Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Ionawr 2024.
Fel y mae Cyngor Caerdydd ei hun wedi dweud, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio Toys 'R' Us yn benderfyniad a wnaed o dan y pwysau enfawr y mae'r ddinas yn ei wynebu. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagned i bobl sy'n dod i'r ddinas, sy'n canfod nad oes ganddyn nhw unman i fyw, ac sy'n troi at yr awdurdod lleol i'w cynorthwyo. Ar yr un pryd, mae Caerdydd, uwchlaw unrhyw ran arall o Gymru, yn delio â chanlyniadau penderfyniad y Swyddfa Gartref i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau yn y system loches—peth da ynddo'i hun, ond gyda llawer iawn o bobl yn cael eu taflu allan o'r llety yr oedden nhw'n gallu ei fwynhau yn flaenorol, heb unman i fynd, ond i wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol. Daeth y ddau beth hynny at ei gilydd cyn y Nadolig mewn ffordd a oedd yn eithriadol o anodd i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffordd o ymateb. Mae wedi defnyddio safle Toys 'R' Us. Mae'n dweud y bydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwnnw ym mis Ebrill eleni oherwydd bod ganddo lety arall mwy addas yn dod yn barod. Yn y cyfamser, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pobl yn yr amgylchiadau dros dro ac anfoddhaol hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod.
O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref y llynedd gwelwyd y nifer uchaf o ymgyflwyniadau o bobl sy'n ddigartref nag yn unrhyw un o'r tair blynedd flaenorol. Ond gwelwyd hefyd y nifer uchaf o bobl yn symud ymlaen o lety dros dro i lety parhaol yma yng Nghymru. Felly, er bod y galw yn cynyddu drwy'r amser, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn golygu bod mwy o bobl nag o'r blaen yn dal i gael eu symud ymlaen i lety gwell a hirdymor. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda'r buddsoddiad y mae ein cyllideb ddrafft yn ei nodi, ond ni ddylai neb fod o dan unrhyw amheuaeth bod hon yn system dan bwysau aruthrol, ac fe syrthiodd y pwysau hynny ar Gaerdydd yn arbennig yn yr wythnosau hynny yn arwain at y Nadolig.