Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 30 Ionawr 2024.
Mae'r Holocost felly yn mynnu ein bod yn cymryd safiad, yn galw'n gyhoeddus am ddiwedd i ragfarn a chasineb neu drais ar sail hil, crefydd, rhywioldeb neu rywedd, neu unrhyw nodwedd sy'n cael ei ddefnyddio fel sail gorthrwm, anghyfiawnder a chyfyngu ar ryddid, yn sail dros achosi dioddefaint, dros achosi newyn, dros yrru pobl o'u cartrefi, dros ladd didrugaredd. Hoffwn gofio heddiw'r Llywodraethau hynny sydd wedi sefyll yn erbyn cenhedloedd grymus i atal hyn, o gyfnod yr ail ryfel byd hyd heddiw. Hoffwn gofio'r bobl sydd wedi cymryd safiad cyhoeddus yn erbyn hyn, gan alw am heddwch ac am gyfiawnder.
Hoffwn wybod, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'ch gweithred chi o gofio eleni yn un sydd yn oddefol. Sut ydych chi'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sefyll yn erbyn gormes a thrais ac i alw am heddwch a chyfiawnder ar yr ynysoedd hyn, a hefyd yn eu perthynas gyda Llywodraethau'r byd, yn benodol ar hyn o bryd wrth feddwl am ddyfarniad interim gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod achos credadwy, o dan gonfensiwn hil-laddiad 1948, yn erbyn Llywodraeth Israel, a bod y boblogaeth Balesteinaidd yn Gaza mewn perygl gwirioneddol o ddifrod anadferadwy?
Sonioch chi fod y gwrthdaro yn y dwyrain canol ym mlaen eich meddwl yn seremoni gofio'r wythnos diwethaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o wrthsemitiaeth ac Islamaffobia o fewn ein cymunedau, sydd wedi'u dwysau gan weithredoedd Llywodraeth Israel yn Gaza ac ymosodiad Hamas ar ddinasyddion Israel? Ydych chi'n cytuno bod angen pwyso ar Lywodraeth San Steffan i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza a dychweliad diogel y gwystlon Israelaidd er mwyn lleihau tensiynau ac felly lefel troseddau casineb o'r fath yng Nghymru? Os felly, ydych chi'n fodlon rhoi pwysau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am gadoediad ar unwaith i gyflawni hyn?
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw bod rhyddid yn fregus. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i barchu cyfraith ryngwadol gan sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu hamddiffyn yn ddiwahân yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a bod sancsiynau yn cael eu cymryd yn erbyn y cenhedloedd sy'n torri confensiynau a chyfraith ryngwladol drwy gyfyngu rhyddid pobloedd i gael hawl i fywyd, rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i ddiogelwch?
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni adnewyddu ein hymrwymiad i amddiffyn heddwch a hawliau dynol yn y byd heddiw. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, na ddylwn fyth aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder a dioddefaint, na ddylai Llywodraeth fod yn euog, fel y soniodd Rabbi Heschel, o compromising silence—hyd yn oed os oes perygl o gael ein camddeall a'n camgynrychioli wrth wneud hynny?