4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur Gwyn ar Fil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth

– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr 3:40, 30 Ionawr 2024

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Papur Gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau amrywiaeth, a dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. 

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein Papur Gwyn ar sefydlu egwyddorion amgylcheddol, cryfhau llywodraethu amgylcheddol a chyflwyno targedau bioamrywiaeth ar gyfer Cymru wyrddach. Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi cynigion i gyflwyno Bil i'r Senedd a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau nad oes unrhyw ostyngiad mewn ansawdd na safonau amgylcheddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn cryfhau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru drwy sefydlu corff newydd i oruchwylio gweithredu a chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Ac, yn olaf, bydd yn cyflwyno dull newydd o ymdrin â thargedau bioamrywiaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng natur parhaus.

Mae'r cynigion yn adlewyrchu ein hymrwymiad tuag at Gymru wyrddach i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu. Datblygwyd y cynigion fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy ein rhaglen lywodraethu. Rydym wedi blaenoriaethu diwygio cymorth amaethyddol ac wedi cyflwyno deddfwriaeth aer glân newydd. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran gweithredu targed sero-net newydd ac wedi nodi llwybr i'w gyflawni. Rydym wedi creu grantiau newydd ar gyfer adfer natur, gwariant sydd wedi'i ailgyfeirio'n sylweddol ar drafnidiaeth, wedi gwneud diwygiadau cynllunio ac wedi cefnogi buddsoddiadau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr.

Rydym wedi blaenoriaethu diwygio gweithredol yn briodol i gefnogi'r amgylchedd, a bydd y cynigion yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau'r diwygiadau hanfodol hyn trwy gryfhau ein fframwaith llywodraethu cyffredinol. Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yn unol â disgwyliadau pobl yng Nghymru. Nid ymarfer i ddisodli strwythurau a deddfwriaeth a oedd ar waith tra roeddem yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn unig yw'r dull hwn; mae ein dull gweithredu wedi'i deilwra i'r cyd-destun Cymreig. Byddwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru nid yn unig i roi sylw dyledus i'r egwyddorion amgylcheddol sy'n deillio o'r UE, ond i nodi mewn canllawiau statudol sut yn union y bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisi.

Yn yr un modd, bydd y corff llywodraethu yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru. Bydd y corff yn gweithio mewn ysbryd o gydweithio ac yn cymryd ymagwedd uwchgyfeiriol, gan weithio gydag awdurdodau cyhoeddus Cymru i unioni pethau. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, bydd gan y corff yr hawl i gymryd camau gorfodi effeithiol i sicrhau cydymffurfiaeth. Wrth gyhoeddi'r cynigion hyn, hoffwn gydnabod gwaith asesydd dros dro diogelu'r amgylchedd yng Nghymru, Dr Nerys Llewelyn Jones. Mae'r IEPAW wedi bod, ac yn parhau i gyflawni rôl werthfawr mewn perthynas â gweithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion a fydd yn adeiladu ar waith pwysig yr IEPAW.

Ym mis Rhagfyr 2022, nodais ein huchelgais ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur ar lwyfan y byd yn COP15 ym Montreal. Fel rhan o'n hymateb i fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal, ymrwymais i osod targedau natur uchelgeisiol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Gan gydnabod bod angen camau gweithredu parhaus a hirdymor i gyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen, mae'r Papur Gwyn yn cyflwyno fframwaith adfer natur strategol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth, yn ogystal â darparu mwy o atebolrwydd a thryloywder. Mae hyn yn cynnwys targedau bioamrywiaeth statudol, sy'n cynnwys prif darged positif i natur a gaiff ei nodi yn y Bil, a chyfres o dargedau cefnogi bioamrywiaeth a gaiff eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Rydym yn rhagweld y bydd rhai o'r rhain yn dargedau newydd, tra bydd eraill yn cyd-fynd â thargedau amgylcheddol presennol sydd eisoes wedi'u cynllunio i gefnogi lleihau'r pwysau ar ecosystemau a chynyddu gweithgarwch adfer natur. Ar ôl ei sefydlu, byddem yn ceisio mewnbwn y corff llywodraethu newydd i nodi targedau newydd a all ysgogi cynnydd cadarnhaol ychwanegol o ran natur yn fwyaf effeithiol.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y bydd Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth adfer natur a fydd yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy'n bositif i natur, a chynllun gweithredu adfer natur, a fydd yn manylu ar y camau tymor byrrach sydd eu hangen i gyflawni'r targedau bioamrywiaeth statudol. Bydd angen dull gweithredu ledled Cymru i gyflawni'r uchelgais hon. Dyna pam rwyf hefyd yn cynnig cynlluniau adfer natur lleol a fyddai'n cael eu cynhyrchu gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhain yn amlinellu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar lefel leol, ac yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol. 

Mae'r dull hwn yn ategu ein pwyslais ehangach ar Gymru gydnerth, sy'n cwmpasu Cymru gyfan, nid dim ond safleoedd gwarchodedig dynodedig. Ein huchelgeisiau yw sicrhau bod safleoedd gwarchodedig yn cael eu cynnal a'u gwella, er mwyn osgoi difrod amgylcheddol diangen ledled Cymru a gwneud gwaith rhagweithiol o ran adfer natur mewn ardaloedd lle mae wedi dirywio. Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth ac egni'r holl randdeiliaid sydd wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r gwaith hwn hyd yma, a byddwn yn parhau â'r trafodaethau manwl hyn wrth i ni fireinio ein cynigion polisi a chyflwyno deddfwriaeth.

Mae agwedd y Llywodraeth hon tuag at yr amgylchedd wedi'i wreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol. Ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw mewn ffordd nad yw'n amddifadu cenedlaethau'r dyfodol o'u gallu i ddiwallu eu hanghenion nhw. Yn y modd hwn, mae cadw adnoddau naturiol a rhannu'r manteision a ddaw ohonynt yn fater o degwch. Mae'r cynigion a gyhoeddwyd heddiw wedi'u cynllunio i helpu i lunio agenda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys sut maen nhw'n cydweithio â chymunedau a busnesau i sicrhau perthynas fwy cynaliadwy â'n byd naturiol. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 3:45, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae'r Papur Gwyn yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir, oherwydd mae'n rhoi natur, yr amgylchedd a bioamrywiaeth ar flaen ein meddyliau o ran deddfwriaeth. Fodd bynnag, a allech chi ddatrys problem fach i mi, Gweinidog? A allech chi gynghori pam nad yw'r Papur Gwyn hwn wedi'i gyhoeddi eto, yn ôl y Llyfrgell? Unwaith rwyf yn gwybod eich bod yn cyflwyno datganiadau, rydym fel arfer yn cael y papur ac yn ei ddarllen, fel y gallwn ni godi unrhyw bryderon mewn gwirionedd, ac rwy'n cael trafferth dod o hyd iddo.

Mae angen i ni ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Yn ystod proses ddeddfwriaethol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), pasiodd mwyafrif o'r Senedd hon ein gwelliannau, a fyddai wedi gwthio ymlaen creu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd a gofynnwyd amdano droeon drwy ein pwyllgor amgylchedd a newid hinsawdd. Ac mae'n gwaethygu: fe glywais i yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf bod hyd yn oed rhywfaint o ansicrwydd nawr ynghylch pryd y bydd rheoliadau sy'n ofynnol o ganlyniad i'r Ddeddf honno'n cael eu cyflwyno. 

Er gwaethaf yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth sydd wedi arwain at fabwysiadu'r nod o warchod 30 y cant o dir a môr, nid ydych wedi manteisio ar y cyfle i roi sail statudol i hyn o hyd. Wrth gwrs, rydych chi wedi buddsoddi £15 miliwn yn rhaglen Rhwydweithiau Natur, i ddiogelu cynefinoedd naturiol amrywiol Cymru, o forfeydd heli ac aberoedd i goedwigoedd a glaswelltiroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y mae'r ddwy ohonom ni yn awyddus i sicrhau ei fod yn digwydd, ond rydych chi'n colli cyfle go iawn i fynd ymhellach, yn enwedig yn yr amgylchedd morol.

Mae yna brosiectau penodol, fel y gwyddoch chi, sy'n gyffrous, megis gwaith morfa heli yn sir Gaerfyrddin, aber Conwy a'r Hafren, a chlogwyni môr ar benrhyn Llŷn ac Ynys Môn, ond nid yw'r rhain yn gweld newid ledled y wlad. Er enghraifft, rwyf wedi galw o'r blaen am greu cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefin carbon glas morol gwerthfawr. Byddai hynny'n gosod targedau ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys gwaddodion morol, morwellt, morfeydd heli, cynefinoedd gwaddodol islanwol a physgod cregyn. Er bod y Senedd yn cefnogi ein cynigion deddfwriaethol i gael cynllun datblygu morol cenedlaethol ar gyfer Cymru, a fyddai'n helpu i greu sicrwydd i bob plaid ac yn osgoi unrhyw wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio, oherwydd gallai gwely'r môr gael ei fapio allan wedyn, fel yr ydym yn ei wneud gyda chynlluniau datblygu lleol—dyma'r math o gamau gweithredu yr ydym yn gobeithio y byddwch chi'n eu cymryd.

Rwyf wedi ysgrifennu'n bersonol atoch ac rwyf wedi cyfarfod â'ch swyddogion i drafod ffyrdd y gallwn hefyd integreiddio ynni adnewyddadwy ag adfer natur morol ar yr un pryd. Mae ffermydd gwynt alltraeth yng Ngwlad Belg yn cynnig yr amgylchedd unigryw i adfer riffiau wystrys, ac rwyf wrth fy modd â'r gwaith rydych chi eisoes yn helpu i'w gefnogi ar hyn. Mae'r prosiect, a elwir yn UNITED, yn canolbwyntio ar synergeddau rhwng cynhyrchu gwynt ar y môr a dyframaeth ac adfer wystrys gwastad. Ni chaniateir pysgota ar wely'r môr mewn parciau gwynt, sy'n atal difrod i'r rîff. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddech chi'n gallu dweud rhywbeth heddiw am bysgota ar wely'r môr. Mae'r swbstrad caled a ddefnyddir fel amddiffyniad rhag erydiad o amgylch tyrbinau gwynt mewn gwirionedd yn ddelfrydol ar gyfer larfa wystrys i setlo a chychwyn riffiau naturiol. Byddai'n dda iawn pe gallem ddilyn yr arweiniad hwnnw yma yng Nghymru.

Hoffwn weld datganiad neu rywbeth gennych chi heddiw ynghylch a ydych yn ei hanfod yn rhwystro prosiectau ynni adnewyddadwy ar neu ger ein mawndir a'r rhesymau dros hynny. Rwyf wedi ysgrifennu atoch gyda thystiolaeth, gan gredu y gall y ddau gydfodoli ac y gellid newid geiriad pennod 6 'Polisi Cynllunio Cymru' fel bod yr hyblygrwydd hwn. Mae hwn yn faes polisi y gwn fod gan y ddau ohonom ddiddordeb arbennig ynddo, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a chynnal yr archwiliad ar y cyd hwnnw yr ydych wedi fy ngwahodd i fod yn rhan ohono mewn dôl morwellt.

Felly, a allwch chi egluro'r amserlen i'r Papur Gwyn ddod yn Fil drafft gerbron y Senedd hon ac egluro pam y bydd rhai o'r targedau'n cael eu gosod mewn is-ddeddfwriaeth, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, oherwydd rydym eisoes yn gweld nawr, gyda'r Bil seilwaith sy'n dod drwodd, pa mor orddibynnol ydyw ar is-ddeddfwriaeth, a disgrifiwyd hynny i ni fel rhywbeth nad yw'n foddhaol? A allech chi roi syniad pryd y dylem ddisgwyl gweld corff llywodraethu amgylcheddol ar waith? A fyddech chi'n defnyddio'r ddeddfwriaeth fel ffordd o greu dyletswydd gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chreu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un gofodol, amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar gyflawni'r nod 30:30, ac egluro pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r pwysau sylweddol o fewn awdurdodau cyhoeddus cyn disgwyl iddyn nhw lunio cynlluniau adfer natur lleol? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Llafur 3:51, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi lwyddo i ddod i'r sesiynau briffio technegol a gynigiwyd y bore yma. Aeth negeseuon e-bost allan gyda chopïau o'r Papur Gwyn yno, ymddiheuriadau os na chawsoch chi un, ac mae wedi'i gyhoeddi heddiw, felly dyna pam nad yw yn y Llyfrgell eto. Mae'n amlwg felly bod cyfle i nodi'r holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynglŷn â'r hyn yr hoffech chi ei weld a'r hyn na hoffech chi ei weld yn cael ei gynnwys yn y targedau, fel rhan o'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymateb iddo.

Mae yna nifer o bethau y gwnaethoch chi eu codi yr hoffem weld targed ar eu cyfer fwy na thebyg. Mae'r targedau yn mynd i gael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth, yn yr un modd ag y cafodd y Ddeddf aer glân ei strwythuro, felly bydd gennym y prif nod bioamrywiaeth fyd-eang ynddo, nodau bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal ar gyfer 30 y cant, ond rydym yn bod yn benodol iawn: 30 y cant o'n tir, ein hafonydd a'n moroedd. Nid dim ond 30 y cant o bopeth yw hynny, oherwydd mae'n gweithio allan yn wahanol mewn gwirionedd, os ydych chi'n ei wneud fel hynny.

Holl bwynt hyn yw sefydlu'r corff llywodraethu i wneud yn siŵr ein bod ni wedyn yn gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud y byddwn ni'n ei wneud, ond hefyd i roi cyngor i ni ar y targedau hynny wrth i'r peth fynd yn ei flaen. Byddai hynny'n cynnwys y ffordd orau o wneud gwaith adfer, neu ganran yr adferiadau y gallem eu gwneud, a'r anawsterau o ran yr hyn sy'n mynd gyda beth, felly y peth fferm wynt rydych chi'n tynnu sylw ato. A dweud y gwir, fel y nodoch chi'n briodol hefyd, gall ffermydd gwynt morol fod yn ddefnyddiol iawn o ran atal treillrwydo ar waelod y môr ac ymddwyn fel meithrinfeydd ar gyfer gwahanol rywogaethau ac yn y blaen. Felly, pwynt y broses hon yw mai'r Papur Gwyn yw hwn, a bydd yr ymgynghoriad arno yn arwain at y Bil. Bydd yn bwydo i mewn i'r Bil. Mae'r Bil eisoes ar y gweill. Mae'n cymryd blwyddyn dda i lunio Bil i'w gyflwyno i'r pwyllgor, yn enwedig gyda'r broses gyfieithu a'r gwiriadau cyfwerthedd a phopeth arall. Felly, dyma ddechrau'r Bil hwnnw yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd.

Felly, Dirprwy Lywydd, byddwn i'n dweud y dylem ni i gyd annog cynifer o bobl â phosib yn ein holl etholaethau ledled Cymru—nid wyf yn golygu ein hetholaethau gwleidyddol yn unig, rwy'n golygu ein hetholaethau o gymunedau ac ati—i wneud yn siŵr ein bod yn cael cymaint o ymateb â phosib. Mae'n deillio'n uniongyrchol o'r gwaith archwilio dwfn, felly mae ei strwythur wedi dod yn uniongyrchol o'r gwaith a wnaethom gyda rhanddeiliaid. Nid wyf yn disgwyl i unrhyw un o'n prif randdeiliaid ymateb i hyn mewn ffordd fydd yn ei lesteirio, ond rydym yn disgwyl gwahaniaethau, wrth gwrs, o ran sut y dylid strwythuro'r peth ac yn y blaen. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:53, 30 Ionawr 2024

Gweinidog, dwi'n croesawu’r datganiad hwn. Mae gwir angen deddfwriaeth ar frys ar y mater hwn. Rŷn ni'n gwerthfawrogi’r cyfle i drafod, wrth gwrs, achos dyma'r cyfle i gloi'r bwlch sy'n bodoli yn amddiffyniadau amgylcheddol ein gwlad. Dwi'n croesawu’r penderfyniad, y penderfyniad sydd gan y Llywodraeth i ymateb i’r argyfwng natur. Ni fel plaid, wrth gwrs, wnaeth gynnal y ddadl i ddatgan yr argyfwng natur. Roedd e’n foment pwysig. Does dim momentwm tu ôl i foment oni bai bod gweithredu yn digwydd. Felly dyma ni’r gweithredu, a dwi'n croesawu hynny, yn sicr. 

Mae yna lot i’w groesawu o ran beth fydd yn y Papur Gwyn. Mae’r targed bras yn un pwysig, a bydd sefydlu trefniadau llywodraethu amgylcheddol annibynnol eto yn foment pwysig. Am yn rhy hir, wrth gwrs, rŷn ni wedi bod yn aros am hyn—mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi edrych i mewn i hyn—a bydd angen gwneud yn siŵr bod y trefniadau yn rhai sydd nid yn unig yn gweithio’n dda, ond yn rhai bydd y cyhoedd yn eu deall. Pa gadarnhad allwch chi ei roi inni am y rhyngwynebu yna fydd yn digwydd gyda'r cyhoedd, i'w gwneud nhw'n fwy ymwybodol o ble i fynd i gael cyngor, ble i fynd i gael help, yn enwedig os byddan nhw'n drysu o ran beth ydy'r gwahaniaeth rhwng y rhain ac NRW?

O ran yr amseru a’r gweithredu—rŷch chi wedi cael cwestiynau am hyn yn barod—a allech chi roi cadarnhad inni y bydd pob ymgais yn cael ei gymryd gan y Llywodraeth i osgoi rhagor o oedi oni bai bod dim modd ei osgoi fe, plis? Wrth gwrs, dwi’n croesawu’r targedau, er wrth gwrs, drwy ddeddfwriaeth—'eilaidd' ydy 'secondary legislation'? Eilradd, eilradd. Ond buaswn i’n hoffi deall mwy am y methodoleg fydd yn cael ei ddefnyddio i osod a monitro’r targedau. Dwi’n gwybod efallai y bydd y gwybodaeth yna ddim i gyd ar gael ar hyn o bryd, ond pan fydd e ar gael, a fydd hwnna’n cael ei wneud yn gyhoeddus, plis?

O ran effeithiolrwydd y corff llywodraethu, faint o bwerau gorfodaeth fydd ganddyn nhw, eto o’i gymharu ag NRW? Achos mae problemau o ran capasiti NRW gyda gorfodaeth yn erbyn torri rheolau gyda charthion yn ein hafonydd, ac yn y blaen. Pa sicrwydd fydd yna na fydd y corff yma yn dioddef yn yr un ffordd gyda hwnna? Ac yn olaf, sut y byddwch chi yn mynd ati i sicrhau annibyniaeth y corff yna oddi wrth y Llywodraeth?

Felly, eithaf tipyn o gwestiynau, ond yn sicr dwi’n croesawu’r datblygiad hwn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a gweld y corff hwn yn cael ei sgrwtineiddio, wrth gwrs, i sicrhau bod ein gofidion ni i gyd am ein byd naturiol yn cael eu hateb, a bod y bywyd gwyllt yna yn cael ei warchod. A buaswn i’n hoffi ategu’r geiriau roeddech chi’n eu dweud, ein diolch ni i gyd i Nerys a phawb sydd wedi bod yn gweithio gyda hi ar y gwaith pwysig maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y cyfnod dros dro. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Llafur 3:56, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch yn fawr, Delyth. Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, wrth gwrs. Felly, mae hi yn foment arwyddocaol, rwy'n credu, ac mae'n ffaith sicr mai ni yw'r olaf o'r cenhedloedd i wneud hyn. Fodd bynnag, rwyf wir yn credu bod hwn yn gyfle i achub y blaen ar y cenhedloedd eraill, felly byddwn yn mynd o'r olaf i'r gyntaf, oherwydd gallwn ddysgu nawr o'r problemau a'r anawsterau sydd wedi bod gyda modelau Lloegr a'r Alban. Mae swyddogion yno wedi bod yn hapus iawn i rannu gyda ni bethau yr hoffen nhw pe baen nhw wedi'u gwneud neu ddim wedi'u gwneud neu beth bynnag, ac i ddysgu o'r pethau maen nhw wedi'u gwneud yn dda, ac rydyn ni wedi gallu nodi hynny hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n cael y gorau o hynny yn y pen draw, oherwydd rydyn ni wedi gallu nodi llawer o'r hyn sydd wedi'i ddysgu, ac, wrth gwrs, ni allaf ddweud yn ddigon aml pa mor dda y mae Nerys a'i thîm wedi'i wneud.

Fe ddylwn i ymddiheuro'n gyhoeddus: roedd gen i firws ofnadwy y gall fod pob un ohonoch yn gyfarwydd ag ef yr wythnos diwethaf, felly bu'n rhaid i fi aros gartref, ac roedd yn golygu nad oeddwn yn gallu cwrdd â hi wyneb yn wyneb fel yr oeddwn i wedi bwriadu ei wneud. Roedd yn wych cael canlyniad negatif ddydd Sadwrn a chael fy rhyddhau. [Torri ar draws.] Wel, yn union. Ond roedd hi'n bechod peidio â gallu gwneud hynny.

Rwy'n gobeithio gallu aildrefnu'r cyfarfod hwnnw. Ond mae arbenigedd ei thîm wedi bod yn amhrisiadwy wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adnoddau. Rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi rhoi mwy o adnoddau i mewn i'w thîm, er enghraifft. Ac wrth gwrs, pan ddaw'r Bil gerbron y pwyllgorau, bydd yna asesiad effaith ariannol a rheoleiddiol cyflawn yn dod gydag ef, ac yn y gwaith craffu cyllidebol mewn pwyllgorau, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni wedi diogelu'r cyllidebau deddfwriaeth er mwyn gallu cyflawni'r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau nad yw hynny'n dod yn un o'r problemau, am resymau amlwg.

Bydd y rhyngwyneb yn un diddorol; mae'n rhywbeth y byddwn yn cael mwy allan ohono yn yr ymgynghoriad, ac mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgorau eisiau edrych arno. Ond, yn gyffredinol, nid awdurdod rheoleiddiol yw hwn; awdurdod ydyw sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau cyhoeddus ar sut i osod y targedau a'u monitro a sicrhau eu bod yn eu cyflawni. Byddem yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru ddelio ag achos o dorri rheoliadau, ond bydd angen i ni weithio ar ymylon hynny a byddwn yn disgwyl i'r sefydliadau gydweithio â'i gilydd, fel nad oes gennym dirwedd gymhleth. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at sut y bydd aelodau'r cyhoedd yn deall hynny, a rhan o ddyletswydd y corff llywodraethu fydd sicrhau, yn yr un modd ag y mae'r comisiynwyr yn ei wneud, bod ei waith ei hun yn cael ei ddeall.

Yn wir, rydym wedi edrych yn fanwl iawn ar strwythur swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wrth edrych ar y cynigion yma sydd, yr wyf yn siŵr eich bod chi'n gwybod eisoes, ar gyfer comisiwn yn hytrach na chomisiynydd, oherwydd rydym yn disgwyl y bydd angen ystod o wahanol arbenigedd gwyddonol ar draws y comisiwn, ond, wrth gwrs, gyda chadeirydd a fyddai'n dod yn ganolbwynt, os mynnwch, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

Credwn ei bod yn bwysig iawn ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ei fod yn ein dwyn i gyfrif. Un o'r trafodaethau a fydd yn digwydd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yw i ba raddau y dylid cynnwys cyrff cyhoeddus eraill yn y Ddeddf. Mae manteision ac anfanteision i hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, a ddylai awdurdodau lleol unigol gael eu rhwymo'n benodol ganddi, neu a ddylid eu gwneud fel consortia rhanbarthol, neu beth yw strwythur hynny? Bydd y pwyllgorau'n cymryd diddordeb, rwy'n siŵr, yn hynny ac yn gallu ein cynorthwyo gyda hynny. Mae hynny'n rhan fawr o'r hyn y mae'r ymgynghoriad yn ei olygu.

Yn olaf hoffwn ddweud nad oes gennym unrhyw le i lithro yma. Rydym am sicrhau bod y pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda, ac felly mae'n rhaid i ni ei gael i mewn i'r pwyllgor yn y slot sydd wedi'i nodi. A dyma'r Bil olaf ond un i fynd drwy'r Senedd yn nhymor y Senedd hon, felly nid yw llithriad yn opsiwn, ac mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Dyna pam mae angen i'r ymgynghoriad fod yn drylwyr, mae angen inni sicrhau ei fod yn iawn, ac yna mae angen i ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw fwydo i'r gwaith drafftio fel y gallwn ni i gyd fod yn dawel ein meddwl ein bod ni'n gwneud y gyfraith orau y gallwn.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 4:00, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn, Gweinidog, ac mae'n dda iawn eich clywed chi'n dweud, er ein bod ni mewn sefyllfa gymharol wan ar hyn o bryd o ran ein strwythurau llywodraethu a diffyg targedau ac elfennau pwysig iawn eraill o ddiogelu ein natur a'n bioamrywiaeth, y byddwn yn achub y blaen, fel petai, ar rannau eraill o'r DU, oherwydd yn amlwg dyna'r safle lle hoffai pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, weld ein gwlad. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar rai enghreifftiau da iawn o ran ein bioamrywiaeth a'n hamgylchedd a'r angen i'w amddiffyn a rhoi'r strwythurau a'r targedau hyn i'w warchod, fel Gwastadeddau Gwent, er enghraifft, yr wyf yn cynrychioli rhan ohonynt? Yno, mae gennym bwyslais go iawn ar y materion hyn, cefnogaeth dda iawn gan sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a nifer enfawr o wirfoddolwyr yn gweithio o ddydd i ddydd. Ac, wrth gwrs, mae gennym rywogaethau eiconig fel llygod y dŵr, yr wyf yn falch iawn o'u hyrwyddo. Mae angen i ni fynd â'r cyhoedd a grwpiau gyda ni, Gweinidog, ac rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio ar ardaloedd sy'n ein galluogi i wneud hynny.

Photo of Julie James Julie James Llafur 4:02, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. Rwy'n credu mai un o'r pethau y bydd gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud fydd sicrhau bod y corff llywodraethu, wrth edrych ar y targedau y mae'n eu gosod ar gyfer y gwahanol gyrff cyhoeddus a gwmpesir ganddo, yn ystyried y wyddoniaeth dinasyddion sydd ar gael yn rhwydd iawn, y mae llawer ohoni o'r ansawdd gorau, ansawdd safon fyd-eang. Felly, byddwn yn sicr yn adeiladu ar hynny. Pwrpas hyn yw gosod targedau eilaidd, weithiau ledled Cymru, ar gyfer dirywiad neu adfer rhywogaethau, ond mewn gwirionedd, weithiau, ar gyfer ardaloedd penodol iawn. Rwy'n gwybod bod Gwastadeddau Gwent yn agos iawn at eich calon, ond mae ardaloedd eraill fel yr un yna. Yn ddiweddar, ymwelais â biosffer Dyfi, er enghraifft, sydd â grŵp tebyg iawn o wirfoddolwyr sydd yr un mor benderfynol o sicrhau bod yr ardal honno'n aros yn y cyflwr hwnnw, neu mewn gwirionedd yn cael ei hadfer i'r cyflwr hwnnw ar gyfer rhai rhannau ohoni.

Bydd angen i ni edrych ar dargedau daearyddol, targedau pan-rywogaethau a thargedau system ecoleg. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym am ei wneud a bydd yn rhan o'r hyn y bydd y pwyllgorau'n edrych arno o ran yr hyn y mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei galluogi i'w wneud. Bydd angen i'r Bil alluogi'r gwahanol fathau o dargedau y gellir eu gosod er mwyn cael y mathau o ganlyniadau rydych chi'n chwilio amdanyn nhw. Rwyf wir yn credu y bydd yn ein rhoi ar gwrs gwahanol wrth i ni geisio diogelu'r systemau hynny. Dyna yw ysgyfaint gwyrdd cytrefiad y de-ddwyrain, a gellir dweud yr un peth am fiosffer Dyfi ac, yn wir, am Benrhyn Gŵyr, lle yr wyf yn digwydd byw. Mae'r pethau hyn yn rhoi bywyd i'n dinasoedd a'n planed, ac, yn wir, i ni fel bodau dynol; nid ar gyfer eu lles eu hunain yn unig. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 4:03, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich gwaith fel ceidwad brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd yn ogystal â'r argyfwng bioamrywiaeth. Rwy'n falch iawn ein bod ni nawr yn rhoi ar ddu a gwyn yr hyn sydd ei angen arnom i ddiogelu'r amgylchedd wrth symud ymlaen. Yn amlwg, mae hyn yn mynd i olygu cryn dipyn o waith gyda'ch cyd-Aelod Lesley Griffiths, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, lle mae arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus yn egwyddor bwysig iawn o'r cynllun tir cynaliadwy newydd.

Wrth siarad â ffermwyr yn Nhreorci 10 diwrnod yn ôl, mae'n amlwg nad yw ffermwyr yn aml yn ymwybodol o werth enfawr eu corsydd mawn a'u lleoedd ar gyfer natur ar eu ffermydd—ar gyfer bioamrywiaeth ac yn nhermau ariannol yn y cynllun yn y dyfodol. Felly, er bod un o'r ffermwyr organig sy'n ffermio ar gyrion Gorllewin Caerdydd yn gallu dweud wrthyf, 'Mae gen i 275 o rywogaethau sy'n cydfodoli'n hapus â'm gwartheg a'm defaid', rwy'n weddol hyderus ei bod hi'n eithaf anarferol o ran deall pa asedau bioamrywiaeth y mae hi'n gofalu amdanynt. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y cynlluniau adfer natur lleol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd i gyflawni llinell sylfaen dirywiad bioamrywiaeth neu gyfoeth bioamrywiaeth sydd eisoes yn bodoli ar lawer o ffermydd, fel ein bod ni'n gwybod pa amcanion yr ydym yn talu amdanynt, a sut y gallwn olrhain canlyniadau'r buddsoddiad cyhoeddus a gynlluniwyd yn benodol i wella bioamrywiaeth?

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â llygredd dŵr. Yn y pwyllgor newid hinsawdd, rydym wedi clywed gan Glenys Stacey, cadeirydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd Lloegr, ac, am y tro, Gogledd Iwerddon, ac mae hi'n glir iawn na fyddan nhw'n dibynnu ar ddirwyon i orfodi'r rheoliadau, oherwydd bod cyfarwyddwyr pa bynnag gwmni sydd dan sylw yn trosglwyddo'r dirwyon i'r cyhoedd yn eu biliau.

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr 4:06, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Allwch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur

(Cyfieithwyd)

Pa ysgogiadau ydych chi'n eu rhagweld yn y rheoliadau hyn ar gyfer mynd i'r afael â llygredd dŵr sy'n sicr yn un o'r materion difrifol allweddol sy'n ein hwynebu?

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jenny. Fe wnaf i hynny ychydig i'r gwrthwyneb. Bwriad polisi'r Bil yw y bydd goruchwylio personau preifat sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus yng Nghymru a allai ymwneud â'r amgylchedd neu effeithio arno yn cael ei gynnwys. Felly, bydd y cwmnïau dŵr yn cael eu cynnwys, ac mae eraill hefyd; bydd awdurdodau harbwr ac eraill yn cael eu cynnwys. Ac felly, bydd y Bil yn effeithio arnynt, ac felly pan fyddant yn rhoi eu rhaglen buddsoddi mewn seilwaith i Ofwat, ac ati, bydd yn rhaid iddynt ystyried yr egwyddorion amgylcheddol yn y Bil. Yn y modd hwn, mae'n ysgogi dull gwahanol o fynd i'r afael â hynny. Ni fydd yn datrys y ffaith bod y diwydiant dŵr ond yn cael ei ariannu gan y rhai sy'n talu'r biliau, sy'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn ei wneud. Mae'n nonsens llwyr bod y Llywodraeth yn gwario arian ar groesffyrdd ond yn methu gwario ar seilwaith dŵr oherwydd honnir ei fod yn eiddo i'r cwmni dŵr. Nonsens yw hynny, ond nid yw'n nonsens y gallaf ei newid yn benodol yn y Bil hwn. Yr hyn y gallaf ei wneud yw ysgogi strategaeth fuddsoddi wahanol ar gyfer y farchnad sy'n bodoli. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny.

Ac ydy, mae'n sicr yn rhyngweithio â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n credu bod gennym nifer fawr iawn o ffermwyr ledled Cymru sy'n ymwybodol iawn o fioamrywiaeth. Yn wir, gwnaeth nifer fawr o ffermwyr gyfrannu at yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn sôn am y ffermwr ifanc a oedd wyth mis yn feichiog yn dangos ei fferm fioamrywiol rhwng Amroth a Saundersfoot i mi, i fyny clogwyn mor serth fel na allwn gadw i fyny gyda hi. Roedd hi'n anhygoel, ac roedd y ffordd yr oedd bioamrywiaeth yn cael ei gwella ar y fferm weithredol honno, a'r cynnydd go iawn yn eu hincwm o ganlyniad i hynny, yn rhyfeddol. Erbyn hyn mae ganddi ffermwr cenhedlaeth nesaf iach iawn sy'n dod ymlaen yn dda. Ond roedd hi'n ysbrydoledig, ac roedd gennym nifer fawr o ffermwyr eraill yn ein harchwiliad dwfn a oedd yn hollol ysbrydoledig hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y cyfuniad o wobrau a gofynion gan y cyrff llywodraethu yn arwain at newid sylweddol o ran hynny.

Yn amlwg, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud ag incwm i ffermwyr wrth iddynt newid yr arferion hynny, yn ogystal â gwobrau i ffermwyr sy'n newid yn gyflymach, ac mae Lesley a minnau wedi cael nifer fawr o sgyrsiau am y rhyngweithio hwnnw. Ond ni allwn wneud hyn heb ein tirfeddianwyr. Felly, rhan o'r hyn y bydd yn rhaid i'r corff hwn ei wneud yw y bydd yn rhaid iddo edrych ar y ffordd mae'r ddyletswydd gyhoeddus yn rhyngweithio â thirddaliadaeth ledled Cymru. Felly, wrth edrych ar barciau cenedlaethol, er enghraifft, bydd yn rhaid iddo edrych ar sut olwg sydd ar y polisi ar gyfer ffermio yn y parciau cenedlaethol, a sicrhau bod gan bobl incwm cynaliadwy ar eu fferm wrth i ni newid i system newydd. Felly, mae'n rhan fawr o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rwy'n credu y bydd yn sbarduno newid go iawn mewn agwedd. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n enwog yn fyd-eang. Lle bynnag yr ydym yn mynd fel aelodau o'r Llywodraeth, gofynnir i ni wneud sylwadau ar sut ar y ddaear y gwnaethon ni sicrhau bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn mynd drwyddo. Efallai ein bod ni'n ei chymryd ychydig yn ganiataol nawr, ond mae'n seismig o ran ei gweithrediad, ac rwy'n credu y bydd y Bil newydd hwn ond yn gwella'r enw da hwnnw.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, fe wnaethoch chi addo, ar ôl COP15 ac ar ôl yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth, y byddech chi'n dod nôl atom gyda rhywbeth gwell, mwy ystyrlon, a fyddai'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol iawn i natur, felly dyma ni heddiw. Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad a chyhoeddi'r Papur Gwyn hwn gydag enw amgylcheddol hir iawn. Fel rhan o'r ymgynghoriad, efallai y gallem edrych ar deitl byr ar gyfer y Bil pan gaiff ei gyflwyno, a fy nghynnig agoriadol yw 'Bil adfer natur a llywodraethu amgylcheddol', fel ei fod yn dweud yn union beth y mae i fod i'w wneud. Gallwn ni wneud y pethau eraill ac efallai y bydd hyd yn oed yn fyrrach eto.

A gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, o fewn y cynigion sy'n cael eu cyflwyno—? Rydw i'n mynd i fynd i'r lefel uchel, oherwydd byddwn ni'n ymdrin â'r manylion, rwy'n gwybod. Ond ar y lefel uchel, beth mae hyn yn ei olygu i ddinasyddion o ran eu gallu i weld ble mae ein dull o adfer natur yn gweithio a lle mae'n methu, a sut y gallan nhw wedyn herio'r methiant hwnnw?

Yn ail, rydym yn siarad am hyn yn cael ei ddatblygu, y corff llywodraethu hwn yn gweithio mewn ffordd gydweithredol, gan gymryd ymagwedd uwchgyfeiriol a gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i unioni pethau. A yw hi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, gadewch i ni beidio ag unioni pethau ar ôl y digwyddiad, gadewch i ni unioni pethau ymlaen llaw, ac mae'n rhaid i hynny fod yn un o rolau'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma?

A gaf i ofyn iddi, o ran y targedau, sef y pethau oedd bob amser yn mynd i fod yn anodd gyda hyn—a dywedodd y byddai'n dod yn ôl ar ôl COP15 yn fwy gwybodus o ran lle y dylem siapio'r targedau hynny—a fydd ymgysylltiad llawn, manwl, ystyrlon nawr, nid yn unig gyda dinasyddion yn ehangach, ond hefyd gyda'r holl sefydliadau amgylcheddol hynny, yn ogystal â ffermwyr ac yn y blaen, i sicrhau bod y targedau hynny'n hollol gywir? Oherwydd mae hynny'n hanfodol.

Ac yn olaf, o ran safleoedd gwarchodedig dynodedig, mae hyn wedi bod yn asgwrn cynnen ers tro, oherwydd gan fod gennym newid hinsawdd, mae'n golygu bod y safleoedd hynny'n newid eu hunain—mae'r cynefinoedd yn newid, mae'r rhywogaethau'n symud. Felly, lle ydyn ni arni ar hyn o bryd? Beth fydd y Bil hwn yn ei wneud o ran y ffordd rydym yn edrych ar ddiogelu ein safleoedd mwyaf arbennig, ond hefyd y ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn newid symudiad y safleoedd hynny hefyd? Llawer mwy o gwestiynau i ddilyn, ond dyna sylwadau agoriadol.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Julie James Julie James Llafur 4:11, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Huw. Mae teitlau biliau bob amser yn sgwrs ddiddorol rhwng swyddfa'r cyngor deddfwriaethol, sydd â barn benderfynol iawn ynghylch yr hyn y dylai teitl y Bil ei wneud, a'r rhai ohonom a hoffai rywbeth ychydig yn fwy ffasiynol. Ond maen nhw'n dod yn adnabyddus am yr hyn ydyn nhw. Felly, nid yw'r Ddeddf aer glân, wrth gwrs, yn cael ei galw'n 'Ddeddf aer glân', ond dyna a elwir bellach ar lafar gwlad. Rwy'n amau y bydd gennym rywbeth ar hyd y llinellau hynny. Bydd pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad mai 'Bil natur-bositif' mae'n ymddangos, yw'r ffefryn ar hyn o bryd ymhlith nifer fawr o bobl. Ond dyna lle rydyn ni'n mynd gydag ef, oherwydd dyna beth fydd ef.

Y pwynt yma yw nad yw'n ymwneud ag adfer yn unig, mae'n ymwneud â bod yn gadarnhaol ynghylch natur yn ei holl agweddau, deall na allwn fodoli heb natur, ein hecosystemau, a'u bod yn eithaf sylfaenol i'r hyn ydym ni. Mae bob amser yn fy rhyfeddu nad yw pobl yn gweld hynny, heb y gwahanol rannau o natur, na allem anadlu nac yfed na bwyta. Mae'r pethau hyn yn hanfodol i'r ddynoliaeth. Ac rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen nad yw hyn yn ymwneud â diogelu'r blaned—bydd y blaned yn parhau. Mae'n ymwneud ag amddiffyn dynoliaeth ar y blaned. Mae hynny'n beth gwahanol iawn. Allwn i ddim cytuno mwy.

O ran y targedau, y prif darged natur-bositif arfaethedig yw'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang—felly, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030, a'u hadferiad clir erbyn 2050. Mae hynny'n amlwg wedi'i anelu at ysgogi uchelgais a chamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r hinsawdd, oherwydd eu bod yn ddwy ochr yr un geiniog. Ac mae'r busnes hwnnw am bethau yn symud o gwmpas, wrth gwrs, yn cael ei ysgogi gan yr argyfwng hinsawdd. Felly, wrth i ni geisio bod yn gydnerth o ran yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal â cheisio atal rhai o'r newidiadau mwy trychinebus yn yr hinsawdd, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael agwedd well tuag at y tirweddau dynodedig sydd ag ymylon pendant, y byddwn yn sicr yn eu hystyried. Ac mae'n cyd-fynd â nodau llesiant Cymru gydnerth a chydnabod yr angen i amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod gennym ni hynny eisoes yn y gyfraith yng Nghymru. Rydyn ni'n tueddu i anghofio hynny.

Wrth i ni fynd drwy'r pwyllgor, byddwn yn cael trafodaeth am beth arall sydd ei angen ar wyneb y Bil ac, heb os, byddwn yn cael trafodaeth gadarn amdano, fel y gwnaethom gyda'r Ddeddf aer glân, oherwydd rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro rhwng yr hyn y mae'r Bil yn ei ddweud ymlaen llaw am yr hyn y dylem ei wneud a'r hyn y bydd y corff llywodraethu yn ei wneud, Ac yna yr hyn y gallwn ei roi mewn deddfwriaeth eilaidd sy'n sbarduno gwelliant cyson. Fel y gwyddoch chi, os ydych chi'n rhoi pethau ar wyneb y Bil, maen nhw'n tueddu i fod yn gwbl ddigyfnewid ac yn dyddio yn eithaf cyflym, yn enwedig yn y maes hwn lle mae llawer o wyddoniaeth yn newid trwy'r amser. Felly, bydd yn dasg i'r pwyllgorau weithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi rhai o'r pethau eilaidd o flaen y pwyllgor, ond mae llawer o hynny'n dibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gwyddonwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gweithio ar rywfaint o hyn, ac yn wir ar rai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wrth i ni eu cael yn ôl. Ond rwy'n credu, ar ddiwedd tymor y Senedd hon, y bydd gennym Fil y gallwn fod yn falch ohono ar lwyfan byd-eang yn ogystal ag yma gartref.

O, mae Dirprwy Lywydd gwahanol yn dod â'r ddadl i ben.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Llafur 4:14, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog.