3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 3:22, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn wedi costio cyfanswm o £1.5 miliwn hyd yn hyn ac mae'n dal i gynyddu. I fod yn gwbl onest, ni fydd yn cael ei weithredu dan Lywodraeth Geidwadol, a chyn i'r inc sychu ar y papur, fe gafodd ei daro i lawr gan ysgrifennydd gwladol Llafur, a ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur newydd, ac rwy'n dyfynnu, yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig. Felly, rwy'n edrych ymlaen, Prif Weinidog, at weld yr adroddiad hwn yn cael ei roi yn ôl ar y silff ac yn cymryd ei le fel y peth mwyaf costus i hel llwch erioed.

Nawr, roeddwn i'n dymuno codi pwynt wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, pryd y galwodd am gyflwyno comisiwn parhaol i edrych ar hyn yn barhaus. Fe sylwais i na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich ateb, felly a allwch chi ddweud na fydd hynny'n digwydd—sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yma yng Nghymru?