1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 30 Ionawr 2024.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd â chlefyd Crohn a cholitis yn cael diagnosis mor gyflym â phosibl? OQ60621
Llywydd, yng Nghymru, mae gennym lwybr safonol y cytunwyd arno yn genedlaethol ar gyfer ymchwilio i glefyd llid y coluddyn. Mae pob bwrdd iechyd yn ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gwasanaethau sy'n ymateb i bobl sy'n ymgyflwyno gyda symptomau'r clefyd.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae dros 26,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd Crohn a cholitis—cyflyrau cronig gydol oes y perfedd—gydag un o bob pedwar yn cael diagnosis cyn eu bod yn 30 oed. Nid oes iachâd, ond, gydag ymyrraeth gynnar a'r driniaeth gywir, gellir rheoli'r cyflyrau. Fodd bynnag, cyn y pandemig, gwnaeth mwy nag un o bob pedwar—felly, dyna 26 y cant—aros mwy na blwyddyn am ddiagnosis, gyda dau o bob pump yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Disgrifiodd un fenyw ifanc ei thaith fel tipyn o frwydr. Esboniodd hi faint o feddygon a'i trodd i ffwrdd oherwydd nad oedden nhw'n credu ei bod mewn poen, wrth iddi ddioddef crampiau stumog drwy gydol ei TGAU wnaeth barhau i waethygu. Ar ôl blwyddyn, cafodd ddiagnosis o glefyd Crohn o'r diwedd, a disgrifiodd ei thaith o gael diagnosis yn un rhwystredig ac roedd yn teimlo'n ddigymorth, gan ei bod yn ymddangos nad oedd y meddygon yn ei chymryd o ddifrif nes ei bod mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio beth arall y gellir ei wneud i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau hyn a hefyd i wella ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol? Diolch.
Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt pwysig iawn yn rhan olaf ei chwestiwn atodol—bod llawer iawn y mae angen ei wneud i helpu pobl i ddeall natur eu symptomau, ac, wrth gwrs, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n asesu'r symptomau hynny yn y pen draw, oherwydd mae hwn yn faes lle ceir ansicrwydd diagnostig gwirioneddol. Mae llawer o'r pethau sydd, yn y pen draw, yn glefyd Crohn neu golitis yn edrych fel pob math o gyflyrau eraill nad ydyn nhw'n hynny o gwbl. Bydd meddyg teulu bob amser, fel y byddai eu hyfforddiant proffesiynol yn eu harwain i wneud, yn edrych yn gyntaf ar yr esboniad amlycaf am yr hyn y maen nhw'n ei weld o'u blaenau, ac nid yw hynny'n debygol o fod yn ddiagnosis o glefyd Crohn neu golitis. Felly, mae rheoli ansicrwydd diagnostig yn nodwedd anochel o'r cyflwr hwn. Ond mae mwy y gellir ei wneud i ddwyn perswâd, yn enwedig ar bobl ifanc—ac, fel y dywedodd Sarah Murphy, Llywydd, mae'r rhain yn gyflyrau sy'n dod i'r amlwg yn eithaf cynnar ym mywydau pobl—a bod pobl yn adnabod y symptomau hynny am yr hyn y gallen nhw fod. Ac yna, drwy waith ein harweinydd clinigol cenedlaethol, Dr Barney Hawthorne—sydd wedi ymddeol yn ddiweddar a bydd rhywun newydd yn ei le yn fuan—mae gennym bellach fynediad cyson, mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, i'r prawf allweddol sy'n rhoi'r ddealltwriaeth orau i feddygon teulu o ran a yw hyn yn rhyw gyflwr arall y maen nhw'n ei weld ai peidio neu a yw'n rhywun sy'n dioddef o glefyd Crohn a cholitis. Rydym wedi rhoi llawer o ymdrech yn ystod y blynyddoedd diwethaf i mewn i gyngor sy'n helpu cleifion eu hunain i ddeall y cyflwr ac i reoli'r cyflwr. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Crohn's and Colitis UK, yn eu hymgyrch diagnosis cynharach, a'r gwaith addysgol arall y maen nhw'n ei wneud, rydym yn gwybod o safon wirioneddol ardderchog. A'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth, mwy o fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, yw gweithio'n agos gyda'r partneriaid trydydd sector hynny.
Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig iawn a ofynnwyd gan Sarah Murphy heddiw, oherwydd, i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis neu gymorth, mae'n gyfnod anodd iawn o'u bywydau, ac yn wanychol. A allwch chi amlinellu, Prif Weinidog, sut rydych chi'n cefnogi yn benodol, neu mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi yn benodol, y rhai sy'n aros i gael diagnosis, neu'r rhai sy'n aros am gymorth neu driniaeth bellach, oherwydd yn aml gall yr arosiadau hynny fod yn hir, fel y nodwyd eisoes, ac mae'n ymwneud â chefnogi pobl wrth iddyn nhw aros o ran cael diagnosis neu gael triniaeth bellach?
Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu bod tri pheth y gellid eu dweud wrth ateb y pwynt y mae'n ei wneud. Yn gyntaf oll yw'r ffaith bod gennym lwybr safonol sydd wedi'i gytuno'n genedlaethol. Mae hynny'n bwysig iawn oherwydd mae'n golygu bod pobl, ble bynnag maen nhw'n ymgyflwyno yn y system, yn debygol o gael yr un lefel o ofal. Yn ail yw'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod mynediad cyson ym maes gofal sylfaenol i'r prawf allweddol sydd ei angen ar feddygon teulu. Ac yna'n drydydd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau endosgopi, oherwydd peth o'r oedi o ran diagnosis a'r rheswm pam mae pobl yn aros yw oherwydd ei fod yn dibynnu ar endosgopi, ac rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i gyflymu argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau diagnostig yng Nghymru.