Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 30 Ionawr 2024.
Wel, yn amlwg, rydyn ni'n croesawu myfyrwyr tramor i'n prifysgolion yng Nghymru, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn siarad ag is-gangellorion yn gyffredinol ar hyn o bryd ynghylch myfyrwyr tramor, ac rwy'n siŵr y bydd e'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg briodol.