5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:37, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

'Rwy'n cofio unwaith, yn ei gartref, iddo gyfeirio at dawelwch pobl nobl yn yr Almaen, ac mewn mannau eraill, ym mhresenoldeb gweithredoedd gwrthun ac aruthrol Hitler, a soniodd am yr angen i brotestio'n gyhoeddus yn erbyn y fath.... Ei fod wedi gorymdeithio yn gyhoeddus iawn i Selma ac wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus iawn ryfel Fietnam... nid damwain oedd hyn i gyd. Dyma ei ymateb angerddol yn erbyn tawelwch llwfr pobl nobl ym mhresenoldeb camweddau annioddefol. Mae mwy nag un cyfreithydd mawr wedi dweud ei bod yn bwysig nid yn unig bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond y gwelir bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni. Teimlai Abraham Heschel ei bod yn bwysig nid yn unig bod rhywun yn protestio yn erbyn drwg, ond bod rhywun yn cael ei weld yn protestio, hyd yn oed os yw mewn perygl o gael ei gamddehongli a'i gamddeall. Roedd cael ei weld yn protestio, yn ei feddwl, yn rhan angenrheidiol o'i benderfyniad i beidio â bod yn euog o dawelwch peryglus.'