– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 30 Ionawr 2024.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd dadl y pwyllgor yfory ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol yng Nghymru, a gafodd ei gohirio o'r wythnos diwethaf. Felly, mae'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gysylltiadau rhyngwladol 2022-23 wedi'i gohirio tan 28 Chwefror. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Trefnydd, y cyntaf ar ddyfodol ein strydoedd mawr yng Nghymru? Mae llawer o ganol trefi wedi bod yn ei chael hi'n anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod y gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein a datblygiadau y tu allan i'r dref, gyda'u cyfleoedd i barcio am ddim, wedi'i gwneud hi'n anodd cynnal busnes, weithiau, yng nghanol ein trefi. Ac, wrth gwrs, mae effaith ddiweddaraf y gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes yn achosi i lawer o fusnesau yn fy etholaeth gysylltu i ddweud y gallai hynny fod yn fater o fethu neu lwyddo iddyn nhw. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod mwy o drafodaeth ynghylch dyfodol canol ein trefi, sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn ffynnu yn y dyfodol, a thybed a gawn ni ddatganiad fel y gallwn ni ymgysylltu a thrafod hyn ar sail drawsbleidiol i weld beth y gellid ei wneud i'w gwarchod nhw.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch a yw Trafnidiaeth Cymru yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru? Gwyddom fod £125 miliwn wedi'i roi yn ddiweddar i Trafnidiaeth Cymru, er nad oes achos busnes dros hynny wedi'i gyhoeddi erioed yn ôl pob golwg, ac er nad oedd yn rhan o drefniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y llynedd. Mae wedi cael ei ddwyn i'm sylw gan etholwr fod Trafnidiaeth Cymru wedi gwario £5,500 yn ddiweddar—rwy'n gwybod ei fod yn swm bach mewn termau cymharol—yn lapio trên mewn slogan ac arwydd hysbysebu 'Gwnaed yng Nghymru'. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n wariant dewisol diangen ar draul trethdalwyr, a thybed beth arall y mae Trafnidiaeth Cymru yn gwario'n wastraffus arno heb fod achos busnes priodol dros wneud hynny.
Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog Trafnidiaeth Cymru ynghylch pam mae'r symiau sylweddol hyn yn cael eu rhoi i'r sefydliad hwnnw pan ei fod yn ymddangos ei fod yn gallu gwario'n wamal ar y math hwnnw o hysbysebu.
Fe wnaf i gytuno i ddatganiad ar eich cwestiwn cyntaf, ond nid eich ail.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn dilyn darn ymchwiliol a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos gan The Sunday Times ynghylch arian parod ar gyfer cyrsiau, a ddatgelodd mai Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion a enwyd a oedd yn cynnig recriwtio myfyrwyr tramor ar raddau llawer is nag y bydden ni'n eu disgwyl gan fyfyrwyr yma yng Nghymru, sy'n golygu bod myfyrwyr yn colli allan, gan fod angen iddyn nhw gael graddau A* rhy uchel ac yn y blaen i fynd ar rai cyrsiau, sy'n gwbl hanfodol o ran economi Cymru, wrth gwrs, ac yn colli allan oherwydd y sefyllfa y mae llawer o'n prifysgolion yn ei hwynebu o ran eu trafferthion ariannol.
Rwy'n credu bod angen eglurder ar hyn, a byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ddeall pa drafodaethau y gallai ef eu cael â Phrifysgol Caerdydd i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru yn colli allan, a hefyd, nad ydyn ni'n manteisio'n annheg ar fyfyrwyr rhyngwladol.
Wel, yn amlwg, rydyn ni'n croesawu myfyrwyr tramor i'n prifysgolion yng Nghymru, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn siarad ag is-gangellorion yn gyffredinol ar hyn o bryd ynghylch myfyrwyr tramor, ac rwy'n siŵr y bydd e'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg briodol.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi am yr adfachiad o £70 miliwn a gafodd Llywodraeth Cymru gan gynllun band eang Cyflymu Cymru. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer caffael ar sut y gallen nhw ategu cynllun Llywodraeth Cymru o ran band eang, ond byddai'n ddefnyddiol pe gallen ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer caffael hwn yn y Siambr, os gwelwch yn dda, oherwydd mae pobl yn fy etholaeth eisiau rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwnnw'n mynd i sicrhau bod ein heiddo anoddach eu cyrraedd yn gallu cael mynediad teg at fand eang cyflym yn ein cymunedau gwledig.
Diolch. Yn sicr, gwnaf ofyn i'r Gweinidog priodol roi'r wybodaeth ddiweddaraf drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Wel, yn gyfleus iawn, dwi eisiau dilyn yr un trywydd a gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, achos dwi wedi codi pryderon yn y Siambr yma o'r blaen am ardaloedd gwledig yn sir Gaerfyrddin, ac ardaloedd gwledig yng Ngheredigion hefyd, sydd wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan gwmnïau sydd wedi addo gweithredu'r talebau ac wedi gadael yr ardaloedd yna i lawr. Ac mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb: dwi'n byw yn un o'r ardaloedd ac wedi bod yn un o'r bobl sydd wedi datgan diddordeb. Hynny yw, aeth cwmni Broadway i'r wal a gadael pobl i lawr. Wedyn, fe'u prynwyd nhw gan gwmni o'r enw Voneus, a'r wythnos diwethaf fe glywon ni eu bod nhw ddim yn mynd i ymrwymo i ddilyn y cynllun talebau. Felly, ar ôl siarad ag Openreach yn wreiddiol, wedyn Broadway, wedyn Voneus, rŷn ni'n dal, yn yr ardaloedd yma, heb y math o wasanaeth band llydan rŷn ni'n ei haeddu.
Felly, a gaf i ofyn—rwy'n gwybod bod sawl elfen o hyn yn perthyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadau ei wneud i gyflenwi gwasanaethau yn y notspots yma mewn ardaloedd gwledig?
Diolch. Wel, yr hyn a wnaf yw gofyn i'r Gweinidog gynnwys eich materion chi hefyd yn y datganiad ysgrifenedig. Mae'n bwysig iawn bod gan ein cymunedau gwledig fynediad at fand eang yn y ffordd y mae gan ardaloedd trefol hefyd, ar gyfer busnes ac, yn amlwg, ar gyfer defnydd personol hefyd. Felly, fe wnaf yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn y datganiad hwnnw.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda. Yr wythnos diwethaf, cafodd ei gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi'r cynllun i gau Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn fy rhanbarth bob nos o'r wythnos. Yn flaenorol, mae wedi gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae fy etholwyr a minnau'n bryderus iawn am y penderfyniad i gau'r uned mân anafiadau bob nos. Dyma'r penderfyniad anghywir i fy etholwyr i ac nid yw'n rhoi anghenion cleifion yn gyntaf. Nid yw'r penderfyniad yn cael ei gefnogi gan drigolion lleol na gwleidyddion fel ei gilydd. Bydd yn golygu bod pobl yn fy rhanbarth yn gorfod teithio nifer sylweddol o filltiroedd i gael triniaeth, a bydd ond yn ychwanegu at yn rhoi mwy o bwysau ar y Faenor ar adeg pan yw eisoes dan bwysau aruthrol.
Felly, hoffwn i'r Gweinidog ryddhau datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ba drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r bwrdd iechyd, yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i fod ar gael i fy etholwyr gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw, ac a yw'r Gweinidog yn credu bod y newidiadau hyn yn ddigonol. Yn amlwg, mae angen i fy etholwyr wybod hefyd beth yw'r dewisiadau eraill sydd ar gael iddynt, pa drafnidiaeth fydd ar gael iddynt. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i'm holl etholwyr fod yn ymwybodol o'r newid sylweddol hwn yn y gwasanaeth. Diolch.
Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mae hwn yn amlwg yn fater gweithredol o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond un claf y nos oedd yn mynd yno, ar gyfartaledd. Ac unwaith eto, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod yr wybodaeth am ble y dylen nhw fynd mewn achos o argyfwng, bod y boblogaeth gyffredinol y maen nhw'n ei gwasanaethu yn gwybod hynny.
Wel, mewn gwirionedd, fel Laura, hoffwn i gael datganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yn y rhanbarth. Rydyn ni wedi gweld, fel y cafodd ei amlinellu eisoes, yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn cael ei chau dros nos. Mae llawer o gleifion yn poeni am ble y bydden nhw'n mynd yn hwyr yn y nos pe bai rhywbeth yn mynd o'i le, ac mae dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i gefnogi'r cyfleuster hwnnw. Mae oriau cyfyngedig hefyd yn mynd i gael eu gwneud yn barhaol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach. Byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai datganiad ymdrin â'r pryderon lleol hynny, a fyddai deddfwriaeth yn bosibl i sicrhau bod darpariaeth 24 awr y dydd yn cael ei chynnig i bobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig pan fo gwasanaethau damweiniau ac achosion brys wedi cael eu canoli cymaint ar draws y rhanbarth cyfan, oherwydd mae pobl yn teimlo'n ynysig ac yn poeni am ble i gael help.
Nawr, ar fater sy'n gysylltiedig â hynny, mae etholwr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder am y pwysau sy'n cael ei roi ar staff oherwydd llwyth gwaith, rwy'n credu, yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn yr uned mân anafiadau mewn gwirionedd—staff yr oedd, gyda llaw, yn eu yn canmol am eu hymroddiad, ond mae yna bryder y gallen nhw fod yn cael eu gorweithio. Rwyf wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd. Dywedon nhw wrthyf fod y lefelau staffio yn yr uned yn cydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth. Fe wnaethon nhw hefyd gyfaddef bod y lefelau staffio hynny yn cael eu hadolygu. Felly, yn yr un datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, a allai'r Gweinidog iechyd ymrwymo i adolygu'r canllawiau presennol, er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, os gwelwch yn dda? Diolch.
Wel, dydw i ddim yn credu bod gen i unrhyw beth mwy i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr ateb a roddais i Laura Anne Jones. Nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mater i Aneurin Bevan ydyw, felly rydych chi wedi gwneud y peth iawn yn ysgrifennu atyn nhw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y boblogaeth y maen nhw'n eu gwasanaethu yn ymwybodol o'r newidiadau. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes neb yn hoffi newid, ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael mynediad i'r gwasanaeth iechyd cywir, ar yr adeg gywir.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? A gaf i ofyn am y cyntaf gan y Gweinidog iechyd, ar ddarparu gwasanaethau brys ac amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru? Rwyf wedi cael gwybod am etholwr y bu'n rhaid i'w berthynas aros 26 awr am ambiwlans ar ôl i ymatebwr cyntaf cychwynnol gyrraedd. Mae teulu etholwr arall wedi cysylltu i ddweud wrthyf am eu perthynas a arhosodd dros awr a hanner am ambiwlans ar ôl cael trawiad ar y galon ar Noswyl Nadolig. Yn anffodus, bu farw'r person hwnnw yn 40 oed, gan adael dau o blant bach. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n hollol warthus, ac rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Gweinidog, o ystyried yr achosion annerbyniol hyn, mae'n hanfodol bod amser yn cael ei neilltuo nawr, rwy'n credu, i drafod gwasanaethau iechyd brys, ac amseroedd aros ambiwlansys yn benodol, fel bod yr Aelodau a'r cyhoedd yn gallu deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.
Ac yn ail, Llywydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cysylltedd llwybrau troed? Rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwr sydd wedi mynegi pryder am ddiffyg cysylltedd llwybrau troed, ac sy'n galw am iddyn nhw gael eu cysylltu'n well ledled y wlad. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn golygu cael cefnogaeth tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, ac yn wir rhanddeiliaid eraill, ond byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd darparu datganiad—ysgrifenedig neu lafar—yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.
Diolch. O ran eich cais cyntaf, yn amlwg, mae'r ddwy sefyllfa y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn annerbyniol, ac rwyf innau hefyd yn anfon fy nghydymdeimlad at y teulu sy'n gysylltiedig â'r ail enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi. Os ydyn ni'n edrych ar ein gwasanaeth ambiwlans, ac yn sicr os ydyn ni'n ei gymharu â'r adeg hon y llynedd, rydyn ni wedi gweld rhai gwelliannau, er gwaetha'r galw uchaf erioed am alwadau coch a gofnodwyd fis diwethaf. Ychydig dros wyth munud oedd yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, ac ymatebwyd i 80 y cant o alwadau coch o fewn 15 munud. Unwaith eto, adrannau brys, rydyn ni'n gwybod bod y system o dan bwysau mawr, ond mae pobl yn dal i dderbyn gofal o safon dda iawn yn ein hadrannau brys ledled Cymru, ac mae hyn yn sicr yn dyst i waith caled ein staff iechyd.
O ran eich ail bwynt, efallai y byddai'n well, rwy'n credu, petaech yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch llwybrau troed, a bydd hi'n gallu ateb y pryderon penodol sydd gennych yn uniongyrchol.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i? A gaf i ddatganiad gennych chi, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, ar yr asesiad o effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd wedi cael rhywfaint o sylw yr wythnos hon, yn amlinellu'r posibilrwydd y bydd 5,500 o swyddi yn cael eu colli ac y bydd gwerth £200 miliwn o golledion i incwm ffermydd? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud bod yr asesiad yn seiliedig ar iteriad blaenorol o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond, wrth gwrs, yn sylfaenol, nid yw llawer wedi newid, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu y byddai datganiad yn egluro perthnasedd yr asesiad effaith i'r cynigion presennol yn ddefnyddiol, o ran sut, efallai, mae'r asesiad effaith wedi arwain at newid yn yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig nawr a sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau pontio teg sy'n osgoi colli miloedd o swyddi a gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o incwm ffermydd hefyd. Ac efallai y gallech chi ddweud wrthyn ni hefyd pryd y bydd asesiad effaith wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddarparu i lywio'r ymgynghoriad presennol sy'n mynd rhagddo o amgylch y cynllun ffermio cynaliadwy.
A gaf i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant, os caf i ofyn am un? Mae nifer o doriadau yn y gyllideb sy'n mynd i effeithio ar sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol o'i phortffolio hi, a fydd yn arwain at golli swyddi. Nawr, rwy'n gwybod bod rhai o'r cyrff hyn eisoes yn ymgymryd â phrosesau diswyddo. Felly, byddwn i eisiau datganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n rhoi sicrwydd i ni fod y prosesau hynny'n cael eu cynnal mewn modd priodol, eu bod yn trin pawb yn deg, a'u bod yn caniatáu digon o amser i bobl sy'n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am eu cyflogaeth yn y dyfodol—eu bod yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y penderfyniadau gwybodus hynny—a'u bod yn digwydd gyda rhywfaint o gysondeb ar draws y sefydliadau a'r sector, oherwydd, yn amlwg, bydd goblygiadau sylweddol. Ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn croesawu'r sicrwydd hynny.
Diolch. O ran yr asesiadau o effaith economaidd ar y dadansoddiad economaidd cyn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, nid wyf yn credu y byddaf yn gwneud datganiad llafar ynghylch hynny. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn bod y data hwn yn hen iawn, a'r rheswm y gwnes i ei rannu yn y ffordd y gwnes i oedd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw yn ei gylch, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y data hwnnw ar gael cyn yr ymgynghoriad cyfredol ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn y bydd dadansoddiad economaidd newydd, a bydd hwnnw'n cael ei wneud ar ôl i'r ymgynghoriad gau, sef ar 9 Mawrth, rwy'n credu, cyn i'r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy yr haf hwn.
O ran y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant a'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y gwyddoch chi, rydyn ni wrthi'n craffu ar y gyllideb ddrafft. Rwy'n deall yn iawn y pryderon sydd gennych chi, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn sicrhau ei bod hi'n siarad â'r sefydliadau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw wrth i'r broses fynd yn ei blaen. Unwaith y caiff y gyllideb ei phennu, rwy'n credu y bydd y sgyrsiau hynny'n amlwg yn parhau.
Ac, yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Wel, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar effaith sgandal Horizon Swyddfa'r Post ar swyddfeydd post yng Nghymru? Mae'r swyddfa bost yn Nefyn wedi cau yn ddiweddar, ac, yn anffodus, maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywun i ymgymryd â'r contract. Fe gaeodd, yn rhannol, oherwydd diffyg hyder yn y systemau TG, ac rwy'n cael fy arwain i gredu bod cymunedau eraill yn wynebu ymatebion tebyg hefyd. Mae Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaeth hanfodol i lawer o bobl ac mae angen i ni gael sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny, os gwelwch yn dda?
Yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gamau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i ymdrin ag ymosodiadau rhywiol a threisio. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â RASASC, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ym Mangor. Cefais fy nychryn wrth glywed rhai o'r ystadegau ac i ddeall bod traean o'r menywod a gafodd eu holi yn ffair y glas y llynedd yn adnabod rhywun a oedd wedi cael ei dreisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Yn wir, gogledd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o drais rhywiol unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain, ac rydyn ni'n gweld niferoedd cynyddol o atgyfeiriadau, gyda chynnydd o 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn eleni, yn enwedig ymhlith plant. Mae'r data yn syfrdanol, ac rwy'n bryderus iawn am les menywod a phlant. Felly, hoffwn i gael datganiad ar y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn hyn o beth. Diolch.
Diolch i chi. Mae'r ddau Weinidog wedi cytuno i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd am yr atebion yna.