3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:24, 30 Ionawr 2024

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a hefyd am ei arweiniad, yn sicrhau bod y comisiwn yma wedi dod i fodolaeth ac wedi cyfrannu yn y ffordd bwysig y mae wedi gwneud yn barod, ond hefyd am sicrhau'r ysbryd cynhwysol, agored yr oedd y ddau gyd-gadeirydd, a dweud y gwir, am sicrhau o ran gwaith y comisiwn?