac nad oes modd gwneud hynny o bell. Pa drafodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd i'r afael â hyn?
O ran ymchwil i'r farchnad a gynhaliwyd gan y comisiynydd, roedd hi'n braf iawn gweld bod 80 y cant o siaradwyr Cymraeg a holwyd yn credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus naill ai'n cynyddu neu wedi aros yr un fath. Roedd 82 y cant o'r farn y gallent ddelio â sefydliadau drwy gyfrwng y Gymraeg os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Mae'r ffigyrau hyn yn galonogol iawn, a hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r cyrff cyhoeddus sy'n weddill, nad ydynt yn cynnig cyfle cyfartal.
Dim ond hyn a hyn y gall Comisiynydd y Gymraeg ei wneud wrth anelu at dargedau 'Cymraeg 2050'. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn gynharach y mis hwn, fe wnes i helpu i lansio 'Adroddiad Effaith CFfI Cymru' yn y Senedd, gan hyrwyddo'r rôl werthfawr y mae'r sefydliad yn ei chwarae yn ein gwlad. Roedd yr adroddiad yn pwysleisio'r ffaith bod 60 y cant o'r aelodaeth yn siarad Cymraeg, a llawer wedi dysgu'r iaith drwy'r sefydliad. Y dyfyniad yn yr adroddiad effaith sy'n crynhoi'n dda glybiau'r ffermwyr ifanc i mi yw,
'Mae'n cynnig cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg mewn sawl gwahanol ffordd, er enghraifft, drama. Efallai na fyddent wedi ystyried cyfranogi mewn gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg oddi allan i’r CFfI. Mae’n hollol wahanol i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol.'
Mae angen i ni ddatblygu llwybrau gwahanol i'r iaith wrth i ni symud ymlaen os ydym am wneud cynnydd tuag at darged 'Cymraeg 2050'. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau fel y ffermwyr ifanc i gefnogi twf y Gymraeg?
Yn olaf, byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Roedd agwedd HSBC wrth gyhoeddi eu bod am roi'r gorau i gynnig gwasanaeth llinell ffôn Gymraeg yn warthus. I mi, roedd yn dangos diffyg parch at eu cwsmeriaid Cymraeg a'r iaith, ac yn niweidio enw da'r cwmni yma yng Nghymru. Mae'r comisiynydd a'i rhagflaenwyr wedi gweithio'n galed i annog y defnydd o'r Gymraeg drwy ddulliau anstatudol. Efallai mai nawr yw'r amser i fanciau gadw at safonau swyddogol y Gymraeg. Byddwn yn croesawu eich barn ar hyn, Weinidog.
Mae diwylliant a'r iaith Gymraeg yn cyd-blethu, felly bydd unrhyw newidiadau i galendr yr ysgol sy’n effeithio’n negyddol ar ddigwyddiadau pwysig, megis y Sioe Fawr neu’r Eisteddfod, hefyd yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Felly, rwy’n annog y Gweinidog i beidio â bwrw ymlaen â’r newidiadau hyn.
Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, ac yn nodi’r gwaith caled y mae pawb wedi’i wneud ynddo. Rydym ar lwybr—y llwybr cywir, gobeithio—ond mae llawer o rwystrau yn parhau os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, lle mae pobl yn rhydd i sgwrsio yn eu dewis iaith mewn cenedl gwbl ddwyieithog. Diolch, Llywydd.
Mae enghreifftiau diweddar yn dangos yn glir pam mae angen i bwerau statudol Comisiynydd y Gymraeg ymestyn i gynnwys y sector breifat, gan ddechrau efo’r banciau. Mae agwedd sarhaus banc HSBC yn dangos yn glir pam na ellir dibynnu ar ewyllys da i barchu hawliau siaradwyr Cymraeg.
Ar ddiwedd y 1970au, mi oeddwn i yn aelod o senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Buom yn ymgyrchu’n frwd i gael cwmnïau mawr—banciau a bragdai—i weithredu yn ddwyieithog. Bryd hynny, roedd banc y Midland yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o arfer da. Banc y Midland ydy HSBC erbyn hyn, wrth gwrs, ond daeth tro ar fyd.
Mae gen i gyfres o e-byst sy’n tanlinellu agwedd negyddol, di-hid ac, yn wir, trahaus, yr HSBC presennol tuag at y Gymraeg.
'Er fy mod yn deall bod y penderfyniad hwn yn anodd, mae'n derfynol',
meddai HSBC wrthyf ar 10 Tachwedd. Wedyn, anwybyddu ymgais pellach gen i i ymresymu â'r banc. Dwi'n dal i ddisgwyl ateb i e-bost 16 Tachwedd. O hyn allan, felly, bydd yn rhaid i gwsmeriaid sydd am ymdrin â busnes yn y Gymraeg aros dros dri diwrnod i wneud hynny. Dros nos, chwalwyd gwasanaeth a oedd yn arwain y ffordd ar un adeg.
Dwi am sôn am ail enghraifft yn ddiweddar o ran pam mae angen ymestyn y safonau, sef ymgyrch Toni Schiavone i gael tocyn parcio Cymraeg gan One Parking Solution. Unwaith eto, mae’r ymateb yn un trahaus a sarhaus. Pam mae'n rhaid i siaradwyr Cymraeg barhau i ymgyrchu a mynnu cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg? Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd.
Mae'r gwelliant sydd gennym ni heddiw yn cynnig cychwyn drwy wneud y banciau yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg statudol. Dwi’n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog ar hyn, ac yn falch iawn fod y Ceidwadwyr yn mynd i gefnogi ein gwelliant ni heddiw. Diolch.
Y Gweinidog nawr i ymateb.
Diolch, Llywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae mwy nag un Aelod wedi gofyn i mi wneud sylw ar y gwelliant, felly jest i ddweud fy mod i’n cytuno ei bod yn agwedd sarhaus ar ran banc HSBC, ac yn cytuno’n llwyr â geiriau Siân Gwenllian ynglŷn â’r tro ar fyd sydd wedi dod ers dyddiau banc y Midland, a oedd yn enghraifft loyw o sut i ymddwyn mewn ffordd sydd yn barchus ac yn gynhwysol o ran yr iaith. Felly, rydw i’n rhannu’r ymdeimlad hwnnw yn sicr. Rwyf wedi ysgrifennu at benaethiaid y banciau i gyd. Felly, fe wnaf i roi’r llythyr hwnnw yn y Llyfrgell fel bod gan bawb fynediad ato fe. Y rheswm byddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant yw, dyw e ddim yn rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Wrth gwrs, rŷm ni wedi cytuno â Phlaid Cymru ar raglen o weithgaredd ynglŷn â’r blaenoriaethu—y pethau rŷm ni’n teimlo ar y cyd yw'r pethau a wnaiff y mwyaf o wahaniaeth i’r mwyaf o bobl. Felly, dyna’r rheswm byddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant.
Mi wnaeth Heledd Fychan ofyn cwestiwn am yr impact o ran y gyllideb ar allu’r comisiynydd i reoleiddio. Ein dealltwriaeth ni, o’n trafodaethau ni gyda’r comisiynydd, yw nad oes disgwyl y bydd hynny yn cael effaith, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. O ran achosion llys a gweithgaredd y tribiwnlysoedd, gan nad oes cronfa wrth gefn o’r un maint gan unrhyw un o’r comisiynwyr ar hyn o bryd, mae trefniant penodol, pwrpasol gennym ni pan fo’r achlysur hwnnw’n codi. Felly, dyw’r trefniant hwnnw ddim yn newid, er gwaethaf y toriad.
Mi wnaeth Heledd Fychan hefyd ofyn beth yw’r bwriad o ran gweithio gyda’r cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod nhw’n deall eu cyfrifoldebau er mwyn lleihau’r galw neu’r angen i gymryd camau rheoleiddiol. A dyna, wrth gwrs, sydd wrth wraidd yr hyn mae'r comisiynydd yn ceisio gwneud wrth greu'r berthynas honno sy'n fwy rhagweithiol, efallai, ac yn berthynas sydd yn dwyn sylw'r cyrff at eu cyfrifoldebau nhw cyn bod y pethau yma'n mynd o chwith, yn hytrach na delio gyda nhw ar ôl i'r problemau codi.
Fe wnaeth Sam Kurtz ofyn amryw o gwestiynau am dechnoleg. Jest i ddweud am Duolingo, rwy'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, gyda'r pwynt mae'n gwneud, ond, ar lawr gwlad, fyddwn i fy hunain yn synnu pe bai 99 y cant o bobl sy'n defnyddio'r ap yn sylwi bod gwahaniaeth wedi bod. Felly, mae eisiau cymryd rhywfaint o gysur o hynny. Dyw e ddim yn grêt, ond dyw'r Gymraeg ddim yn cael ei—. Mae'n cael ei thrin yn wahanol i'r ieithoedd mwyaf, ond dyma ran o gynllun ehangach gan Duolingo. O safbwynt y Gymraeg, un o'r pethau calonogol, roeddwn i'n meddwl, oedd ymateb Duolingo i'r ymgyrch ar ran pobl sy'n medru'r Gymraeg. Doedden nhw ddim wedi gweld unrhyw beth o'r fath o'r blaen, felly, mae hwnna'n dangos rhywbeth i ni, rwy'n credu, am yr angerdd a'r ymdeimlad sydd o blaid dysgu'r Gymraeg. Bydd gennym ni fwy i ddweud o ran technoleg a defnydd o gyfieithu ar y pryd yn Teams maes o law. Mae datblygiadau ar y gweill ynglŷn â hynny fydd yn cael eu croesawu, rwy'n sicr.
Mae gan bawb rôl i'w chwarae, Llywydd, i warchod y Gymraeg ac i weithio tuag at dargedau 'Cymraeg 2050', a dwi'n sicr bod yr adroddiad hwn yn dangos y comisiynydd yn chwarae rhan ganolog iawn yn hynny. Mae Efa, yn ei blwyddyn lawn gyntaf, wedi dweud yn glir beth yw ei blaenoriaethau. Mae pobl yn ganolog i'w gweledigaeth, gan gynnwys sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, a phobl yn cael pob cyfle i ddefnyddio'r iaith wrth ddefnyddio gwasanaethau hanfodol, fel ym maes iechyd. Mae hi'n awyddus i wrando ar beth sydd gan gyrff ac unigolion i'w ddweud am y Gymraeg, ac yn benderfynol o annog sefydliadau ac unigolion i weithio gyda'i gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith.
I ateb pwynt Heledd Fychan, wrth edrych tua'r dyfodol, er yr heriau sy'n dod yn sgil canlyniadau'r cyfrifiad, mae'r naratif o gwmpas y Gymraeg yn sicr wedi newid ac mae yna gefnogaeth, rwy'n credu, yn fwy nag erioed i'r iaith. Roedd y data, wrth gwrs, yn siomedig, ac mae gofyn inni gydio yn yr egni hwnnw a'r awydd sydd o'n cwmpas ni i gydweithio i wneud gwahaniaeth i'r Gymraeg. Felly, gadwech inni barhau i wneud hynny gyda'n gilydd ar ein taith tua'r filiwn ac i ddyblu defnydd dyddiol o'r iaith. A gofynnaf i chi, felly, nodi'r adroddiad blynyddol hwn yn ffurfiol, gan ddisgwyl ymlaen at flwyddyn arall o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac, felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitm yma tan y cyfnod pleidleisio.
Fe fyddwn ni nawr yn trafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac hefyd y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma, o dan 8 a 9, yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.