5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Llafur 5:02, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Mae hwnna'n gyfraniad pwysig ynddo'i hun, oherwydd rydych chi'n sôn am yr effaith y gall diwylliant ei chael arnom ni o ran y profiad hwnnw a gawsoch gyda 'Stumbling Stones', y cyfraniadau a wnaed yn y cyngerdd hwnnw, ond hefyd i gysylltu hynny â chyfraniadau y ceisiwr noddfa o Malawi, ac yn wir profiad y Palestiniad a oedd yno. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd yn draws-ddiwylliannol a dysgu.

Llwyddais ar y penwythnos i wylio'r ffilm—ac roeddwn i'n mynd i sôn am hyn mewn ymateb i Darren MillarOne Life, am waith anhygoel Syr Nicholas Winton, ac os oes unrhyw un sydd heb lwyddo i weld y ffilm honno o ran y Kindertransport o Prag yn y dyddiau olaf hynny cyn i'r rhyfel ddechrau—. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod diwylliant yn hanfodol i hyn hefyd.