3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:19, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i Alun Davies am yr holl bwyntiau yna, Dirprwy Lywydd dros dro. Fe wnaeth ef bwyntiau difrifol ac mae ef yn gywir i ddweud bod yr adroddiad yn un difrifol a heriol i'w ddarllen. Ni fyddech chi'n disgwyl dim llai, rwy'n credu, o ystyried safon y bobl a oedd yn rhan o'r comisiwn a chadernid y grŵp cynghori yr oedden nhw'n gallu elwa ar ei waith. Fe geir dyfnder dadansoddiadol gwirioneddol a thrylwyredd yn y ffordd y cafodd fframwaith ei gymhwyso i'r dystiolaeth ar gyfer crynhoi'r dadansoddiadau a'r casgliadau y mae'r adroddiad yn eu tynnu oddi wrth hynny.

Mae yna berygl yn bod bob amser, yn y Blaid Lafur, y bydd pobl o'r farn, am fod y Ceidwadwyr wedi cael eu trechu, y bydd y gwaith cyfansoddiadol wedi cael ei gyflawni. Ond fe hoffwn i atgoffa pawb mai Llywodraeth Lafur oedd hi, yn ei blwyddyn gyntaf yn 1997, ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, a wnaeth benderfynu ei bod hi'n rhaid canfod yr amser ar gyfer y diwygiadau cyfansoddiadol a arweiniodd at sefydlu'r Senedd hon. Felly, er y ceir tensiwn yn aml, a bod dadl i'w chael, mae'r dystiolaeth sydd gennym ni'n dangos yn eglur iawn mai'r Blaid Lafur yw awdur datganoli. Rydym ni yma oherwydd Llywodraeth Lafur a'r ymrwymiad a gyflawnodd y Llywodraeth Lafur honno.

Sut allwn ni, yng Nghymru, barhau i ddylanwadu ar y drafodaeth honno? Wel, dyma'r profiad a gefais i o fod yn yr ystafell gyda chydweithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU. Mae gan gydweithwyr yn yr Alban fantais bob amser yn y ffaith eu bod wedi cael eu hethol yn Llywodraeth sydd â mandad, chwedl nhw, i dynnu'r Alban o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n cael gwrandawiad difrifol bob amser. Mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon yn dod i mewn i'r ystafell gyda holl hanes cythryblus y rhanbarth, a'r angen i bawb sy'n bresennol fod yn ofalus o ran sicrhau nad yw'r penderfyniadau a wneir yn ailgynnau'r trafferthion hynny. Maen nhw'n dod gyda grym hynny yn eu meddiant. Yr hyn sydd gan Gymru yn syml yw cryfder ein dadl. Dyna yw ein harwyddocâd ni, a dyna pam rwyf i o'r farn fod llawer o sylwebyddion annibynnol yn dod i'r casgliad, pan fu ystyriaeth ddifrifol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, wedyn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf neu fwy, mai o Gymru y daeth y cyfraniad mwyaf at y ddadl honno. Boed hynny drwy gomisiwn Thomas, boed hynny drwy gomisiwn annibynnol, a'r dylanwad a gafodd Carwyn Jones a Paul Murphy ar yr adroddiad terfynol o waith Gordon Brown, rwy'n credu y gallwch chi weld cyfraniad Cymru yno yn ein parodrwydd ni i geisio gwneud pethau a meddwl o ddifrif, cael trefn ar y dadleuon, y datrysiadau ymarferol y gellir eu cyflawni. Dyna pam mae'r adroddiad hwn, sef adroddiad terfynol y comisiwn, mor rymus: am ei fod yn sefyll yn gadarn iawn yn y traddodiad hwnnw.