Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 30 Ionawr 2024.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei nodi yn y Senedd fel hyn gyda datganiad gan y Gweinidog bob blwyddyn, yn yr un modd ag yr ydym, yn flynyddol, yn nodi'r digwyddiad yn y Senedd, fel oedd yn digwydd yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, ni lwyddais i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw, wrth gwrs, ond credaf fod Eva Clarke wedi siarad yn glir iawn am effaith yr Holocost, nid dim ond arni hi a'i theulu agos, ond wrth gwrs ar y bobl Iddewig a phawb arall a ddioddefodd dan ddwylo'r gyfundrefn Natsïaidd ofnadwy yn y 1930au a'r 1940au.
Mae'n bwysig ein bod yn dathlu'r pethau hyn yn lleol hefyd, ac rwy'n falch bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal ledled Cymru yn cofio'r Holocost, gan gynnwys un a es iddo dros y penwythnos yn Llandudno, lle mae Cyfeillion Cristnogol Israel yn y gogledd yn dod ynghyd â'r gymuned Iddewig leol er mwyn cynnal digwyddiad blynyddol lle mae pobl ifanc, hen bobl, goroeswyr yr Holocost bob amser yn cymryd rhan.
Cefais fy nharo'n arbennig eleni gan effaith y rhaglen Gwersi o Auschwitz ar y bobl ifanc a siaradodd am eu hymweliad ag Auschwitz yn y digwyddiad penodol hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'r rhaglen honno, er mwyn sicrhau y gall llawer mwy o bobl ifanc gael y cyfle i ddod yn llysgenhadon ar gyfer y rhai sydd wedi profi erchyllterau'r Holocost, yn enwedig yn Auschwitz.
Yn ogystal â hynny, roedd llyfr y soniwyd amdano yn y digwyddiad dros y penwythnos gan un o fy etholwyr, Andrew Hesketh, sydd wedi ysgrifennu'r llyfr, Escape to Gwrych Castle. Mae'n ymwneud â'r 300 o ffoaduriaid Iddewig a ddaeth draw fel rhan o'r rhaglen Kindertransport, ac roedden nhw yn y castell—y ganolfan unigol fwyaf yn y DU ar y pryd ar gyfer ffoaduriaid a'r rhai a oedd yn cyrraedd gyda'r Kindertransport. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Roeddwn i'n gwybod bod rhai Iddewon wedi bod yn llochesu yn y castell yn ystod y rhyfel, ond doedd gen i ddim syniad mai hon oedd y ganolfan unigol fwyaf. Byddwn yn cymeradwyo'r llyfr hwnnw i unrhyw un sydd â diddordeb yn nigwyddiadau'r rhyfel, yr Holocost, ac yn wir yn ymateb hael y cyhoedd yng Nghymru i'r unigolion hynny mewn angen.
Yn olaf, Gweinidog, os caf i, hoffwn ddiolch i'r prifysgolion hynny yng Nghymru sydd wedi gwneud gwaith i geisio hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth ac sydd wedi ei fabwysiadu—Bangor nawr a Chaerdydd. Mae mwy o waith i'w wneud o hyd ymhlith ein sefydliadau addysg uwch, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech barhau i weithio gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog addysg y Cabinet i fynd i'r afael â'r diffygion hynny mewn rhai rhannau o'n sefydliadau addysg ledled Cymru. Diolch.