Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 30 Ionawr 2024.
Llywydd, rwy'n ymwybodol o system CHAIN, a heb os mae llawer o rinweddau iddi mewn dinas maint a graddfa Llundain, ond nid wyf yn credu bod yr anhawster a wynebir mewn gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru yn un o ddiffyg gwybodaeth. Mae gennym adroddiadau misol gan ein holl awdurdodau lleol am nifer y bobl sy'n ddigartref ar y stryd; maen nhw mewn cysylltiad uniongyrchol â phob un ohonyn nhw yn rheolaidd iawn. Yr hyn nad oes gan ein system yw'r cyllid angenrheidiol i allu ymateb i bobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa honno. Nid diffyg gwybodaeth mohono, Llywydd, yr her yw ymateb i broblem sydd wedi bod yn tyfu bob blwyddyn ers pandemig COVID.