Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Fel un a wnaeth lawer o waith ynglŷn â chomisiwn Silk a sefydlu comisiwn Silk, fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i, pe byddai comisiwn i'w sefydlu, y byddai'n cael ei sefydlu yn unol â'r cylch gwaith yr oedd comisiwn Silk yn gweithredu ynddo. Fe allaf i gofio'r troeon lawer y buom ni'n eistedd ym Mharc Cathays—y Prif Weinidog ar y pryd, arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill a minnau—a thrafod a gweithio drwy raglen ac, yn y pen draw, y ddeddfwriaeth a fyddai'n dod i'r wyneb yn sgil hynny. Ac rwy'n cofio gadael y lle hwn ar ôl cwestiynau'r Prif Weinidog un diwrnod a mynd i San Steffan i eistedd yn swyddfa arweinydd y tŷ, gyda'r arweinwyr eraill, a gweithio drwy sut y gallai datganoli symud ymlaen ac, yn y pen draw, sut y gellid trosglwyddo pwerau trwy gyfrwng dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru lwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin. Nid hwnnw oedd y model a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a phan gysylltodd y Cwnsler Cyffredinol â mi ynglŷn â chyflwyno cynrychiolaeth y Ceidwadwyr, fe eglurwyd yn fanwl iawn i mi nad llefarwyr y pleidiau oedd yr unigolion hynny ar y comisiwn hwnnw. Rwy'n parchu hynny, ond, yn yr adroddiad, mae hi'n ymddangos ei fod ef yn ceisio nodi mai'r farn a fynegwyd gan yr un a enwebodd y Ceidwadwyr ar y comisiwn oedd barn y Blaid Geidwadol. Nid yw hynny'n wir. Fe wnaethom ni roi tri enw i'w hystyried ac fe benderfynodd y comisiwn pwy fyddai'r unigolyn hwnnw a fyddai'n gomisiynydd presennol. Bargyfreithiwr oedd un, roedd gan y llall brofiad ar lefel cabinet llywodraeth leol, ac roedd gan yr un arall brofiad ar lefel San Steffan a gafodd yn rhinwedd ei swydd yn ymgynghorydd arbennig. Hwnnw oedd y model a ddewisodd y Llywodraeth ar gyfer y comisiynwyr. Ac rwy'n parchu hynny, ond rwy'n credu y byddai comisiwn fel un Silk wedi bod yn ffordd well o edrych arni hi, pe byddai yna drafodaeth a sgwrs wedi bod o ran sut y gallasid gwella a datblygu datganoli a symud ymlaen.
O'm safbwynt personol, rwyf i'n credu bod angen newid y setliad, gyda rhai eithriadau nodedig, fel y gyllideb, er enghraifft, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, a'r trefniadau ariannol sydd gennych chi â'r Trysorlys, ond mae'r setliad cyffredinol sydd gennym ni, o ystyried y ddwy Ddeddf ddeddfwriaethol a basiwyd gan San Steffan, yn gadarn, yn grymuso ac yn egnïo'r Senedd hon i Gymru ar gyfer bodloni disgwyliadau pobl Cymru.
Fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i heddiw, mewn gwirionedd, fod yn ymateb i ddatganiad gan y Prif Weinidog yn egluro pam y dylid cyfeirio adnoddau'r Llywodraeth at ymchwiliad COVID dros Gymru, ond rwy'n deall yn iawn mai ymrwymiad maniffesto oedd hwnnw, gan edrych, yn amlwg, tuag at gytundeb â Phlaid Cymru, ar ddiwedd etholiad 2021, pan fyddai'n rhaid sefydlu clymblaid, efallai. Nawr, rhagorfraint y Llywodraeth fyddai honno oherwydd, yn amlwg, y chi a fyddai'n ennill yr etholiad hwnnw—rwy'n derbyn hynny. Ac, yn amlwg, fe allai'r drafodaeth honno fod wedi digwydd rhwng Plaid Cymru a chwithau, yn amlwg. Ond rwy'n credu mai'r blaenoriaethau mwyaf sydd gan bobl yma yng Nghymru yw cael gwybod pam wnaeth Llywodraeth Cymru bethau neu beidio yn ystod cyfnod COVID, a dyna pam y byddai hi'n well gennym ni weld ymchwiliad COVID ledled Cymru. Mae hi'n bwysig cydnabod, hefyd, pa mor gyflym y gwnaeth cydweithwyr y Prif Weinidog sydd ar ben arall yr M4 wrthod y cynigion o fewn y comisiwn hwn. Rwy'n dyfynnu safbwynt Jo Stevens yn hyn o beth, pan ddywedodd hi,
'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'
Mae hynny'n weddol bendant. Roeddwn i'n cydymdeimlo ag arweinydd Plaid Cymru ddydd Mawrth diwethaf—ni fyddai ef yn disgwyl unrhyw gydymdeimlad oddi wrth arweinydd y Ceidwadwyr—pan geisiodd ef gael eglurder gennych chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn. Mae hwnnw'n weddol bendant, hynny yw y datganiad hwnnw:
'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'
Roedd hwnnw'n ddaliad mawr yn y darn o waith a wnaeth y comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru wrth ystyried pwerau datganoledig pellach. Ac felly, fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei safbwynt ef o ran cysoni'r gwahaniaethau rhwng ei gydweithwyr yn San Steffan ac, yn amlwg, yma yn y bae. Ac mae hi'n ddiddorol nodi mai dim ond un o'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth sydd yn y Siambr i glywed y datganiad cyfansoddiadol pwysig hwn, a'r un sydd ar goll yw'r un mwyaf cymeradwy gan ASau ar ben arall yr M4—mae hynny'n siarad cyfrolau a dweud y lleiaf.
Fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar swyddogaeth fwy grymusol o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid unig ystyr datganoli yw datganoli grym o Lundain i Gaerdydd; mewn gwirionedd mae'n golygu datganoli grym o Gaerdydd i ranbarthau Cymru hefyd. Pan fo'r setliad llywodraeth leol yn dal i fod o gyfnod cyn datganoli, a phob tro y bydd meinciau'r Llywodraeth yn cyflwyno cynnig y mae wedi ei chael hi'n rhy anodd gwneud unrhyw newidiadau, nid yw wedi dewis gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar y setliad sydd ganddi hi ac yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi o ran llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, a'r strwythurau y gellid eu grymuso gan fwy o ddatganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru? Fe fyddai hwnnw'n rhywbeth y byddem ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu gyda breichiau agored.
Rwyf i am gloi gyda'r sylw hwn, os caf i. Fe orffennodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy fynd i'r afael â'r angen i rymuso pobl Cymru, a'r sgwrs a gafodd ef gyda Dr Rowan Williams. Fe gytunodd hwnnw i gymryd rhan yn y comisiwn ar yr amod y byddai argymhellion y comisiwn ynghylch gwrando ar leisiau pobl yn thema ganolog i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Senedd. Rydym ni newydd dderbyn y ddeiseb fwyaf a ddaeth gerbron y Senedd erioed yn cynnwys bron i 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb i ddiddymu polisi a gyflwynodd ei Lywodraeth ef. Os ydych chi'n sôn am wrando ar bobl, dyna sgrech uchel ar y diawl gan bobl Cymru i newid cyfeiriad a newid cwrs. Felly, yn hytrach na dim ond rhoi'r geiriau hynny mewn datganiad y gwnaethoch chi ei ddarllen heddiw, pam na wnewch chi roi hynny ar waith a diddymu'r terfyn 20 mya cyffredinol?