Y Post Brenhinol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 30 Ionawr 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 2:15, 30 Ionawr 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ers i'r Post Brenhinol gael ei breifateiddio, mae ei asedau wedi cael eu cymryd oddi arno. Nid oedd y llythyr un-pris cyffredinol erioed yn broffidiol ynddo'i hun, roedd yn rhan o becyn o wasanaethau. Ac yn ddiweddar, mae gweithwyr wedi cael eu cyfarwyddo i ddosbarthu'r parseli mwy proffidiol a gadael llythyrau ar ôl, wrth i rowndiau fynd yn rhy fawr i'w cyflawni gan y gweithlu sydd ar ôl; hyn oll tra bod prif weithredwyr wedi cael dyfarniadau cyflog enfawr a bod cyfranddalwyr wedi elwa. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith y bydd cwtogi'r gwasanaeth dosbarthu llythyrau yn ei chael ar apwyntiadau iechyd ac ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol?