1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 30 Ionawr 2024.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi gydweithredol? OQ60628
Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am hynny. Mae mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o'r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae cymorth pwrpasol i helpu i dyfu'r sector ar gael drwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gadeirio trafodaeth bord gron ar adroddiad newydd ar bwrpas busnes cydfuddiannol a chydweithredol mewn cymdeithas. Tynnodd yr adroddiad sylw, er enghraifft, at y ffaith bod gan economi gydfuddiannol a chydweithredol y DU yn 2022 refeniw blynyddol cyfunol o ychydig o dan £88 biliwn, neu 3.5 y cant o gynnyrch domestig gros. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisoes ar ei ffordd i gyrraedd ei nod o ddyblu nifer y busnesau cydweithredol yng Nghymru y tymor hwn. Mae un argymhelliad yn yr adroddiad yn galw ar dimau polisi ar draws y Llywodraeth i ystyried y manteision y mae mentrau cydweithredol a chydfuddiannol yn eu cynnig i'r economi. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hyn o fewn ei strategaeth economaidd?
Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at yr adroddiad. Mae'n adroddiad ardderchog, os nad yw cyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Yr hyn sy'n dod â'r adroddiad yn fyw yn fy marn i yw'r astudiaethau achos sydd wedi'u cynnwys drwyddo, sy'n dangos y ffordd y mae ffyrdd cydweithredol a chydfuddiannol o ddarparu gwasanaethau i'w canfod nid yn uniongyrchol ym maes yr economi yn unig, fel y dywed Vikki Howells, ond gallan nhw wneud llawer i gynorthwyo ar draws y cyfrifoldebau sy'n cael eu harfer yn y Senedd hon.
Yr astudiaeth achos sydd o Gymru yn yr adroddiad yw un Cymdeithas Adeiladu Principality, sydd wrth gwrs ei hun yn sefydliad cydfuddiannol, a'i bartneriaeth â Grŵp Pobl, gyda'r bwriad o sicrhau bod gan dai yng Nghymru well siawns o allu bodloni'r rhwymedigaethau newid hinsawdd y gwyddom sydd yno i ni heddiw ac yn y dyfodol. Ond nid dyna'r unig enghraifft, o bell ffordd, yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar draws yr ystod o bethau sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, mewn gofal cymdeithasol bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn gwybod am Solva Care, sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae cwmni cydweithredol Friends United Together yn Abertawe, menter gydweithredol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Yn y maes addysg, rydym wedi cael cydweithfa athrawon cyflenwi yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd angen iddyn nhw ddefnyddio pobl oddi ar y rhestrau cyflenwi. Mae cwmni cydweithredol llaeth organig Calon Wen yn Arberth yn enghraifft arall o gwmni cydweithredol. Mae gennym gwmnïau cydweithredol yn y diwydiant bwyd, yn y celfyddydau, mewn busnes. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn gwneud y pwynt yn bwerus, ond rwy'n credu hefyd y gallwn ni ddangos yma yng Nghymru ein bod yn defnyddio'r model cydweithredol hwnnw, wrth gwrs, yn adran yr economi, ond gan sicrhau bod ei fanteision yn hysbys ac yn cael eu gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru.
Prif Weinidog, rydym wedi gweld nifer o sefydliadau poblogaidd yn sir Benfro, fel tafarndai a siopau, yn cael eu trosglwyddo o fusnesau preifat i fodelau cydweithredol o weithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Dau o'r rhai mwyaf diweddar yw tafarndai fel y Crymych Arms yng Nghrymych a Thafarn y Cross yng Nghas-lai, a gafodd gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU hefyd. Rwy'n gwybod, hefyd, fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r asedau hyn gael eu cymryd drosodd fel hyn er budd y gymuned. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi mai'r hyn sy'n hanfodol yw sicrhau y gall cynifer o wirfoddolwyr â phosibl ddod ymlaen i gefnogi cwmnïau cydweithredol o'r fath a'u gwneud yn hynod lwyddiannus. O ystyried pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd yr asedau cymunedol hyn fel bod cynifer o wirfoddolwyr â phosibl yn dod ymlaen i gefnogi mentrau o'r fath? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau cymunedol sydd wedi helpu i hwyluso mentrau o'r fath i ddod yn fentrau cydweithredol yn y lle cyntaf?
Llywydd, diolch i Paul Davies am y ddau bwynt hynny. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddwn gyda'i gyd-Aelod Darren Millar mewn siop gymunedol yn ei etholaeth, a dywedodd y person y gwnaethom gyfarfod ag ef, sef y person sy'n gyfrifol amdani, wrthyf yn uniongyrchol iawn, 'nid fi yw'r person pwysig yma, ond y gwirfoddolwyr sy'n caniatáu i'r siop hon barhau i gynnig y gwasanaeth y mae'n ei wneud i'r gymuned leol hon.' Felly, rwy'n deall yn llwyr y pwynt y mae Paul Davies yn ei wneud, Llywydd, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru, rydyn ni'n ddigon ffodus i fod â seilwaith cadarn ar gyfer gwirfoddoli. Mae gennym Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n cymryd y safbwynt Cymru gyfan hwnnw ar gefnogi gwirfoddolwyr, ond mae gennym gynghorau gwirfoddol sirol sy'n addasu'r polisïau hynny a'r posibiliadau grant hynny i anghenion cymunedau lleol. Maen nhw'n gwneud hynny nid yn unig wrth gefnogi gwirfoddoli ac annog pobl i ddod ymlaen i wneud hynny, ond maen nhw hefyd yn cefnogi sefydliadau cymunedol eu hunain. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud, Llywydd, ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa arbennig o dda yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn genedl o wirfoddolwyr—mae canran uwch o bobl yn gwirfoddoli yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—ond mae gennym hefyd y seilwaith ar waith i'w cefnogi i wneud hynny.
Wrth gwrs, nid yw'r syniad o fentrau cydweithredol yn rhywbeth sy'n gysyniad dieithr i Gymru. Dechreuodd y syniad yng Nghymru, felly mae'n bwysig ein bod yn arwain y ffordd i'r dyfodol. Nawr, yn ôl ym mis Hydref fe godais gyda'r Prif Weinidog botensial heb ei ddefnyddio y sector yma yng Nghymru, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae'n cyfrif am 0.6 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Os ydym am weld cynnydd yn y ffigur hwnnw, wrth gwrs, mae cynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol sy'n gweithredu yn bwysig, ond hefyd, edrych ar feintiau'r cwmnïau cydweithredol hynny ac edrych ar gyfleoedd mewn diwydiannau eraill lle gallem dyfu cwmnïau cydweithredol sylweddol yn yr un modd ag y maen nhw wedi'i wneud yn Mondragón yng Ngwlad y Basg. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn edrych ar gynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol, ond hefyd yn edrych ar gynyddu maint y cwmnïau cydweithredol hynny hefyd, fel eu bod yn cyflawni'r lefelau twf yr ydym am eu gweld, ond hefyd, y swyddi o ansawdd da y gwyddom y gallant?
Roedd cwmnïau cydweithredol Robert Owen ar raddfa sylweddol, on'd oedden nhw? Roedd New Lanark yn dref gyfan a neilltuwyd i'r ffordd gydweithredol o wneud pethau. Gofynnwyd cwestiwn i mi, fel y dywedodd yr Aelod, yn gynharach yn y flwyddyn ynghylch busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn dod yn gwmnïau cydweithredol yng Nghymru ac roeddwn yn gallu dweud wrtho bryd hynny ein bod yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ein targed arno, ac, mewn gwirionedd, mae'r cyflymder hwnnw wedi cyflymu ers imi ateb y cwestiwn hwnnw: 70 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru bellach, tri arall yng ngham cyfreithiol y broses bontio a phum ymholiad newydd arall yn awr yn cael eu cymryd drwy'r broses y mae angen i chi fynd drwyddi i ddod yn gwmni cydweithredol sy'n eiddo i weithwyr.
Rwy'n cofio cael gwybod yn Mondragón, pan oeddwn i yno, nad oedden nhw wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar bobl yn y ddau gwm y naill ochr iddyn nhw i fabwysiadu'r model, felly ddylen ni ddim dilorni ein hunain yn ormodol yng Nghymru os nad ydyn ni wedi gwneud cymaint ag y gwnaethon nhw lwyddo i'w wneud. Ond mae gwersi o rannau eraill o'r byd, a chan y cwmnïau cydweithredol mawr hynny, oherwydd erbyn hyn mae gennym rai busnesau ar raddfa wirioneddol fawr sy'n eiddo i weithwyr yma yng Nghymru, a'n nod bob amser yw cynorthwyo busnesau ar y daith honno, fel eu bod yn parhau i fod wedi'u gwreiddio yma yng Nghymru ac yn defnyddio eu gallu i dyfu i barhau i wneud y cyfraniad hwnnw i economi ehangach Cymru.