1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 30 Ionawr 2024.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OQ60591
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben. Eleni yn unig, mae mwy na £210 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal a chefnogi digartrefedd. Mae'r cyllid yma wedi cael ei ddiogelu dros 2024-25, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol heriol. Mae hyn yn cynnwys dros £45 miliwn i awdurdodau yng Nghanol De Cymru.
Diolch, Brif Weinidog. Dros y mis diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod hen adeilad Toys 'R' Us ym Mae Caerdydd yn cael ei ddefnyddio fel llety dros dro i unigolion sy'n aros am dai. Wrth gwrs bod angen darparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy'n ddigartref, ond mae'r amodau y mae pobl agored i niwed yn cael eu cartrefu ynddynt yn fy mhoeni'n fawr, ac mae hefyd yn pryderu nifer o staff sy'n cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth.
O ystyried y pryderon hyn ynghylch iechyd a diogelwch defnyddwyr y gwasanaethau a'r staff eu hunain mewn cyfleusterau o'r fath, hoffwn ofyn a ydych chi'n credu bod cartrefu unigolion agored i niwed yn y math hwn o adeilad yn ateb addas a chynaliadwy i fynd i’r afael â'r argyfwng digartrefedd yma yn ein prifddinas a hefyd yng Nghymru. Pa fesurau rhagweithiol y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau lles a diogelwch y rhai sy'n cael eu cartrefu mewn llety dros dro?
Fel y mae Cyngor Caerdydd ei hun wedi dweud, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio Toys 'R' Us yn benderfyniad a wnaed o dan y pwysau enfawr y mae'r ddinas yn ei wynebu. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagned i bobl sy'n dod i'r ddinas, sy'n canfod nad oes ganddyn nhw unman i fyw, ac sy'n troi at yr awdurdod lleol i'w cynorthwyo. Ar yr un pryd, mae Caerdydd, uwchlaw unrhyw ran arall o Gymru, yn delio â chanlyniadau penderfyniad y Swyddfa Gartref i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau yn y system loches—peth da ynddo'i hun, ond gyda llawer iawn o bobl yn cael eu taflu allan o'r llety yr oedden nhw'n gallu ei fwynhau yn flaenorol, heb unman i fynd, ond i wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol. Daeth y ddau beth hynny at ei gilydd cyn y Nadolig mewn ffordd a oedd yn eithriadol o anodd i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffordd o ymateb. Mae wedi defnyddio safle Toys 'R' Us. Mae'n dweud y bydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwnnw ym mis Ebrill eleni oherwydd bod ganddo lety arall mwy addas yn dod yn barod. Yn y cyfamser, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pobl yn yr amgylchiadau dros dro ac anfoddhaol hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod.
O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref y llynedd gwelwyd y nifer uchaf o ymgyflwyniadau o bobl sy'n ddigartref nag yn unrhyw un o'r tair blynedd flaenorol. Ond gwelwyd hefyd y nifer uchaf o bobl yn symud ymlaen o lety dros dro i lety parhaol yma yng Nghymru. Felly, er bod y galw yn cynyddu drwy'r amser, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn golygu bod mwy o bobl nag o'r blaen yn dal i gael eu symud ymlaen i lety gwell a hirdymor. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda'r buddsoddiad y mae ein cyllideb ddrafft yn ei nodi, ond ni ddylai neb fod o dan unrhyw amheuaeth bod hon yn system dan bwysau aruthrol, ac fe syrthiodd y pwysau hynny ar Gaerdydd yn arbennig yn yr wythnosau hynny yn arwain at y Nadolig.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch efallai, mae'r rhwydwaith digartrefedd a gwybodaeth cyfun, CHAIN, a gomisiynwyd ac a ariennir gan Awdurdod Llundain Fwyaf, yn gronfa ddata o wybodaeth sy'n cofnodi pobl a welir yn cysgu allan gan dimau allgymorth yn Llundain. Mae'r gwasanaethau sy'n cofnodi gwybodaeth ar CHAIN yn cynnwys timau allgymorth, prosiectau llety, canolfannau dydd a phrosiectau arbenigol, fel y prosiect No Second Night Out a gomisiynwyd. Manteision gwirioneddol y rhwydwaith yw ei fod yn cael ei ddiweddaru bob dydd ac mae'n darparu dealltwriaeth llawer mwy manwl o gysgu allan mewn ardal benodol, o'i gymharu â'r cyfrif cenedlaethol. Mae hefyd yn casglu llawer mwy o fanylion am sefyllfa unigolyn, fel pa mor hir y mae wedi bod yn cysgu allan, ac mae'n helpu asiantaethau fel Byddin yr Iachawdwriaeth, sy'n gwneud gwaith mor anhygoel o helpu pobl ddigartref, gydag unrhyw anghenion cymorth sydd ganddyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried cyflwyno cronfa ddata amlasiantaeth gynhwysfawr, yn debyg i system CHAIN sy'n gweithredu yn Llundain, yng Nghymru er mwyn gwella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl sy'n profi digartrefedd ar y stryd? Diolch.
Llywydd, rwy'n ymwybodol o system CHAIN, a heb os mae llawer o rinweddau iddi mewn dinas maint a graddfa Llundain, ond nid wyf yn credu bod yr anhawster a wynebir mewn gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru yn un o ddiffyg gwybodaeth. Mae gennym adroddiadau misol gan ein holl awdurdodau lleol am nifer y bobl sy'n ddigartref ar y stryd; maen nhw mewn cysylltiad uniongyrchol â phob un ohonyn nhw yn rheolaidd iawn. Yr hyn nad oes gan ein system yw'r cyllid angenrheidiol i allu ymateb i bobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa honno. Nid diffyg gwybodaeth mohono, Llywydd, yr her yw ymateb i broblem sydd wedi bod yn tyfu bob blwyddyn ers pandemig COVID.