Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 30 Ionawr 2024.
Diolch. Wel, yr hyn a wnaf yw gofyn i'r Gweinidog gynnwys eich materion chi hefyd yn y datganiad ysgrifenedig. Mae'n bwysig iawn bod gan ein cymunedau gwledig fynediad at fand eang yn y ffordd y mae gan ardaloedd trefol hefyd, ar gyfer busnes ac, yn amlwg, ar gyfer defnydd personol hefyd. Felly, fe wnaf yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn y datganiad hwnnw.