– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 30 Ionawr 2024.
Eitem 3, felly, fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Prif Weinidog yw hwn ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Felly, y Prif Weinidog.
Lywydd, diolch yn fawr. Roedd cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, 10 diwrnod yn ôl, yn ddigwyddiad pwysig yn hanes byr datganoli yng Nghymru. Fy swydd gyntaf y prynhawn yma yw talu teyrnged i’r 11 aelod o’r comisiwn, ac yn enwedig y cyd-gadeiryddion, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint, Dr Rowan Williams, a’r academydd nodedig Cymreig, yr Athro Laura McAllister. Y tu ôl i'r comisiwn roedd grŵp arbenigol gweithgar a dylanwadol a hefyd ysgrifenyddiaeth a wnaeth lawer i gefnogi cynhyrchu'r ddogfen derfynol eglur a pherswadiol.
Llywydd, fe ddylwn i ddiolch hefyd i'r uwch aelodau hynny o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon am eu cymorth gyda nodi'r comisiynwyr hynny a wnaeth gyfrannu'r safbwyntiau gwleidyddol sy'n saernïo dadl gyfansoddiadol ein cenedl. Teyrnged ryfeddol i ddoniau'r cyd-gadeiryddion yn wyneb comisiwn llawn unigolion â safbwyntiau cadarn a chryf, yw bod yr adroddiad terfynol, i ddyfynnu Dr Williams a'r Athro McAllister, yn gynnyrch
'dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth', a arweiniodd at gasgliadau unfrydol. Mae'r ffaith y gallai comisiwn trawsbleidiol ddod i gynifer o gasgliadau cyffredin yn rhoi gwir bwys ac arwyddocâd ychwanegol i'r adroddiad terfynol, ac rwy'n diolch unwaith eto i bawb a helpodd i wneud i hynny ddigwydd.
Nawr, Llywydd, fe ellir olrhain tarddiad y comisiwn i faniffesto Llafur Cymru yn 2021, pryd y gwnaethom ni addo y byddem ni'n
'Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym eisiau meithrin trafodaeth ddinesig genedlaethol yng Nghymru ar ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.'
Dyna'r hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein maniffesto. Cafodd cylch gwaith terfynol y comisiwn hwnnw ei nodi yn y rhaglen lywodraethu a'i mireinio unwaith eto yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur hon a Phlaid Cymru.
Roedd yr amgylchiadau a fu'n darddle i'r syniad am y comisiwn yn adlewyrchu'r straen a'r pwysau mawr a oedd yn cael eu rhoi ar drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Roedd y bleidlais refferendwm Brexit yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhoi mwyafrifoedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i ymadael. Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban wedi ennill 56 o 59 seddau'r senedd yn etholiad cyffredinol 2015, ac erbyn hynny roedd hi wedi bod yn llywodraethu yn Holyrood ers bron i ddegawd. Ym mis Rhagfyr 2019, fe lwyddodd y Blaid Geidwadol i lunio Llywodraeth fwyafrifol gyntaf ei phlaid yn San Steffan ers 1992, a'r gyntaf ers datganoli. Fe ddywedodd y Prif Weinidog bryd hynny, Boris Johnson, wrth ei gefnogwyr ei fod ef o'r farn mai datganoli fu camgymeriad mwyaf y Llywodraeth Lafur Newydd ac fe aeth ati i ymdrin â deddfwrfeydd yn Belfast, Caerdydd a Chaeredin ar sail y farn honno. Fe ychwanegodd oes undebaeth gyhyrog, fel y'i gelwid yn Stryd Downing, dyndra newydd at y sefyllfa gan ehangu'r holltiadau eto yn y Deyrnas Unedig a oedd eisoes mewn cyflwr bregus.
Yma yng Nghymru, yn yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021, roedd hi'n amlwg y byddai pleidleiswyr yn cael cyfle, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny, i gefnogi ymgeiswyr ymroddedig i wyrdroi datganoli yn gyfan gwbl—Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—ac ymgeiswyr ymroddedig i ymadael â'r Deyrnas Unedig.
Nawr, Llywydd, mae yna rai sy'n credu bod cynnwrf cyfansoddiadol y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bod helyntion diamheuol Plaid Genedlaethol yr Alban yn golygu bod undebaeth gonfensiynol wedi cario'r dydd a bod y rheolaeth honno o Lundain wedi cael ei chadarnhau o'r newydd. Mae hwnnw, rwy'n credu, yn gasgliad sy'n ffôl a pheryglus. Mae'r heriau cyfansoddiadol sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig, yn enwedig i'r rhai ohonom ni sy'n credu ym mharhad y Deyrnas Unedig, yr un mor wirioneddol heddiw â phan sefydlwyd y comisiwn. Erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, efallai y bydd prif weinidog Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon—ac rwy'n croesawu'r datblygiadau dros nos i adfer Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon—ac mae hi'n bosibl mai llywodraeth Sinn Féin fydd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Nid yw unrhyw un sy'n credu bod y cynnwrf cyfansoddiadol drosodd yn gwneud dim ond ymroi i obeithio yn ofer.
Sefydlwyd y comisiwn, ar y llaw arall, i ddarparu meddylfryd o safon wahanol iawn, ac fe wnaeth hynny'n union. Mae'r adroddiad interim yn nodi'r 10 her fwyaf sy'n wynebu datganoli yn bendant: ansefydlogrwydd y setliad datganoli, breuder y cysylltiadau rhynglywodraethol, y problemau gyda chyfundrefn ariannu gwledydd datganoledig, absenoldeb arweinyddiaeth o ran yr undeb, ac ati blaen. Nawr mae'r adroddiad terfynol yn nodi rhai datrysiadau i'r cyfyng-gyngor hwn. Mae'r comisiwn wedi rhoi set o fesurau gerbron a all ymwreiddio a gwella'r setliad presennol, gan ei wneud yn llai agored i ymosodiadau gan weinyddiaeth elyniaethus yn San Steffan. Ac, yn ogystal â sadio gwreiddiau datganoli yn y ffordd honno, mae'r adroddiad yn archwilio'r achos dros ehangu cyfrifoldebau'r Senedd hon, ac mae'n gwneud hynny mewn chwe maes gwahanol: darlledu, cyflogaeth, ynni, cyfiawnder, trafnidiaeth a lles. Yn gefndir i'r cynigion penodol hyn, mae'r comisiwn yn asesu tri dyfodol cyfansoddiadol eang sydd ar gael i rai sy'n gyfranogion o ddull blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru: sef fersiwn mwy caboledig a gwarchodedig o'r setliad presennol, dyfodol ffederal i'r Deyrnas Unedig, a Chymru annibynnol.
Nawr, Llywydd, ni fwriadwyd erioed i'r comisiwn geisio dod i gasgliad a fyddai'n rhoi cyfarwyddyd i ddinasyddion Cymru o ran y dull i'w ffafrio gan y rhai a oedd yn archwilio i'r mater. Yn hytrach na hynny, mae'r adroddiad yn cynnig dadansoddiad difrifol o fanteision ac anfanteision pob posibilrwydd ar gyfer pob un ohonom ni, gan ein galluogi ni i ddod i gasgliad mwy deallus, llawn tystiolaeth ein hunain, yn unigolion ac yn bleidiau gwleidyddol. Ac fe gaiff hyn i gyd, Llywydd, ei grynhoi mewn 10 argymhelliad. Pa mor aml yr ydym ni wedi gweld adroddiadau yn y Senedd hon sy'n frith o argymhellion sy'n sicr o suddo yn llwyr oherwydd eu pwysau eu hunain? Drwy ganolbwyntio ar nifer fechan o gynigion allweddol, rwy'n credu, mae'r comisiwn wedi mynd ffordd bell i sicrhau y bydd ei waith yn mynd rhagddo ac y bydd â dylanwad grymus ar y dadleuon a'r trafodaethau a fydd yn deillio ohono.
Un pwynt olaf, Llywydd, os caf i: yn fy sgwrs gyntaf gyda Dr Williams, wrth i mi ofyn a fyddai'n barod i ystyried cynorthwyo gydag arwain y comisiwn, fe ddywedodd wrthyf y byddai'n barod i wneud felly, ond dim ond pe gellid cyflawni gwaith y comisiwn mewn ffordd a fyddai'n cynnwys cymaint â phosibl o'r bobl hynny sydd â rhan yn y gwaith o lunio'r Gymru gyfoes. Y canlyniad yw bod awdurdod yr adroddiad yn tarddu nid yn unig o drylwyredd deallusol ei dystiolaeth a'i gasgliadau ef, ond o'r miloedd o'n cyd-ddinasyddion ni sydd wedi bod â rhan yn ei sgwrs. Yn wir, mae'r cyntaf o'r 10 argymhelliad terfynol yn annog Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gryfhau ein gallu ni ein hunain o ran arloesi democrataidd ac ymgysylltu â'r gymuned yn y gwaith a wnawn ni.
Os mai dim ond un bennod o'r adroddiad y mae cydweithwyr yn darllen, tu hwnt i'r crynodeb a'i argymhellion, dwi'n awgrymu i chi ddarllen pennod 3, 'cryfhau democratiaeth yng Nghymru'. I unrhyw un sy'n gweithio ar linell flaen democratiaeth, dyma syniadau y gallai pob un ohonom dynnu arnynt yn ein hetholaethau, yma yn y Senedd ac yn Llywodraeth Cymru. Mae'r ffordd mae ein gwlad yn cael ei threfnu, dyfodol y Deyrnas Unedig a Chymru, a llais dinasyddion, wrth wneud penderfyniadau o'r fath, mae hynny i gyd i'w weld yn adroddiad terfynol y comisiwn, a dylai gael ei gymryd o ddifrif gan bawb. Diolch yn fawr, Llywydd.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Fel un a wnaeth lawer o waith ynglŷn â chomisiwn Silk a sefydlu comisiwn Silk, fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i, pe byddai comisiwn i'w sefydlu, y byddai'n cael ei sefydlu yn unol â'r cylch gwaith yr oedd comisiwn Silk yn gweithredu ynddo. Fe allaf i gofio'r troeon lawer y buom ni'n eistedd ym Mharc Cathays—y Prif Weinidog ar y pryd, arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill a minnau—a thrafod a gweithio drwy raglen ac, yn y pen draw, y ddeddfwriaeth a fyddai'n dod i'r wyneb yn sgil hynny. Ac rwy'n cofio gadael y lle hwn ar ôl cwestiynau'r Prif Weinidog un diwrnod a mynd i San Steffan i eistedd yn swyddfa arweinydd y tŷ, gyda'r arweinwyr eraill, a gweithio drwy sut y gallai datganoli symud ymlaen ac, yn y pen draw, sut y gellid trosglwyddo pwerau trwy gyfrwng dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru lwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin. Nid hwnnw oedd y model a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a phan gysylltodd y Cwnsler Cyffredinol â mi ynglŷn â chyflwyno cynrychiolaeth y Ceidwadwyr, fe eglurwyd yn fanwl iawn i mi nad llefarwyr y pleidiau oedd yr unigolion hynny ar y comisiwn hwnnw. Rwy'n parchu hynny, ond, yn yr adroddiad, mae hi'n ymddangos ei fod ef yn ceisio nodi mai'r farn a fynegwyd gan yr un a enwebodd y Ceidwadwyr ar y comisiwn oedd barn y Blaid Geidwadol. Nid yw hynny'n wir. Fe wnaethom ni roi tri enw i'w hystyried ac fe benderfynodd y comisiwn pwy fyddai'r unigolyn hwnnw a fyddai'n gomisiynydd presennol. Bargyfreithiwr oedd un, roedd gan y llall brofiad ar lefel cabinet llywodraeth leol, ac roedd gan yr un arall brofiad ar lefel San Steffan a gafodd yn rhinwedd ei swydd yn ymgynghorydd arbennig. Hwnnw oedd y model a ddewisodd y Llywodraeth ar gyfer y comisiynwyr. Ac rwy'n parchu hynny, ond rwy'n credu y byddai comisiwn fel un Silk wedi bod yn ffordd well o edrych arni hi, pe byddai yna drafodaeth a sgwrs wedi bod o ran sut y gallasid gwella a datblygu datganoli a symud ymlaen.
O'm safbwynt personol, rwyf i'n credu bod angen newid y setliad, gyda rhai eithriadau nodedig, fel y gyllideb, er enghraifft, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, a'r trefniadau ariannol sydd gennych chi â'r Trysorlys, ond mae'r setliad cyffredinol sydd gennym ni, o ystyried y ddwy Ddeddf ddeddfwriaethol a basiwyd gan San Steffan, yn gadarn, yn grymuso ac yn egnïo'r Senedd hon i Gymru ar gyfer bodloni disgwyliadau pobl Cymru.
Fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i heddiw, mewn gwirionedd, fod yn ymateb i ddatganiad gan y Prif Weinidog yn egluro pam y dylid cyfeirio adnoddau'r Llywodraeth at ymchwiliad COVID dros Gymru, ond rwy'n deall yn iawn mai ymrwymiad maniffesto oedd hwnnw, gan edrych, yn amlwg, tuag at gytundeb â Phlaid Cymru, ar ddiwedd etholiad 2021, pan fyddai'n rhaid sefydlu clymblaid, efallai. Nawr, rhagorfraint y Llywodraeth fyddai honno oherwydd, yn amlwg, y chi a fyddai'n ennill yr etholiad hwnnw—rwy'n derbyn hynny. Ac, yn amlwg, fe allai'r drafodaeth honno fod wedi digwydd rhwng Plaid Cymru a chwithau, yn amlwg. Ond rwy'n credu mai'r blaenoriaethau mwyaf sydd gan bobl yma yng Nghymru yw cael gwybod pam wnaeth Llywodraeth Cymru bethau neu beidio yn ystod cyfnod COVID, a dyna pam y byddai hi'n well gennym ni weld ymchwiliad COVID ledled Cymru. Mae hi'n bwysig cydnabod, hefyd, pa mor gyflym y gwnaeth cydweithwyr y Prif Weinidog sydd ar ben arall yr M4 wrthod y cynigion o fewn y comisiwn hwn. Rwy'n dyfynnu safbwynt Jo Stevens yn hyn o beth, pan ddywedodd hi,
'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'
Mae hynny'n weddol bendant. Roeddwn i'n cydymdeimlo ag arweinydd Plaid Cymru ddydd Mawrth diwethaf—ni fyddai ef yn disgwyl unrhyw gydymdeimlad oddi wrth arweinydd y Ceidwadwyr—pan geisiodd ef gael eglurder gennych chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn. Mae hwnnw'n weddol bendant, hynny yw y datganiad hwnnw:
'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'
Roedd hwnnw'n ddaliad mawr yn y darn o waith a wnaeth y comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru wrth ystyried pwerau datganoledig pellach. Ac felly, fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei safbwynt ef o ran cysoni'r gwahaniaethau rhwng ei gydweithwyr yn San Steffan ac, yn amlwg, yma yn y bae. Ac mae hi'n ddiddorol nodi mai dim ond un o'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth sydd yn y Siambr i glywed y datganiad cyfansoddiadol pwysig hwn, a'r un sydd ar goll yw'r un mwyaf cymeradwy gan ASau ar ben arall yr M4—mae hynny'n siarad cyfrolau a dweud y lleiaf.
Fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar swyddogaeth fwy grymusol o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid unig ystyr datganoli yw datganoli grym o Lundain i Gaerdydd; mewn gwirionedd mae'n golygu datganoli grym o Gaerdydd i ranbarthau Cymru hefyd. Pan fo'r setliad llywodraeth leol yn dal i fod o gyfnod cyn datganoli, a phob tro y bydd meinciau'r Llywodraeth yn cyflwyno cynnig y mae wedi ei chael hi'n rhy anodd gwneud unrhyw newidiadau, nid yw wedi dewis gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar y setliad sydd ganddi hi ac yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi o ran llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, a'r strwythurau y gellid eu grymuso gan fwy o ddatganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru? Fe fyddai hwnnw'n rhywbeth y byddem ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu gyda breichiau agored.
Rwyf i am gloi gyda'r sylw hwn, os caf i. Fe orffennodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy fynd i'r afael â'r angen i rymuso pobl Cymru, a'r sgwrs a gafodd ef gyda Dr Rowan Williams. Fe gytunodd hwnnw i gymryd rhan yn y comisiwn ar yr amod y byddai argymhellion y comisiwn ynghylch gwrando ar leisiau pobl yn thema ganolog i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Senedd. Rydym ni newydd dderbyn y ddeiseb fwyaf a ddaeth gerbron y Senedd erioed yn cynnwys bron i 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb i ddiddymu polisi a gyflwynodd ei Lywodraeth ef. Os ydych chi'n sôn am wrando ar bobl, dyna sgrech uchel ar y diawl gan bobl Cymru i newid cyfeiriad a newid cwrs. Felly, yn hytrach na dim ond rhoi'r geiriau hynny mewn datganiad y gwnaethoch chi ei ddarllen heddiw, pam na wnewch chi roi hynny ar waith a diddymu'r terfyn 20 mya cyffredinol?
Mae arweinydd yr wrthblaid a minnau o'r un farn gadarnhaol ynglŷn â chomisiwn Silk. Rwy'n credu mai hwnnw oedd y cyfrwng cywir i wneud y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud. Ond mae hwn yn waith gwahanol iawn ac roedd angen cyfrwng gwahanol iawn. I gymryd ei bwynt olaf nesaf, yr hyn a ddywedodd Dr Rowan Williams wrthyf i oedd pe byddai ef am gyd-gadeirio comisiwn, roedd yn dymuno bod â'r hyder o wybod y byddai'r comisiwn yn gallu cynnwys cymaint o bobl â phosibl yn ei ddadleuon ag y gellid gwneud felly. Nid oedd yn dymuno comisiwn lle byddai pobl yn ymadael oddi yma ac yn mynd i ystafell gaeedig ym Mharc Cathays i benderfynu beth fyddai'r canlyniad. Mae'n ddull gwahanol iawn am fod y pwrpas yn wahanol iawn.
Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i arweinydd yr wrthblaid am gynnig enwau pobl i eistedd ar y comisiwn, nid oherwydd eu bod yn cynrychioli eu plaid, ond oherwydd y bydden nhw'n dod â'r persbectif hwnnw i ddadleuon y comisiwn. Ac os caf i ddweud hynny, rwy'n credu bod cyfraniad Lauren McEvatt, yr unigolyn a oedd yn dod o safbwynt y Ceidwadwyr, wedi bod â dylanwad gwirioneddol ar y comisiwn. Roedd hi'n weithgar iawn, a'i chyfraniadau yn rhai meddylgar iawn. Roeddwn i yn Llundain wythnos diwethaf yn y Sefydliad Llywodraethu; roedd hi yn y gynulleidfa yno, ac fe wnaeth hi rai pwyntiau pwysig iawn yno hefyd. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y ffaith ei bod hi yno i gyfrannu'r safbwyntiau hynny, nid am ei bod hi'n siarad ar ran y Blaid Geidwadol, ond oherwydd y gallai hi sicrhau y byddai'r traddodiadau, y ffyrdd o feddwl, yr ymagwedd a fyddai'n cael ei chymryd gan y blaid honno yn cael gwrandawiad o amgylch y bwrdd hwnnw.
Nid wyf i'n cytuno, wrth gwrs, ag arweinydd yr wrthblaid fod y setliad presennol yn gadarn. Sut allai unrhyw un ddod i'r casgliad hwnnw yn dilyn y ffyrdd y mae confensiwn Sewel wedi cael ei amharchu mor aml gan lywodraethau yn San Steffan ers 2019? Mae hwnnw'n gonfensiwn na chafodd ei dorri erioed gan Lywodraethau Llafur na Llywodraethau Ceidwadol tan 2019, ac ers hynny, mae wedi cael ei dorri yn deilchion dro ar ôl tro ar ôl tro. Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), agweddau masnach ar y Bil Caffael, y Bil Mudo Anghyfreithlon, y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), y Bil Ynni—fe drafodwyd y rhain i gyd ar lawr y Senedd. Gwrthodwyd caniatâd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ac ym mhob un achos fe aeth y Llywodraeth honno yn ei blaen i ddeddfu er gwaethaf diffyg cydsyniad y Senedd hon iddyn nhw wneud felly. Sut y gall unrhyw un ddod i'r casgliad bod y setliad yn gadarn pan fyddo mor agored i niwed â hynny?
O ran plismona a chyfiawnder, fe roddais i fy atebion yr wythnos diwethaf. Fe fynegais i'n eglur bolisi'r Llywodraeth hon a'r blaid hon yng Nghymru. Mae adroddiad Gordon Brown a gomisiynwyd gan Keir Starmer yn dweud y dylai'r broses honno ddechrau gyda datganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid, ac rwy'n edrych tuag at fy nghydweithwyr yn San Steffan i sicrhau bod hynny'n digwydd.
O ran datganoli pwerau tu hwnt i'r Senedd, er enghraifft, rydym ni wedi llofnodi bargen twf canolbarth Cymru, y ceisiodd ei blaid ef mor ddyfal i'w difrodi yn esiampl Fferm Gilestone. Rydym ni'n credu y dylid trosglwyddo pwerau i lywodraeth leol. Yr ardoll ymwelwyr—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn wir. Rydym ni wedi ymrwymo i gytundeb twf canolbarth Cymru. Fe fyddai cynnig Fferm Gilestone wedi dod â swyddi i'r canolbarth. Fe fyddai wedi creu swyddi i bobl ifanc yn y canolbarth. Fe'i cefnogwyd gan bartneriaid eraill ym margen twf canolbarth Cymru. Rydym ni'n credu mewn gwneud pethau mewn ffordd ranbarthol, ac nid wyf i'n credu y gallwch ddweud bod hynny'n wir am yr wrthblaid yn y fan hon.
Rwy'n credu mewn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu. Dyna pam y byddwn ni'n rhoi ardoll ymwelwyr gerbron y Senedd hon, i roi'r pŵer i awdurdodau lleol weithredu honno pan fyddan nhw'n dewis gwneud felly. Eu nacáu nhw a fyddech chi. Wythnos ar ôl wythnos rydych chi ar eich traed yma'n dweud pa mor anfodlon ydych chi i awdurdodau lleol fod â'r pŵer hwnnw. Felly, pan ydych chi'n dweud wrthyf i nad yw datganoli yn gorffen gyda Bae Caerdydd, rwy'n credu hynny, ac rydym ni'n gwneud pethau i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ei nacáu nhw a wnewch chi pan na fyddwch chi'n dymuno gwneud felly. Eich polisi chi o ran datganoli i lywodraeth leol yw eich bod chi'n fodlon rhoi pŵer iddyn nhw os ydych chi'n cytuno â'r hyn y byddan nhw'n ei wneud ag ef, ac ni fyddwch chi'n rhoi pŵer iddyn nhw os nad ydych chi'n cytuno. Nid datganoli mo rhywbeth felly, Llywydd, o gwbl.
Ac o ran ymchwiliad COVID, rwy'n edrych ymlaen at ddyfodiad yr ymchwiliad COVID i Gymru. Fe fydd yma yn ystod wythnos olaf mis Chwefror a phythefnos gyntaf mis Mawrth. Fe fydd yn craffu yn yr un ffordd ar y camau a gymerwyd yma yng Nghymru ag y gwelsoch chi'n digwydd ar gamau Gweinidogion y DU a Gweinidogion yr Alban. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i ateb y cwestiynau a ofynnir i ni, a hynny'n briodol, hyd eithaf fy ngallu.
Buaswn i’n licio dechrau heddiw drwy longyfarch a diolch i Laura McAllister a Rowan Williams ac aelodau’r comisiwn i gyd am eu holl waith. Maen nhw wedi cynnal sgwrs ar ein dyfodol cyfansoddiadol ni sydd wedi bod yn ehangach ac yn fwy cynhwysol nag ydym ni wedi'i gael ers dyfodiad datganoli; yn fwy nag ydym ni wedi cael erioed, mae’n siŵr. Dros ddwy flynedd, mi gawson nhw mwy na 15,000 o ymgysylltiadau efo pobl o bob rhan o Gymru, o bob cefndir. Mae hwn wedi dangos, er gwaetha’r honiadau gan rai ar y meinciau cyferbyn, nad dim ond yr anoracs sydd â diddordeb yn ein setliad cyfansoddiadol ni. A buaswn i’n dadlau mai un o lwyddiannau mwyaf gwaith y comisiwn ydy dangos bod materion cyfansoddiadol yn faterion bara menyn, ac, i’r gwrthwyneb, mai cwestiynau bara menyn ydy cwestiynau cyfansoddiadol.
Er gwaethaf yr honiadau gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid oes unrhyw beth o gwbl yn ofer ynghylch archwilio ein dyfodol cyffredin mewn ysbryd o fod yn agored, yn wrthrychol a chydweithio. Fe allwn i atgoffa'r Aelodau gyferbyn bod y Blaid Geidwadol wedi cyfranogi yn weithredol yn y broses hon, a bod adroddiad y comisiwn wedi cael ei gymeradwyo gan un a benodwyd arno ganddyn nhw. Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ystyried bod hwnnw'n gryfder i'r adroddiad hwn.
Mae bron i bythefnos wedi mynd heibio erbyn hyn ers cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n credu, mae eisoes wedi newid y meddylfryd yn llwyr o ran ailddiffinio'r ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan roi brys ac ysgogiad newydd iddo, ac mae'n adnodd newydd gwerthfawr y dylid tynnu oddi arno. Rwy'n dweud 'brys newydd' am ei fod yn datgan mewn termau cignoeth iawn—termau trawsbleidiol cignoeth—na ellir cynnal y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n rhaid i rywbeth newid, ac fe geir cytundeb ynglŷn â hynny. Ac wrth i ni ystyried nawr a chynllunio ar gyfer y newid hwnnw, mae'r comisiwn wedi sefydlu sylfaen newydd o dystiolaeth a fframwaith newydd ar gyfer ei ddadansoddi.
Yn gyffrous o'm safbwynt i, mae sylfaen y dystiolaeth yn dangos bod annibyniaeth yn ddewis hyfyw i Gymru ac y gellir ei chyflawni. Wrth gwrs, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai hwnnw yw'r dewis gorau i Gymru, y ffordd orau o gyflawni'r uchelgeisiau er mwyn ein cenedl—uchelgeisiau sydd, rwy'n gobeithio, yn gyffredin ar draws y Siambr hon. Ac mae'r comisiwn yn eglur ynglŷn â hyn: oni bai i'r holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom ni i newid ein tynged economaidd fod ar gael i ni, mae ein hanes ni'n debygol o barhau i fod yn un o farweidd-dra a dirywiad rheoledig, a chyda'r ystod lawn o bwerau na all dim ond annibyniaeth ei gyflawni yn y pen draw, fe allwn ni newid y stori.
Ond fe wn i mai taith yw hon hefyd, ac mae llawer o bobl, am resymau cwbl ddealladwy, heb eu hargyhoeddi eto. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at beryglon, ydy, ond mae hynny'n wir am yr holl ddewisiadau o'n blaenau ni, gan gynnwys y perygl o aros yn y fan a'r lle a'r tlodi ymwreiddiedig y mae ein haelodaeth ni o'r DU wedi ei achosi i gymaint o deuluoedd a chymunedau. Felly, mae pobl yn chwilio am fwy o dystiolaeth, mwy o drafodaeth, wrth gwrs felly. Mae pawb yn yr un sefyllfa. Ac rwy'n dweud wrthych chi, rwy'n barod ar gyfer cymaint o sgyrsiau â phosibl, ni waeth pa mor anodd yw'r cwestiynau sy'n codi.
Fel dywedais i, rydym ni ar y meinciau hyn yn eglur o ran maint ein huchelgais a'n ffydd yng Nghymru—nid yw hynny mor wir am eraill. Roedd hi'n siomedig, fel dywedais i yr wythnos diwethaf, cyn i'r inc hyd yn oed fod wedi sychu ar bapur adroddiad y comisiwn, fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid eisoes wedi bod ar y cyfryngau i ddiystyru rhai o'i argymhellion allweddol. I'r gwrthwyneb, os caf i ddweud hefyd ym mhresenoldeb y ddau ohonyn nhw, mae tawelwch llethol wedi bod bron iawn o'r fan lle rwyf i'n gwrando o ran argymhellion y comisiwn oddi wrth y ddau ymgeisydd sy'n ymgeisio i arwain Llafur Cymru, ac rwy'n eu gwahodd nhw i dorri ar y tawelwch hwnnw.
Fe fyddai hi'n dda gennyf i ddeall, wrth gwrs, sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â'r ddadl hon o fewn ei blaid ei hun. Rwy'n eiddgar i weithio gydag ef, neu unrhyw un arall sy'n awyddus i ddwyn taith gyfansoddiadol Cymru yn ei blaen. Roedd ef â rhan mor allweddol yn ysgogi'r gwaith hwn ac, er gwaethaf y ffaith ei fod ar fin ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, rwy'n amau na fydd ef yn dymuno ymbellhau yn ormodol oddi wrth y ddadl ehangach ynglŷn â dyfodol Cymru.
Yn nodedig iawn, ychydig iawn a gafodd ei ddweud, yn ôl cyd-gadeiryddion y comisiwn cyfansoddiadol, gan y rhai sy'n cefnogi'r sefyllfa sydd ohoni. Pam y maen nhw'n credu bod y sefyllfa hon cystal ag y gall pethau fod i Gymru? Yr hyn sy'n allweddol, yn fy marn i, yw y dylai'r drafodaeth, y drafodaeth genedlaethol wirioneddol a gawsom ni drwy gyfrwng y comisiwn ynglŷn â thaith Cymru i'r dyfodol, allu parhau. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gefnogi fy nymuniad i'r momentwm a enillwyd drwy waith y comisiwn allu parhau a gofyn i'r gwaith hwn barhau? Fe fyddai comisiwn parhaol yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda, rwy'n credu. Mae dyfodol cyfansoddiadol Cymru, wrth gwrs, yn perthyn, yn y pen draw, nid i ni yn y pleidiau gwleidyddol yn y fan hon, ond i holl bobl Cymru. Fe allwn ni sicrhau yn y fan hon fod ein dinasyddion yn cael dweud eu dweud, ac mae'r comisiwn wedi dangos pa mor egnïol y gall y sgwrs honno fod.
Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod natur y gwaith, y ffordd roedd y comisiwn wedi mynd ati, yn sefyll y tu ôl i'r adroddiad i gyd, gan roi pŵer i bopeth rŷn ni'n gallu ei ddarllen yn y fersiwn terfynol.
Fe ddylwn i ddweud, ddim ond ar gyfer y cofnod, Llywydd, mai'r Llywodraeth a benododd bob un o aelodau'r comisiwn. Fe wnaeth y pleidiau gwleidyddol gyflwyno enwau, ac yna'r Llywodraeth a oedd yn penodi'r aelodau i gyd, yn cynnwys Leanne Wood, a oedd yn cynrychioli Plaid Cymru, ac fe wn i ei bod hi wedi bod â rhan weithgar dros ben yn y digwyddiadau cymunedol hynny gan sicrhau bod y sgyrsiau sydd wedi llywio'r adroddiad mor egnïol ag y byddech chi wedi dymuno iddyn nhw fod.
Rwy'n cytuno bod brys ynglŷn ag argymhellion yr adroddiad. Mae'r angen am frys yn arbennig o daer ar rywun fel fi sydd o'r farn fod gwell dyfodol i Gymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Am fy mod i'n awyddus i weld Teyrnas Unedig y byddai pobl yng Nghymru yn dymuno bod yn rhan ohoni, y bydden nhw'n gweld y manteision o berthyn iddi, y bydden nhw'n gweld y bydd ein dyfodol ni'n well o'i gysylltu â dyfodol pobl eraill sy'n byw yn Lloegr ac yn yr Alban mewn achosion sy'n gyffredin. Rwy'n credu bod y ddadl sydd y tu ôl i'r adroddiad yn dangos pa mor daer yw'r angen i fynd ati i hyrwyddo'r achos hwnnw a'i wneud yn argyhoeddiadol.
Mae'r adroddiad yn wir yn dweud bod annibyniaeth yn ddewis sy'n hyfyw, ond mewn rhai ffyrdd nid hwnnw yw'r cwestiwn gwirioneddol. Nid a yw'r peth yn hyfyw, ond a yw'n fanteisiol. Ac rwyf i'n eglur iawn, y rheswm nad oes gennyf i ffydd mewn annibyniaeth yw oherwydd nad wyf i'n credu y byddai hynny'n fanteisiol i Gymru. Nid oes gennyf i ffydd mewn codi rhwystrau newydd. Nid oes gennyf i ffydd mewn creu ffiniau newydd pan nad oes ffiniau yn bod. Mae cymaint o bethau yn cysylltu pobl sy'n gweithio yng Nghymru â phobl sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae honno'n garreg sylfaen bwysicach, rwy'n credu, ar gyfer y dyfodol llwyddiannus hwnnw'r ydym ni'n awyddus i'w weld.
Y peth a'm synnodd i fwyaf yn yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yw, yn yr achos hwn yn unig, nad yw hi'n ymddangos ei fod ef yn rhoi sylw dyledus i drafodaethau yn y Blaid Lafur, y mae ef yn ymgolli ynddyn nhw mor aml, oherwydd pe byddai ef wedi bod yn gwrando yn ofalus fe fyddai ef wedi deall bod y dadleuon hyn yn fywiog iawn ymhlith y Blaid Lafur ac felly y bu hi erioed.
Fe hoffwn i weld yr adroddiad yn sail i ragor o drafodaeth a dadl. Fe hoffwn i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ni ddal ati i fanteisio ar arbenigedd a phrofiad y bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r daith a arweiniodd at yr adroddiad. Ac fe fyddwn ni'n gweithio yn y Llywodraeth i ddod o hyd i ffyrdd o beri i hynny ddigwydd. Rwyf i fy hun yn edrych ymlaen at fod â rhan yn y trafodaethau i gyd. Rwy'n dweud weithiau, pan fydd pobl yn gofyn i mi ynglŷn ag ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, fy mod i, chwedl Tony Benn, yn rhoi'r gorau i'r swydd i dreulio rhagor o amser yn gwleidydda. [Chwerthin.] Ac os felly, fe fydd hynny'n rhoi'r cyfle i mi wneud hynny yn rhan o'r hyn y byddaf i'n parhau i fod â diddordeb ynddo i'r dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma. Mae hi'n ddogfen ddiddorol a heriol. Mae hi'n ddogfen ddifrifol sy'n herio pob un ohonom, gan gynnwys, rwy'n meiddio dweud, y Ceidwadwyr, i feddwl o ddifrif am y materion hyn. Ac mae hi'n eistedd ochr yn ochr â chomisiwn Thomas fel cyfraniad difrifol at lywodraethu yn ein gwlad i'r dyfodol. Ac ni ellir diystyru'r dogfennau hynny, na'r dystiolaeth honno, na'r dadleuon hynny yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth. Mae'n rhaid eu cymryd nhw o ddifrif ac ymgysylltu â nhw. Ac rwy'n gobeithio y bydd gwrthblaid Geidwadol yn gallu gwneud hynny ryw ddiwrnod.
Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych tuag at Deyrnas Unedig wahanol, Prif Weinidog. A'r cwestiwn sydd gennyf i ar eich cyfer chi yw: sut ydym ni am wynebu'r her o ran ymgysylltu â'r sefydliad yn Llundain nad oes ganddo fawr o ddiddordeb mewn dyfodol gwahanol, na dyfodol sy'n wahanol iawn i ni yng Nghymru i'n sefyllfa gyfredol heddiw?
Ni wnaeth y comisiwn drafod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a hynny am resymau da iawn, ac rwy'n cydnabod hynny—rwy'n cydnabod pam nad oedd unrhyw ymdriniaeth o hynny. Ond oni bai bod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig yn cael eu newid hefyd ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol o ran pwerau a democratiaeth yn y DU, efallai y bydd y strwythurau gennym ni ond ni fydd yr offer gennym ni i wneud y gwaith. Ac felly fe fydd y pethau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd hefyd.
Ac yn olaf, Prif Weinidog, mae hi'n demtasiwn fawr iawn i lawer o bobl, yn enwedig yr ochr hon i'r Siambr efallai, geisio dweud bod y gwaith wedi cael ei gwblhau pan fydd y Ceidwadwyr allan o rym. Sut fyddwn ni'n darbwyllo ein cydweithwyr ni yn y Blaid Lafur wedyn, a fydd o'r farn mai'r amcan yw cael Llywodraeth Lafur i'r DU ac o'r farn y bydd yr argyfwng mawr drosodd o ran y ddadl gyfansoddiadol?
Diolch i Alun Davies am yr holl bwyntiau yna, Dirprwy Lywydd dros dro. Fe wnaeth ef bwyntiau difrifol ac mae ef yn gywir i ddweud bod yr adroddiad yn un difrifol a heriol i'w ddarllen. Ni fyddech chi'n disgwyl dim llai, rwy'n credu, o ystyried safon y bobl a oedd yn rhan o'r comisiwn a chadernid y grŵp cynghori yr oedden nhw'n gallu elwa ar ei waith. Fe geir dyfnder dadansoddiadol gwirioneddol a thrylwyredd yn y ffordd y cafodd fframwaith ei gymhwyso i'r dystiolaeth ar gyfer crynhoi'r dadansoddiadau a'r casgliadau y mae'r adroddiad yn eu tynnu oddi wrth hynny.
Mae yna berygl yn bod bob amser, yn y Blaid Lafur, y bydd pobl o'r farn, am fod y Ceidwadwyr wedi cael eu trechu, y bydd y gwaith cyfansoddiadol wedi cael ei gyflawni. Ond fe hoffwn i atgoffa pawb mai Llywodraeth Lafur oedd hi, yn ei blwyddyn gyntaf yn 1997, ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, a wnaeth benderfynu ei bod hi'n rhaid canfod yr amser ar gyfer y diwygiadau cyfansoddiadol a arweiniodd at sefydlu'r Senedd hon. Felly, er y ceir tensiwn yn aml, a bod dadl i'w chael, mae'r dystiolaeth sydd gennym ni'n dangos yn eglur iawn mai'r Blaid Lafur yw awdur datganoli. Rydym ni yma oherwydd Llywodraeth Lafur a'r ymrwymiad a gyflawnodd y Llywodraeth Lafur honno.
Sut allwn ni, yng Nghymru, barhau i ddylanwadu ar y drafodaeth honno? Wel, dyma'r profiad a gefais i o fod yn yr ystafell gyda chydweithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU. Mae gan gydweithwyr yn yr Alban fantais bob amser yn y ffaith eu bod wedi cael eu hethol yn Llywodraeth sydd â mandad, chwedl nhw, i dynnu'r Alban o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n cael gwrandawiad difrifol bob amser. Mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon yn dod i mewn i'r ystafell gyda holl hanes cythryblus y rhanbarth, a'r angen i bawb sy'n bresennol fod yn ofalus o ran sicrhau nad yw'r penderfyniadau a wneir yn ailgynnau'r trafferthion hynny. Maen nhw'n dod gyda grym hynny yn eu meddiant. Yr hyn sydd gan Gymru yn syml yw cryfder ein dadl. Dyna yw ein harwyddocâd ni, a dyna pam rwyf i o'r farn fod llawer o sylwebyddion annibynnol yn dod i'r casgliad, pan fu ystyriaeth ddifrifol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, wedyn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf neu fwy, mai o Gymru y daeth y cyfraniad mwyaf at y ddadl honno. Boed hynny drwy gomisiwn Thomas, boed hynny drwy gomisiwn annibynnol, a'r dylanwad a gafodd Carwyn Jones a Paul Murphy ar yr adroddiad terfynol o waith Gordon Brown, rwy'n credu y gallwch chi weld cyfraniad Cymru yno yn ein parodrwydd ni i geisio gwneud pethau a meddwl o ddifrif, cael trefn ar y dadleuon, y datrysiadau ymarferol y gellir eu cyflawni. Dyna pam mae'r adroddiad hwn, sef adroddiad terfynol y comisiwn, mor rymus: am ei fod yn sefyll yn gadarn iawn yn y traddodiad hwnnw.
Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn wedi costio cyfanswm o £1.5 miliwn hyd yn hyn ac mae'n dal i gynyddu. I fod yn gwbl onest, ni fydd yn cael ei weithredu dan Lywodraeth Geidwadol, a chyn i'r inc sychu ar y papur, fe gafodd ei daro i lawr gan ysgrifennydd gwladol Llafur, a ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur newydd, ac rwy'n dyfynnu, yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig. Felly, rwy'n edrych ymlaen, Prif Weinidog, at weld yr adroddiad hwn yn cael ei roi yn ôl ar y silff ac yn cymryd ei le fel y peth mwyaf costus i hel llwch erioed.
Nawr, roeddwn i'n dymuno codi pwynt wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, pryd y galwodd am gyflwyno comisiwn parhaol i edrych ar hyn yn barhaus. Fe sylwais i na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich ateb, felly a allwch chi ddweud na fydd hynny'n digwydd—sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yma yng Nghymru?
Wel, mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd, mae'n gyfraniad digalon iawn y mae'r unigolyn yn ei wneud, on'd yw e? Byddech chi'n tybio y gallai fod yn meddwl ei fod wedi cael ei anfon yma i wneud rhyw fath o gyfraniad difrifol i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ond os yw ef o'r farn mai dyna'r cwbl sydd ganddo i'w gynnig—os mai'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed yw'r cyfan sydd ganddo i'w gynnig—yna fe allaf i ddweud wrtho nawr, fel y dywedodd eraill yn y fan hon, ei fod yn gwybod cost pob peth ac yn deall gwerth dim.
Fe fydd fy nghyd-Aelod, Jo Stevens, yn falch ei fod wedi cyfeirio ati hi fel Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru. Roedd yn garedig iawn iddo ei chymeradwyo hi yn y ffordd honno. Ar hynny, o leiaf, efallai ei fod wedi darllen yr ysgrifen ar y mur. A dweud y gwir, pe bai wedi bod yn gwrando, fe wnes i fynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Fe ddywedais i fy mod o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i'r sgwrs barhau, y dylid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyfleu profiad ac arbenigedd pobl sydd wedi bod ar y comisiwn ac sydd wedi bod yn rhan o gynhyrchu'r adroddiad hwnnw heddiw. Nid wyf i am ddweud, y prynhawn yma, y byddwn ni'n gwneud hynny trwy gomisiwn sefydlog, neu y byddwn ni'n ei wneud yn y ffordd hon. Rydyn ni'n cytuno ar yr amcan. Fe fydd yna ddigon o gyfle i drafod sut y caiff yr amcan hwnnw ei gyflawni.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a hefyd am ei arweiniad, yn sicrhau bod y comisiwn yma wedi dod i fodolaeth ac wedi cyfrannu yn y ffordd bwysig y mae wedi gwneud yn barod, ond hefyd am sicrhau'r ysbryd cynhwysol, agored yr oedd y ddau gyd-gadeirydd, a dweud y gwir, am sicrhau o ran gwaith y comisiwn?
Gwlad y comisiynau yw Cymru, fel dywed y comisiwn. Ond mae hynny'n awgrymu, onid ydyw, yr angen am rywbeth mwy cadarn, mwy parhaol na dim ond cyfres o gomisiynau dros y blynyddoedd os ydym ni'n awyddus i gael gwelliant parhaus o ran ein hiechyd democrataidd. Yn ei argymhelliad cyntaf, mae'n galw am allu pwrpasol, gydag arweinyddiaeth newydd a gefnogir gan arbenigedd a phrofiad, sy'n cynhyrchu egni newydd, syniadau newydd ar gyfer arloesi democrataidd ac addysg ddinesig—croesiad, os mynnwch chi, rhwng labordy democratiaeth ac ysgol dinasyddiaeth ledled y wlad. Yn wir, fel soniwyd eisoes, yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu oedd i fod â chomisiwn sefydlog.
Felly, rwy'n deall nad yw'r Prif Weinidog am ddewis y cyfrwng ar hyn o bryd, ond a gaf i awgrymu nifer o bosibiliadau—cyfleodd i ni ymchwilio, efallai, i wedd y gallu newydd hwnnw? Mae gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a gaiff ei enw newydd yn fuan ddiben eang eisoes yn wir o ran hyrwyddo iechyd democrataidd—a allem ni roi'r ddyletswydd benodol honno i hwnnw? Neu a ellid ehangu'r ysgol lywodraeth genedlaethol a gaiff ei chreu cyn bo hir o ran ei dibenion, nid yn unig yn ysgol hyfforddi gweision sifil, ond yn academi hefyd i'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion a dinasyddion gweithredol, deallus, ymgysylltiedig, gyda swyddogaeth o ran ymchwil a datblygu democratiaeth hefyd? A lle bynnag yr ydym ni'n penderfynu magu'r gallu newydd hwn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen rhywbeth arnom ni, canolbwynt newydd, os mynnwch chi, ar gyfer ein democratiaeth, gan weithio ar draws y pleidiau, y tu hwnt i bleidiau—elfen newydd yn ein seilwaith democrataidd? Oherwydd pan edrychwn ni ar yr argyfwng ledled y byd o ran democratiaeth, fy mhryder i yw y bydd y Siambr hon, beth bynnag fydd ei maint, mewn perygl o fod yn siambr i adleisio mewn gwactod oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth—oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth i adfywio ein democratiaeth. Democratiaeth, wedi'r cyfan, yw'r gobaith gorau sydd gennym ni yng Nghymru, fel ym mhobman arall, i gyflawni cynnydd ar ran y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Dirprwy Lywydd dros dro, diolch yn fawr i Adam Price am beth ddywedodd e am yr ysbryd y tu ôl i'r comisiwn, a diolch iddo fe am ei gyfraniad e pan oedd y comisiwn yn cael ei sefydlu a phan oeddem ni'n trafod y gwaith yr oedd y comisiwn i'w wneud.
Wel am wahaniaeth o ran ansawdd, Dirprwy Lywydd dros dro, yn y ddau gyfraniad a glywsom ni, un ar ôl y llall. Mae llawer o'r pethau a ddywedodd Adam Price yn fy marn i'n bethau y dylem ni eu hystyried. Rwy'n credu bod y posibilrwydd y daw'r ysgol lywodraethu genedlaethol, er enghraifft, yn ffordd o addysgu arweinyddion dinesig y dyfodol, nid arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yn unig, yn un y dylem ni ei drafod a'i ystyried. Ac mae e'n gywir, onid yw, ynglŷn â'r argyfwng democrataidd a welwn ni ledled y byd? Os nad ydym ni'n ofalus, fe fyddwn ni'n rhoi coel i'r gred y bydd democratiaeth yn siŵr o barhau, ei bod hi'n anochel y byddwn ni'n parhau i fyw mewn gwlad lle mae'r bobl sy'n dod i'r fan hon yn gwneud hynny am eu bod nhw wedi cael eu dewis gan bobl yng Nghymru i wneud y gwaith y cawsom ni ein dewis i'w wneud. Ond ni fydd democratiaeth yn ffynnu oni bai eich bod chi'n gofalu am yr ardd lle caiff ei hau. A dyna oedd bwriad yr adroddiad hwn. A bod yn optimistaidd, y rheswm y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, pe bai dim ond un bennod yn cael ei darllen gan gydweithwyr, y drydedd bennod ddylai honno fod oherwydd yr hyn y mae'r drydedd bennod honno'n ei ddweud: pan oedd gan y comisiwn ystafell lawn o bobl nad oedden nhw'n gwybod yn iawn pam ddylai unrhyw un fod yn gofyn am eu barn nhw am y pethau hyn ac na allen nhw weld yn iawn pam ddylai trafodaeth ynglŷn â'r dyfodol cyfansoddiadol olygu unrhyw beth yn eu bywydau nhw, yr hyn a wnaethon nhw ei ddarganfod oedd nad oedd hi'n cymryd llawer o amser yn trafod fel hynny cyn i'r cysylltiadau ddod yn gwbl amlwg i bobl—sut oedden nhw'n gallu gweld bod y pethau bara menyn, y pethau sy'n digwydd yn eu bywyd bob dydd, yn cael eu gwreiddio yn y strwythurau yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â nhw. Ac rwy'n credu bod honno'n ffynhonnell o optimistiaeth, ond mae'n dweud wrthym ni, fel yn yr adroddiad, na fydd hynny'n digwydd oni bai ein bod ni i gyd yn barod i feddwl yn llawn dychymyg ac yn greadigol, ac ymegnïo o'r newydd yn hyn o beth.
Rwy'n diolch yn fawr iawn wir i bawb sydd wedi cyfrannu at gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae hwn yn adroddiad difrifol iawn. Mae'n gadarn ei ddeallusrwydd. Rwy'n credu ei fod yn gytbwys iawn ei ystyriaethau, ac mae'n haeddu ystyriaeth ddifrifol gan bawb sy'n meddwl am y dyfodol, nid yn unig yn y lle hwn, ond am ddyfodol Cymru, a dyfodol Cymru a'r ynysoedd hyn yn ogystal â hynny, a llywodraethu a llywodraeth yr ynysoedd hyn hefyd. Ac rwy'n credu ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol ac ymgysylltiad gan bob plaid. Ac rwy'n credu, gyda llaw—rwyf i am ddod at hyn ymhen eiliad—fod yna faterion y bydd y Ceidwadwyr yn awyddus i ymgysylltu â nhw yn hyn o beth.
Ac mae hi'n bwysig, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag ansawdd ein llywodraethu a'n llywodraeth ni. Mae'n ymwneud â chysylltiadau a pharch rhynglywodraethol a rhwng seneddau. Mae'n ymwneud â diogelu'r setliad datganoli cyfredol, a chyflwyno cynigion a allai esgor ar setliad cyfansoddiadol yma yng Nghymru, a ledled y DU, sy'n fwy addas i'r sefyllfa ôl-UE ar hyn o bryd, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, sy'n addas i'r dyfodol hefyd.
A'r pwynt yr wyf am ei roi gerbron cyd-Aelodau yn y Senedd heddiw, o bob plaid, yw: mae yna argymhellion yn yr adroddiad hwn ynghylch nid yn gymaint o ran ein cyfeiriad yn y dyfodol, ond o ran amddiffyn datganoli nawr, ac fe fyddwn i'n dweud bod rhai o'r argymhellion hyn yn adleisio—ac rwy'n siarad ar fy rhan fy hun heddiw, ond maen nhw'n adleisio—rhai o syniadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a phwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, gan y fforwm rhyngseneddol ac eraill, ac maen nhw'n sôn am ymgorffori confensiwn Sewell yn y ddeddfwriaeth, ac ymgorffori cysylltiadau rhynglywodraethol yn y ddeddfwriaeth ar sail y ddyletswydd honno i gydweithio a dangos parch cyfartal i Lywodraethau'r DU.
Felly, Prif Weinidog, a chyd-Aelodau Ceidwadol, a gaf i ddim ond awgrymu: mae'r rhain yn bethau y gallwn ni, yn y fan hon, nawr, gytuno i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, a chyflwyno sylwadau gerbron Lywodraeth y DU a Senedd y DU ar gyfer mynegi, 'Mae'r rhain, o leiaf, yn bethau y mae angen i ni eu cloi nhw i mewn', oherwydd mae'r perygl a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwn yn un y mae eraill wedi tynnu sylw ato eisoes—gan gynnwys y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—sef, heb gloi'r rhain i mewn, fe fyddwn ni mewn perygl o rowlio i lawr fryn datganoli.
Wel, Llywydd, mae'r adroddiad yn eglur iawn, oni bai y caiff camau eu cymryd, yna fe fydd datganoli yng Nghymru yn crebachu, ac ni allwch chi sefyll yn eich unfan. Ac nid ydym ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan, oherwydd fe welsom ni bethau yn mynd trwy ddwylo'r Senedd hon ac yn ôl i Lundain. Ac, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Lywydd, mae hi'n amlwg iawn hefyd ar nifer o'r tudalennau nad Llywodraeth Cymru yw ei hunig gynulleidfa; y Senedd ei hun yw hi i raddau helaeth iawn. Ac mae Huw yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gweithredu seneddol—a gaiff ei adlewyrchu mewn sawl adroddiad, yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag yma ac mewn mannau eraill—a gallu deddfwrfeydd i ddod at ei gilydd i wella'r ffordd y caiff pŵer ei ddosbarthu yn iawn trwy'r Deyrnas Unedig ac yna'n dod yn ôl at ei gilydd unwaith eto i gyflawni dibenion sy'n gyffredin, yr ydym yn cytuno o ran ein bod yn dymuno rhannu'r sofraniaeth honno—. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn hynod rymus wrth ymdrin â'r materion hynny hefyd.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Diolch, Llywydd dros dro. Prif Weinidog, roedd yr adroddiad o ddiddordeb mawr i mi, ac, yn amlwg, fe'i darllenais o'n fanwl, ac rwy'n credu bod llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'w chasglu ohono. Yn amlwg, fel chi, rwy'n ymroddedig i'r undeb. Fe hoffwn i weld Cymru yn cyfranogi yn llawn yn y DU, ac mae'r ffaith bod gan Gymru ddwy Lywodraeth yn brwydro ar ei chyfer—un ar yr ochr hyn o'r M4, a'r llall yr ochr draw—peth da yw hynny yn fy marn i.
Nawr, yn amlwg, roedd rhai pethau yn yr adroddiad a oedd yn peri pryder, y mae'r comisiwn wedi tynnu sylw atyn nhw, ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith, gyda llaw. Un o'r pethau hynny oedd y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith dinasyddion yng Nghymru o'r pwerau a'r cyfrifoldebau a chan bwy y maen nhw, boed hynny yn y Senedd hon neu ar haen Senedd y DU. Ac i ba raddau tybed yr ydych chi'n barod i edrych ar yr hyn y gellid ei wneud nid yn unig o ran ein system addysg, gydag addysg dinasyddiaeth—sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn—ond ymhlith y boblogaeth yn fwy eang, nad yw llawer ohonyn nhw'n mynd drwy'r system addysg ar hyn o bryd, ond mae angen addysg arnyn nhw o hyd ynghylch pwy sydd â'r cyfrifoldebau.
Wrth gwrs, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio hefyd ar y berthynas wael sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Fe wyddom ni fod straen a phwysau yn aml yn gallu bod wrth i'r cyfansawdd gwleidyddol amrywio mewn gwahanol leoedd, ac mae'n siŵr fod hynny wedi gwaethygu'r berthynas, fel gwnaeth, wrth gwrs, y sefyllfa gyfan gyda Brexit. Ond, yn amlwg, mae awydd ymhlith y cyhoedd i weld gwelliant gyda'r pethau hyn, heb ystyriaeth i liwiau'r pleidiau gwleidyddol ym mhob siambr. Ac eto, tybed i ba raddau y gallwch chi fyfyrio ar y ffaith bod pethau wedi gwella yn sylweddol ers newid y Prif Weinidog yn San Steffan, dros y 12 mis diwethaf, o leiaf.
Ac yn drydydd, dim ond codi'r mater o ran y berthynas sydd rhwng seneddau—ac rwy'n credu bod honno'n bwysig dros ben, mewn gwirionedd—fel gwyddoch chi, rwyf i'n aelod o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, ac yn hoffi cyfranogi yn llawn yng ngwaith y Cynulliad hwnnw. Ac mae hwnnw wrth gwrs yn ystyried y berthynas ar draws yr ynysoedd, gan gynnwys gyda Gweriniaeth Iwerddon. Ond rwy'n credu bod gwir angen fforwm ar gyfer y berthynas ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig, heb i Weriniaeth Iwerddon fod yn rhan o hwnnw, oherwydd mae rhai pethau sydd o ddiddordeb i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig nad ydyn nhw, a dweud y gwir, yn cael eu trafod mewn ffordd agored, gyda'r ymgysylltiad priodol. Ac felly, tybed pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu cynulliad rhyngseneddol o ryw fath, gan weithio gyda'r Senedd, wrth gwrs, yn ei chynrychioli—
A all yr Aelod ddod i ben nawr?
—er mwyn gwneud yn siŵr bod modd hwyluso'r mathau hynny o ddadleuon a thrafodaethau. Oherwydd nid yw'r adroddiad hwn yn ymhelaethu ar hynny, ond mae'n beth pwysig y mae angen iddo ddod allan o'r gwaith hwn.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am y cyfraniad meddylgar hwnnw ac am y parch a ddangosodd i waith y comisiwn a'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint ato. Rwy'n credu bod y mater o ymwybyddiaeth dinasyddion—rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr angen i ni wneud mwy a gwneud mwy o ran addysg. O'm mhrofiad fy hun dros fwy na 40 mlynedd, yn sicr, erbyn hyn o boeni pobl yn eu cartrefi eu hunain, curo ar eu drysau ar adeg etholiad, pan fydd rhywun yn dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, mae'r cyfan yn ymwneud â'r Llywodraeth, onid ydyw? Rwyf wedi curo ar ddrysau mewn etholiadau cynghorau cymuned, etholiadau awdurdodau lleol, etholiadau'r Senedd, etholiadau seneddol, etholiadau Ewropeaidd. Y person sy'n dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, dydyn nhw ddim eisiau gwybod am hynny, maen nhw eisiau gwybod, 'Pam na alla i barcio fy nghar?', 'Pryd mae'r sbwriel yna'n mynd i gael ei gasglu?' Y pethau maen nhw'n eu gweld o'u stepen drws eu hunain yw'r pethau maen nhw eisiau siarad â chi amdanyn nhw. Felly, er fy mod i o blaid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn deall y system yn well, yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, fwy na thebyg, mai'r hyn y mae gan bobl ddiddordeb ynddo fwyaf, pa bynnag lefel o lywodraeth rydych chi'n rhan ohoni, yw'r pethau maen nhw'n eu gweld, sy'n bwysig iddyn nhw, o ddydd i ddydd.
Edrychwch, mae rhywfaint o welliant wedi bod yn naws perthnasoedd rhynglywodraethol ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y DU. Mae'n barod iawn i gydnabod bod y Deyrnas Unedig yn cynnwys gwahanol gydrannau a'u bod yn haeddu parch. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na hynny. Mae gan y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol, y cymerodd bum mlynedd i gytuno arno, a gomisiynwyd gan Theresa May, y cytunwyd arno, fel y dywedais i, bum mlynedd yn ddiweddarach, gyngor o Weinidogion sy'n ganolog iddo. Wnaeth e' ddim cwrdd unwaith yn 2023, er gwaetha'r heriau niferus rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu—costau byw ac argyfyngau eraill. Ni chyfarfu'r cyngor hwnnw unwaith. Ac er bod y naws yn well, y perfformiad gwirioneddol, mae'n anodd dweud ein bod ni wedi gweld y gwelliant sydd ei angen.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar hefyd, Llywydd, am drefniadau rhyng-seneddol, am gryfhau'r rheini, ac mae llawer o waith yn digwydd ar lefel seneddol i wneud hynny. Nid mater i'r Llywodraeth yw arwain ar y gwaith hwnnw na cheisio dylanwadu arno, ond rydw i fy hun yn falch o'i weld. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, serch hynny, yw'r peirianwaith mwy cadarn hwnnw y cyfeiriodd Darren Millar ato. Mae yno ar dudalennau'r adroddiad. Mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig cyngor newydd o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau, fel man lle gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod a rhannu'r pethau hynny rydyn ni'n gwybod sy'n bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu pe bai'r cyngor hwnnw'n cyfarfod heddiw, bydden nhw eisiau gweld yr adroddiad hwn, a byddai yna fforwm lle byddem yn gallu bwrw ymlaen ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r jig-so cyfansoddiadol hwn hefyd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.
Diolch i'r Prif Weinidog.