– Senedd Cymru am 5:54 pm ar 20 Medi 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiwn brys dwi wedi cytuno i'w dderbyn. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Delyth Jewell.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru? (EQ0011)
Diolch, Delyth. Bydd angen imi ystyried datganiad Prif Weinidog y DU mewn mwy o fanylder cyn rhoi ymateb mwy sylweddol, ond mae’r dystiolaeth yn glir iawn: po gynharaf y gweithredwn i gyflawni sero net, y lleiaf fydd y gost i fusnesau a chymunedau a'r mwyaf fydd y budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bob un ohonom.
Diolch, Weinidog. Mae penderfyniad Rishi Sunak i wanhau polisïau hinsawdd allweddol yn sarhad ar ein dyfodol, yn ymgais nid yn unig i ailysgrifennu hanes ond i ddadysgrifennu’r dyfodol, i’w atal rhag dod i fodolaeth. Mae'n fodlon taflu ein cynnydd ar y goelcerth wrth fynd ar drywydd yr enillion etholiadol cul hyn, a bydd pob un ohonom yn cael ein llosgi a'n creithio yn y broses honno. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa asesiad pellach y mae hi wedi'i wneud o effaith bwriad datganedig Llywodraeth y DU ar ddiwydiant modurol Cymru? Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r bwriad hwn cyn y cyhoeddiad heddiw? Gallaf ddyfalu beth fydd yr ateb i hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwrthbwyso unrhyw effaith negyddol yn sgil cefnu ar bolisïau hinsawdd allweddol fel hyn? Yn olaf, a yw hi'n rhannu fy ofn a fy arswyd fod polisïau sy'n angenrheidiol ar gyfer ein goroesiad fel rhywogaeth ar y blaned hon yn cael eu troi'n destun brwydr?
Diolch, Delyth. Yr hyn sy'n wirioneddol glir yw bod unrhyw newid ar y raddfa hon yn galw am ymgynghori a thrafodaeth briodol i ddeall y polisi ac i ddeall yr effeithiau. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu y bydd y newidiadau hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i'r argyfwng costau byw. Credwn y byddai mesurau blaengar eraill, fel tariff cymdeithasol ar gyfer ynni, yn gwneud gwahaniaeth llawer tecach a mwy uniongyrchol i'r rheini sydd dan bwysau ariannol.
Gan i Janet Finch-Saunders ddyfynnu’r Arglwydd Deben yn gynharach, gallaf ddweud wrthych fod gan yr Arglwydd Deben farn ar y mater. Mae'n dweud eu bod yn 'weithredoedd twp' ac yn 'ddatganiad o fethiant llywodraeth'. Dywedodd:
'Nid cyfnewid un polisi am un arall er mwyn cyflawni sero net yw hyn, mae'n gwestiwn o fynd yn ôl ar eich gair, sydd ynddo'i hun yn hynod beryglus'.
'Roedd y rhain yn addewidion a wnaed, ac maent yn angenrheidiol er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050, sy’n ofyniad statudol, felly bydd y llywodraeth yn y llysoedd’, meddai. Felly, Janet, os digwydd ichi gyfarfod â’r Arglwydd Deben eto, efallai yr hoffech ofyn iddo ddweud hynny wrthych.
Os ydym am gael chwyldro diwydiannol yn seiliedig ar weledigaeth werdd ar gyfer y dyfodol, Delyth, mae'n glir iawn fod angen inni gael strategaeth ddiwydiannol ar gyfer buddsoddi yn seiliedig ar hynny, sicrwydd i'r farchnad, sicrwydd i fuddsoddwyr, o ddeiliaid tai unigol i weithgynhyrchwyr pympiau gwres a'r holl faterion sy'n gysylltiedig â hynny. Mae angen sicrwydd arnom i bobl ac i’n busnesau a’n cymunedau.
Rwyf wedi cael golwg sydyn ar y datganiad a wnaed. Ymhlith y nifer o bethau yr ymddengys ei fod yn cefnu arnynt y mae ailgylchu ei hun. Felly, mae gennyf hyn i'w ddweud am hynny: mae Llywodraeth Lloegr wedi bod yn warthus mewn perthynas ag ailgylchu, ac mae'r ffaith bod gennych Lywodraeth sydd wedi bod yn warthus am wneud rhywbeth ac sydd wedyn yn penderfynu nad oes ganddi darged mwyach yn dweud y cyfan. Dyma weithred Prif Weinidog anobeithiol, sy'n glynu'n daer wrth rym nad yw'n ei haeddu nac wedi'i ennill.
Ddydd Llun, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron wrth eu cynhadledd y byddai methu argyhoeddi prynwyr prif ffrwd i newid i fodelau sy'n cael eu pweru gan fatri yn ei gwneud yn llawer anos i'r DU gyflawni ei nodau sero net. Dychmygwch sut mae gwneuthurwyr a masnachwyr moduron yn teimlo heddiw ar ôl penderfyniad Rishi Sunak i ohirio hyn am bum mlynedd arall. Dychmygwch sut mae Vauxhall a Tata yn teimlo am eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu batris ceir o ystyried bod pyst y gôl bellach wedi'u symud. Gwyddom fod busnesau’n hoffi sicrwydd wrth wneud penderfyniadau buddsoddi. Mae hyn yn union fel y byddech yn ei ddisgwyl. Mae angen iddynt fod yn hyderus fod y rhagdybiaethau a wnânt heddiw wedi'u seilio ar sylfaen gadarn. Felly, mae’r Arglwydd Deben yn nodi bod Rishi Sunak wedi mynd yn ôl ar ei air, ac mae hyn, yn ôl pob golwg, yn debyg i gyllideb fach drychinebus Liz Truss. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn y sefyllfa hon i unioni’r niwed a wnaed heddiw i’n honiad ein bod am arwain y byd ar newid gwyrdd pan fo busnesau’n mynd i gael eu dychryn yn llwyr gan y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU?
Yn sicr, Jenny, rydych yn llygad eich lle, a dyfynnaf i chi o adolygiad Skidmore, adolygiad y Llywodraeth ei hun, 'Mission Zero'. Dywedodd mai
'sero net yw cyfle economaidd yr 21ain ganrif. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Adolygiad wedi dangos bod cyflymder y newid diweddar wedi creu chwa o gyfleoedd economaidd ar raddfa enfawr, fyd-eang.'
'Mae'n rhaid inni weithredu'n bendant i achub ar y cyfleoedd mewn ras fyd-eang.'
Felly, dyna Weinidog sero net Torïaidd y Llywodraeth ei hun yn siarad ychydig wythnosau yn ôl yn unig, cyn i Brif Weinidog y DU wyrdroi'r polisïau'n llwyr heddiw.
Cafwyd cyfres o sylwadau gan ddiwydiant ledled Prydain yn dweud mai’r hyn sydd ei angen arnynt yw sicrwydd, buddsoddiad a chymhwysedd, ac nid oes dim o hynny gan y Llywodraeth hon. Mae'n rhy gynnar inni allu dweud beth fydd yr effaith ar ein polisïau ni, ond gallaf roi sicrwydd i chi fod y Llywodraeth hon yn darparu sicrwydd a buddsoddiad, a gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwyrdd i Gymru lle gallwn arwain yn y ras fyd-eang. Mae hyn yn enghraifft o anghymhwysedd o'r radd flaenaf, ac a dweud y gwir, mae'n fy mrawychu.
Mae gennyf ymyriad byr iawn, os yw hynny'n iawn, Weinidog. Mae'r byd ar dân ac mae'n rhaid i ni wneud popeth a allwn. Ni all y byd aros. Rwyf wedi clywed rhai sylwadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr; rwy'n gobeithio y bydd rhywun o feinciau'r Ceidwadwyr yn siarad am hyn, oherwydd hoffwn glywed eu barn ar y cyhoeddiad penodol hwn. Ond mae clywed yr ymrwymiad pwysig hwn yn cael ei wthio'n ôl bum mlynedd yn creu ansicrwydd, ac i'n planed, yn golygu nad ydym eto mewn sefyllfa, ac ni fyddwn yn cyrraedd sefyllfa, lle gallwn fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ddangos i'n cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr pa mor bwysig yw hi i chi drafod—. Rydych wedi siarad ynglŷn â sut rydych chi wedi trafod pethau eraill gyda'ch cyd-Aelodau yn Llundain, ac rwy'n sicr yn cydnabod hynny ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond gadewch inni beidio â chael yr hyn a gawsom yn gynharach. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd. Mae hyn yn ymwneud ag achub y blaned, ac mae'n ymwneud â'r genhedlaeth nesaf. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ddweud y byddwch yn trafod pryderon pobl Cymru—[Torri ar draws.]—os ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Mr Millar, gwnewch hynny—y byddwch chi'n rhoi neges gan bobl Cymru nad ydym yn credu bod hyn yn dderbyniol, ac y bydd ei wthio'n ôl bum mlynedd hyd yn oed yn golygu y bydd yn cael ei wthio'n ôl yn barhaus.
Bydd yn rhaid i mi ofyn i'r Ceidwadwyr fod yn dawel a chaniatáu i'r cwestiwn barhau, ac os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno gofyn cwestiwn neu gyfrannu at y cwestiwn hwn, gallant wneud. Gallwch gyflwyno eich enw.
A gaf fi godi pwynt o drefn, Lywydd?
Cewch, difyrrwch fi.
Fel pwynt o drefn, roeddwn o dan yr argraff, pan fo cwestiynau brys yn cael eu cyflwyno, eu bod yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru i ymateb iddynt.
Ie, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cyfrannu at y cwestiynau pe baech chi'n dewis gwneud hynny. Ond nid oes gennyf unrhyw enwau Ceidwadol.
Cafwyd dadl hir ar y pwnc hwn y prynhawn yma, ac ymatebodd Janet Finch-Saunders yn fedrus iddi.
Rwyf wedi cymryd—. Byddaf yn galw ar Samuel Kurtz i gyfrannu at y cwestiwn. Jane Dodds i barhau.
Diolch yn fawr iawn. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw eich meddyliau ar hyn o bryd o ran ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU, a'ch cyd-bleidwyr yn Llywodraeth y DU, a dweud wrthynt am y pryderon sydd gennym yma ar draws llawer o'n meinciau mewn perthynas â gwthio'r targed hwn yn ôl. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Trasiedi go iawn y cyhoeddiad heddiw yw ein bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer y mandad cerbydau di-allyriadau, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus y pedair gwlad ar y cynlluniau, a chynlluniau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ar draws y Senedd hon, Senedd yr Alban a Senedd y DU, ac ymgysylltiad sylweddol â'r diwydiant. Nawr, mor ddiweddar â chyfarfod grŵp rhyng-weinidogol y pedair gwlad ar drafnidiaeth ar 13 Medi, gwta wythnos yn ôl, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am sicrwydd gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros ffyrdd a thrafnidiaeth leol na fyddai'r cynigion mandad yn cael eu gwanhau na'u gohirio. Felly, mae'n hollol glir nad oedd gan Weinidogion y Llywodraeth ei hun unrhyw syniad o gwbl fod y cyhoeddiad hwn yn dod, nac unrhyw syniad beth mae'n ei olygu. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i fy hun wedi bod yn trafod y cynllun dychwelyd ernes a'r cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn ddiweddar iawn gyda'r Gweinidogion yno, ac roedd yn gwbl amlwg nad oeddent yn gwybod bod Mr Sunak ar fin tynnu'n ôl ar eu holl ymrwymiadau ar ailgylchu. Felly, mae'n anodd iawn ateb y cwestiwn ar unwaith, Jane. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y cyhoeddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i ni. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif a byddwn yn sicrhau na fydd ein cenhadaeth ein hunain i gyrraedd sero net erbyn 2050 yn cael ei daflu oddi ar y cledrau gan y cyhoeddiad hurt hwn.
Mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft o wleidyddiaeth boblyddol ar ei gwaethaf. Mae'n wleidyddiaeth chwiban ci. Mae'n gyfle olaf anobeithiol i Brif Weinidog anobeithiol a Llywodraeth anobeithiol, ac rwyf wedi dweud wrth y Ceidwadwyr o'r blaen ac rwy'n ei ddweud eto, peidiwch â galluogi'r boblyddiaeth hon, oherwydd ni fydd hynny ond yn eich arwain chi, a gwleidyddiaeth yn gyffredinol, i'r gwter. Rydym wedi ei weld o'r blaen gyda lleisiau Ceidwadol yn rhoi hygrededd i ddamcaniaethau cynllwyn a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol—peidiwch â gwneud hynny a pheidiwch â gadael i'ch cyd-Aelodau wneud hynny. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonoch.
Weinidog, rydych wedi ateb fy nghwestiwn ynghylch ymgynghori â Llywodraeth Cymru a chydag eraill ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn y prynhawn yma. Mae'n amlwg iawn nad yw Llywodraeth y DU yn poeni am y Deyrnas Unedig. Mae'n poeni am aros mewn grym a bydd yn gwneud beth bynnag sy'n rhaid iddi ei wneud i sicrhau hynny. A'r rheswm pam eu bod eisiau atal y newid i ddyfodol glân, ynni glân, wrth gwrs, yw oherwydd eu bod yn cael arian gan y cwmnïau tanwydd ffosil. Dyna sy'n bwysig iddynt yn hyn. Pryd bynnag y byddwch chi'n chwilio am reswm y tu ôl i benderfyniad Ceidwadol, dilynwch yr arian—dilynwch yr arian. Maent wedi llygru'r Llywodraeth ac maent yn llygru ein gwleidyddiaeth. A fyddai'n bosibl, Weinidog—a gwelaf fod y Prif Weinidog yn ei sedd y prynhawn yma—i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad brys ddydd Mawrth fel y gallwn ofyn cwestiynau am y materion hyn, oherwydd fe fydd yn bwysig?
Bythefnos yn ôl, aeth James Evans a minnau i Frwsel i fynychu gwrandawiad cadarnhau Iliana Ivanova, comisiynydd arloesi ac ymchwil yr UE o Fwlgaria, ac roedd hi'n sôn sut y bydd yr UE yn gwneud cynnydd mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi a sero net. Nawr, wrth gwrs, ers y cytundeb ar Horizon, bydd ein gallu ymchwil yn cael ei lywio gan benderfyniadau'r UE i raddau helaeth. Mae methiant Llywodraeth y DU i wneud unrhyw beth yn wahanol yn fethiant ar raddfa hanesyddol, ac felly yr hyn sydd angen inni ei wneud yw deall beth yw'r goblygiadau uniongyrchol i bolisi o ran yr amgylchedd, o ran sero net, o ran yr hinsawdd, o ran yr economi ac o ran arloesi. Ond hefyd mae angen inni ddeall canlyniadau mwy hirdymor hyn i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru.
Diolch yn fawr, Alun. Rwy'n credu y gallwn gyflwyno datganiad yr wythnos nesaf ar yr amod bod y Llywydd yn cytuno, ac rwy'n sicr yn hapus iawn i wneud hynny. Cawn gyfle i ddadansoddi'r cyhoeddiadau rywfaint. Yn union fel y dywedwch, ac rwyf am ddyfynnu cyn-Weinidog yr amgylchedd, a roddodd y gorau i'w swydd ym mis Mehefin, a ddywedodd hyn o ganlyniad i'r cyhoeddiad:
'Gan roi moeseg, neu rinweddau'r peth hyd yn oed, o'r neilltu, mae'n anodd gorliwio hurtrwydd gwleidyddol y penderfyniad economaidd ac ecolegol anllythrennog hwn gan y Prif Weinidog.'
Cyn-Weinidog Ceidwadol a ddywedodd hynny. Felly, hoffwn ddweud wrth y meinciau gyferbyn: nid oes angen dilyn safbwynt y blaid yn slafaidd—mae yna gryn dipyn o'ch cyd-bleidwyr yn dewis peidio â gwneud hynny, oherwydd os ydych chi'n credu yn sero net ac eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â newid hinsawdd, nawr yw eich cyfle i sefyll ar wahân i'r dorf.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i'ch clywed yn galw fy enw, o ystyried nad oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw heno a siarad ar y pwnc hwn, ac rwy'n ddiolchgar i Jane Dodds am wneud yr alwad am Geidwadwr Cymreig. Ond rwy'n credu bod angen rhoi ychydig o gyd-destun i hyn. Mae'r DU wedi lleihau allyriadau yn gyflymach nag unrhyw economi fawr arall—[Torri ar draws.] Mae cyfran y DU o allyriadau byd-eang wedi gostwng—
Rwyf eisiau clywed y Ceidwadwyr Cymreig ar y cwestiwn hwn. Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Mae cyfran y DU o allyriadau byd-eang wedi gostwng yn is nag 1 y cant. Mae'r DU wedi ymrwymo i leihau allyriadau yn gyflymach na phob economi fawr arall—yr Almaen, yr UE, Ffrainc, Awstralia, UDA, Japan, Rwsia, Seland Newydd a Chanada. Cofiwch, hefyd, pan fo'r Aelod dros Flaenau Gwent yn siarad am Horizon a'n cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau ein bod ar flaen y gad yn yr ymchwil honno, gyda phwy rydym yn alinio ein polisi ar gerbydau trydan drwy ei ohirio am bum mlynedd? Rydym yn ei alinio â'r Undeb Ewropeaidd. Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno mai'r bobl rydych chi a ninnau i gyd yn eu cynrychioli, y bobl dlotaf, fyddai'n cael eu taro galetaf pe byddem yn symud yn rhy gyflym tuag at sero net, a thrwy ei ohirio am bum mlynedd, y bobl dlotaf hynny sy'n mynd i gael eu cefnogi fwyaf?
Wel, mae'n debyg na ddylwn gael fy siomi—gallaf weld bod eich safbwynt wedi cyrraedd mewn pryd o drwch blewyn yno—ond mae'r hyn a ddywedoch chi yn nonsens llwyr. A gaf fi eich annog—? Wel, rwy'n gwybod eich bod chi'n ei ddarllen oddi ar safbwynt canolog y Blaid Geidwadol, ond nid yw hynny'n ei wneud yn wir, yn anffodus. A gaf fi eich annog i ddarllen adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd y Llywodraeth ei hun i weld lle mae'r pwyllgor hwnnw'n meddwl fod Llywodraeth y DU arni? Mae'n paentio darlun ychydig yn wahanol i'r un rydych chi'n ceisio ei gyflwyno. A gaf fi ddweud hyn wrthych chi hefyd, ac rwy'n golygu hyn yn ddiffuant: a ydych chi'n deall seiliau economeg fyd-eang? Oherwydd mae bod y cyntaf i wneud rhywbeth yn golygu eich bod chi'n cael mantais fel y symudwr cyntaf. Mae'n golygu eich bod yn cael y buddsoddiad. Mae'n golygu eich bod yn cael y swyddi. Mae'n golygu eich bod yn cael yr holl fuddion o'r newid. Mae symud yn araf yn golygu mai gwladwriaeth gleient fyddwch chi yn y pen draw, bob amser yn derbyn arloesedd pobl eraill. Nid dyna lle rydym ni eisiau bod, hyd yn oed os mai dyna lle rydych chi eisiau bod.
Yn wahanol i fy nghyd-Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, nid wyf am ymddiheuro dros y Blaid Dorïaidd am dorri eu haddewidion. Hoffwn weld rhai ohonynt yn glynu wrth yr hyn y maent yn ei gredu, yn hytrach nag aros am neges destun fel yr un rydych chi newydd ei darllen, neu ryw neges arall rydych chi newydd ei darllen, er mwyn cefnogi Llywodraeth sy'n methu. Mae pobl eich etholaeth chi a fy etholaeth i yn disgwyl gwell na hynny gennych.
Ond rwyf am ofyn hyn i chi, Weinidog: os gallant wneud tro pedol llwyr ar rywbeth fel hyn, y tro pedol y maent wedi'i wneud gyda'r polisïau amgylcheddol y maent wedi cefnu arnynt, beth arall y gallwn ei ddisgwyl ganddynt, yr wythnos nesaf efallai, neu'r wythnos wedyn? A fyddant yn darparu'r arian y maent wedi'i addo i Tata, neu a fydd hwnnw'n cael ei dynnu'n ôl yr wythnos nesaf? Oherwydd rydych newydd ddisgrifio'r broblem yma, Weinidog: os na allwn roi gwarantau, gwarantau Llywodraeth, i fusnesau, mae'r busnesau hynny'n dechrau cilio—nid oes hyder. Rydym yn gwybod nad oes gan y rhan fwyaf o'r genedl hyder yn y Torïaid beth bynnag am na allant reoli'r economi—maent wedi ei chwalu. Ond maent mewn perygl nawr o chwalu'r busnesau a oedd yn mynd i fuddsoddi yma—y gwaith da sydd wedi ei wneud gennych chi, y gwaith da sydd hefyd wedi ei wneud drwy ymweliadau diweddar gan sawl Gweinidog i ofyn i fusnesau fuddsoddi yng Nghymru. Felly, pan fyddwch chi'n rhoi eich datganiad yr wythnos nesaf, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi edrych ar oblygiadau ehangaf posibl y Llywodraeth Dorïaidd hon sy'n troi a throelli ac yn newid cyfeiriad drwy'r amser?
Diolch, Joyce. Yn anffodus, y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud i fusnes yw troi a throelli a newid cyfeiriad fel hyn. Pan ddiddymodd y Ceidwadwyr y tariffau cyflenwi trydan, er enghraifft, fe wyddom eu bod wedi lladd y diwydiant paneli solar a oedd yn ymddangos yng Nghymru. Gwyddom ei bod wedi bod yn anodd iawn adfer yr ymddiriedaeth honno. Bob tro y byddwch chi'n gwneud tro pedol heb ystyried gwir oblygiadau'r polisi hwnnw, fe wyddom eich bod yn lladd rhan arall o'r diwydiant y gallech fod wedi'i adeiladu. Gwyddom fod gan y DU, a Chymru yn arbennig, gyfoeth o adnoddau naturiol y gellid manteisio arnynt er budd ei phobl, mewn ffordd sy'n diogelu'r blaned hefyd. Gyda'r nonsens llwyr y maent yn ei siarad, mae'r Ceidwadwyr wedi methu ar bob pwynt. Dim cais contract ar gyfer gwahaniaeth gan gwmni gwynt arnofiol. Dyna'r cyfan sydd angen i chi ei wybod am eich strategaeth ddiwydiannol—mae wedi methu. A dyma weithredoedd Prif Weinidog sy'n ysu i ddal ei afael ar rym, sydd wedi gohirio gweithredu hyd at adeg y mae'n gwybod na fydd mewn grym fel na fydd yn rhaid iddo wneud y penderfyniadau anodd, a Llywodraeth Geidwadol nad yw'n gallu ysgwyddo ei chyfrifoldeb a gwneud unrhyw beth nad yw er budd eu miliwnyddion eu hunain ar y fainc flaen. Diolch.
Weinidog, fe sonioch chi am y comisiwn newid hinsawdd annibynnol, ac yn lle adrodd safbwyntiau i'w harddel o bencadlys plaid, gadewch inni atgoffa ein hunain o'r hyn a ddywedodd y comisiwn yn gynharach eleni. Roeddent yn dweud bod y DU wedi colli ei lle amlwg fel un o'r arweinwyr byd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd. Felly, o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, mae'r DU wedi mynd o fod yn arweinydd byd-eang i fod yn endid cyffredin, canol y ffordd, ond heddiw gwelwn ei bod yn parhau i lithro i lawr y gynghrair. Nawr, rwy'n deall bod cost ynghlwm wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rwy'n deall bod angen inni fynd ati gystal ag y gallwn i ddiogelu'r rhai lleiaf abl i fforddio rhai o'r newidiadau a allai fod yn angenrheidiol. Ond rwy'n deall hefyd wrth gwrs y bydd y gost hyd yn oed yn uwch os gohiriwn y problemau—digwyddiadau tywydd mwy eithafol, mwy o straen ar seilwaith sy'n methu, a fydd yn golygu, wrth gwrs, fod angen llwybr gweithredu drutach a mwy uchelgeisiol wrth i amser fynd yn ei flaen. Nawr, rwy'n deall hefyd, er enghraifft, fod gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yn creu swyddi, a'i fod yn lleihau allyriadau carbon. Mae hefyd yn golygu cartrefi cynhesach, ac yn lleihau lefelau afiechyd yn ein poblogaeth. Felly, mae'n dda i'r economi, mae'n dda i'r amgylchedd, ac mae'n dda i bobl. Ond a fyddech chi'n cytuno, Weinidog, nad oes ganddynt hwy yn y fan acw ddiddordeb yn unrhyw beth ar wahân i'r hyn sydd o fudd iddynt hwy?
Wel, yn wir, Llyr. Yn anffodus, rwy'n cytuno â hynny. Gwyddom fod gennym lawer o gwmnïau yng Nghymru sy'n paratoi ar gyfer y chwyldro pympiau gwres ffynhonnell aer a phympiau gwres o'r ddaear. Bydd hyn wedi creu anhrefn llwyr iddynt hwy. Ni fyddant yn gwybod mwyach sut olwg fydd ar eu llyfrau archebu. Rydym wedi cael sawl enghraifft arall o'r math hwn, lle mae gennym gwmnïau'n paratoi ar gyfer buddsoddiad cyn iddo gael ei fachu oddi arnynt gan bolisi annigonol, anghymwys neu ddiffyg polisi. Gwyddom fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i'n cael yn ôl ar y llwybr cywir ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ond fe wyddom fod angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy mewn perthynas â buddsoddi.
Nid wyf eto wedi deall y cyhoeddiad heddiw yn llawn, ond mae angen buddsoddiad mawr, er enghraifft, mewn gwaith i wyrddu'r grid ac ymestyn y llinellau trawsyrru. A yw'r cyhoeddiad hwn yn golygu na fydd hynny'n digwydd chwaith? Mae'n amhosibl dweud. Gwyddom fod y Llywodraeth yn Lloegr wedi dweud nad ydynt wedi ymrwymo i ailgylchu mwyach. Ailgylchu. Mawredd mawr, mae Samuel Kurtz yn ceisio dweud wrthyf eich bod yn arwain y byd ac rydych chi'n dweud wrthyf nad ydych chi'n mynd i ailgylchu hyd yn oed. Hynny yw, mae hyn y tu hwnt i ffars. Rwy'n teimlo, Lywydd, fel pe bawn i mewn pennod o The Thick of It, lle mae criw o ddigrifwyr wedi cymryd lle'r wrthblaid.
Diolch yn fawr am ateb y cwestiynau, Weinidog.