Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 30 Ionawr 2024.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am y cyfraniad meddylgar hwnnw ac am y parch a ddangosodd i waith y comisiwn a'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint ato. Rwy'n credu bod y mater o ymwybyddiaeth dinasyddion—rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr angen i ni wneud mwy a gwneud mwy o ran addysg. O'm mhrofiad fy hun dros fwy na 40 mlynedd, yn sicr, erbyn hyn o boeni pobl yn eu cartrefi eu hunain, curo ar eu drysau ar adeg etholiad, pan fydd rhywun yn dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, mae'r cyfan yn ymwneud â'r Llywodraeth, onid ydyw? Rwyf wedi curo ar ddrysau mewn etholiadau cynghorau cymuned, etholiadau awdurdodau lleol, etholiadau'r Senedd, etholiadau seneddol, etholiadau Ewropeaidd. Y person sy'n dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, dydyn nhw ddim eisiau gwybod am hynny, maen nhw eisiau gwybod, 'Pam na alla i barcio fy nghar?', 'Pryd mae'r sbwriel yna'n mynd i gael ei gasglu?' Y pethau maen nhw'n eu gweld o'u stepen drws eu hunain yw'r pethau maen nhw eisiau siarad â chi amdanyn nhw. Felly, er fy mod i o blaid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn deall y system yn well, yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, fwy na thebyg, mai'r hyn y mae gan bobl ddiddordeb ynddo fwyaf, pa bynnag lefel o lywodraeth rydych chi'n rhan ohoni, yw'r pethau maen nhw'n eu gweld, sy'n bwysig iddyn nhw, o ddydd i ddydd.
Edrychwch, mae rhywfaint o welliant wedi bod yn naws perthnasoedd rhynglywodraethol ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y DU. Mae'n barod iawn i gydnabod bod y Deyrnas Unedig yn cynnwys gwahanol gydrannau a'u bod yn haeddu parch. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na hynny. Mae gan y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol, y cymerodd bum mlynedd i gytuno arno, a gomisiynwyd gan Theresa May, y cytunwyd arno, fel y dywedais i, bum mlynedd yn ddiweddarach, gyngor o Weinidogion sy'n ganolog iddo. Wnaeth e' ddim cwrdd unwaith yn 2023, er gwaetha'r heriau niferus rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu—costau byw ac argyfyngau eraill. Ni chyfarfu'r cyngor hwnnw unwaith. Ac er bod y naws yn well, y perfformiad gwirioneddol, mae'n anodd dweud ein bod ni wedi gweld y gwelliant sydd ei angen.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar hefyd, Llywydd, am drefniadau rhyng-seneddol, am gryfhau'r rheini, ac mae llawer o waith yn digwydd ar lefel seneddol i wneud hynny. Nid mater i'r Llywodraeth yw arwain ar y gwaith hwnnw na cheisio dylanwadu arno, ond rydw i fy hun yn falch o'i weld. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, serch hynny, yw'r peirianwaith mwy cadarn hwnnw y cyfeiriodd Darren Millar ato. Mae yno ar dudalennau'r adroddiad. Mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig cyngor newydd o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau, fel man lle gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod a rhannu'r pethau hynny rydyn ni'n gwybod sy'n bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu pe bai'r cyngor hwnnw'n cyfarfod heddiw, bydden nhw eisiau gweld yr adroddiad hwn, a byddai yna fforwm lle byddem yn gallu bwrw ymlaen ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r jig-so cyfansoddiadol hwn hefyd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.