Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 30 Ionawr 2024.
Wel, Llywydd, does dim amheuaeth bod gorelwa wedi ychwanegu at bwysau chwyddiant ar gyllidebau aelwydydd Cymru. I roi un enghraifft yn unig, daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad ym mis Tachwedd bod gwneuthurwyr rhai brandiau bwyd poblogaidd wedi codi eu prisiau yn fwy na'u costau yn ystod yr argyfwng costau byw.