Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 30 Ionawr 2024.
Wel, byddwn yn sicr yn cytuno â'r pwynt olaf yna, a gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Hynny yw, mae'r dadansoddiad y gwnaethoch gyfeirio ato—a chefais sgwrs gydag NFU Cymru yn ei gylch—fel y dywedais i, yn hen ddata, a bydd dadansoddiad economaidd pellach cyn dyluniad terfynol y cynllun ffermio cynaliadwy yr haf nesaf.
Ond i fynd yn ôl at BlasCymru, rwy'n croesawu eich sylwadau cadarnhaol iawn yn ei gylch. Fel y dywedwch chi, mae'n ddigwyddiad bob dwy flynedd; dyma'r pedwerydd BlasCymru, ac mae pob un yn mynd yn well ac yn well. Ac yn sicr, y data rydyn ni wedi'i dderbyn, y soniais amdano yn fy natganiad llafar, sef bod £38 miliwn o fusnes newydd—. Roeddwn i mewn becws, mewn gwirionedd, yn etholaeth Ken Skates ychydig wythnosau yn ôl ac roedden nhw'n siarad am y sgyrsiau roedden nhw wedi'u cael, ac roedden nhw'n parhau â'r rhain. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn yn sôn amdano, y froceriaeth: mae llawer iawn o feddwl yn cael ei roi i'r froceriaeth honno, a'r bobl y mae ein cynhyrchwyr bwyd yn cwrdd â nhw yn ystod BlasCymru. Felly, rwy'n credu mai 28 o brynwyr yr oedd y cwmni penodol hwn wedi cwrdd â nhw dros y ddau ddiwrnod. Nawr, os ydych chi'n meddwl sut y byddech chi'n cyrraedd 28 prynwr—byddai hynny'n golygu llawer iawn o waith i fusnes bach iawn i allu mynd allan, cwrdd â'r prynwyr hynny, cael y sgyrsiau hynny. Felly, i mi, y froceriaeth y soniais amdani—mae'n gwbl ganolog i BlasCymru—ond rwyf wedi'i gweld yn tyfu ac yn tyfu dros y pedwar digwyddiad.
Mae'n rhaid i chi geisio cadw pethau'n ffres, wrth gwrs, a gwneud pethau gwahanol. Felly, eleni, symudon ni o'r arddangosfeydd unigol lluosog, er enghraifft, yr oeddem wedi'u cael o'r blaen, ac roedd gennym dri pharth thematig integredig, a chawsom deithiau tywys o'r froceriaeth hefyd, ac roedd yr holl gynnyrch yn cael ei arddangos, gan gynnwys y cynhyrchion newydd, yr oedd dros 200 ohonynt. Cawsom hefyd raglen seminarau helaeth iawn, oherwydd, unwaith eto, i fusnesau ddod draw i BlasCymru, maen nhw'n rhoi o'u hamser, yn enwedig os ydyn nhw'n gwmnïau bychain, a dyna yw llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod. Cafodd y datblygiadau arloesol newydd hyn dderbyniad da iawn, ac mae'n dda gallu adeiladu ar y rheini.
Roeddech chi'n cyfeirio at allforion, ac rwy'n credu ein bod ni'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran allforion, ond os edrychwch chi ar y gwledydd y mae ein hallforion yn tueddu i fynd iddynt o safbwynt bwyd a diod, Ffrainc bellach yw'r gyrchfan gwerth uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, sef £150 miliwn. Ymhlith y prif gyrchfannau eraill mae Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r Almaen, felly mae tipyn o thema yna—dyma ein cymdogion agosaf, wrth gwrs, sy'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Rydych chi'n llygad eich lle ynglŷn â chig a chynhyrchion sy'n gysylltiedig â chig: mae hynny'n cyfrif am 33 y cant o werth allforio bwyd a diod. Ac yna grawnfwydydd a chynhyrchion sy'n gysylltiedig â grawnfwydydd gyda chyfran o 20 y cant o'r holl allforion bwyd a diod. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: dim ffermwyr, dim bwyd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi ein ffermwyr, ac fel y dywedais wrthych yr wythnos diwethaf yn fy nghwestiynau llafar, nid oedd y dadansoddiad, neu'r arolwg a gyflwynwyd gan NFU Cymru yn fy synnu o gwbl. Rwy'n deall yn llwyr fod pobl Cymru yn derbyn bod yn rhaid i ni barhau i gefnogi ein ffermwyr.