Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg yma i ganolbwyntio ar adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ydyn ni, ond mae'n dda cael ein hatgoffa o'r pethau sydd yn y cytundeb cydweithio, wrth gwrs, ac mae yna gyfeiriadau yn yr adroddiad hwn.
Mi fyddwn ni'n hoffi dechrau drwy dalu teyrnged i'r comisiynydd a'r tîm o staff gweithgar sydd yna. Dwi'n meddwl bod y ffaith bod 837 o ymyraethau—mae hwnna'n sylweddol. Ac o ran yr uchelgais sydd gennym ni o ran 'Cymraeg 2050', cynyddu defnydd, cynyddu hawliau, mae hwn yn eithriadol o bwysig ac yn dangos gwerth y gwaith hwn.
Wrth gwrs, wrth gyflwyno ei hadroddiad, mae hi hefyd yn adlewyrchu ar yr adeg anodd fuodd o golli Aled Roberts a'r cyfnod dros dro fu yn y swyddfa honno, a gwaith cydwybodol iawn Gwenith Price tan i Efa Gruffudd Jones gael ei hapwyntio. Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i swyddfa'r comisiynydd yn y cyd-destun yna, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi gweld ffrwyth gwaith eithriadol o bwysig wrth i'r swyddfa fynd yn ei blaen.
Mae'n rhaid inni, wrth gwrs, adlewyrchu bod yna nifer o bethau amlwg wedi digwydd ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, a dyna pam, wrth edrych ar y gwelliant—. Yn amlwg mi ddaeth y newydd o ran HSBC yn dilyn cyhoeddi'r cyfnod sydd dan sylw, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi bod argymhelliad 4 yn sôn yn benodol o ran yr amcan gwaith fod targedu banciau yn benodol wrth gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhan bwysig o'r hyn mae'r comisiynydd yn sôn amdano fo fel rhywbeth y byddai hi'n hoffi canolbwyntio arno fo wrth edrych ymlaen, felly.
Felly, gobeithio ein bod ni wedi cael pob un blaid yn y Siambr hon i gytuno o ran penderfyniad HSBC ei fod yn warthus ac yn deall pwysigrwydd bod y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. Ac mae'n dangos hefyd pam fod y gwaith o gael safonau mor eithriadol o bwysig, ein bod ni'n gallu gweld cwmnïau sydd wedi ymrwymo mor gynnes a chadarn yn y gorffennol, pa mor gyflym mae gwasanaeth yn gallu diflannu. A'r holl rwtsh glywon ni o ran bod yna ddim defnydd, ac ati, wel, mae'n rhaid i ni fod yn hyrwyddo hefyd a'i gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. A dwi'n ofni, os nad ydyn ni'n edrych o ran ehangu'r rheoliadau ac ati a safonau, byddwn ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn dewis torri gwasanaethau, sydd yn mynd yn gyfan gwbl groes i'r amcan sydd gennym ni o ran nid yn unig cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, ond y defnydd o'r Gymraeg fel iaith o ddydd i ddydd. Oherwydd mae yna fygythiad gwirioneddol fan hyn.
Mae'r comisiynydd, wrth gwrs, yn tynnu sylw at yr hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog hefyd, o ran y Bil addysg Gymraeg, ac mae hi'n sôn yn ei rhagair fod ymateb y comisiynydd, fel rydyn ni wedi clywed mewn sesiynau tystiolaeth, yn mynd i fod yn tanlinellu'r angen i ymestyn addysg Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Felly, dwi'n gwybod bod ganddi hi a'i thim lygaid barcud iawn ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn fan hyn, ac mae'n iawn, felly, ei bod hi'n ein herio ni. Mae yna waith pwysig iawn o fewn yr adroddiad sydd wedi ei wneud hefyd o ran addysg Gymraeg a sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati fel y dylen nhw o ran sicrhau'r tegwch yna o ran darpariaeth addysg Gymraeg. A dwi'n meddwl bod y gwaith pwysig a welon ni yn fwy diweddar na chyfnod yr adroddiad blynyddol hwn efo'r comisiynydd plant wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran dangos yr anghysondeb sydd yna efo dysgwyr efo anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn tanlinellu'r angen i sicrhau y cydraddoldeb yna, lle bynnag eich bod yn byw yng Nghymru, o ran y Gymraeg.
Rydych chi wedi cyfeirio yn eich ymateb, Weinidog, at sefyllfa cyllideb Comisiynydd y Gymraeg a'ch bod chi'n parhau i fod mewn trafodaethau. Oes yna unrhyw risg benodol rydych chi'n ei gweld ar y funud o ran gallu ymateb, oherwydd yn amlwg o ran nifer yr ymyraethau, ac ati, mae hwnna'n rhywbeth lle does dim rheolaeth gan y comisiynydd o ran gallu mynd ag achosion llys ac ati ymlaen? Mae hefyd yn fy nharo i, o edrych ar yr adroddiad, faint o gyrff cyhoeddus mae swyddfa'r comisiynydd yn gorfod edrych i mewn iddyn nhw. Oes yna waith yn cael ei wneud i atgoffa cyrff cyhoeddus o'u dyletswyddau o ran y Gymraeg, fel ein bod ni'n gallu lleihau nifer y cwynion sydd wedyn yn gorfod cael eu hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg? Mae o i weld yn wastraff llwyr o adnoddau lle, go iawn, mae'r rhain yn gyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedyn mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorfod eu hatgoffa nhw o'u dyletswyddau. Felly, pa waith sy'n mynd rhagddo o ran hynny?
Ac o ran canlyniadau'r cyfrifiad yn 2021, pa drafodaethau pellach ydych chi'n eu cael gyda swyddfa'r comisiynydd i fynd i'r afael â rhai o'r pethau sy'n eithriadol o bryderus o ran hynny? Mae'r rôl o ran hyrwyddo, nid dim ond rheoleiddio, yn eithriadol o bwysig, a dwi'n meddwl os medrwn ni rhyddhau peth o adnodd y comisiynydd i fod yn canolbwyntio ar hyrwyddo hefyd, byddai hynny'n dda. Ond mae angen i'n holl gyrff cyhoeddus ni ymrwymo, ac nid jest mewn geiriau, ond gyda gweithredu o ran y Gymraeg.