– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 30 Ionawr 2024.
Fe symudwn ymlaen nawr i ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dydd Sadwrn oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yma yn y Senedd fe wnaethom nodi'r diwrnod hwnnw trwy oleuo ein hadeilad â lliw porffor. Yn y tywyllwch, roedd y golau hwn yn ein hatgoffa o'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Am 8.00pm ar yr un diwrnod, ymunodd pobl ledled y DU â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' trwy danio canhwyllau a'u gosod yn eu ffenestri. Cafodd adeiladau a thirnodau eraill ar draws y DU eu goleuo'n borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o undod. Bu nifer o leoedd ar draws Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys y llwyfan band a Chanolfan Alun R. Edwards yn Aberystwyth, a Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin.
Gyda'r Prif Weinidog, aeth llawer ohonom i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru ddydd Gwener, 26 Ionawr, yn y Deml Heddwch, a roddodd gyfle i fyfyrio ar ran o hanes na ddylem ni a chenedlaethau'r dyfodol fyth ei hanghofio. Roedd hi'n seremoni deimladwy iawn, gydag anerchiadau gan John Hajdu MBE, goroeswr yr Holocost o Hwngari, ac Isam Agieb, oedd wedi ffoi o'r hil-laddiad yn Darfur. Cymerodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Anabledd Cymru, Stonewall Cymru, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gyd ran yn y gwasanaeth, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r gwahanol gymunedau o bobl a dargedwyd yn ystod yr Holocost. Roedd y gwrthdaro presennol yn y dwyrain canol a'r Wcráin, y miloedd o fywydau a gollwyd yn y gwrthdaro hynny a'r dioddefaint sy'n dal i gael ei ddioddef, yn bennaf ym meddyliau'r rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni. Rwy'n gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru i ddangos undod â phawb sy'n parhau i ddioddef erledigaeth a thrais.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint, a gynhaliodd eu gwasanaeth coffa blynyddol ar gyfer yr Holocost ar y thema, 'dim dihangfa'. Cyflwynwyd y gwasanaeth cofio gan Pastor Michael Fryer, ynghyd â'r siaradwyr gwadd Mark Tami AS, Carolyn Thomas AS, Jack Sargeant AS, a disgybl o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry.
Gwnaeth Sefydliad Celf Josef Herman goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ar 27 Ionawr dangoswyd ffilm arbennig, The Silent Village, ffilm bropaganda fer Brydeinig o 1943. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am gyflafan pentref Tsiecaidd Lidice, a ailadroddir fel pe bai wedi digwydd yng Nghymru.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2024 yw 'breuder rhyddid'. Yn eu cyflwyniad i'r thema eleni, amlygodd Ymddiriedolaeth Cofio'r Holocost nad oes modd cymryd rhyddid yn ganiataol ac ni ddylem laesu dwylo—rhaid i ni frwydro i sicrhau nad yw byth yn cael ei golli. Pwysleisiwyd bod erydiad rhyddid yn broses gynnil, araf yn aml ac mae'r effaith yn bellgyrhaeddol:
'Nid yn unig y mae cyfundrefnau cyflawnwyr yn erydu rhyddid y bobl y maent yn eu targedu, gan ddangos pa mor fregus yw rhyddid, maent hefyd yn cyfyngu ar ryddid eraill o'u cwmpas, er mwyn atal pobl rhag herio'r gyfundrefn. Er gwaethaf hyn, ym mhob hil-laddiad mae yna rai sy'n peryglu eu rhyddid eu hunain i helpu eraill, i ddiogelu rhyddid pobl eraill neu i sefyll yn erbyn y gyfundrefn.'
Tanlinellodd y thema eleni y ffyrdd niferus y mae rhyddid yn cael ei gyfyngu a'i erydu. Roedd yn taflu goleuni ar yr unigolion a fentrodd eu rhyddid i achub eraill a phwysleisiodd nad yw rhyddid o reidrwydd yn golygu bod yn hollol rydd. Mae pobl gyffredin yn gorfod symud i wlad newydd; maent yn aml yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ac mae angen iddynt ailadeiladu eu bywyd. Hyn oll wrth iddynt geisio goresgyn y trawma sy'n deillio o'u herledigaeth ar yr un pryd.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru sydd, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i redeg y prosiect Gwersi o Auschwitz. Mae hwn yn gwrs pedair rhan unigryw, sy'n cynnwys dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl, a phrosiect camau nesaf lle mae myfyrwyr yn trosglwyddo'r gwersi y maent wedi'u dysgu. Yn llawer mwy na gwibdaith yn unig, mae'n daith bwerus o ddysgu ac archwilio hanes yr Holocost a'r byd rydym yn byw ynddo. Yn 2023 cymerodd 110 o fyfyrwyr o 55 o ysgolion Cymru ran yn y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys chwe ysgol a gymerodd ran yn y rhaglen am y tro cyntaf. Mae disgwyl i'r cwrs Gwersi o Auschwitz, nesaf i Gymru gael ei gynnal eleni, ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth.
Mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf cyfarfûm â chynghorydd annibynnol Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, yr Arglwydd Mann, i drafod ei adroddiad 'Tackling Antisemitism in the UK 2023' a sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn cefnogi gweithredu'r argymhellion yng Nghymru. Croesawodd yr Arglwydd Mann y Cwricwlwm i Gymru a'i bwyslais ar helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan ei gydnabod fel llwyfan i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr cyhoeddais lythyr ar y cyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i bob pennaeth yng Nghymru i ddarparu arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia yn effeithiol, gan gynnwys ffyrdd o gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Er ei bod yn bwysig myfyrio ar y gorffennol, mae'r un mor hanfodol ystyried yr hyn y gallwn ei wneud nawr ac yn y dyfodol i sicrhau bod Cymru yn genedl dosturiol a chyfrifol yn fyd-eang ac yn parhau felly. Mewn byd sy'n gynyddol ansefydlog, mae angen cefnogi unigolion i sicrhau eu bod yn cyflawni integreiddio ac yn cael eu derbyn, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Yn wyneb yr heriau hyn, rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r grymoedd cudd ac amlwg sy'n ysgogi erledigaeth lleiafrifoedd ar bob lefel yn ein cymdeithas, boed hynny'n sefydliadol, cymdeithasol neu'n ddiwylliannol.
Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2023 oedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd, gan ganolbwyntio ar wrthsemitiaeth, a roddodd gyfle i godi'r mater hwn i ystod o gynulleidfaoedd trwy lawer o ddigwyddiadau cydweithredol a gynhaliwyd ledled Cymru. Siaradodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol mewn digwyddiad cenedlaethol, a drefnwyd gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, i nodi'r wythnos. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r ganolfan, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gymunedau Iddewig a chrefyddau eraill yng Nghymru, ac am weithio'n agos gyda'r heddlu fel rhan o'r gwaith hwn.
Mae'r fforwm cymunedau ffydd, a sefydlwyd yn sgil 9/11, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf i a'r Prif Weinidog. Trwy'r fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr ffydd ar faterion sy'n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan y fforwm hwn swyddogaeth hanfodol hefyd wrth hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Mae'r perthnasoedd cryf hyn mor bwysig nawr fel ffordd i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu byd mwy diogel yn y dyfodol.
Felly, rwyf am gau'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith hanfodol. Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn gyda'r bwriad o ddarnio ein cymunedau. Heddiw ac wrth symud ymlaen mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod Cymru'n parhau i wrthsefyll pob math o gasineb, er mwyn helpu i greu cenedl fwy diogel a chyfartal lle mae gwahaniaeth yn cael ei dderbyn a'i groesawu. Diolch.
Rwy'n galw ar Mark Isherwood.
Diolch. Wel, cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost, fel y clywsom, ar 27 Ionawr bob blwyddyn—pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll difa mwyaf y Natsïaid, ar 27 Ionawr 1945; gan gofio'r miliynau o bobl a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost dan erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur; ac addysgu cenedlaethau o bobl ifanc am yr hanes ofnadwy hwn a'r angen i sefyll yn erbyn gweithredoedd o ragfarn a chasineb heddiw. Yn ogystal â'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost, roedd awdurdodau Natsïaidd hefyd yn targedu ac yn lladd grwpiau eraill, gan gynnwys plant oherwydd eu hisraddoldeb hiliol a biolegol, Roma a Sipsiwn Sinti, Almaenwyr anabl, pobl LHDT, a rhai o'r bobl Slafaidd, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Erlidiwyd grwpiau eraill ar sail wleidyddol, ideolegol ac ymddygiadol. Felly—ac rwy'n siŵr y bydd hi—a wnaiff y Gweinidog gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol a bod y rhai sy'n methu â dysgu o'r gorffennol yn cael eu tynghedu i ailadrodd ei gamgymeriadau a'i erchyllterau?
Yn wreiddiol, gwasanaethodd Auschwitz fel canolfan gadw ar gyfer carcharorion gwleidyddol. Fodd bynnag, datblygodd i fod yn rhwydwaith o wersylloedd, lle cafodd Iddewon a gelynion canfyddedig eraill y wladwriaeth Natsïaidd eu difa, yn aml mewn siambrau nwy neu gael eu defnyddio fel caethlafur. Es i i ymweld ag amgueddfa'r Holocost a oedd yn cynhyrfu rhywun fel y dylai, pan oeddwn yn Israel, a mis Medi diwethaf fe wnes i ymweld ag Auschwitz-Birkenau, a oedd yn brofiad emosiynol iawn, y mwyaf o'r gwersyll-garcharau a gwersylloedd difa'r Natsïaid. Y barics gwag, ffensys weiren bigog, yr arddangosion difrifol, y simneiau a oedd yn dweud y cyfan—gadawodd yr holl olion hyn argraff gref. Ond yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd ehangder enfawr y gofeb wasgarog i wersyll difa enwocaf hanes. Fe wnes i hefyd ymweld â ffatri Oskar Schindler yn Krakow a oedd yn brofiad atgofus. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr Holocost, gan gynnwys yr erchyllterau a ddigwyddodd yn Auschwitz-Birkenau a gwersylloedd difa eraill yn rhan annatod o addysg, yn ein hysgolion a ffynonellau gwybodaeth ehangach ar gyfer pob cenhedlaeth?
Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi hefyd rannu hyn gyda ni yn eich datganiad ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost y llynedd. Pa ddiweddariad allwch chi ei roi ynghylch eu gweithgareddau ers hynny?
Cafodd nifer o fy mhlant fy hun a fynychodd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn sir y Fflint fudd o ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'r ysgol. Roedd yn digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny oedd yn cydnabod pa mor bwysig oedd hi i hyn gael sylw, ond mae llawer o rai eraill nad ydynt yn gwneud hynny. Sut allwn ni sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori ar sail prif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad o ran materion fel hyn, ond y rhai sydd efallai angen eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd? Sut bydd hyn hefyd yn ymgorffori'r adnodd newydd ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru am yr Holocost Romani, neu'r porajmos, a lansiwyd gan Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani gyda chyllid gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau'r DU? A sut y bydd hyn yn sicrhau ymwybyddiaeth y cyhoedd o bron i 0.25 miliwn o blant ac oedolion anabl a lofruddiwyd o dan y gyfundrefn Natsïaidd hefyd?
Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru gynnydd mewn troseddau casineb crefyddol yn yr wythnosau yn dilyn cychwyn y gwrthdaro rhwng Hamas ag Israel y llynedd. Mae nifer y troseddau casineb gwrthsemitig a gofnodwyd gan nifer o heddluoedd Cymru hefyd wedi gweld cynnydd tebyg. A yw'r Gweinidog yn cytuno, ac rwy'n siŵr y bydd hi, fod hyn yn ysgytwad difrifol? Felly, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthsefyll y cynnydd hwn mewn troseddau casineb crefyddol a hiliol?
Fe es i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, a drefnwyd gan Gymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam, a'r thema a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oedd 'pobl gyffredin'. Fel y dywedoch chi, y thema eleni yw 'breuder rhyddid', gan ein hatgoffa o erydiad araf a chynnil rhyddid sy'n creu'r amgylchiadau sy'n caniatáu i hil-laddiad ddigwydd. Mae hefyd yn ein hannog i beidio â chymryd ein rhyddid yn ganiataol ac i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb ein hunain wrth amddiffyn a chryfhau rhyddid yn ein cymunedau. Felly, a fyddech chi'n ymuno â mi i gefnogi'r datganiad diweddar gan y Pab Francis,
'Dydd Sadwrn, 27 Ionawr, yw Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost. Boed i gofio a chondemnio'r difodiad erchyll hwnnw o filiynau o Iddewon a phobl o grefyddau eraill, a ddigwyddodd yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, helpu pawb i beidio ag anghofio na ellir cyfiawnhau rhesymeg casineb a thrais byth, oherwydd ei fod yn gwadu ein dynoliaeth.'
Fe wnaf ddiweddu trwy ddyfynnu sut y gwnaeth ef ddiweddu gan annog ni i gyd i weddïo dros heddwch ledled y byd. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am eich cyfraniad i'r datganiad hwn, ac mae'n gyfraniad pwysig. Fel y dywedwch chi, mae gennym ddyletswydd i wrthsefyll casineb ac erledigaeth, ac mae coffáu'r Holocost yn bwysig er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio pa mor ddirdynnol y gall naratif casineb fod a beth all ddigwydd os yw pobl mewn cymunedau yn cael eu targedu a'u dad-ddyneiddio oherwydd pwy ydyn nhw. Diolch i chi am rannu eich profiadau a'ch dysgu o ganlyniad i'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad. Wrth gwrs, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; dechreuodd gydag erydiad graddol hawliau dynol, ac, wrth gwrs, y rhethreg ddadunol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol neu'n cael eu hystyried yn wahanol i eraill. Ac roedd hi'n bwerus iawn ddydd Gwener—ac rwy'n adnabod eraill oedd yno ddydd Gwener ac, yn wir, ddydd Mercher diwethaf, pan gawson ni ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead—y ffaith bod gennym ni gyfraniadau yn ystod y gweddïau gan Anabledd Cymru, Stonewall Cymru a'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani—roedd Isaac Blake hefyd yn cymryd rhan. Roedd yn bwysig iawn i hon gael ei chlywed, y neges gref honno o erydiad hawliau dynol a'r rhethreg honno yn erbyn pobl, yr hyn a gyflawnodd yr Holocost gyda stigma a chasineb wrth gwrs.
Felly, rwy'n credu bod y buddsoddiad rydym wedi'i wneud wedi bod yn bwysig. Dim ond rhai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd dros y penwythnos rwyf wedi sôn amdanynt, ac mae mwy i ddod o ran ein cefnogaeth i ddigwyddiadau cymunedol a'r foment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch'. Mae gennym adroddiadau da eraill o'r hyn a ddigwyddodd o'r ymgysylltiad â'r gymuned, er enghraifft, Cyngor Tref Tredegar yn tanio canhwyllau ger meini coffa Aneurin Bevan, yn Nhredegar—mae'n bosib bod yr Aelod Alun Davies yn sôn am hynny—hefyd, dim ond cydnabod gwasanaethau gwirfoddol, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn ychwanegu gwybodaeth ar eu gwefan, e-fwletinau; swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn trefnu gweminar ar 18 Rhagfyr ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost i adran cenedlaethau'r dyfodol; grŵp Caru Dy Lyfrgell Trefynwy—. Mae llawer o rai eraill—Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar grefydd, gwerthoedd a moeseg Castell-nedd Port Talbot. A hefyd yn y gogledd, roeddech chi'n sôn am yr heddlu—roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r diwrnod hefyd. Ac fe gynhaliodd Prifysgol Bangor ddigwyddiad ym mhrif adeilad celfyddydau Neuadd Powys, Ffordd y Coleg ym Mangor.
Ond rwyf eisiau troi at y pwyntiau pwysig am addysg yn enwedig a rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Bydd y rhai ohonom a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, neu yn wir ddydd Gwener, wedi clywed gan y bobl ifanc, y llysgenhadon ifanc, a roddodd gyfraniadau mor bwysig yn y digwyddiadau hynny. Mae'n rhaid i ni fod mor falch—rydyn ni mor falch—o'n pobl ifanc pan fyddan nhw'n siarad am eu profiadau. Ac rwyf eisiau gwneud y pwynt am rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym wedi bod yn ei hariannu wrth gwrs, fel y dywedais, ers 2008, a'r cyfranogwyr yn dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel a gwersyll-garchar a gwersyll difa'r Natsïaid gynt, Auschwitz-Birkenau, cyn ystyried perthnasedd cyfoes yr Holocost. Maent yn dod yn llysgenhadon, ac yn wir roedden nhw, y bobl ifanc a siaradodd ddydd Mercher diwethaf, ac yn wir ddydd Gwener—yn llysgenhadon mor gryf, pwerus yn ein hysbrydoli ni, ac yn eu hysbrydoli nhw wrth gwrs, y profiad, i rannu eu gwybodaeth yn eu cymunedau. Rwy'n credu bod un o'r llysgenhadon yn sôn am ei rhannu yn yr ysgolion cynradd. Wrth gwrs, y ffaith yw eu bod nhw'n dysgu, maen nhw'n deall, ac yn cyfarfod, yn wir, fel y gwnaethon nhw, rai o'r goroeswyr—pŵer hynny i'r bobl ifanc hynny.
Rwy'n credu bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cwricwlwm, mae wedi cael ei gydnabod, oherwydd mae amrywiaeth bellach yn thema drawsbynciol yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae hyn yn helpu ac yn arfogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu hanesion, diwylliannau a thraddodiadau eu hunain a rhai eraill—ac mae hynny'n bwysig iawn, bod ein cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth y boblogaeth a dysgwyr—a deall sut mae amrywiaeth yn cael ei lunio.
Yn olaf, hefyd, rwyf eisiau gwneud sylw ynghylch eich pwynt sydd wedi'i wneud yn arbennig am fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae hyn yn rhywbeth y soniais amdano yn fy natganiad, ond dim ond i fyfyrio eto ar y ffaith ei bod yn bwysig cydnabod bod y mater yn ymwneud â throseddau casineb—. Ni yw'r cyntaf mewn gwirionedd—. Canolfan Cymorth Casineb Cymru yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU i gynnig gwasanaeth troseddau casineb sy'n gyfeillgar i blant a phobl ifanc, ac mae gennym ein hymgyrch gyfathrebu, Mae Casineb yn Brifo Cymru, ond rydym hefyd yn ceisio deall ffyrdd y gallwn estyn allan at y rhai y mae casineb hil neu gyfeiriadedd rhywiol neu droseddau casineb crefydd yn effeithio'n arbennig arnyn nhw, rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y pwyslais y llynedd.
Mae'n bwysig bod plant ysgol yn dysgu am gamweddau a chanlyniadau gwrthsemitiaeth cyfoes, ac rwyf wedi sôn am y llythyr a anfonais i a'r Gweinidog addysg at bob pennaeth, gan godi'r ymwybyddiaeth honno am wrthsemitiaeth ac, yn wir, Islamoffobia. Mae hyn i gyd yn ymwneud â'r ffyrdd yr ydym ni, trwy addysg, a'r ffyrdd yr ydym yn ymyrryd ac yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost. A gall Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost gyflawni'r pwynt pwysig iawn hwnnw, yr wyf yn ei ddeall, gan gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol. Diolch yn fawr, Mark.
Fel rŷch chi wedi'i adlewyrchu yn eich datganiad, Weinidog, yn waelodol i'n gweithred o gofio erchyllterau'r Holocost yw myfyrio ar allu dyn i achosi dioddefaint annynol i'w gyd-ddyn, a hefyd gallu dyn i gadw'n dawel yn wyneb y fath ddioddefaint. Mae peidio ag aros yn dawel yn wyneb erchyllterau gwladwriaeth yn erbyn grŵp penodol o bobl, fel Iddewon Ewrop yn yr 1930au a 1940au'r ganrif ddiwethaf, yn gallu cymryd dewrder—dewrder personol anhygoel, fel yn achos rhai fel Sophie Scholl yn Almaen y Natsiaid. Mae hefyd yn cymryd dewrder gwleidyddol mawr ar ran Llywodraethau i wrthwynebu ymddygiad gormesol cenhedloedd grymus.
Hoffwn ddyfynnu, yn y cyd-destun yma, deyrnged a ysgrifennwyd i un o feddylwyr diwinyddol mwyaf blaenllaw Iddewiaeth yr ugeinfed ganrif, ac un o arweinwyr y mudiad dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau, Rabbi Abraham Joshua Heschel. Mae'r deyrnged gan yr ysgolhaig diwynyddol o Gymru, W.D. Davies, ac fe'i darllenwyd ganddo yn angladd Rabbi Heschel yn 1972. Ganwyd W.D. Davies yn fab i löwr a'i wraig yng Nglanaman, ychydig filltiroedd o ble dwi'n byw yng Nghwm Tawe. Cafodd yrfa ddisglair yma ac yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dal cadeiriau ym mhrifysgolion Princeton a Duke. Ac mae ei eiriau o deyrnged i'w gyd-ysgolhaig yn hynod berthnasol i bwysigrwydd y weithred o gofio, a'i natur.
'Rwy'n cofio unwaith, yn ei gartref, iddo gyfeirio at dawelwch pobl nobl yn yr Almaen, ac mewn mannau eraill, ym mhresenoldeb gweithredoedd gwrthun ac aruthrol Hitler, a soniodd am yr angen i brotestio'n gyhoeddus yn erbyn y fath.... Ei fod wedi gorymdeithio yn gyhoeddus iawn i Selma ac wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus iawn ryfel Fietnam... nid damwain oedd hyn i gyd. Dyma ei ymateb angerddol yn erbyn tawelwch llwfr pobl nobl ym mhresenoldeb camweddau annioddefol. Mae mwy nag un cyfreithydd mawr wedi dweud ei bod yn bwysig nid yn unig bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond y gwelir bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni. Teimlai Abraham Heschel ei bod yn bwysig nid yn unig bod rhywun yn protestio yn erbyn drwg, ond bod rhywun yn cael ei weld yn protestio, hyd yn oed os yw mewn perygl o gael ei gamddehongli a'i gamddeall. Roedd cael ei weld yn protestio, yn ei feddwl, yn rhan angenrheidiol o'i benderfyniad i beidio â bod yn euog o dawelwch peryglus.'
Mae'r Holocost felly yn mynnu ein bod yn cymryd safiad, yn galw'n gyhoeddus am ddiwedd i ragfarn a chasineb neu drais ar sail hil, crefydd, rhywioldeb neu rywedd, neu unrhyw nodwedd sy'n cael ei ddefnyddio fel sail gorthrwm, anghyfiawnder a chyfyngu ar ryddid, yn sail dros achosi dioddefaint, dros achosi newyn, dros yrru pobl o'u cartrefi, dros ladd didrugaredd. Hoffwn gofio heddiw'r Llywodraethau hynny sydd wedi sefyll yn erbyn cenhedloedd grymus i atal hyn, o gyfnod yr ail ryfel byd hyd heddiw. Hoffwn gofio'r bobl sydd wedi cymryd safiad cyhoeddus yn erbyn hyn, gan alw am heddwch ac am gyfiawnder.
Hoffwn wybod, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'ch gweithred chi o gofio eleni yn un sydd yn oddefol. Sut ydych chi'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sefyll yn erbyn gormes a thrais ac i alw am heddwch a chyfiawnder ar yr ynysoedd hyn, a hefyd yn eu perthynas gyda Llywodraethau'r byd, yn benodol ar hyn o bryd wrth feddwl am ddyfarniad interim gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod achos credadwy, o dan gonfensiwn hil-laddiad 1948, yn erbyn Llywodraeth Israel, a bod y boblogaeth Balesteinaidd yn Gaza mewn perygl gwirioneddol o ddifrod anadferadwy?
Sonioch chi fod y gwrthdaro yn y dwyrain canol ym mlaen eich meddwl yn seremoni gofio'r wythnos diwethaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o wrthsemitiaeth ac Islamaffobia o fewn ein cymunedau, sydd wedi'u dwysau gan weithredoedd Llywodraeth Israel yn Gaza ac ymosodiad Hamas ar ddinasyddion Israel? Ydych chi'n cytuno bod angen pwyso ar Lywodraeth San Steffan i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza a dychweliad diogel y gwystlon Israelaidd er mwyn lleihau tensiynau ac felly lefel troseddau casineb o'r fath yng Nghymru? Os felly, ydych chi'n fodlon rhoi pwysau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am gadoediad ar unwaith i gyflawni hyn?
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw bod rhyddid yn fregus. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i barchu cyfraith ryngwadol gan sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu hamddiffyn yn ddiwahân yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a bod sancsiynau yn cael eu cymryd yn erbyn y cenhedloedd sy'n torri confensiynau a chyfraith ryngwladol drwy gyfyngu rhyddid pobloedd i gael hawl i fywyd, rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i ddiogelwch?
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni adnewyddu ein hymrwymiad i amddiffyn heddwch a hawliau dynol yn y byd heddiw. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, na ddylwn fyth aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder a dioddefaint, na ddylai Llywodraeth fod yn euog, fel y soniodd Rabbi Heschel, o compromising silence—hyd yn oed os oes perygl o gael ein camddeall a'n camgynrychioli wrth wneud hynny?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. A diolch, unwaith eto, am eich cyfraniad i'r datganiad hwn, a hefyd am dynnu sylw at ddewrder y bobl sydd wedi sefyll i fyny a pheidio ag aros yn dawel, gan ddilyn pwynt Mark Isherwood yn sicr ynglŷn â chytuno y gall y gorffennol lywio'r dyfodol. Ond gwrthod aros yn dawel—. Rydych chi wedi sôn am y bobl ddewr ledled y byd ac yn ein hanes ni, ac, wrth gwrs, rwy'n credu bod hyn hefyd yn mynd â ni'n ôl at bwysigrwydd ein cwricwlwm a'r ffaith bod datblygu dinasyddion gwybodus a moesegol yn ymwneud â hanes. Mae hefyd yn ymwneud â dysgu am yr amrywiaeth, am bobl heddiw ac, mewn gwirionedd, rwy'n falch iawn, fel rwy'n siŵr y mae'r Gweinidog, a phob un ohonoch chi, fod hawliau dynol yn rhan allweddol o'r cwricwlwm.
Ond diolch am gofio'r deyrnged honno hefyd i Rabi Joshua Heschel a gwneud y cysylltiad â Chymru gyda W.D. Davies. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ac mae llawer ohonom yn cydnabod, bod protestio cyhoeddus yn ffordd bwysig o fynegi ein barn. Mae'n rhan o'n democratiaeth lewyrchus ein bod yn chwarae ein rhan yn hynny. Ond rwy'n credu bod yr ymadroddion o undod a chefnogaeth a welsom ddydd Mercher diwethaf yn adeilad y Pierhead, lle, ar draws pleidiau, roeddem yn dod at ein gilydd ac yn clywed nid yn unig ein pobl ifanc, ond hefyd dystiolaeth a phrofiad bywyd Eva Clarke, yn bwysig iawn.
Do, fe wnaethom gydnabod, a gwnes i yn fy natganiad, bod gwrthdaro ledled y byd ar flaen ein meddyliau. Ac, wrth gwrs, dim ond o ran y sefyllfa yn y dwyrain canol, mae angen cadoediad cynaliadwy a pharhaol arnom er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymorth dyngarol brys, cadw newyn i ffwrdd, a hefyd rhyddhau gwystlon, a darparu lle ar gyfer cadoediad cynaliadwy fel nad yw ymladd yn ailgychwyn. Ac, yn amlwg, rydym yn cydnabod ac yn edrych ar y sefyllfa o ran dyfarniad interim y llys cyfiawnder rhyngwladol. Ond rwy'n credu, o ran ein rôl ni a'r pwyntiau a wnawn, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol, fel y dywedais, am gydlyniant cymunedol, am y Gymru dosturiol a gofalgar a moesegol yr ydym eisiau ei gweld yn ein pobl ifanc ac yn wir yn ein holl ddinasyddion. Ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y Prif Weinidog a minnau hefyd yn cyfarfod ag arweinwyr Mwslimaidd ar ddiwrnod Hannukah a digwyddiad pwerus iawn ar risiau'r Senedd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn eich datganiad, roeddech yn cydnabod gwaith y Pastor Michael Fryer a'r rhai yn Father's House yn fy etholaeth fy hun yn Queensferry. Maent yn chwarae rhan hynod bwysig wrth sicrhau ein bod yn cofio ac nid ydym byth yn anghofio'r Holocost a'r trychinebau hynny ledled y byd. Ac maen nhw'n chwarae rhan bwysig wrth sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn anghofio.
Gweinidog, dywedoch chi fod Mark Tami wedi cefnogi'r digwyddiad dros y penwythnos, ac mae Carolyn a minnau wedi cael y fraint o siarad yno sawl gwaith—nid yn unig ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, ond ar hyd y flwyddyn. Tybed a allech chi ymuno â mi i ddiolch i'r Pastor Michael a'r tîm yn Father's House am eu holl waith, ac efallai siarad ymhellach am sut y gallwn gefnogi'r sefydliadau hyn, fel Father's House, yn y swyddogaeth y maent yn ei chyflawni wrth addysgu a goleuo pobl Cymru, trwy gydol y flwyddyn. Diolch.
Diolch, Jack Sargeant. Rwyf wedi cydnabod y digwyddiad pwysig hwnnw a gynhaliwyd yn Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yw, nid yn unig o ran eich cyfraniad a'r siaradwyr gwadd a oedd yn bresennol, ond y cofio: roedd yn wasanaeth cofio nad oedd yn digwydd unwaith yn unig. Yn sicr, hoffwn ddod i ymweld â Father's House a chwrdd â'r gynulleidfa, oherwydd gallaf weld bod hyn yn cael ei drwytho ym mhopeth a wnânt, nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei nodi yn y Senedd fel hyn gyda datganiad gan y Gweinidog bob blwyddyn, yn yr un modd ag yr ydym, yn flynyddol, yn nodi'r digwyddiad yn y Senedd, fel oedd yn digwydd yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, ni lwyddais i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw, wrth gwrs, ond credaf fod Eva Clarke wedi siarad yn glir iawn am effaith yr Holocost, nid dim ond arni hi a'i theulu agos, ond wrth gwrs ar y bobl Iddewig a phawb arall a ddioddefodd dan ddwylo'r gyfundrefn Natsïaidd ofnadwy yn y 1930au a'r 1940au.
Mae'n bwysig ein bod yn dathlu'r pethau hyn yn lleol hefyd, ac rwy'n falch bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal ledled Cymru yn cofio'r Holocost, gan gynnwys un a es iddo dros y penwythnos yn Llandudno, lle mae Cyfeillion Cristnogol Israel yn y gogledd yn dod ynghyd â'r gymuned Iddewig leol er mwyn cynnal digwyddiad blynyddol lle mae pobl ifanc, hen bobl, goroeswyr yr Holocost bob amser yn cymryd rhan.
Cefais fy nharo'n arbennig eleni gan effaith y rhaglen Gwersi o Auschwitz ar y bobl ifanc a siaradodd am eu hymweliad ag Auschwitz yn y digwyddiad penodol hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'r rhaglen honno, er mwyn sicrhau y gall llawer mwy o bobl ifanc gael y cyfle i ddod yn llysgenhadon ar gyfer y rhai sydd wedi profi erchyllterau'r Holocost, yn enwedig yn Auschwitz.
Yn ogystal â hynny, roedd llyfr y soniwyd amdano yn y digwyddiad dros y penwythnos gan un o fy etholwyr, Andrew Hesketh, sydd wedi ysgrifennu'r llyfr, Escape to Gwrych Castle. Mae'n ymwneud â'r 300 o ffoaduriaid Iddewig a ddaeth draw fel rhan o'r rhaglen Kindertransport, ac roedden nhw yn y castell—y ganolfan unigol fwyaf yn y DU ar y pryd ar gyfer ffoaduriaid a'r rhai a oedd yn cyrraedd gyda'r Kindertransport. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Roeddwn i'n gwybod bod rhai Iddewon wedi bod yn llochesu yn y castell yn ystod y rhyfel, ond doedd gen i ddim syniad mai hon oedd y ganolfan unigol fwyaf. Byddwn yn cymeradwyo'r llyfr hwnnw i unrhyw un sydd â diddordeb yn nigwyddiadau'r rhyfel, yr Holocost, ac yn wir yn ymateb hael y cyhoedd yng Nghymru i'r unigolion hynny mewn angen.
Yn olaf, Gweinidog, os caf i, hoffwn ddiolch i'r prifysgolion hynny yng Nghymru sydd wedi gwneud gwaith i geisio hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth ac sydd wedi ei fabwysiadu—Bangor nawr a Chaerdydd. Mae mwy o waith i'w wneud o hyd ymhlith ein sefydliadau addysg uwch, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech barhau i weithio gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog addysg y Cabinet i fynd i'r afael â'r diffygion hynny mewn rhai rhannau o'n sefydliadau addysg ledled Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr, Darren Millar unwaith eto. Rwy'n gwybod eich bod yn gobeithio bod yn—. Fe wnaethoch chi helpu i drefnu'r digwyddiad pwerus ddydd Mercher diwethaf gyda'r grŵp trawsbleidiol a Jenny Rathbone. Roedd yn anhygoel clywed am hanes bywyd ac amgylchiadau Eva Clarke a'i theulu, a chlywed hefyd gan y llysgenhadon ifanc.
Rwyf wedi sôn am lawer o ddigwyddiadau lleol, ond mae'n dda ein bod wedi clywed ar gof a chadw am y digwyddiad yn Llandudno, a chyfraniad y bobl ifanc sydd wedi elwa ar—. Yn amlwg, bydd eu profiad bywyd cyfan yn elwa ar Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym wedi'i hariannu ers 2008—rwy'n credu mai fi oedd y Gweinidog addysg bryd hynny mewn gwirionedd—a gwn y byddwn yn parhau i'w hariannu. Mae'n ddiddorol y cawsom sefyllfa ar-lein yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y prosiect Gwersi o Auschwitz wyneb yn wyneb ac ar-lein 1,957 o fyfyrwyr a 226 o athrawon o bob rhan o Gymru.
Mae'n bwysig eich bod wedi sôn am y gwaith yr ydym yn ei wneud o ran mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost, a fabwysiadwyd gennym ym mis Mai 2017, wrth gwrs, a'r gwaith yr ydym yn parhau i'w wneud gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ysgrifennom ym mis Rhagfyr at yr holl sefydliadau addysg bellach ac uwch i ofyn iddynt, er enghraifft, sicrhau eu bod yn cefnogi myfyrwyr, yn edrych ar faterion, yn dysgu am wrthsemitiaeth ac, yn wir, Islamoffobia a gwahaniaethu. A diolch, hefyd, am adrodd ar rai o'r datblygiadau sydd wedi digwydd mewn addysg uwch. Mae'n rhywbeth lle mae'r Gweinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â pharchu ymreolaeth prifysgolion, ond yn awyddus i fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost sy'n fater pwysig o egwyddor. Ac mae'n rhaid iddynt gyflawni eu swyddogaethau er mwyn cydnabod eu rhwymedigaethau yn llawn o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus hefyd.
Mae gen i bum siaradwr ac rydyn ni dros amser, felly os caf i ofyn yn barchus i bobl gadw at amser, rwy'n gwybod eich bod chi i gyd eisiau siarad ac rydyn ni i gyd eisiau eich clywed. Delyth Jewell.
Efallai mai'r peth mwyaf brawychus am yr Holocost oedd pa mor hawdd oedd hi iddo ddigwydd. Nid eithafwyr yn unig a aeth ar ôl Iddewon neu ddisgwyl iddynt wnïo sêr Dafydd ar eu dillad. Gwnaed hi'n bosibl oherwydd difaterwch dychrynllyd y bobl a ddewisodd edrych y ffordd arall—dewis edrych y ffordd arall wrth i'r lorïau yrru heibio a'r wagenni rheilffordd yn cloncian trwy'r nos. Ni allwn gofio'r Holocost yn oddefol, mae'n rhaid i ni ymwreiddio ymwybyddiaeth yn ein heneidiau o ba mor rhwydd oedd hi i ladd miliynau—daethpwyd â bywydau Iddewon, pobl anabl, pobl hoyw i ben oherwydd bod pobl wedi penderfynu nad oeddent yn haeddu bodoli.
Gweinidog, rwy'n poeni'n fawr am y cynnydd mewn ymosodiadau gwrthsemitig sydd wedi'u hysgogi, mae'n ymddangos, gan yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol. Mae'n annealladwy i mi sut y gallai unrhyw un feio pobl Iddewig neu ddisgwyl iddynt fod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd ar gyfandir arall. Pobl Iddewig sy'n byw yng Nghymru yw ein brodyr a'n chwiorydd; maen nhw'n bobl heddychlon. A wnewch chi ymuno â mi, Gweinidog, i gadarnhau'r pwynt hwn ac estyn cyfeillgarwch ac undod atynt?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell, am y sylwadau pwysig iawn yna. Rydym yn hynod bryderus ynghylch adroddiadau bod cynnydd mewn troseddau casineb yn targedu cymunedau Iddewig, ac rydym yn annog aelodau'r cymunedau hynny i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau casineb. Gellir eu hadrodd i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, fel y dywedais i, neu drwy gysylltu â'r heddlu. Rydym mewn gwirionedd yn monitro unrhyw gynnydd yng Nghanolfan Cymorth Casineb Cymru, ac mae'n rhaid i mi ddweud, unrhyw gynnydd yn yr adroddiadau am droseddau casineb gwrthsemitig ac, yn wir, Islamoffobig ar hyn o bryd, oherwydd mae angen i ni sicrhau ein bod yn deall effaith hyn. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r gymuned Iddewig wrth gondemnio'r casineb a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu'r hinsawdd honno o ofn, gyda'r nod o ddarnio ein cymunedau. Ond byddwn yn goresgyn hynny gyda datganiadau a chyfraniadau ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellais heddiw.
Mae 'breuder rhyddid' yn ddatganiad hynod o bwerus. Roedd breuder dynoliaeth yn rhywbeth yr oeddwn yn myfyrio arno ychydig wythnosau yn ôl yng ngwersyll-garchar Dachau, lle rydych chi'n edrych o gwmpas normalrwydd ystad ddiwydiannol ar gyrion Munich ac yn myfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd yno oes yn ôl, a breuder dynoliaeth a ganiataodd i hynny ddigwydd. Ac, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod nad canlyniad geiriau Goebbels yn unig oedd Dachau ym mis Tachwedd 1938, a ynganwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn hen neuadd y dref yng nghanol Munich. Canlyniad casineb, casineb a oedd wedi cael ei ysgogi gan lywodraeth anoddefgar ac a geisiodd feio eraill am y problemau a oedd yn wynebu'r Almaen bryd hynny—breuder gwareiddiad.
Cerddodd Jenny Rathbone, Llyr Huws Gruffydd, Darren Millar a minnau trwy Yad Vashem yn Jerwsalem rai blynyddoedd yn ôl. Cerddom ni drwy hanes yr Holocost, ac ni wnaeth ddechrau yn Dachau, ni wnaeth ddechrau ar Kristallnacht; dechreuodd gyda gweithredoedd unigol o gasineb ac anoddefgarwch. Rwy'n falch bod y Gweinidog addysg yn ei le y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio, wrth i ni addysgu goddefgarwch a dynoliaeth i blant, ein bod yn eu haddysgu am ganlyniadau annynoldeb ac anoddefgarwch. Rydym i gyd yn gwybod, os edrychwn ar gyfryngau cymdeithasol heno, y byddwn yn gweld breuder rhyddid, breuder dynoliaeth, a byddwn yn gweld breuder y ddynoliaeth gyffredin sy'n ein huno ni i gyd. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom, wrth gofio digwyddiadau'r Holocost, hefyd yn cofio bod angen i ni amlygu casineb pan welwn ni ef yn y byd heddiw.
Diolch yn fawr. Mae eich datganiad yn sefyll ar ei gryfder ei hun: breuder rhyddid; mae eich profiadau chi hefyd, ar gofnod. Maen nhw'n bwysig, ac rydyn ni'n eu parchu nhw a'ch ymgysylltiad. Rwyf eisiau sôn am un pwynt, yn ogystal â'r cwricwlwm a'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym myd addysg, mae gennym ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'; mae'n darparu fframwaith trawslywodraethol a fydd yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ein system addysg. Mae athrawon yn dweud wrthyf sut maen nhw'n dysgu dim ond trwy ddysgu, dysgu hyn gyda'u disgyblion. Rwy'n credu y bydd y ffaith bod y cynllun hwnnw'n cynnwys nodau a chamau gweithredu i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, Islamoffobia, gan gynnwys ein cefnogaeth barhaus i ddioddefwyr troseddau casineb, yn cael dylanwad pwerus, gobeithio.
Yr wythnos diwethaf, Gweinidog, roedd yn anrhydedd i mi sefyll yn lle Darren Millar yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn y Pierhead, ac mae'n rhaid imi ganmol yr Aelod dros Orllewin Clwyd am y gwaith y mae wedi'i wneud fel Aelod yma i eiriol dros gofio'r Holocost a'r gwaith y mae wedi'i wneud gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Wrth wrando ar oroeswr yr Holocost, Eva Clarke BEM a'i thystiolaeth bwerus, roedd yn un o'r digwyddiadau pwysicaf i mi fod yn rhan ohono yn fy nghyfnod yn y Senedd.
Digwyddiad pwysig arall yn fy mywyd oedd pan wnes i, fel disgybl Ysgol Bro Gwaun, ymweld ag Auschwitz, ac mae hynny'n brofiad sy'n byw gyda mi hyd heddiw. Mae'n anhygoel o anodd rhoi mewn geiriau beth mae rhywun yn ei brofi pan fydd yn ymweld ag Auschwitz. Un peth a glywais ac a welais dro ar ôl tro yn ystod fy ymweliad ag Auschwitz, pan ymwelais â'r geto Iddewig yn Krakow a'r gofeb ym Merlin i Iddewon Ewrop a lofruddiwyd, oedd yr ymadrodd gan George Santayana:
'Mae'r rhai na allant gofio'r gorffennol yn cael eu condemnio i'w ailadrodd.'
Felly, gadewch i ni gofio'r Holocost am yr hyn ydoedd: y llofruddiaeth, difodiad systematig 6 miliwn o Iddewon, dwy ran o dair o boblogaeth Iddewig Ewrop. Ond ydyn ni wir wedi cofio'r gorffennol os yw'r canser o wrthsemitiaeth yn dal i fod yn llawer rhy gyffredin yn ein gwlad ac ar draws y byd? Ydyn ni wir wedi cofio'r gorffennol os yw Iddewon yn parhau i gael eu targedu mewn damcaniaethau cynllwyn a'u darlunio fel bychod dihangol am faterion lle nad oes bai arnyn nhw? Felly, Gweinidog, wrth gofio geiriau George Santayana, sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gofio drwg yr Holocost ac erledigaeth Iddewon i sicrhau nad yw cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn cael eu condemnio i'w ailadrodd? Diolch.
Diolch yn fawr, Samuel Kurtz. Diolch am y rhan a chwaraeoch chi ddydd Mercher diwethaf, ac, yn wir, unwaith eto, rwy'n ailadrodd ac yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wnaethpwyd, tystiolaeth Eva Clarke. Eich ymweliad ag Auschwitz, fel y mynegodd pawb yr effaith y mae wedi'i chael—. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi siarad am ein hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru. Cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac, yn wir, ein canolfan Cymru ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, rwy'n credu sydd i gyd yn arwydd o'n hymrwymiad i hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, Llywydd dros dro, ein bod ni'n treulio ein hamser, ein bod yn gwrando ar yr holl gyfraniadau heddiw, oherwydd nid dim ond heddiw rydyn ni'n cofio effaith hyn, ond bob dydd.
Diolch i Darren Millar am gael Eva Clarke i ddod yma a rhoi disgrifiad mor rhyfeddol i ni o allu ei mam i oroesi.
Ddydd Sul, es i berfformiad o 'Stumbling Stones', a oedd ar y naill law yn grŵp bywiog o gerddorion o'r enw Klezmer-ish, sy'n cynnwys Thomas Verity, prif glarinetydd Opera Cenedlaethol Cymru. Fe wnaethant berfformio cymysgedd o gerddoriaeth klezmer, Seffardig, Iddew-Almaenig a Tango, dathliad gwych o'r hyn a gollwyd a'r hyn sydd wedi goroesi o fywiogrwydd, llawenydd ac ing diwylliant Iddewig. Fe'i cymysgwyd â stori teulu Almaenaidd-Iddewig fy ffrind Julia Nelki, a gafodd, ar y naill law, loches yma, yn ogystal â'r rhai a anfonwyd i'r gwersylloedd difa.
Fel y dywedodd y chwaraewr bas dwbl, nid yw'n ymwneud yn unig â chofio'r gorffennol; mae'n ymwneud ag archwilio perthnasedd y gorffennol i'r presennol a'r dyfodol. Felly, roedd yn hynod o bwysig bod 'Stumbling Stones' yn cynnwys cyfranogiad ceisiwr lloches o Malawi sydd wedi bod yn byw yn Lloegr am y saith mlynedd diwethaf ac sy'n dal i aros am statws ffoadur, a Qais Attalla, Palestiniad o Gaza sydd wedi colli 40 aelod o'i deulu yn ystod y misoedd diwethaf. Gyda'i gilydd, roedd cyfuno'r dathliad gwych hwn o ddiwylliant Iddewig a chydnabyddiaeth o'r camgymeriadau y byddwn yn eu hailadrodd os na ddeallwn yr hyn oedd yn foment bwerus iawn. Rwyf eisiau dod â'r perfformiad hwn i dde Cymru, a gyda chymorth Thomas Verity, rwy'n gobeithio y byddwn yn dod ag ef yma, efallai i synagog Merthyr, ac efallai y byddaf yn troi at Lywodraeth Cymru am ychydig o arian.
Ond dyma'r math o beth sydd angen i ni ei wneud; nid yn unig i ailadrodd y straeon, ond hefyd i roi perthnasedd modern i hyn. Rwyf mor falch eich bod wedi dewis, gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, 'breuder rhyddid', oherwydd mae hynny'n hollol wir.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Mae hwnna'n gyfraniad pwysig ynddo'i hun, oherwydd rydych chi'n sôn am yr effaith y gall diwylliant ei chael arnom ni o ran y profiad hwnnw a gawsoch gyda 'Stumbling Stones', y cyfraniadau a wnaed yn y cyngerdd hwnnw, ond hefyd i gysylltu hynny â chyfraniadau y ceisiwr noddfa o Malawi, ac yn wir profiad y Palestiniad a oedd yno. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd yn draws-ddiwylliannol a dysgu.
Llwyddais ar y penwythnos i wylio'r ffilm—ac roeddwn i'n mynd i sôn am hyn mewn ymateb i Darren Millar—One Life, am waith anhygoel Syr Nicholas Winton, ac os oes unrhyw un sydd heb lwyddo i weld y ffilm honno o ran y Kindertransport o Prag yn y dyddiau olaf hynny cyn i'r rhyfel ddechrau—. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod diwylliant yn hanfodol i hyn hefyd.
A'n siaradwr olaf ar hyn yw Vikki Howells.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad pwysig. Fel y dywedwch chi, mae disgwyl i bob un ohonom, os ydym am greu cenedl fwy diogel, fwy cyfartal, i amlygu casineb, rhagfarn a'r drygau a achosir yn eu henw, ac i beidio byth â gadael i'r dioddefaint y maent yn ei achosi gael ei anghofio. Un enghraifft dda iawn o hyn yw Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr, sy'n cynnal nifer o wasanaethau coffa'r Holocost yn ystod yr wythnos sy'n arwain at ddiwrnod y cofio. Rwy'n credu bod yr ysgol wedi bod yn cynnal y rhain ers 20 mlynedd ers iddynt ymweld ag Auschwitz a chwrdd â goroeswr yr Holocost, y gwnaethant addo iddo y byddent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad ydym byth yn anghofio.
Mae Ms Bell, ei chydweithwyr a'i myfyrwyr yn gwneud gwaith gwych, gan wahodd cynrychiolwyr o'r gymuned leol i'r cynulliadau hyn hefyd, ac rwy'n siŵr y byddent yn croesawu rhywun o Lywodraeth Cymru efallai i fod yn bresennol i weld beth maen nhw'n ei wneud, ac efallai darganfod sut y gellir hyrwyddo enghreifftiau tebyg o arfer gorau ledled Cymru. Mae'n dda clywed am y niferoedd cynyddol o ysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Gwersi o Auschwitz, Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost. Fodd bynnag, yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae hynny yn cynrychioli tua un o bob tair ysgol yng Nghymru yn unig. Rwy'n gwerthfawrogi bod y prosiect yn cael ei redeg ar sail y cyntaf i'r felin, ond a oes unrhyw waith wedi'i wneud i nodi rhwystrau a allai atal ysgolion rhag cymryd rhan, ac, os felly, beth y gellir ei wneud i'w goresgyn?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod angen rhoi'r adborth hwn i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, yn wir, y gweithiwr cymorth cymunedol a ariennir gennym i helpu i estyn allan, a byddwn yn gwneud hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith fy mod wedi cael rhai arwyddion o gyfraniadau a ffyrdd y cafodd hyn ei gydnabod a'i ddathlu o ran cyfoeth cyfraniadau'r bobl ifanc hynny, ond gan nodi erchyllterau'r Holocost. Er enghraifft, o ran 'breuder rhyddid', rwy'n gweld bod gan Ysgol Uwchradd Bedwas ddisgyblion hefyd yn cymryd rhan yn hyn o ran y pwyslais hwnnw. Ond hoffwn fynd ar drywydd hwn o ran Vikki Howells, eich ysgol chi, sydd bellach wedi ymgorffori hyn yn y cwricwlwm a dysgu ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol honno.
Diolch. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi gor-redeg, ond roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymestyn y ddadl honno.