Gwella Gwasanaethau'r GIG yn Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:19, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydyn ni'n ymdrechu'n gyson i wella gwasanaethau ar gyfer etholaeth yr Aelod, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf, pan agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ganolfan iechyd a lles newydd gwerth £19 miliwn. Bydd trigolion Islwyn hefyd yn elwa ar fuddsoddiad o £14 miliwn yn yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, yn ogystal ag uned gofal y fron newydd a fydd yn agor fis nesaf.