Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ar BlasCymru/TasteWales 2023. Lansiodd Llywodraeth Cymru y digwyddiad yn ôl yn 2017 ac mae wedi cael ei gynnal bob dwy flynedd ers hynny, hyd yn oed yn ystod pandemig COVID-19. Roedd thema'r digwyddiad yn adlewyrchu'r heriau y mae'r diwydiant yn parhau i'w hwynebu, ond hefyd ei gryfderau mwyaf: 'Pwerus gyda'n gilydd: O her i lwyddiant. Rôl gwydnwch, arloesedd ac optimistiaeth.'
Rwy'n ddiolchgar i'r siaradwyr gwadd a ymunodd â ni. Cyflwynodd Shelagh Hancock, prif swyddog gweithredol First Milk, yr heriau i fusnesau amaethyddol a bwyd ac amlinellodd agwedd ei sefydliad ei hun tuag at gynaliadwyedd. Rhannodd Chris Hayward o'r Sefydliad Dosbarthu Bwydydd hefyd ystod eang o fewnwelediadau manwerthu a defnyddwyr diddorol ar gyfer 2024.
Wrth wraidd BlasCymru mae broceriaeth rhwng busnesau bwyd Cymru a phrynwyr domestig a rhyngwladol mawr. Credwn y gall y Llywodraeth chwarae rhan weithredol wrth gefnogi busnesau bwyd yng Nghymru i ddatblygu eu cymwysterau o ran cynaliadwyedd mewn ffyrdd sy'n helpu i'w gwneud yn fusnesau deniadol i brynwyr mawr yn y DU a thramor. Mae hyn nid yn unig yn helpu economi Cymru, ond wrth hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy a chyfrifol, rydym yn hyrwyddo llesiant ehangach Cymru ar yr un pryd.
Yn BlasCymru, rydym yn gallu denu'r prynwyr rhyngwladol a domestig â blaenoriaeth hynny i deithio o bob rhan o'r DU a'r byd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd oherwydd yr enw da am ragoriaeth a geir ymhlith busnesau bwyd Cymru sy'n arddangos yno. Dros y ddau ddiwrnod, croesawodd Cymru 276 o brynwyr masnach, gan gynnwys 30 o brynwyr rhyngwladol o 11 gwlad. Cymerodd cyfanswm o 122 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran yn y digwyddiad, ynghyd â 15 seren newydd—busnesau newydd yng Nghymru sydd wedi datblygu eu busnesau yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae'r froceriaeth wedi'i threfnu'n ofalus, gyda chynllunio ar gyfer y cyfarfodydd hynny'n digwydd am fisoedd lawer cyn y digwyddiad ei hun. Yn y digwyddiad, cynhaliwyd 2,100 o gyfarfodydd dwyochrog rhwng busnesau bwyd a phrynwyr mawr. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, cynhyrchodd y cyfarfodydd broceriaeth werthiannau a gadarnhawyd a rhai posibl gwerth dros £38 miliwn. Dyma'r cyfanswm uchaf ar gyfer digwyddiad BlasCymru a bydd yn cynyddu dros amser wrth i sgyrsiau barhau i ddwyn ffrwyth.
O ystyried y cyd-destun economaidd llwm yr ydym yn ei wynebu, mae hon yn bleidlais eithriadol o hyder yn y sector bwyd yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae sector bwyd a diod Cymru wedi cynhyrchu canran fwy mewn twf allforio na rhanbarthau tebyg o'r DU. Mae llwyddiant y sector o fewn marchnadoedd domestig hefyd yn hynod gadarnhaol. Canfu archwiliad diweddar gan fanwerthwyr fod nifer yr unedau cadw stoc ar draws 23 o siopau yng Nghymru wedi cynyddu o 1,250 i 1,966—cynnydd o 57 y cant ers 2019. Roedd y digwyddiad yn cynnwys parthau arddangos i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill. Rhoddwyd cyfle hefyd i fusnesau bwyd Cymru arddangos cynhyrchion newydd, ac roedd 203 o gynhyrchion newydd i'w gweld yn y digwyddiad, gan ddangos arloesedd ac ansawdd o'r radd flaenaf.
Ers blynyddoedd lawer mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau statws bwyd gwarchodedig ar gyfer cynnyrch. Mae statws gwarchodedig yn cydnabod ac yn gwarantu nodweddion a dilysrwydd unigryw cynnyrch. Roedd 14 o amrediadau cynnyrch wedi'u diogelu gan y cynllun dynodiad daearyddol a arddangoswyd yn y digwyddiad—yr holl gynhwysion rhywiog o fynyddoedd, corsydd a phorfeydd Cymru. Mae'r cynhyrchion anhygoel hyn yn dibynnu ar amgylchedd naturiol iach, ac wrth ddiogelu'r cynhyrchion bwyd hyn rydym yn helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'n cymunedau hefyd, gan adlewyrchu'r pwysigrwydd a roddwn ar dirwedd a diwylliant ar gyfer ein llesiant. Mae enghreifftiau'n cynnwys cig oen Cymru dynodiad daearyddol gwarchodedig—PGI—a chig eidion Cymru PGI, yn ogystal â brandiau rhanbarthol fel cig oen morfa heli Gŵyr a chig oen mynyddoedd Cambria. Roedd rhifyn arbennig o'r cylchgrawn National Geographic yn canolbwyntio ar y bwydydd gwarchodedig hyn, yn union oherwydd yr ymdeimlad o le y mae ein cynhyrchion bwyd gwarchodedig yn eu cyfleu. Cefais fy nghalonogi gan lefel y sylw yn y cyfryngau, gyda 24 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhanbarthol yn bresennol, a sylw sylweddol ar draws pob sianel, i gyd yn helpu i ledaenu'r gair am gynnyrch cynaliadwy o Gymru.
BlasCymru yw canolbwynt ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Y nod y mae'r weledigaeth hon yn seiliedig arno yw
'creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, gydag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.'
Rydym yn gweld bod gwaith teg, cynaliadwyedd amgylcheddol a llwyddiant economaidd i'r sector yn gysylltiedig yn eu hanfod. Mae llwyddiant BlasCymru yn dangos hyn yn gweithio'n ymarferol. Mae'r digwyddiad yn ein helpu i annog mwy o fusnesau bwyd i gymryd rhan yn y rhaglenni cymorth pwrpasol hynny i'w helpu i wella canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol, hyrwyddo sgiliau a chyflogadwyedd, ac i ddatblygu eu hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn gyflawni hyn yn cael ei hadlewyrchu yn thema'r digwyddiad, sef 'pwerus gyda'n gilydd', a hynny drwy ein rhwydweithiau clwstwr. Mae'r rhwydwaith yn dod â chyflenwyr, y byd academaidd a'r Llywodraeth at ei gilydd o ran diddordebau cyffredin. Mae ein clwstwr cynaliadwyedd bwyd a diod, er enghraifft, yn cynnwys 100 o aelodau busnes a 30 o sefydliadau cymorth. Trwy ddarparu cymorth un i un i fusnesau sy'n ceisio achrediad B Corp, rydym yn cefnogi cyflwyno'r manteision cymdeithasol i gymunedau Cymru, ac, wrth wneud hynny, yn helpu'r busnesau eu hunain i sicrhau cyfleoedd newydd yn y farchnad.
Yn y digwyddiad, gwnaethom gyflwyno cyfres o offer a rhwydweithiau digidol newydd i helpu busnesau i gynyddu eu cynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys ein rhaglen hyfforddi cynaliadwyedd a datgarboneiddio newydd a phecyn cymorth cynaliadwyedd bwyd a diod ar-lein i fusnesau. Roedd hefyd yn cynnwys ein e-ganolfan newid hinsawdd, sy'n defnyddio data yr ydym wedi'i ddwyn ynghyd o'n rhaglenni cymorth i alluogi busnesau i feincnodi eu hunain o'u cymharu â'r rhai sydd wedi bod ar flaen y gad wrth wneud i gynaliadwyedd weithio o fewn eu cadwyni cyflenwi. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ennyn diddordeb busnesau yn y cymorth sydd ar gael drwy Brosiect Helix, ein cynllun arloesi bwyd blaenllaw, sy'n darparu cymorth wedi'i deilwra i fusnesau ar draws pob maes o'u proses gynhyrchu a'u cadwyn gyflenwi. Ers ei sefydlu yn 2016, mae Prosiect Helix wedi cynorthwyo 703 o fentrau, gan gynnal 3,600 o swyddi, a chreu 683 o swyddi newydd. Asesir bod yr effaith ariannol gyffredinol ar y diwydiant bwyd a diod oddeutu £355 miliwn.
Mae llwyddiant digwyddiad diweddaraf BlasCymru yn glod enfawr i gyflawniadau trawiadol sector bwyd Cymru. Mae hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi i'r Llywodraeth gael strategaeth ddiwydiannol, er budd nid yn unig busnesau ond y gymuned ehangach hefyd. Mae ein buddsoddiad yn BlasCymru/TasteWales a'r holl raglenni cymorth a gynigiwn yn cael ei ad-dalu sawl gwaith drosodd. Yr un mor bwysig, yw'r ffaith fod y Llywodraeth wedi camu i'r adwy i gymryd rôl weithredol yn golygu ein bod mewn sefyllfa i hyrwyddo manteision ehangach i bobl Cymru hefyd.
Credwn fod digwyddiadau BlasCymru yn enghraifft fyw o sut mae'n bosibl, trwy gydweithio ag eraill, i'r Llywodraeth hyrwyddo twf economaidd a llesiant ehangach drwy ddilyn ein gwerthoedd craidd o gynaliadwyedd a gwaith teg. Nid yw'r gwerthoedd hyn yn groes i'r llwyddiant hwnnw—nhw yw'r sail iddo. Diolch.