Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dydd Sadwrn oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yma yn y Senedd fe wnaethom nodi'r diwrnod hwnnw trwy oleuo ein hadeilad â lliw porffor. Yn y tywyllwch, roedd y golau hwn yn ein hatgoffa o'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Am 8.00pm ar yr un diwrnod, ymunodd pobl ledled y DU â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' trwy danio canhwyllau a'u gosod yn eu ffenestri. Cafodd adeiladau a thirnodau eraill ar draws y DU eu goleuo'n borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o undod. Bu nifer o leoedd ar draws Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys y llwyfan band a Chanolfan Alun R. Edwards yn Aberystwyth, a Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin.
Gyda'r Prif Weinidog, aeth llawer ohonom i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru ddydd Gwener, 26 Ionawr, yn y Deml Heddwch, a roddodd gyfle i fyfyrio ar ran o hanes na ddylem ni a chenedlaethau'r dyfodol fyth ei hanghofio. Roedd hi'n seremoni deimladwy iawn, gydag anerchiadau gan John Hajdu MBE, goroeswr yr Holocost o Hwngari, ac Isam Agieb, oedd wedi ffoi o'r hil-laddiad yn Darfur. Cymerodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Anabledd Cymru, Stonewall Cymru, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gyd ran yn y gwasanaeth, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r gwahanol gymunedau o bobl a dargedwyd yn ystod yr Holocost. Roedd y gwrthdaro presennol yn y dwyrain canol a'r Wcráin, y miloedd o fywydau a gollwyd yn y gwrthdaro hynny a'r dioddefaint sy'n dal i gael ei ddioddef, yn bennaf ym meddyliau'r rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni. Rwy'n gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru i ddangos undod â phawb sy'n parhau i ddioddef erledigaeth a thrais.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint, a gynhaliodd eu gwasanaeth coffa blynyddol ar gyfer yr Holocost ar y thema, 'dim dihangfa'. Cyflwynwyd y gwasanaeth cofio gan Pastor Michael Fryer, ynghyd â'r siaradwyr gwadd Mark Tami AS, Carolyn Thomas AS, Jack Sargeant AS, a disgybl o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry.
Gwnaeth Sefydliad Celf Josef Herman goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ar 27 Ionawr dangoswyd ffilm arbennig, The Silent Village, ffilm bropaganda fer Brydeinig o 1943. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am gyflafan pentref Tsiecaidd Lidice, a ailadroddir fel pe bai wedi digwydd yng Nghymru.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2024 yw 'breuder rhyddid'. Yn eu cyflwyniad i'r thema eleni, amlygodd Ymddiriedolaeth Cofio'r Holocost nad oes modd cymryd rhyddid yn ganiataol ac ni ddylem laesu dwylo—rhaid i ni frwydro i sicrhau nad yw byth yn cael ei golli. Pwysleisiwyd bod erydiad rhyddid yn broses gynnil, araf yn aml ac mae'r effaith yn bellgyrhaeddol:
'Nid yn unig y mae cyfundrefnau cyflawnwyr yn erydu rhyddid y bobl y maent yn eu targedu, gan ddangos pa mor fregus yw rhyddid, maent hefyd yn cyfyngu ar ryddid eraill o'u cwmpas, er mwyn atal pobl rhag herio'r gyfundrefn. Er gwaethaf hyn, ym mhob hil-laddiad mae yna rai sy'n peryglu eu rhyddid eu hunain i helpu eraill, i ddiogelu rhyddid pobl eraill neu i sefyll yn erbyn y gyfundrefn.'
Tanlinellodd y thema eleni y ffyrdd niferus y mae rhyddid yn cael ei gyfyngu a'i erydu. Roedd yn taflu goleuni ar yr unigolion a fentrodd eu rhyddid i achub eraill a phwysleisiodd nad yw rhyddid o reidrwydd yn golygu bod yn hollol rydd. Mae pobl gyffredin yn gorfod symud i wlad newydd; maent yn aml yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ac mae angen iddynt ailadeiladu eu bywyd. Hyn oll wrth iddynt geisio goresgyn y trawma sy'n deillio o'u herledigaeth ar yr un pryd.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru sydd, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i redeg y prosiect Gwersi o Auschwitz. Mae hwn yn gwrs pedair rhan unigryw, sy'n cynnwys dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl, a phrosiect camau nesaf lle mae myfyrwyr yn trosglwyddo'r gwersi y maent wedi'u dysgu. Yn llawer mwy na gwibdaith yn unig, mae'n daith bwerus o ddysgu ac archwilio hanes yr Holocost a'r byd rydym yn byw ynddo. Yn 2023 cymerodd 110 o fyfyrwyr o 55 o ysgolion Cymru ran yn y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys chwe ysgol a gymerodd ran yn y rhaglen am y tro cyntaf. Mae disgwyl i'r cwrs Gwersi o Auschwitz, nesaf i Gymru gael ei gynnal eleni, ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth.
Mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf cyfarfûm â chynghorydd annibynnol Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, yr Arglwydd Mann, i drafod ei adroddiad 'Tackling Antisemitism in the UK 2023' a sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn cefnogi gweithredu'r argymhellion yng Nghymru. Croesawodd yr Arglwydd Mann y Cwricwlwm i Gymru a'i bwyslais ar helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan ei gydnabod fel llwyfan i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr cyhoeddais lythyr ar y cyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i bob pennaeth yng Nghymru i ddarparu arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia yn effeithiol, gan gynnwys ffyrdd o gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Er ei bod yn bwysig myfyrio ar y gorffennol, mae'r un mor hanfodol ystyried yr hyn y gallwn ei wneud nawr ac yn y dyfodol i sicrhau bod Cymru yn genedl dosturiol a chyfrifol yn fyd-eang ac yn parhau felly. Mewn byd sy'n gynyddol ansefydlog, mae angen cefnogi unigolion i sicrhau eu bod yn cyflawni integreiddio ac yn cael eu derbyn, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Yn wyneb yr heriau hyn, rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r grymoedd cudd ac amlwg sy'n ysgogi erledigaeth lleiafrifoedd ar bob lefel yn ein cymdeithas, boed hynny'n sefydliadol, cymdeithasol neu'n ddiwylliannol.
Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2023 oedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd, gan ganolbwyntio ar wrthsemitiaeth, a roddodd gyfle i godi'r mater hwn i ystod o gynulleidfaoedd trwy lawer o ddigwyddiadau cydweithredol a gynhaliwyd ledled Cymru. Siaradodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol mewn digwyddiad cenedlaethol, a drefnwyd gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, i nodi'r wythnos. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r ganolfan, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gymunedau Iddewig a chrefyddau eraill yng Nghymru, ac am weithio'n agos gyda'r heddlu fel rhan o'r gwaith hwn.
Mae'r fforwm cymunedau ffydd, a sefydlwyd yn sgil 9/11, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf i a'r Prif Weinidog. Trwy'r fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr ffydd ar faterion sy'n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan y fforwm hwn swyddogaeth hanfodol hefyd wrth hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Mae'r perthnasoedd cryf hyn mor bwysig nawr fel ffordd i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu byd mwy diogel yn y dyfodol.
Felly, rwyf am gau'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith hanfodol. Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn gyda'r bwriad o ddarnio ein cymunedau. Heddiw ac wrth symud ymlaen mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod Cymru'n parhau i wrthsefyll pob math o gasineb, er mwyn helpu i greu cenedl fwy diogel a chyfartal lle mae gwahaniaeth yn cael ei dderbyn a'i groesawu. Diolch.