Y Post Brenhinol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:18, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyfyng-gyngor i'w ddatrys yno, gyda nifer y llythyrau yn lleihau a natur y busnes yn newid. Dyna pam mae Ofcom ei hun wedi cyflwyno ei gynigion. Byddwn ni'n ymgysylltu â'r cynigion hynny, wrth gwrs; fel y dywedais i, bydd y Gweinidog yn cyfarfod ag Ofcom ar 9 Chwefror. Yr hyn sy'n bwysig i ni yw nad yw buddiannau Cymru yn cael eu hesgeuluso wrth ddatrys y cyfyng-gyngor hwnnw, a bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn, ac nid wyf i'n dychmygu am eiliad y byddai'r Aelod yn anghytuno â'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hynny.