Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 30 Ionawr 2024.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben. Eleni yn unig, mae mwy na £210 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal a chefnogi digartrefedd. Mae'r cyllid yma wedi cael ei ddiogelu dros 2024-25, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol heriol. Mae hyn yn cynnwys dros £45 miliwn i awdurdodau yng Nghanol De Cymru.