Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch, Jack Sargeant. Rwyf wedi cydnabod y digwyddiad pwysig hwnnw a gynhaliwyd yn Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yw, nid yn unig o ran eich cyfraniad a'r siaradwyr gwadd a oedd yn bresennol, ond y cofio: roedd yn wasanaeth cofio nad oedd yn digwydd unwaith yn unig. Yn sicr, hoffwn ddod i ymweld â Father's House a chwrdd â'r gynulleidfa, oherwydd gallaf weld bod hyn yn cael ei drwytho ym mhopeth a wnânt, nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig.