3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:07, 30 Ionawr 2024

Buaswn i’n licio dechrau heddiw drwy longyfarch a diolch i Laura McAllister a Rowan Williams ac aelodau’r comisiwn i gyd am eu holl waith. Maen nhw wedi cynnal sgwrs ar ein dyfodol cyfansoddiadol ni sydd wedi bod yn ehangach ac yn fwy cynhwysol nag ydym ni wedi'i gael ers dyfodiad datganoli; yn fwy nag ydym ni wedi cael erioed, mae’n siŵr. Dros ddwy flynedd, mi gawson nhw mwy na 15,000 o ymgysylltiadau efo pobl o bob rhan o Gymru, o bob cefndir. Mae hwn wedi dangos, er gwaetha’r honiadau gan rai ar y meinciau cyferbyn, nad dim ond yr anoracs sydd â diddordeb yn ein setliad cyfansoddiadol ni. A buaswn i’n dadlau mai un o lwyddiannau mwyaf gwaith y comisiwn ydy dangos bod materion cyfansoddiadol yn faterion bara menyn, ac, i’r gwrthwyneb, mai cwestiynau bara menyn ydy cwestiynau cyfansoddiadol.