Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 30 Ionawr 2024.
Llywydd, fe ddylwn i ddiolch hefyd i'r uwch aelodau hynny o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon am eu cymorth gyda nodi'r comisiynwyr hynny a wnaeth gyfrannu'r safbwyntiau gwleidyddol sy'n saernïo dadl gyfansoddiadol ein cenedl. Teyrnged ryfeddol i ddoniau'r cyd-gadeiryddion yn wyneb comisiwn llawn unigolion â safbwyntiau cadarn a chryf, yw bod yr adroddiad terfynol, i ddyfynnu Dr Williams a'r Athro McAllister, yn gynnyrch
'dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth', a arweiniodd at gasgliadau unfrydol. Mae'r ffaith y gallai comisiwn trawsbleidiol ddod i gynifer o gasgliadau cyffredin yn rhoi gwir bwys ac arwyddocâd ychwanegol i'r adroddiad terfynol, ac rwy'n diolch unwaith eto i bawb a helpodd i wneud i hynny ddigwydd.
Nawr, Llywydd, fe ellir olrhain tarddiad y comisiwn i faniffesto Llafur Cymru yn 2021, pryd y gwnaethom ni addo y byddem ni'n
'Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym eisiau meithrin trafodaeth ddinesig genedlaethol yng Nghymru ar ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.'
Dyna'r hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein maniffesto. Cafodd cylch gwaith terfynol y comisiwn hwnnw ei nodi yn y rhaglen lywodraethu a'i mireinio unwaith eto yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur hon a Phlaid Cymru.
Roedd yr amgylchiadau a fu'n darddle i'r syniad am y comisiwn yn adlewyrchu'r straen a'r pwysau mawr a oedd yn cael eu rhoi ar drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Roedd y bleidlais refferendwm Brexit yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhoi mwyafrifoedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i ymadael. Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban wedi ennill 56 o 59 seddau'r senedd yn etholiad cyffredinol 2015, ac erbyn hynny roedd hi wedi bod yn llywodraethu yn Holyrood ers bron i ddegawd. Ym mis Rhagfyr 2019, fe lwyddodd y Blaid Geidwadol i lunio Llywodraeth fwyafrifol gyntaf ei phlaid yn San Steffan ers 1992, a'r gyntaf ers datganoli. Fe ddywedodd y Prif Weinidog bryd hynny, Boris Johnson, wrth ei gefnogwyr ei fod ef o'r farn mai datganoli fu camgymeriad mwyaf y Llywodraeth Lafur Newydd ac fe aeth ati i ymdrin â deddfwrfeydd yn Belfast, Caerdydd a Chaeredin ar sail y farn honno. Fe ychwanegodd oes undebaeth gyhyrog, fel y'i gelwid yn Stryd Downing, dyndra newydd at y sefyllfa gan ehangu'r holltiadau eto yn y Deyrnas Unedig a oedd eisoes mewn cyflwr bregus.
Yma yng Nghymru, yn yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021, roedd hi'n amlwg y byddai pleidleiswyr yn cael cyfle, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny, i gefnogi ymgeiswyr ymroddedig i wyrdroi datganoli yn gyfan gwbl—Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—ac ymgeiswyr ymroddedig i ymadael â'r Deyrnas Unedig.
Nawr, Llywydd, mae yna rai sy'n credu bod cynnwrf cyfansoddiadol y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bod helyntion diamheuol Plaid Genedlaethol yr Alban yn golygu bod undebaeth gonfensiynol wedi cario'r dydd a bod y rheolaeth honno o Lundain wedi cael ei chadarnhau o'r newydd. Mae hwnnw, rwy'n credu, yn gasgliad sy'n ffôl a pheryglus. Mae'r heriau cyfansoddiadol sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig, yn enwedig i'r rhai ohonom ni sy'n credu ym mharhad y Deyrnas Unedig, yr un mor wirioneddol heddiw â phan sefydlwyd y comisiwn. Erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, efallai y bydd prif weinidog Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon—ac rwy'n croesawu'r datblygiadau dros nos i adfer Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon—ac mae hi'n bosibl mai llywodraeth Sinn Féin fydd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Nid yw unrhyw un sy'n credu bod y cynnwrf cyfansoddiadol drosodd yn gwneud dim ond ymroi i obeithio yn ofer.
Sefydlwyd y comisiwn, ar y llaw arall, i ddarparu meddylfryd o safon wahanol iawn, ac fe wnaeth hynny'n union. Mae'r adroddiad interim yn nodi'r 10 her fwyaf sy'n wynebu datganoli yn bendant: ansefydlogrwydd y setliad datganoli, breuder y cysylltiadau rhynglywodraethol, y problemau gyda chyfundrefn ariannu gwledydd datganoledig, absenoldeb arweinyddiaeth o ran yr undeb, ac ati blaen. Nawr mae'r adroddiad terfynol yn nodi rhai datrysiadau i'r cyfyng-gyngor hwn. Mae'r comisiwn wedi rhoi set o fesurau gerbron a all ymwreiddio a gwella'r setliad presennol, gan ei wneud yn llai agored i ymosodiadau gan weinyddiaeth elyniaethus yn San Steffan. Ac, yn ogystal â sadio gwreiddiau datganoli yn y ffordd honno, mae'r adroddiad yn archwilio'r achos dros ehangu cyfrifoldebau'r Senedd hon, ac mae'n gwneud hynny mewn chwe maes gwahanol: darlledu, cyflogaeth, ynni, cyfiawnder, trafnidiaeth a lles. Yn gefndir i'r cynigion penodol hyn, mae'r comisiwn yn asesu tri dyfodol cyfansoddiadol eang sydd ar gael i rai sy'n gyfranogion o ddull blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru: sef fersiwn mwy caboledig a gwarchodedig o'r setliad presennol, dyfodol ffederal i'r Deyrnas Unedig, a Chymru annibynnol.
Nawr, Llywydd, ni fwriadwyd erioed i'r comisiwn geisio dod i gasgliad a fyddai'n rhoi cyfarwyddyd i ddinasyddion Cymru o ran y dull i'w ffafrio gan y rhai a oedd yn archwilio i'r mater. Yn hytrach na hynny, mae'r adroddiad yn cynnig dadansoddiad difrifol o fanteision ac anfanteision pob posibilrwydd ar gyfer pob un ohonom ni, gan ein galluogi ni i ddod i gasgliad mwy deallus, llawn tystiolaeth ein hunain, yn unigolion ac yn bleidiau gwleidyddol. Ac fe gaiff hyn i gyd, Llywydd, ei grynhoi mewn 10 argymhelliad. Pa mor aml yr ydym ni wedi gweld adroddiadau yn y Senedd hon sy'n frith o argymhellion sy'n sicr o suddo yn llwyr oherwydd eu pwysau eu hunain? Drwy ganolbwyntio ar nifer fechan o gynigion allweddol, rwy'n credu, mae'r comisiwn wedi mynd ffordd bell i sicrhau y bydd ei waith yn mynd rhagddo ac y bydd â dylanwad grymus ar y dadleuon a'r trafodaethau a fydd yn deillio ohono.
Un pwynt olaf, Llywydd, os caf i: yn fy sgwrs gyntaf gyda Dr Williams, wrth i mi ofyn a fyddai'n barod i ystyried cynorthwyo gydag arwain y comisiwn, fe ddywedodd wrthyf y byddai'n barod i wneud felly, ond dim ond pe gellid cyflawni gwaith y comisiwn mewn ffordd a fyddai'n cynnwys cymaint â phosibl o'r bobl hynny sydd â rhan yn y gwaith o lunio'r Gymru gyfoes. Y canlyniad yw bod awdurdod yr adroddiad yn tarddu nid yn unig o drylwyredd deallusol ei dystiolaeth a'i gasgliadau ef, ond o'r miloedd o'n cyd-ddinasyddion ni sydd wedi bod â rhan yn ei sgwrs. Yn wir, mae'r cyntaf o'r 10 argymhelliad terfynol yn annog Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gryfhau ein gallu ni ein hunain o ran arloesi democrataidd ac ymgysylltu â'r gymuned yn y gwaith a wnawn ni.