Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 30 Ionawr 2024.
Fel rŷch chi wedi'i adlewyrchu yn eich datganiad, Weinidog, yn waelodol i'n gweithred o gofio erchyllterau'r Holocost yw myfyrio ar allu dyn i achosi dioddefaint annynol i'w gyd-ddyn, a hefyd gallu dyn i gadw'n dawel yn wyneb y fath ddioddefaint. Mae peidio ag aros yn dawel yn wyneb erchyllterau gwladwriaeth yn erbyn grŵp penodol o bobl, fel Iddewon Ewrop yn yr 1930au a 1940au'r ganrif ddiwethaf, yn gallu cymryd dewrder—dewrder personol anhygoel, fel yn achos rhai fel Sophie Scholl yn Almaen y Natsiaid. Mae hefyd yn cymryd dewrder gwleidyddol mawr ar ran Llywodraethau i wrthwynebu ymddygiad gormesol cenhedloedd grymus.
Hoffwn ddyfynnu, yn y cyd-destun yma, deyrnged a ysgrifennwyd i un o feddylwyr diwinyddol mwyaf blaenllaw Iddewiaeth yr ugeinfed ganrif, ac un o arweinwyr y mudiad dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau, Rabbi Abraham Joshua Heschel. Mae'r deyrnged gan yr ysgolhaig diwynyddol o Gymru, W.D. Davies, ac fe'i darllenwyd ganddo yn angladd Rabbi Heschel yn 1972. Ganwyd W.D. Davies yn fab i löwr a'i wraig yng Nglanaman, ychydig filltiroedd o ble dwi'n byw yng Nghwm Tawe. Cafodd yrfa ddisglair yma ac yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dal cadeiriau ym mhrifysgolion Princeton a Duke. Ac mae ei eiriau o deyrnged i'w gyd-ysgolhaig yn hynod berthnasol i bwysigrwydd y weithred o gofio, a'i natur.